Hafan y Blog

Casglu Gwymon yn Iwerddon

Katie Mortimer-Jones, 10 Ebrill 2014

Gan Kath Slade

Mae’r tîm wedi dychwelyd o’u gwaith maes morol yng ngorllewin Iwerddon gyda digonedd o sbesimenau i’w cadw’n brysur, gan gynnwys gwymon. Amserwyd y gwaith i fanteisio ar sawl llanw isel iawn oedd yn ein galluogi i gasglu sbesimenau ymhell i lawr y traeth sydd heb addasu i gyfnodau hir allan o’r dŵr. Er hyn, dim ond tua dwy awr a gafon ni i samplo tra oedd y dŵr ar ddistyll.

Mae sawl gwymon coch i’w gweld ymhellach i lawr y traethau, fel y Gwymon Cochddail (Delesseria sanguinea), Gwymon Crychog Mânwythiennog (Cryptopleura ramosa) a Gwymon Bachog Bonnemaison (Bonnemaisonia hamifera).

Roedd tipyn o waith prosesu i’w wneud yn syth wedi’r casglu gan nad yw gwymon yn para’n hir allan o’i gynefin naturiol ar lan y môr. Cafodd nifer eu harnofio mewn hambyrddau dŵr môr er mwyn lledu’r ffrondiau (neu ddail), cyn eu trosglwyddo i bapur codwm cadwraeth a’u gwasgu. Cafodd y sbesiemau eu pentyrru gyda phapur blotio rhwng pob planhigyn i amsugno’r dŵr cyn eu gwasgu mewn gweisg planhigion mawr, fel y rhai a ddefnyddir i wasgu blodau. Cai’r papur blotio ei newid bob dydd er mwyn tynnu cymaint o ddŵr â phosibl. Wedi dychwelyd i’r amgueddfa gosodwyd y gweisg mewn peiriannau sychu i gyflymu’r broses ac atal y gwymon rhag pydru.

Mae’n anodd adnabod rhai gwymon o’u nodweddion allanol yn unig. Casglwyd darnau bychain o rai rhywogaethau a’u gosod mewn gel silica. Mae hyn yn sychu’r gwymon yn llawer cynt ac yn cadw’r DNA mewn cyflwr gwell er mwyn gwneud gwaith moleciwlaidd yn ddiweddarach. Cadwyd sbesimenau eraill mewn formalin, sy’n tynnu’r lliw o’r gwymon ond yn cadw manylion y celloedd a strwythur 3D y planhigyn. Bydd gwaith adnabod pellach yn cael ei gynnal yn ôl yn yr Amgueddfa.

Mae’r holl waith paratoi yn ein galluogi i gadw gwymon ar gyfer astudiaethau gwyddonol yn y dyfodol.  Cedwir y sbesimenau ym Mhlanhigfa Genedlaethol Cymru (casgliadau planhigion) yn yr Amgueddfa, ac mae pob un yn brawf o’r gwymon oedd yn bresennol ymhle ac ar ba bryd. Mae’r broses wasgu mor effeithiol nes y gall sbesimenau bara am gannoedd o flynyddoedd.

Katie Mortimer-Jones

Uwch Guradur: Anifeiliaid Di-asgwrn-cefn Morol
Gweld Proffil
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.