Lleisiau'r Amgueddfa - Dr Nicole Deufel, Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Dr Nicole Deufel, 14 Ebrill 2025

Helo, Nicole, dwed ychydig wrthon ni amdanat ti dy hun a dy rôl yn Amgueddfa Cymru.

Dr Nicole Deufel ydw i, a fi yw Pennaeth yr Amgueddfa yma yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. Fy rôl i yw arwain y tîm, ac ar hyn o bryd rydyn ni’n edrych ar ailddatblygu’r amgueddfa dros y blynyddoedd nesaf.

Yr hyn sy’n arbennig iawn am yr amgueddfa hon, Amgueddfa’r Glannau o fewn Amgueddfa Cymru, yw ein bod ni mewn partneriaeth gyda Chyngor Abertawe. Rhan fawr o fy rôl i ar hyn o bryd yw canolbwyntio ar y bartneriaeth honno, ei siapio, ei chryfhau a’i sicrhau ar gyfer y dyfodol.

Rydyn ni’n llawn cyffro o glywed am y cynlluniau sydd ar y gweill ar gyfer Amgueddfa’r Glannau, beth alli di ei rannu gyda ni?

Maen nhw’n gynlluniau mawr ac yn dod fesul cam, ond rydyn ni’n awyddus iawn i ddechrau arni eleni. A dweud y gwir, rydyn ni wedi dechrau’n barod!

Un o’r pethau allweddol i ni yw ailsefydlu’r cysylltiad rhwng ein warws hanesyddol a’r ardal hanesyddol o’i amgylch. Rydyn ni’n defnyddio hynny fel man cychwyn i ddehongli hanes diwydiant, datblygu ac arloesi yng Nghymru, a’r cysylltiadau byd-eang drwy’r môr. Mae’n stori hynod o gyffrous.

Yn bersonol, rydw i mor falch bod y warws gyda ni fel ased hanesyddol i helpu adrodd y stori.

Mae hunaniaeth yn ffocws mawr arall ar hyn o bryd. Pan gerddwch chi i mewn i’r amgueddfa, dwi ddim yn meddwl ei bod hi’n amlwg ar unwaith pwy ydyn ni, yn enwedig o gymharu ag amgueddfeydd eraill Amgueddfa Cymru. Yn Big Pit, er enghraifft, mae ei hunaniaeth yn glir yr eiliad y cyrhaeddwch chi. Mae’r un peth yn wir am yr Amgueddfa Wlân; mi es i yno’n ddiweddar, ac mae ei holl bwrpas yn eich taro chi’n syth.

Dydi Amgueddfa’r Glannau ddim yno eto, felly mae hynny’n rhywbeth rydyn ni am fynd i’r afael ag e. Rydyn ni eisiau i ymwelwyr ddod i mewn, yn enwedig trwy’r fynedfa o ochr y ddinas, a gweld gwrthrychau ‘waw’, sydd nid yn unig yn creu argraff ond hefyd yn dal hanfod y straeon rydyn ni’n eu hadrodd. Rydyn ni eisiau i’n hunaniaeth ddisgleirio yr un mor llachar ag y mae yn ein hamgueddfeydd eraill. Fel bod pobl yn cerdded i mewn ac yn gwybod ar unwaith – rydw i yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau!

Fe soniaist ti am ddarnau ‘waw’. Pa rôl mae’r casgliad yn ei chwarae yn y weledigaeth newydd yma, a pha mor bwysig yw cadwraeth a gwarchod y casgliad?

Os edrychwn ni ar Neuadd Weston, mae’r casgliad yn help gwirioneddol i ni ddatblygu a darlunio’r straeon, sef straeon pobl. Nid dim ond grŵp o wrthrychau yw’r casgliad. Mae’n cynrychioli stori Cymru a phobl Cymru.

Dyna sut rydyn ni eisiau defnyddio’r casgliad. Nid dim ond dangos y gwrthrychau ond cloddio’n ddyfnach i’r straeon y tu ôl iddyn nhw a’u helpu nhw i ddisgleirio.

Fel rhan o’r broses ailddatblygu yma, byddwn ni hefyd yn cadw ac yn ailddehongli rhai o’r gwrthrychau trwy ddod ag eitemau allan sydd heb gael eu harddangos ers tro byd a’u defnyddio nhw i adrodd y stori yma.

Dyna beth sy’n fy nghyffroi i am y casgliad. Roeddwn i yn y storfa’n ddiweddar, a dangosodd y curadur y fan bocs i mi. Dyna un o’r gwrthrychau rydyn ni am ei adfer a’i ddefnyddio mewn gofod arddangos trochol. Wrth ei osod yn y gofod yma, mae’n helpu i esbonio’r golofnfa, y warws, a’r cysylltiadau trwy’r rheilffyrdd i weddill Cymru, a sut roedd nwyddau’n teithio allan i’r byd ac yn ôl eto. Mae’r casgliad yn ein galluogi ni i rannu hynny i gyd. Dyna pam ei fod mor bwysig.

Beth sy’n dy ysbrydoli di fwyaf wrth iti gamu i mewn i Amgueddfa’r Glannau, fel y mae heddiw?

Mae mor gyffrous inni i gyd fod yma. Rwy’n teimlo mor ffodus o ddod i weithio bob dydd gyda thîm proffesiynol, creadigol, anhygoel.

Gyda’n gilydd rydyn ni’n edrych ar beth sy’n gweithio yn yr amgueddfa, beth allwn ni ei wella, a sut y gallwn ni osod pobl, eu straeon a’u profiadau wrth galon popeth wnawn ni. Rydyn ni eisiau cysylltu pobl trwy eu hymweliad yma a dyna sy’n fy nghyffroi i.

Rwy’n cael gwneud hyn gyda thîm anhygoel, mewn lleoliad hyfryd. Dwi wir wrth fy modd â’r warws, a chymaint o’r gwrthrychau yn ein casgliad. Mae’r cyfan mor gyffrous. Bob dydd, rydyn ni’n gwirioneddol fwynhau’r hyn rydyn ni’n ei wneud.

Mae’ch gardd GRAFT yn dathlu ei seithfed penblwydd eleni, ac mae’n ffynnu, mewn dinas brysur. Sut allwn ni fel Amgueddfa Cymru, neu fel ymwelwyr, wneud ein rhan yn yr ardd?

Mae croeso i bawb ymweld â’r ardd a gweithio ynddi.

Ar hyn o bryd, os mai ymwelydd cyffredinol ydych chi, efallai nad yw’n glir sut mae’r ardd yn cysylltu â gwaith yr amgueddfa. Ond mae cymaint o syniadau a themâu arloesol yn cael eu harchwilio yn yr ardd, a phobl o bob cefndir yn cyfrannu eu profiadau.

Rydyn ni’n edrych nawr ar sut y gallwn ni wneud hynny’n fwy gweladwy. Rydyn ni eisiau helpu pobl i weld y cysylltiad hwnnw, fel bod yr ardd yn dod yn rhywbeth maen nhw’n ymgysylltu’n weithredol â hi ac nid dim ond rhywbeth maen nhw’n pasio heibio iddi.

Mae’n cysylltu mor dda â’r themâu rydyn ni’n eu harchwilio yn ein gofodau arddangos mwy traddodiadol, ac roedd sefydlu’r ardd yn syniad mor wych. Mae’n fan lle gall pawb brofi rhywbeth ystyrlon, boed nhw’n gwirfoddoli neu ddim ond yn picio allan i gael golwg.

Mae’n gyferbyniad hyfryd, y peiriannau diwydiannol trwm hyn ochr yn ochr â gardd fioamrywiol, gynaliadwy. Mae’n dangos o ble mae Cymru wedi dod a ble mae’n mynd. Mae cynaliadwyedd yn amlwg yn ganolog i hynny.

Yn hollol. Os ydyn ni’n sôn am ddad-ddiwydiannu, sef un o’r themâu allweddol rydyn ni am eu harchwilio yma, mae’r ardd yn enghraifft wych.

Roedd llygredd yn y tir, felly fe ddefnyddion ni welyau uchel. Mae popeth wedi tyfu o’r fan yna. Dyna beth sydd mor gyffrous amdano fe.

Rydyn ni’n clywed dy fod ti wedi bod yn treulio amser yn crwydro dy gartref newydd, Cymru. Wyt ti wedi cael cyfle i ymweld â phob un o’n hamgueddfeydd eto?

Ddim cweit. Dw i ddim wedi cyrraedd Llanberis eto, mae hynny ar frig fy rhestr. Rwy’n mynd i Gaerllion yr wythnos nesaf, a Big Pit ddydd Gwener. Dw i wedi bod i Big Pit o’r blaen, ond y tro yma rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fynd y tu ôl i’r llenni.

Dw i wrth fy modd. Ac o safbwynt ein gwaith datblygu ni’n hunain yma, mae mor bwysig i ni ddeall ein lle yn y stori ehangach. Mae hynny’n golygu dod i adnabod y safleoedd eraill go iawn, y tu hwnt i brofiad ymwelydd.

Mae straeon mor gyfoethog, adnabyddus gan ein Hamgueddfa Lechi Genedlaethol, yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Amgueddfa’r Lleng Rufeinig a’r Big Pit. Sut mae rhoi’r enwogrwydd byd-eang yna i’n diwydiant a’n trafnidiaeth? Mae’n rhan mor bwysig o stori Cymru, ond heb gael ei gysylltu â’r genedl yn yr un modd â glo neu lechi.

Yn union. Cymru oedd y wlad ddiwydiannol gyntaf, ac mae daearyddiaeth yn chwarae rhan fawr yn hynny. Mae hynny’n rhywbeth y mae gyda ni ddiddordeb mawr ynddo.

Mae’r warws yn adlewyrchu’r cyfan, mae gennych chi’r rheilffyrdd yn dod drwodd o’r meysydd glo, y mwynau, y dociau, y bobl fu’n gweithio yma, a’r cysylltiadau â’r môr.

Ond nid dim ond stori am ddiwydiant trwm yw hyn. Mae’n stori am ddaearyddiaeth, symud, arloesi. Un o fy hoff ddarnau yw’r Robin Goch. Mae’n wrthrych mor greadigol, y math yna o ysbryd dyfeisgar a wnaeth ddatblygiad diwydiannol yn bosibl, ac mae hefyd yn ganolog i stori dad-ddiwydiannu a chynaliadwyedd heddiw.

Roedden ni’n siarad yn ddiweddar am gynlluniau ynni cymunedol sy’n digwydd nawr yng Nghymru. Mae’r rhain yn straeon y mae angen i ni eu hadrodd yn gryfach, a’u rhannu gyda’r byd.

Fe soniaist ti am y Robin Goch. Oes gen ti hoff wrthrych o gasgliad Amgueddfa Cymru?

Does gen i ddim un yn arbennig, ond rwy’n dwlu ar y Robin Goch. Mae mor ddyfeisgar, defnyddio deunyddiau bob dydd i wneud peiriant sy’n hedfan. Mae’n ffantastig.

Rwy’n dwlu ar locomotif Penydarren hefyd. Mae’n debyg ei fod yn annwyl i mi am fy mod i wedi gweithio yng Nghymru o’r blaen, a stori Trevithick oedd un o’r cyntaf i mi ddod ar eu traws.

Mae’n grêt dod yma a gweld y replica. Dyw e ddim yma ar hyn o bryd, mae e yn Darlington, ond pan welais i e’n cael ei symud a’r holl rannau’n dod yn fyw, roedd yn emosiynol iawn. Felly ie, mae’n debyg mai’r ddau yna yw fy ffefrynnau.

Blodau Gwyllt Sain Ffagan

Elin Barker, Cadwraethydd Gardd, 7 Ebrill 2025

Yn ystod y gwanwyn a’r haf, mae gerddi a dolydd Sain Ffagan yn llenwi â lliw wrth i flodau gwyllt flodeuo ar draws y dirwedd. Mae’r blodau hyn nid yn unig yn hardd, ond maent wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd gwledig Cymru ers canrifoedd. O’r dolydd gwyllt yn yr amgueddfa i’r perlysiau a dyfwyd mewn gerddi bwthyn, mae’r planhigion hyn yn ein cysylltu â’r tir a hanes Cymru. 

Mae Sain Ffagan yn gartref i sawl dôl flodau gwyllt, pob un yn cael ei edrych ar ôl yn ofalus i gefnogi bioamrywiaeth. Ar flaen yr amgueddfa, mae dôl yn croesawu ymwelwyr gyda chymysgedd o flodau brodorol, yn llawn pryfed peillio yn ystod yr haf. Dôl arbennig arall yw’r Dôl Coroni, sydd wedi’i lleoli yn y berllan afalau ger y castell, rhan o fenter ar draws y DU i adfer dolydd traddodiadol. Rhai o’r blodau gwyllt sy’n tyfu yma yw cribell felen (yellow rattle), planhigyn a elwir yn "wneuthurwr dôl" am ei allu i wanhau glaswellt a helpu blodau eraill flodeuo, a dant y llew (dandelion), gyda'u dail wedi eu siapio fel dannedd llew. Llygad y dydd (daisy), mae’r blodau yn agor gyda’r haul ac yn cau gyda’r nos. O dan y coed, mae clychau’r gog (Blue bell) yn gorchuddio’r llawr mewn carped glas, gyda’u henw’n gysylltiedig ag galwad y gog yn y gwanwyn. 

Mae blodau gwyllt wedi bod yn rhan o erddi Cymru ers cenedlaethau hefyd. Mae sawl tŷ hanesyddol yn Sain Ffagan, gan gynnwys Nantwallter, Abernodwydd a Hendre’r-ywydd Uchaf yn cynnwys gerddi perlysiau, lle byddai teuluoedd yn tyfu planhigion ar gyfer coginio a meddyginiaeth. Mae’r gerddi hyn wedi’u hail-greu gan ddefnyddio dulliau traddodiadol a phlanhigion addas i ddangos ffordd o fyw trigolion gwreiddiol y tai. 

Mae gardd Nantwallter wedi’i dylunio i adlewyrchu gardd gwas fferm yn Sir Gaerfyrddin ar ddiwedd y 18fed ganrif, pan oedd teuluoedd yn dibynnu ar eu gerddi ar gyfer bwyd, meddyginiaeth ac anghenion dyddiol. Buasai'r teulu gan mwyaf yn hunangynhaliol gan dyfu llysiau a pherlysiau. Yn ogystal â thyfu llysiau, byddent wedi casglu planhigion gwyllt ar gyfer eu defnydd ymarferol a meddyginiaethol. Roedd planhigyn Craith Unnos (Self heal) yn cael ei ddefnyddio’n gyffredin i drin clwyfau. Byddai Tanclys (Tansy), sydd ag arogl aromatig, yn cael ei ddefnyddio i gadw pryfed mas o’r tŷ, a Chribau San Ffraid (Betony) a ddefnyddiwyd yn draddodiadol ar gyfer cur pen a phryder. 

Defnyddiwyd llawer o’r planhigion meddyginiaethol hyn gan Feddygon Myddfai, grŵp o feddygon chwedlonol o Sir Gaerfyrddin y cofnodwyd eu gwybodaeth am berlysiau mewn llawysgrifau canoloesol. Mae’r ardd perlysiau yn Nantwallter yn cynnwys planhigion traddodiadol sy’n gysylltiedig â Meddygon Myddfai, gan gynnwys Fenigl (Fennel), Wermwd Lwyd (wormwood) a Briallu Mair (Cowslip). Roedd y perlysiau hyn yn trin llawer o bethau gwahanol, ac mae eu defnydd wedi cael ei drosglwyddo drwy’r cenedlaethau. 

Nid yw blodau gwyllt yn unig yn gyswllt a’r gorffennol, maent hefyd yn bwysig i gefnogi bywyd gwyllt. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae mentrau fel Mai Di Dor wedi annog pobl i beidio â thorri’r lawnt am fis gan roi lloches a bwyd i bryfed fel gwenyn, pili-palod ac anifeiliaid bach. 

Yn ystod yr haf, gallwch weld blodau gwyllt yn blodeuo yn Sain Ffagan. Roeddent yn rhan bwysig o fywyd pob dydd yn y gorffennol, yn cael eu gwerthfawrogi am eu defnyddiau ymarferol. Heddiw, maent yr un mor bwysig gan gynnal bywyd gwyllt ac yn atgoffa ni o’r cysylltiad rhwng pobl a natur drwy’r oesoedd.
 

Mae REACH Cymru wedi glanio!

Hywel Squires, 2 Ebrill 2025

Rydym yn gyffrous i rannu REACH Cymru (Trigolion yn Ymgysylltu â'r Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth): cydweithrediad creadigol newydd rhwng Amgueddfa Cymru a’r Brifysgol Agored. Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â dathlu treftadaeth, creadigrwydd, a straeon cudd cymunedau ledled Cymru.

Mae REACH Cymru yn gweithio gyda phum cymuned:

  • Butetown, Caerdydd
  • Dyffryn Nantlle, Gwynedd
  • Traethmelyn, Port Talbot
  • Pobl ag anableddau dysgu yn Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg
  • Cymunedau gwledig yn Sir Benfro

Ym mhob cymuned, byddwn yn cydweithio i ddatgelu straeon cudd, tynnu sylw at dalent leol ac archwilio casgliadau Amgueddfa Cymru. Bydd yn arwain at amrywiaeth o arddangosfeydd ar-lein ac arddangosfa ar safle.

Gweithgareddau

Yn ganolog i REACH Cymru mae gweithdai treftadaeth a chreadigol, wedi’u cynllunio nid yn unig i archwilio’r gorffennol, ond i ddod â phobl at ei gilydd, dysgu sgiliau newydd, a datblygu perthnasoedd parhaol.

Mae REACH yn cynnal llawer o ddigwyddiadau a gweithdai am ddim yn ein pum cymuned sy’n cymryd rhan. Mae’r rhain yn gyfleoedd i aelodau’r gymuned i fod yn rhan o bob math o hwyl artistig a chreadigol wedi’i ysbrydoli gan hanes a threftadaeth leol. Nid oes angen profiad blaenorol, ac mae croeso i bawb.

Cymerwch Ran!

Ydych chi'n byw yn un o'r cymunedau hyn? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych! Gyrrwch neges atom ar Wales.REACH@open.ac.uk i ddarganfod sut y gallwch gymryd rhan.

Eisiau gwybod mwy? Ewch i wefan REACH Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd ar y gweill, straeon lleol a llawer mwy.

Mae REACH Cymru yn bosibl diolch i gymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Mae REACH Cymru yn bartneriaeth rhwng tri ar ddeg o sefydliadau ac yn cael ei arwain gan y Brifysgol Agored ac Amgueddfa Cymru. Mae’n cael ei ariannu gyda grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Dechreuodd y cyfnod presennol yn hydref 2024 ac mae disgwyl iddo barhau tan hydref 2026.

Penny Dacey, 28 Mawrth 2025

Lleisiau’r Amgueddfa: Helen Goddard - Cyfarwyddwr Project Amgueddfa Lechi Cymru

Helen Goddard, 28 Mawrth 2025

Helo Helen, dwed ychydig wrthon ni amdanat ti a dy rôl yn Amgueddfa Cymru.

Dw i efo Amgueddfa Cymru ers 12 mis ac mae wedi bod yn wych. Dw i ar secondiad o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy lle dw i fel arfer yn gofalu am wasanaethau’r amgueddfa, y llyfrgell, y celfyddydau a’r archifau. Cyn symud i ogledd Cymru 14 blynedd yn ôl, ro’n i’n gweithio ar draws ynysoedd yr Alban fel archaeolegydd a gweithiwr datblygu cymunedol.

Un o ogledd Cymru ydi fy mam, ac roeddwn i wastad eisiau dysgu Cymraeg. Mae wedi cymryd 14 blynedd i mi lwyddo, ond mi faswn i’n dweud bod blwyddyn yn Llanberis yn sicr wedi bod yn hwb enfawr i ’mhrofiad dysgu!

Yn fy rôl fel Cyfarwyddwr Project dw i’n gyfrifol am reoli a chyflawni project Ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru. Dw i’n arwain nifer o dimau project ehangach ac yn adrodd ar eu gwaith i Fwrdd y Project. Fi sy’n gyfrifol am sicrhau bod y project yn cadw i’w amserlen ac o fewn y gyllideb a’n bod ni’n bodloni disgwyliadau ein cyllidwyr a’n rhanddeiliaid. Fy ngwaith i hefyd ydi gwneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn rhannu ac yn gwthio’r un weledigaeth i gyflawni’r project ar y cyd â’n cymunedau mewn ffordd sy’n ateb eu hanghenion a’u dyheadau nhw.

Mae project Llanberis yn wirioneddol gyffrous. Beth alli di ei rannu amdano, wrth iddo fynd yn ei flaen?

Rydan ni’n sôn amdano fel cyfle unwaith-mewn-oes ac mae hynny’n wir go iawn. Ers i Dirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru gael ei dynodi’n Safle Treftadaeth Byd yn ôl yn 2021, mae cyfleon ariannu strategol wedi’n galluogi ni i ddatblygu cynllun gwirioneddol uchelgeisiol. Byddwn ni’n gallu creu siop, caffi a gofod dysgu newydd sbon i weddnewid profiad yr ymwelwyr. Ac rydan ni am osod lifft i’r llofft patrwm ar y llawr cyntaf am y tro cyntaf, yn ogystal â gwneud pob man yn fwy hygyrch a chael toiledau gwell (yn cynnwys toiled Newid Lle).

Rydan ni’n ceisio creu cydbwysedd ystyriol rhwng parchu sensitifrwydd Gilfach Ddu a darparu profiad cyfoes. Mae ymwelwyr, pobl leol a staff fel ei gilydd yn dweud wrthon ni eu bod nhw wrth eu bodd efo’r safle yn union fel y mae – fel petai’r gweithwyr newydd adael eu hoffer a mynd adref am y dydd. Dyna ysbryd y gweithdai hanesyddol rydan ni’n ceisio’i barchu, tra’n gwneud gwelliannau mwy sylweddol ar yr un pryd i fannau sydd yn hanesyddol wedi gweld llawer o newid yn barod. Er enghraifft, yn ein horielau newydd, byddwn ni’n gallu arddangos mwy o’n casgliad cenedlaethol, ond hefyd datblygu ein rôl fel porth i Safle Treftadaeth Byd y dirwedd lechi ehangach.

Rydan ni newydd gwblhau cam RIBA4, sef y cam dylunio technegol lle cytunir yn fanwl ar bob manyleb a’r deunyddiau i gyd. Rydan ni wedi tendro ar gyfer y prif waith a’r gobaith ydi dechrau ar y safle ym mis Ebrill.

Beth sydd wedi digwydd i’r casgliad tra bod y gwaith adnewyddu’n digwydd, ac allwn ni ymweld o hyd?

Mae’r casgliad cyfan, bron – tua 10,000 o wrthrychau – wedi cael ei symud o’r safle i ganolfan gasgliadau hygyrch newydd yn Llandygái ger Bangor. Mae unrhyw beth sy’n gallu symud, wedi symud! Hynny er mwyn diogelu’r casgliad, ond hefyd i sicrhau ei fod yn dal ar gael tra bod yr amgueddfa ar gau dros dro. Bydd ein rhaglen weithgareddau eleni’n cynnig digonedd o gyfleon i bobl weld, profi a gweithio gyda’r casgliadau yn eu lleoliad dros dro a helpu i ddewis gwrthrychau i’w harddangos a phenderfynu sut y caiff eu straeon eu hadrodd.

Fydd safle Llanberis ar agor tra bod y gwaith wrthi? Byddai’n cŵl cael taith o amgylch yr amgueddfa wag!

Mae’r amgueddfa wedi cau dros dro, yn rhannol er mwyn cadw staff ac ymwelwyr yn ddiogel oherwydd maint y gwaith, ond hefyd am ein bod ni’n gweithio i amserlen dynn iawn! Rydan ni’n cynnig teithiau ‘Gofodau Distaw’ ar hyn o bryd i’r gymuned leol wrth i ni baratoi i drosglwyddo i’r contractwr, a’r gobaith ydi y byddwn ni’n gallu cynnig mwy o deithiau am gipolwg y tu ôl i’r llenni dros y misoedd nesaf.

Mae Tîm Datblygu Llanberis wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau cyllid, sy’n gyfraniad arbennig o werthfawr at y project ac yn haeddu pob clod!

Argol fawr, mae ’na gymaint o bobl yn gwneud gwaith anhygoel. Yn sicr yn y chwe mis diwethaf rydw i wedi cael fy llorio gan Cadi, ein curadur, a staff y safle ehangach am y gwaith maen nhw wedi’i wneud i baratoi’r amgueddfa ar gyfer cau. Mae Kerry Vicker yn arwr imi. Hi wnaeth fy arwain i drwy ein cais ni am Gam 2 Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, sef ychydig dan £10m.

Pa gamau cynaliadwyedd sy’n cael eu hystyried, i ddiogelu dyfodol yr amgueddfa a’r casgliad?

Mae gennon ni Victoria Hillman yn gweithio ar dîm y project fel rhan o’r ailddatblygu er mwyn gallu cadw llygad manwl ar gynaliadwyedd a’r amgylchedd. Mae cymaint o elfennau i hyn, yn gyfuniad o fesurau ataliol a mentrau newydd.

O ran y casgliad, rydan ni’n bod yn bragmatig ac yn ymatebol i’r mathau o gasgliadau diwydiannol sydd gennon ni. Rydan ni’n cadw rhai elfennau – fel Una yr injan – fydd yn cael ei rhoi ar waith eto fel rhan o’r project. Bydd yr amgylcheddau rydyn ni am eu creu ar gyfer y prif orielau yn sicrhau lefel newydd o aerdymheru, a fydd yn ein helpu i arddangos gwrthrychau mwy sensitif am y tro cyntaf.

Rydan ni wedi bod yn gweithio hefyd gyda phrifysgol Met Caerdydd ar gamau ymaddasu i’r hinsawdd ac wedi cynnwys hyn yn y fanyleb ar gyfer pethau fel deunyddiau tirlunio, rheoli dŵr ffo, gallu adeiladau i anadlu, a dyluniad cafnau dŵr glaw ac ati. Dyma amcanion eraill sydd gennym:

  • Marc BREEAM ardderchog i’r adeiladau newydd
  • Blychau newydd i ystlumod a gwenoliaid duon
  • Trawsleoli cennau a mwsoglau
  • Plannu rhywogaethau brodorol a phrin
  • Cynaeafu dŵr glaw
  • Cynllun goleuo sensitif iawn
  • Sefydlu addysg am gynaliadwyedd a’r amgylchedd ym mhob deunydd dehongli

Mae’r rhestr yn mynd ymlaen!

Beth wyt ti’n edrych ymlaen ato fwyaf am yr ailddatblygu?

Fedra i ddim aros i weld fy nau blentyn ifanc yn chwarae yn y mannau rydan ni’n eu creu. Dw i’n gobeithio gweld dim byd ond cyffro a rhyfeddod ar eu hwynebau wrth iddyn nhw grwydro’r lle.

Yn olaf, mae hwn yn hoff gwestiwn ganddon ni – beth ydi dy hoff ddarn yng nghasgliad Amgueddfa Cymru?

Wel, dw i heb fod yma’n hir iawn, ond mi faswn i’n dweud mai fy hoff wrthrych hyd yma ydi Cadair Eisteddfod Caban Mills yng nghasgliad yr Amgueddfa Lechi. Am fynegiant syml, hardd o fywyd yng nghymunedau’r chwareli a phrofiad byw y rhai fu’n cydeistedd yn y Caban!