Meic Stevens
, 28 Gorffennaf 2009
Daeth Meic Stevens mewn i Oriel 1 yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ddydd sadwrn diwetha i drafod ei fywyd a'i waith efo Gari Melville. Ymhlith pethau eraill, soniodd am yr albwm newydd mae'n rhyddhau, y gerddoriaeth mae'n gwrando arni ar hyn o bryd a phwy fasa'n chwarae fe mewn ffilm o'i fywyd - Robin Williams mae'n debyg.
