Dipyn o berfformiad! Sut mae dod â chymeriad yn 'fyw' er mwyn dweud y stori!
28 Gorffennaf 2025
,Mae adrodd stori amgueddfa yn broses gymhleth!
Mae gwrthrychau, paneli gwybodaeth a gwefannau yn gwneud gwaith teilwng iawn o ddarparu gwybodaeth, a ffilmiau yn amhrisiadwy wrth osod cyd-destun – ond rydyn ni i gyd eisiau gwybod straeon y bobl oedd yno ar y pryd fwy na dim – a does dim ffordd well o adrodd eu straeon na dod â nhw yn ôl yn fyw! Nid yn llythrennol wrth gwrs – ond gydag actorion!
Mae Rhian Cadwaladr, actores lleol poblogaidd, wedi bod yn adrodd straeon yn yr Amgueddfa ers dros 25 mlynedd.
Roedd Margaret (neu Gwladys fel y gelwid mae'n debyg) yn dipyn o gymeriad! Roedd hi'n Nyrs ardderchog ond hefyd yn gantores wych! Bu'n gweithio yn yr Ysbyty am flynyddoedd lawer a mae Rhian wedi ymchwilio'n fanwl i'w hanes er mwyn iddi allu ateb pob cwestiwn amrywiol sy'n dod gan yr ymwelwyr.
Dechreuodd Rhian weithio 'mewn cymeriad' gyda'r Amgueddfa nôl yn Hydref 1997, pan ofynnwyd iddi ddod yn gymeriad yn nhŷ Prif Beiriannydd yr Amgueddfa, a oedd newydd ei adnewyddu ar y pryd.
Dros y blynyddoedd, mae hi wedi portreadu cymeriadau amrywiol yn Nhy'r Peiriannyd - sef Elizabeth, morwyn y Prif Beiriannydd ac yna Hanna - ei wraig.
Yn y rôl yma, roedd y pwyslais ar y gwrthrychau arbennig i'w darganfod yno – o’r llestri patrwm helyg hardd ar y dresel, i’r matiau rhacs ar y llawr i baentiad hollbresennol Salem ar y wal – darganfyddiad cyffredin mewn nifer o gartrefi Cymreig tua 1919 oherwydd hysbysebu gwych Sunlight Soap!
Yn ystod digwyddiadau Nadolig yr Amgueddfa, caiff Rhian ei hamgylchynu gan deuluoedd yn ei helpu i wneud orennau Fictoraidd – gan adael arogl hyfryd yr ŵyl drwy’r tŷ.
Tra bod teuluoedd yn mwynhau'r gweithgaredd yn y gwahanol dai, mae nhw hefyd yn dysgu mai cartrefi pobl oedd rhain. Mae'n rhaid i Hanna dreulio llawer o'i hamser yn gwneud tanau i gynhesu'r tŷ a choginio'r bwyd. Mae'n rhaid iddi wneud y matiau rhacs ar y llawr a sgleinio'r pres sydd wedi'i drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth. Ei hoff beth yw'r wyntyll lechi a wnaed gan ei thad i ddangos ei ddawn fel chwarelwr.
Draw yn Nhai'r Chwarelwyr mae cymeriad Anti Marged yr olchwraig yn dod yn fyw - rhan amlaf gyda plant ysgol lleol.
“Mae dod â’n hanes yn fyw, nid yn unig i genedlaethau o Gymry ond i bobl o bedwar ban byd, wedi bod yn anrhydedd,” meddai Rhian, sy’n wreiddiol o bentref Llanberis - ei thaid, ei hen daid a’i hen hen daid yn gweithio yn Chwarel Dinorwig.
"Mae pobl mor barod i ddychmygu eu bod nhw wedi camu yn ôl mewn amser ac yn cyfarfod ag ysbryd o'r gorffennol – er mae'n rhaid i mi gyfaddef bod rhai pobl, sydd ddim wedi disgwyl fy ngweld i'n eistedd yno, yn dychryn braidd i ddechrau!"
Cymeriad arall gan Rhian oedd ‘Anti Marged’, cymeriad yn canolbwyntio ar y diwrnod golchi traddodiadol – o’r sgrwbio gyda sebon carbolig i wthio dillad drwy’r mangl i sychu a smwddio – y cyfan wedi’i ganoli o amgylch tân glo cynnes wrth gwrs! Dyma broses hir sy'n fyd oddiwrth cyfleustra ein peiriannau golchi trydan, peiriannau sychu dillad a heyrn trydan heddiw a phlant ysgol bob amser yn cael eu llorio gan y broses ac allan nhw ddim credu bod yr holl beth yn cymryd cymaint o amser o'i gymharu â'r trefniadau modern!
Actor arall sydd wedi gweithio yn yr Amgueddfa ers rhai blynyddoedd yw Leisa Mererid. Mae’n chwarae rôl gwraig tŷ o 1901 sy’n brwydro i ymdopi â’r caledi a ddaeth yn sgil y Streic Fawr yn Chwarel y Penrhyn ym Methesda. Mae'r stori yn un anodd. Mae gŵr y ty ar streic – yn ystod y Cloi Mawr yn Chwarel y Penrhyn. Ychydig o fara sydd ar y bwrdd a mae bywyd yn anodd. Y peth amlycaf yn y tŷ yma yw cragen 'conch' fawr y bydd hi ac eraill sy’n briod â dynion sydd ar streic yn hwtio drwyddi ar y 'bradwyr' - y dynion sydd wedi penderfynu torri’r streic a mynd yn ôl i’r gwaith. Fel mae’r arwydd yn ffenest Leisa yn ei ddweud, “Nid oes Bradwr yn y tŷ hwn!”
Yn fwy diweddar mae Rhian wedi datblygu cymeriadau newydd. Ym mis Mai 2022, dathlodd yr Amgueddfa ei phen-blwydd yn 50 oed a chyflwyno cymeriad newydd i’r cymysgedd – rhywun a allai roi mwy o hanes y gweithdai – ac felly ganed ‘Wil Ffitar’, cyn-osodwr peirianneg yng ngweithdai’r Gilfach Ddu. Ysgrifennwyd y sgript ar gyfer hyn gan Rhian ac yn 2024 - cyn i'r amgueddfa gau am gyfnod o ailddatblygu, cyflwynwyd cymeriad newydd eto gan Rhian - sef GWYNETH - Mam leol yn byw yn Llanberis yn 1969.
Llynedd, yn gweithio gyda’r gymuned fel rhan o’r broses ymgysylltu ar gyfer ailddatblygu’r Amgueddfa Lechi, creuwyd Gwyneth Robaits, gwraig weddw sy'n byw yn tŷ 1969 Fron Haul. Mae Gwyneth yn ceisio cefnogi ei mhab i fynd i'r Coleg i barhau a'i addysg gan fod y Chwarel wedi cau yn ystod Haf y flwyddyn honno! Newid byd ar y gymdeithas leol!
A nawr mae cymeriad newydd eto - ond mewn lleoliad tra wahanol y tro hwn - sef MARGARET Y MÊTRON. Mae Margaret i'w darganfod yn Ybsyty'r Chwarel, jesd uwchben yr Amgueddfa ym Mharc Padarn. Mae Margaret yn son am y math o anafiadau a salwch sy’n cael eu trin yno ynghyd a hanes y Doctoriaid sy’n gweithio yno fel yr enwog R.H. Mills Roberts. Mae hefyd yn son am y gwaith y mae hi a’r staff eraill yn ei wneud o ddydd i ddydd, ac wrth gwrs pa mor flaengar ydi’r Ysbyty fach Gymunedol yma yn defnyddio Pelydr X a 'Lister spray'!
Dywedodd Elen Roberts, Pennaeth Amgueddfa Lechi Cymru:
“Mae bod yn actor amgueddfa yn rôl anodd i'w chyflawni! Mae dyfnder yr wybodaeth y mae'n rhaid iddyn nhw ei chasglu yn enfawr oherwydd bod y cwestiynau y gellir eu gofyn yn eang iawn – o bethau sylfaenol fel sut mae haearn yn cynhesu ar y tân i faterion mwy cymhleth fel ffigurau gwleidyddol y dydd a'r gynulleidfa. O’r herwydd, mae ein hactorion yn ychwanegu cymaint at brofiad yr amgueddfa ac yn galluogi ein hymwelwyr i fwynhau ein stori mewn ffordd ymgollol a rhyngweithiol.”