Hafan y Blog

Patrymau Pwrpasol

Dafydd Wiliam, 4 Mai 2019

Mae patrymau i'w gweld ym mhobman. Maent yn rhan gyffredin o’n bywydau oherwydd eu defnydd fel addurn i'n dillad a cartrefi. Oherwydd hyn, ychydig iawn o sylw go iawn rown ni iddynt. Fel y cyfryw mae hyn yn iawn oherwydd does dim pwrpas iddynt heblaw fel addurn. Ond o fewn ein Casgliadau ni, mae pwrpas i nifer fawr o’r patrymau a welir. Fe’u crëwyd i amddiffyn y cartref rhag gwrachod ag ysbrydion drwg. Yn y gyfres yma o erthyglau byr fe gymerwn olwg fanylach ar y patrymau pwrpasol a welwn yn yr Amgueddfa.

Mae marciau saer coed i'w gweld yn glir ar nifer o adeiladau pren, yn arbennig sgubor Stryd Lydan. Adeiladwyd ffrâm bren yr adeilad yn iard y saer cyn ei datgymalu a’i symud i'w chartref parhaol. Roedd felly angen ffordd o nodi gwahanol elfennau o'r ffrâm fel eu bod yn gallu cael eu hail-godi yn y drefn gywir ar y safle newydd.

Mae marciau apotropäig (o’r gair Groeg am ‘atal’ neu ‘gadw draw’) i'w gweld mewn sawl ffurf. Er enghraifft, marciau a losgwyd â channwyll ar drawstiau pren; llinellau wedi eu cerfio mewn i drawst neu gelficyn pren mewn siâp grid neu flodyn; sgwariau o liwiau wedi eu gosod am yn ail, fel coch a du neu goch a gwyn; llinellau sarffaidd 'diddiwedd'; neu symbol ‘V’ dwbl. Adiwyd y rhain i gartrefi ac adeiladau amaethyddol rhwng 1600 a 1950. Darganfuwyd y mwyafrif ym ‘mannau gwan’ cartref lle byddai'n hawdd i ysbrydion drwg gael mynediad i’r tŷ, sef drysau, ffenestri a llefydd tân.

Mae marciau entoptic (o’r gair Groeg am ‘pethau a welir o fewn y llygad’) yn batrymau geometrig sydd ymhlith y gwaith celf cynharaf yn y byd. Maent i'w gweld ar nifer fawr o wrthrychau gwahanol o fewn ein horiel newydd – Gweithdy. Mae’r darn pren o Maerdy a’r garreg o Barclodiad y Gawres yn 6,000 o flynyddoedd oed, ac mae llinell sarffaidd amlwg i'w gweld ar y ddau wrthrych. Mae cynlluniau geometrig yw gweld yn glir ar y potiau clai Oes yr Efydd a elwir yn biceri. Mae mosaig Rhufeinig o Gaerwent yn cynnwys cwlwm diddiwedd yn ei ganol a thrionglau du a gwyn o’i amgylch. Mae clymau tebyg i'w gweld ar y croesau Cristnogol cynnar, lle gelwir yr arddull yn knotwork. Mae’r patrymau yma yn debyg iawn i’r marciau apotropäig hwyrach, ac fe allent gynrychioli gwraidd y traddodiad. Er enghraifft, yn ystod y 19eg a'r 20fed ganrif roedd yn goel gyffredin bod patrwm cymhleth o ddim ond un llinell yn gallu swyno ysbrydion drwg a'i atal rhag cael mynediad i’r tŷ.

Y tro nesaf y cerddwch chi heibio tŷ o oes Fictoria, beth am i chi edrych yn fwy craff ar y llwybr o deils du a gwyn sy'n arwain at y drws? Neu pan ewch i’r gwely, gofynnwch pam bod carthenni mor lliwgar a chymleth eu patrwm a chithau ar fin mynd i gysgu? Efallai bod y rhain hefyd yn rhan o’r traddodiad o greu patrymau pwrpasol.

Dafydd Wiliam

Prif Guradur: Adeiladau Hanesyddol
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.