Locomotif stêm Richard Trevithick
15 Rhagfyr 2008
Locomotif Trevithick a'i wagenni bar haearn yn Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru ym 1983.
Loco Penydarren
Ar 21 Chwefror 1804, rhedodd y daith rheilffordd gyntaf am 9 milltir o weithfeydd haearn Penydarren i Gamlas Merthyr-Caerdydd, gan gyrraedd cyflymder o bron pum milltir yr awr. Aeth nifer o flynyddoedd heibio cyn bod trenau stêm yn dod yn fasnachol ymarferol, ond does dim amheuaeth nad Trevithick yn hytrach na George Stephenson oedd gwir dad y rheilffyrdd.
Ym 1803, aeth Richard Trevithick i weithio gyda Samuel Homfray, perchennog gwaith haearn Penydarren ym Merthyr Tudful. Roedd Homfray'n ymddiddori'n fawr yn yr injans gwasgedd uchel yr oedd y dyn o Gernyw wedi eu datblygu a'u defnyddio yn ei injans ffordd.
Anogodd Homfray Trevithick i ymchwilio i'r posibilrwydd o osod injan o'r fath mewn locomotif ar y rheilffordd newydd rhwng Penydarren a glanfa'r gamlas yn Abercynon.
Richard Crawshay
Mae'n debyg bod Trevithick wedi dechrau gweithio ar y locomotif yn hydref 1803, ac erbyn Chwefror 1804 roedd wedi ei gwblhau. Yn ôl bob sôn, roedd Richard Crawshay, perchennog y gwaith haearn cyfagos yng Nghyfarthfa, yn amheus iawn o'r injan newydd. Betiodd ef a Homfray 500 gini'r un gyda Richard Hill, o waith haearn Plymouth, p'un a allai'r injan dynnu deg tunnell o haearn i Abercynon a thynnu'r wagenni gwag yn ôl wedyn.
Aeth yr injan ar ei thaith gyntaf ar 21 Chwefror, a disgrifiodd Trevithick y daith yn fanwl:
"... ddoe aethom ar ein taith gyntaf gyda'r injan, gan dynnu deg tunnell o haearn mewn pum wagen, a saith deg o ddynion yn teithio arnynt ar hyd y ffordd ... tra 'roedd yr injan yn gweithio, teithiodd bron i bum milltir yr awr; ni roddwyd dŵr yn y boeler o'r cychwyn hyd ddiwedd y daith ... defnyddiwyd dau ganpwys o lo."
Yn anffodus, torrodd bolltyn ar y daith nôl a barodd i'r boeler golli dŵr, felly bu'n rhaid gwneud y tân yn llai ac ni chyrhaeddodd yr injan Benydarren tan y diwrnod canlynol. Rhoddodd hyn reswm i Crawshay honni na chyflawnwyd y daith fel y cytunwyd — ond ni wyddom a fu pen ar y mwdwl!
Y gwir oedd fod yr injan yn rhy drwm i'r cledrau, ac fe'i defnyddiwyd yn ddiweddarach fel injan sefydlog i yrru morthwyl gefail yng ngwaith haearn Penydarren.
Locomotif replica
Adeiladwyd y locomotif replica yn yr Amgueddfa gan ddilyn cynlluniau a dogfennau gwreiddiol Trevithick (sydd bellach yn Amgueddfa Genedlaethol Gwyddoniaeth a Diwydiant). Cafodd ei chwblhau ym 1981, ac yn union fel yr injan wreiddiol, fe dorrodd ar ei rheiliau!
Allwn ni ddim gorbwysleisio pwysigrwydd locomotif Trevithick. Ym 1800, ar garlam wrth farchogaeth oedd y cyflymaf y gallai dyn deithio dros dir. Ganrif yn ddiweddarach roedd rhwydwaith reilffordd yn cyrraedd cyfran helaeth o'r byd gyda threnau'n teithio'n gyson ar gyflymder o chwe deg milltir yr awr. Yn ne Cymru yn Chwefror 1804 gwelwyd cymal cyntaf y daith honno a weddnewidiodd y byd.
The Penydarren locomotive - Steaming Days
Ffilm fer yn dogfennu blynyddoedd cynnar y replica o locomotif Richard Trevithick yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
sylw - (3)
Hi there Michael,
Here is the information about the next Penydarren Locomotive run, on the 3rd of September 2017: https://museum.wales/swansea/whatson/9600/Penydarren-Steam-Locomotive/
Best wishes
Sara
Digital Team