Croeso i Flwyddyn y Môr Amgueddfa Cymru - National Museum Wales, 24 Ionawr 2018 Shwmai! Efallai i chi glywed taw 2018 yw Blwyddyn y Môr yng Nghymru, ac i ddathlu byddwn ni'n rhannu straeon rhyfeddol am bobl, llefydd a gwrthrychau sy'n rhan o hanes morol a morwrol Cymru.Bob wythnos byddwn ni'n rhannu gwybodaeth am ddigwyddiadau, casgliadau ac arddangosfeydd, yn ogystal â chyfleon i bobl o bob cwr o Gymru gyfrannu at Flwyddyn y Môr.Bydd ein saith amgueddfa genedlaethol yn cymryd rhan. Yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gallwch chi ganfod straeon am drais a brad yn yr arddangosfa Môr-Ladron; bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdyd yn edrych ar arfordir amrywiol Cymru yn ei horielau hanes natur; ac yn Amgueddfa Wlân Cymru gallwch chi ymweld ag ogof danddaearol wedi'i gweu!Cadwch lygad ar ein gwefan am straeon o'r môr yn ein blog, dilynwch ni ar twitter @amgueddfaCymru, ac ar facebook/amgueddfacymru i ddysgu rhagor. sylw - (2) Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra. Sara 30 Ionawr 2018, 16:26 Shwmai SianDiolch am eich sylw. Dw i wedi pasio'r neges ymlaen at staff o'r adran addysg, all ateb eich cwestiwn.Cofion cynnesSaraTîm Digidol Sian Bevan 29 Ionawr 2018, 20:58 A fuasech yn medru awgrymu llyfrau / adnoddau lliwgar yn cynnwys chwedlau/straeon am môr ar gyfer Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 os gwelwch yn dda- cyfrwng Cymraeg.Gyda diolch,Sian Bevan