Amgueddfa Blog

Hafan y Blog

Noson Bluo / Noson Bufio

Mae cyfoeth o draddodiadau yn gysylltiedig â’r Nadolig yng Nghymru; rhai a erys yn boblogaidd hyd heddiw, a rhai sydd wedi mynd yn brinach gydag amser.

Roedd y Noson Bluo (neu "blufio") yn achlysur cymdeithasol pwysig iawn mewn llawer ardal cyn y Nadolig yn y gorffennol.  Rhyw wythnos cyn y dathlu, byddai’r gymuned yn ymuno i bluo ac i baratoi’r gwyddau a’r twrcwns a fu’n tewhau dros yr Hydref i’w gwerthu cyn y diwrnod mawr.  Byddai rhai yn dechrau ben bore ac yn dod â’r gwaith i ben erbyn yr hwyr tra byddai eraill yn cymryd mantais o dawelwch yr oriau tywyll ac yn bwrw ati i bluo drwy’r nos a thacluso popeth yn oriau man y bore cyn dechrau ar dasgau’r diwrnod i ddod.

Roedd yr achlysur yn gyfle i deuluoedd ac i ffrindiau dreulio amser gyda’i gilydd.  Er bod y gwaith yn galed, roedd digon o sbort a sbri i’w gael i’r criw o amgylch y tân yn y gegin, neu o amgylch y gwresogydd mewn sied y tu allan, wrth sgwrsio, dweud jôcs, adrodd straeon, chwarae gemau llafar a chanu ambell i gân.  Dyma ychydig yn rhagor am y digwyddiad arbennig hwn gan ddau o siaradwyr yr Archif Sain:

Pluo yn Sir Drefaldwyn

Ganwyd Catherine Sydney Roberts yn Y Gardden, Llanerfyl, yn 1900.  Roedd yn un o 14 o blant.  Bu’n byw yn ardal Llanerfyl erioed.  Roedd yn wraig hynod ddiwylliedig ac fe’i holwyd gan Minwel Tibbott yn 1972 am fwydydd ar fferm fechan yn ystod cyfnod troad yr 20fed ganrif: 

Catherine Sydney Roberts, 1972

“Noson bluo, oedd hi’n noson fawr iawn.  Pluo gwydda te.  Fyddan ni wrthi drwy’r nos, dros nos oeddan ni’n neud.  Mi fydda na gymdeithas neilltuol a mi fyddan ni’n mynd er mwyn cael y gymdeithas ‘ddoch chi, te.  Yn ista ar y meincia, odd y dynion i gyd, a rownd bowt, a dwy lantarn neu dair yn hongian o’r llofft.  O, roedd hi’n gynnes reit yna achos oedd na gymaint o fobol a’r lanteri ‘ma, oen nhw’n cynhesu chi.  Ac erbyn y bore oeddan ni wedi gorffen y cwbwl a gallu glanhau fyny.  Doedd neb yn gwbod fod neb wedi bod yn pluo noson gynt bron te.  Hwyl anfarwol, adrodd rhyw hen benillion a … Hwyl anfarwol, noson pluo, ynte.”

Plufio yn Sir Benfro

Ganwyd Clifford Thomas yn 1905 mewn tyddyn bach o’r enw Bryn y Banc ym mhentref Mesur-y-Dorth, ger Croes-goch, Sir Benfro.  Aeth i’r ysgol yng Nghroes-goch i ddechrau ac yna i Ysgol Sir Tyddewi am flwyddyn.  Roedd yn sgwrsiwr heb ei ail ac fe’i holwyd gan Delyth James yn 1972 am arferion y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Dyma rai o’i atgofion yntau am y Noson Blufio:

Clifford Thomas, 1972

“Odd plufio yn dod ryw wythnos cyn Nadolig.  Gwydde a chwïed a twrcis.  Casglu wedyn, o, ryw ddwsin o fenywod i blufio o’r pentrefi a chwedyn, yng ngwaith i odd lladd y gwydde a’r twrcis a’u cario nhw iddyn nhw fel na bod nhw’n gorffod dod allan o’r pluf.  Odd stafell arbennig mâs, a yn yr ystafell honno on nhw’n plufio.  On ni’n gorffod gofalu bod heaters yndi’r noson cyn hynny, oil heaters fel bod y lle wedi’i dwymo ar eu cyfer nhw, a lampie pryd hynny, lantarne, oil lamps, i oleuo iddyn nhw oherwydd ch’mod, tua’r Nadolig yna ma’r tywydd yn dywyll iawn.   Ma’r dydd yn dywyll.  Dechre tua wyth i hanner awr wedi wyth, hyd wedd hi mlân bump o’r gloch, pump, chweech o’r gloch.  Gorffen wedyn.  Dod i ben â’r cyfan erbyn hynny.  A yn y blynydde cynta, odd na glanhau giblets ymlân, ar ôl hynny wedyn.  Wedi iddyn nhw ddod fewn a châl ‘u te, on nhw’n dechre ar y busnes hwn.  Pryd hynny on nhw’n câl ‘u gwerthu ar wahân i’r gwydde.  Swllt y pâr, swllt y set:  pen, dwy droed, afu a’r galon a’r lasog.”

Meinwen Ruddock-Jones

Archifydd
Gweld Proffil

Gadael sylw