Chwarelwyr yn y Castell!
6 Mai 2025
Chwarelwyr Amgueddfa Lechi Cymru yn symud o’r chwarel i’r castell!
Am y tro cyntaf erioed mae chwarelwyr llechi yn gweithio yng Nghastell Penrhyn – cartref un o berchnogion chwarel cyfoethocaf Cymru.
Mae chwarelwyr o Amgueddfa Lechi Cymru, sydd fel arfer i’w gweld yn yr amgueddfa yn Llanberis, wedi symud dros-dro i arddangos eu sgil a’u crefft yn y Castell.
Mae hyn yn digwydd wrth i Amgueddfa Lechi Cymru gau ei drysau am gyfnod ar gyfer ailddatblygiad mawr. Oherwydd y gwaith hwn mae’r amgueddfa, sy’n rhan o deulu Amgueddfa Cymru, wedi penderfynu rhannu ei stori mewn lleoliadau eraill o fewn safle treftadaeth byd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru.
Sefydlwyd Chwarel y Penrhyn gan y teulu Pennant. Roedd yn un o brif chwareli llechi Cymru am bron i 150 o flynyddoedd, ac roedd yr amodau gweithio’n galed iawn yno. Ym 1900, aeth dros 2,000 o weithwyr ar streic am well cyflogau ac amodau gweithio – penllanw blynyddoedd lawer o wrthdaro ac anfodlonrwydd.
Roedd Streic y Penrhyn yn un hir a chwerw. Fe barodd dros dair blynedd, un o’r streiciau diwydiannol hiraf yn hanes Prydain, ac achosodd galedi difrifol i’r chwarelwyr a’u teuluoedd. Rhwygwyd y gymuned yn ddwy; rhwng y ‘streicwyr’ a achosodd yn driw i’r streic neu adael i ddod o hyd i waith arall, a’r ‘bradwyr’ a ddychwelodd i’r chwarel.
I nifer o drigolion yr ardal, mae’r Castell yn dal i fod yn symbol o gyfoeth a gormes. Yn hanesyddol, fyddai’r chwarelwyr byth yn croesi trothwy’r Castell, ac mae llawer o’u teuluoedd wedi cadw draw ar hyd y blynyddoedd.
Mae Castell Penrhyn a’r gerddi bellach dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, ac mae’r safle wedi bod yn cydweithio gyda thrigolion yr ardal ac artistiaid ers dros ddegawd i rannu mwy o’r hanes, ac ailgysylltu â’r gymuned leol, fel yr esboniodd Ceri Williams, Rheolwr Cyffredinol Castell Penrhyn:
“Dros y degawd a mwy diwethaf, rydym wedi bod yn ail-edrych ar ein ffordd o rannu hanes a chysylltiadau diwydiannol a threfedigaethol Castell Penrhyn. Rydym wedi cyflawni cymaint ar hyd y cyfnod, ond mae croesawu’r chwarelwyr i’r castell yn garreg filltir arwyddocaol o ran ailgysylltu’r gymuned â’r safle hanesyddol hwn.
Yn barod, mae torfeydd wedi bod yn ymgasglu i wylio’r arddangosfa hollti llechi, sydd yn ddathliad o grefftwyr lleol, ond hefyd yn brofiad sy’n ychwanegu at hanes diwydiannol y castell. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gydag Amgueddfa Lechi Cymru dros y misoedd i ddod, a chynnig ymweliad unigryw a chofiadwy i Gastell Penrhyn.”
I Amgueddfa Lechi Cymru, mae’r cyfle i’w chwarelwyr arddangos eu gwaith yng Nghastell Penrhyn yn rhan allweddol o’r rhaglen ailddatblygu, ac yn benodol ymgyrch Amgueddfa ar y Lôn yn 2025, sy’n adleoli elfennau o’r amgueddfa tra bod y safle ar gau.
Dywedodd Elen Roberts, Pennaeth Amgueddfa Lechi Cymru:
“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r tîm yng Nghastell Penrhyn ac i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru am roi’r cyfle unigryw hwn i ni gydweithio fel rhan o raglen ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru. Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r Ymddiriedolaeth dros y blynyddoedd i rannu hanes y diwydiant llechi, ac mae’r cyfle i rannu sgiliau a straeon ein chwarelwyr yn beth mawr i’r ddwy ochr. Bydd symud i Gastell Penrhyn – ac i safleoedd eraill yn yr ardal Treftadaeth Byd – yn ystod ailddatblygiad yr amgueddfa yn gyfle i ni gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a sicrhau bod ein stori yn parhau tu hwnt i furiau’r amgueddfa.
Bydd ein staff ar eu hennill o gael dal i weithio gyda’r cyhoedd, a gwella eu gwybodaeth o hanes y llechi, a gobeithio y bydd ymwelwyr ar eu hennill o gwrdd â staff yr amgueddfa mewn lleoliadau newydd a fydd – ynghyd â’r cynnig presennol i ymwelwyr â Chastell Penrhyn – yn cynnig persbectif newydd ar stori’r llechi.”
Mae’r Amgueddfa a’r Castell yn rhannau allweddol o safle Treftadaeth Byd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru. Croesawyd y datblygiad gan yr Arglwydd Dafydd Wigley, Cadeirydd Partneriaeth Llechi Cymru:
“Mae Cyngor Gwynedd a’i bartneriaid wedi cydweithio ers blynyddoedd i ddatblygu partneriaeth gref er mwyn sicrhau statws treftadaeth byd i Dirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru. Mae canlyniadau’r bartneriaeth gref hon nawr yn dwyn ffrwyth wrth i ni weld buddsoddiad sylweddol o dros £30m drwy raglen weithgareddau Llewyrch o’r Llechi – fel y rhai yn Amgueddfa Lechi Cymru a lleoliadau eraill ar draws yr ardal. Rydym hefyd yn gweld ffyrdd newydd ac arloesol o gydweithio i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, cynnig profiadau newydd, a rhannu stori fyd-eang llechi Cymru.”
Mae’r chwarelwyr yng Nghastell Penrhyn bob dydd yn ystod 2025.
Am fwy o hanes y Castell ewch i wefan Castell Penrhyn: www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/penrhyn-castle-and-garden