Hafan y Blog

Cyfweliad ar Radio 2 - heno

Sara Huws, 27 Gorffennaf 2012

Ddwywaith mewn wythnos? Wel, pam lai - tra bo'r haul yn dal i wenu...

Postiad bach clou i'ch hysbysu am bwt fydd ar y radio heno. Ar Ddydd Mawrth, ges i ymweld â'r BBC yn Llandaf i recordio cyfweliad ar gyfer 'The Arts Show' ar Radio 2. Bydd yn cael ei ddarlledu heno, am ddeg o'r gloch. Penny Smith sy'n cyflwyno yn lle Claudia Winkleman. Sai'n gweud bo fi di siomi, ond dwi yn falch na wnes i wisgo lipstic pinc yn deyrnged i Claudia, fel o'n i wedi meddwl gwneud. Cynhaliwyd y cyfweliad dros donfeddau hudolus y BBC - finne o flaen bocs o switsys a goleuadau pert, a nhwythe mewn stiwdio yn Llundain. Ro'n i di gwisgo'n smart rhagofn ac felly'n teimlo bach yn sili mewn stafell ar fy mhen fy hun.

Ta waeth. Fe ges i hwyl arni, yn sôn am fy ngwaith ac am Sain Ffagan yn gyffredinol - er gwaetha'r ffaith i gwestiwn am y nifer o lafariaid sy' gyda ni yn y Gymraeg godi'i ben. Rhaid ifi gyfadde ei fod yn ystrydeb sy'n fy nghorddi fymryn weithie, felly ro'n i'n eitha balch ifi lwyddo i dorri'r myth mewn ffordd hoffus, ac heb godi 'mhwysau gwaed. Fe fydd raid i chi wrando i weld a ydych chi'n cytuno!

Radio 2 Arts Show - 22:00 - Dydd Gwener 27 Gorffennaf

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.