Slincosor a Big Pit Bingo!
15 Awst 2018
,Da iawn i'r timau ddaeth i'r brig eleni!
Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd – Tîm Buddugol Menter 2018.
Ysgol Gyfun Bryn Celynnog – Tîm Buddugol Dewis y Bobl 2018.
Am y 3 blynedd ddiwethaf, mae Amgueddfa Cymru wedi cynnal cystadleuaeth ar gyfer disgyblion sy'n cymryd rhan yn her Menter a Chyflogadwyedd (Cenedlaethol/Sylfaen) yr Amgueddfa.
Briff yr Her yw creu cynnyrch arloesol ar gyfer siop yr Amgueddfa, sy'n adlewyrchu gwrthrychau a chasgliadau'r saith amgueddfa.
Caiff y disgyblion gyfle i arddangos eu gwaith mewn digwyddiad arbennig.
Cynhaliwyd digwyddiad eleni yn Atriwm newydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Cyflwynodd disgyblion eu gwaith i banel o feirniaid. Fe wnaethon nhw hefyd greu arddangosiadau a chyflwyno'r cynnyrch i rai o ymwelwyr yr Amgueddfa.
Dywedodd yr holl ddisgyblion y byddent yn argymell yr her i eraill. Bu'r disgyblion yn disgrifio'r sgiliau allweddol a ddatblygwyd, o waith tîm a meddwl i gyflwyniadau a chyfathrebu.
“Fy hoff rhan oedd gweld beth oedd y cyhoedd yn meddwl am ein cynnyrch a clywed beth oedd ei farn am y cynnyrch”
“My favourite part was w orking as a team and creating a product that we really enjoyed”
“To answer the questions in the pitch required quick thinking skills.”
Adborth y disgyblion
Bu myfyrwyr o Goleg Caerdydd a'r Fro yn helpu i gynnal y digwyddiad fel rhan o'u Her Gymunedol Uwch. Roeddent yn gyfrifol am gynllunio ac arwain rhai o brif elfennau'r diwrnod, o logisteg a chefnogi disgyblion, i drefnu a chyflwyno Gwobr Dewis y Bobl, sef pleidlais ymwelwyr.
“I believe it was a great experience as you interact with all different types of people and different ages.”
Helena Vitoria, myfyrwraig yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro
“Once again, the National Museum competition proved a resounding success.”
Sara Davies, Swyddog Bagloriaeth Cymru CA4 Cenedlaethol/Sylfaen |
KS4 National/Foundation Welsh Baccalaureate Officer
Mae nifer o adnoddau ar gyfer athrawon a disgyblion sy'n cymryd rhan yn yr her ar wefan yr Amgueddfa: www.amgueddfa.cymru/addysg.
sylw - (1)