Diwrnod y Ddaear 2025
22 Ebrill 2025
,Bob blwyddyn ar 22 Ebrill, mae Diwrnod y Ddaear yn cael ei ddathlu ledled y byd. Mae nod Diwrnod y Ddaear yn syml i: “arallgyfeirio, addysgu ac i ysgogi’r mudiad amgylcheddol ledled y byd”. Mae 2025 yn nodi pen-blwydd 55 mlynedd Diwrnod y Ddaear a’r thema yw “Ein Grym, Ein Planed”.
Cyhoeddodd Amgueddfa Cymru argyfwng hinsawdd ac argyfwng natur yn 2019. Rydym wedi cymryd ein hymrwymiad i warchod yr amgylchedd o ddifrif ers tro, ond ers y garreg filltir bwysig hon, rydym wedi cynyddu ein hymdrechion ac wedi rhoi ysbrydoliaeth i eraill ei dilyn. Mae Amgueddfa Cymru mewn sefyllfa unigryw i fod yn ganolfan dysg a darganfod ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru ac ymwelwyr o bell. Rydym wedi ymrwymo i warchod eitemau hanesyddol, cynnal adeiladau hardd, cadw sgiliau traddodiadol yn fyw a lleihau ein heffaith negyddol ar yr amgylchedd – hyn i gyd fel y gall cenedlaethau’r dyfodol fwynhau a chael eu hysbrydoli gan yr un pethau yr ydym ni wedi bod yn ddigon ffodus i’w profi.
Mae’r blog hwn yn archwilio rhai meysydd lle mae Amgueddfa Cymru wedi bod yn weithgar. Boed gartref neu yn y gwaith, sut allech chi gyfrannu at athroniaeth Diwrnod y Ddaear?
Bioamrywiaeth a Natur
Mae gan Amgueddfa Cymru amrywiaeth o fannau awyr agored – o’r tirweddau dramatig o amgylch Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, i rostir ysgubol Big Pit ym Mlaenafon, i ddôl corsiog tawel Amgueddfa Wlân Cymru yn Nre-fach Felindre. Mae amrywiaeth eang o rywogaethau yn byw yn y cynefinoedd arbennig hyn.
Mae Amgueddfa Cymru yn ffodus i gael tîm o guraduron gwyddorau naturiol ymroddedig sy’n arbenigo mewn botaneg a sŵoleg. Yn ogystal â gofalu am gasgliad sylweddol yr Amgueddfa (tua 5 miliwn o wrthrychau), mae’r curaduron yn cymryd rhan weithredol mewn gwaith maes ac ymchwil. Mae’r curaduron yn cynnal arolygon ar ein wyth safle ac yn argymell camau gweithredu i gynnal a gwella’r cynefinoedd, er mwyn cynyddu’r cyfleoedd o gynyddu bioamrywiaeth. Dros amser, bydd yn ddiddorol gweld sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar y rhywogaethau sy’n byw ar y safleoedd.
Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, mae’r tîm garddio a’r tîm gwirfoddoli yn gweithio i ddatblygu dolydd blodau gwyllt trwy hau cribell felen a chymryd rhan yn “Mai Di-dor” (a Mehefin, Gorffennaf ac ati). Bydd gweithgareddau o’r fath yn annog pryfed peillio i’r ardal. Beth am ymweld yn y gwanwyn neu’r haf i weld faint o rywogaethau y gallwch chi eu hadnabod? Fel arall, ewch i Amgueddfa Wlân Cymru a dilynwch lwybr y ddôl sy’n addas i deuluoedd.
Digwyddiadau bioamrywiaeth a natur sydd ar ddod
- Yr Wythnos Werdd Fawr, 7 – 15 Mehefin 2025
- Wythnos Natur Cymru, 5 – 13 Gorffennaf 2025
- Dathlu byd natur yn Sain Ffagan, 12 Gorffennaf 2025
- Pen-blwydd 20 mlynedd Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion, yn dechrau ym mis Medi 2025
Cynaliadwyedd, Ailddefnyddio a Hunangynhaliaeth
Mae nifer o safleoedd Amgueddfa Cymru yn arddangos dulliau cynaliadwy a ffyrdd cynaliadwy o fyw o’r gorffennol. Gall y dulliau a’r deunyddiau a ddefnyddiwyd i godi’r adeiladau hanesyddol a ailgodwyd yn Sain Ffagan ddarparu pwyntiau dysgu i ni heddiw. Mae hanes dyfeisgarwch meddyliau Cymreig yn cael ei fynegi yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, ac mae Amgueddfa Wlân Cymru ac Amgueddfa Lechi Cymru yn dangos sut y bu i ddiwydiannau allweddol Cymru reoli pŵer dŵr a dangos lefel hynod o hunangynhaliaeth.
Mae symud o economi llinol (cymryd, gwneud, gwastraffu) a thuag at economi gylchol yn allweddol i ddiogelu adnoddau’r blaned ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Enghraifft ddiweddar o ddiwylliant ailddefnyddio Amgueddfa Cymru yw’r gwaith adnewyddu’r siop yn Big Pit. Cafodd hen ddramiau glo eu hadfer, a’u hadnewyddu’n ofalus ac maent bellach yn cymryd lle amlwg fel nodwedd arddangos yn y siop.
- Agoriad mawreddog siop Big Pit, 28 Ebrill 2025
Datgarboneiddio
Mae Amgueddfa Cymru ar genhadaeth i ddatgarboneiddio ei hystâd adeiledig. Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i leihau’r defnydd o danwydd ffosil ar safleoedd drwy uwchraddio cyfarpar i fersiynau mwy effeithlon a thrwy newid systemau gwresogi â systemau trydan amgen (e.e. pympiau gwres o’r aer). Dros bum mlynedd (2019/2020 i 2023/2024), mae’r defnydd o nwy naturiol wedi gostwng 36%. Mae Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ac Amgueddfa Lechi Cymru eisoes yn cael eu gwresogi a’u pweru’n gyfan gwbl gan drydan o ffynonellau 100% adnewyddadwy.
Cynhaliwyd prosiect sylweddol rhwng Ionawr a Mawrth 2025 pan gafodd systemau gwresogi tanwydd ffosil (nwy naturiol, LPG ac olew) eu disodli mewn wyth adeilad ar bedwar safle gan bympiau gwres o’r aer. Gwnaethpwyd y gwaith diolch i gyllid gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a bydd yn lleihau ein hallyriadau carbon ymhellach.