Hafan y Blog

Cert Celf

Sian Lile-Pastore, 29 Gorffennaf 2009

Mae’r Cert Celf yn dechrau ar ddydd sadwrn yma yn Oriel 1 Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru, o 11am tan 1pm, a 2pm tan 4pm. Dewch yn llu i dynnu lluniau wedi’u ysbrydoli gan Pop Peth - yr arddangosfa newydd - neu allech chi helpu gwneud ‘collage’ lliwgar i gydfynd â phrosiect Duwies Durga.

Tra eich bod chi’n mwynhau paned yn Café Bardi, neu'n cael pryd o fwyd yn y bwyty, beth am liwio llun? Mae’r lluniau isod yn dangos pa fath o weithgareddau sydd ar gael i'ch diddanu.

 

Sian Lile-Pastore

Uwch Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.