Hafan y Blog

5 Hoff Beth Dippy am Gaerdydd

Diplodocus carnegii, 14 Ionawr 2020

Y pâr priod hapus

© Sadie Osborne Photography, sadie-osborne.squarespace.com

 

Shwmae bawb, Dippy sy' 'ma!

 

Dwi wir wedi mwynhau fy amser yma yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae pawb mor gyfeillgar a dwi wedi mwynhau cwmni da mewn digwyddiadau cyffrous iawn. Mae gen i ormod o lawer o straeon ar gyfer un blog, felly dyma fy 5 hoff beth.

 

1) Dysgu Cymraeg

Pan gyrhaeddais i Gaerdydd, doedd gen i ddim llawer o Gymraeg, ond diolch i staff hyfryd yr Amgueddfa, wnes i ddysgu yn gyflym! Dwi wedi cael digonedd o gyfleoedd i ymarfer fy Nghymraeg gydag ymwelwyr, a dwi wedi bod yn trydar yn ddwyieithog o fy nghyfri Twitter @DippyOnTour.

 

2) Digwyddiadau Dippy

Pan glywais i y bydden i'n rhannu'r neuadd fawr gyda digwyddiadau fel disgos distaw a yoga, roeddwn i'n poeni y bydden i yn y ffordd. Ond, dwi wedi mwynhau bod yng nghanol yr hwyl ac hyd yn oed wedi bod yn rhan o briodas Gymreig am y tro cyntaf!

 

Y pâr priod hapus

© Sadie Osborne Photography, sadie-osborne.squarespace.com

 

                                                                                                           

3) Mwynhau byd natur

Ar fy nhaith o gwmpas y DU, rwy'n benderfynol o annog pawb i archwilio'r byd natur o'u cwmpas. Dyw hynny ddim yn anodd yng Nghaerdydd – mae mwy o fannau gwyrdd y pen yma nag unrhyw ddinas fawr arall yn y DU. Dwi wedi joio mas draw yn darganfod parciau newydd bob dydd! Cer i fy ngwefan i weld sut i fwynhau natur yn dy ardal leol di.

 

4) Fy ffrind newydd

Doeddwn i ddim yn gwybod bod deinosoriaid eraill yng Nghymru, ond buan iawn y ces i gwrdd â Dracoraptor – deinosor gafodd ei ddarganfod dafliad carreg o Gaerdydd. I ddechrau, roeddwn i'n genfigennus o enw diddorol Dracoraptor, ei ystyr yw 'draig-leidr'! Ond fe ddaethon ni'n ffrindiau mewn dim amser.

Model o Dracoraptor

© Amgueddfa Cymru - National Museum Wales

5) TI!

Y peth gorau am Gaerdydd heb os yw'r holl bobl anhygoel dwi wedi cwrdd â nhw. Fydda i yma tan 26 Ionawr felly cofiwch ddod draw a rhannwch eich hunluniau gan ddefnyddio #DippyArDaith a #DippyOnTour.

Elena Johnston

Swyddog Cyfathrebu Marchnata Cynorthwyol
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.