Cyffredinol

Gwen John: Eicon Cwiar Cymreig?

Helena Anderson, 9 Mehefin 2026

Yn ddiweddar mae Gwen John wedi adennill ei lle fel un o eiconau ciwar Cymru. Doedd rhywioldeb Gwen byth yn gyfrinach (fe soniodd ei brawd, Augusutus, ei bod hi'n cael ei thynnu at ddynion a menywod yn ei ragair i gatalog yr Arddangosfa Goffa yn 1946, ac mae'n codi yn y tri bywgraffiad ohoni), ond mae'r diddordeb newydd yn ein hannog i ystyried sut fyddai hyn yn dylanwadu ar ei gwaith a sut fyddai hi'n gweld y byd. Sut mae rhywedd a rhywioldeb yn newid sut fyddwn ni'n dehongli dewis artist o destun ac arddull, a sut fyddan nhw'n darlunio'r byd?

Cafodd Gwen berthynas ramantus a rhywiol gyda dynion a menywod drwy gydol ei hoes. Yn ei hunangofiant fe soniodd Augustus sut y cafodd hi ei chroesi mewn cariad gan gyd-fyfyrwraig yn Ysgol Gelf Slade, wnaeth arwain at ddrama a Gwen yn ei heiddigedd yn mynnu bod y ferch yn gorffen ei charwriaeth gyda dyn priod. Awgrymodd Susan Chitty, awdur y bywgraffiad cyntaf ohoni, taw Grace Westray oedd hon – cyd-fyfyrwraig oedd yn rhannu fflat gyda Gwen ac Augustus am gyfnod. ⁠Efallai taw hi yw'r fenyw ifanc yn y blaendir yn Portread Grŵp – un o'r gweithiau prin sy'n bodoli o ddyddiau coleg Gwen. Drwy'r ffenest fe welwn ni ddau ffigwr arall, sef Gwen a'r artist Ambrose McEvoy o bosib (cariad arall). Mae'r portread grŵp yn dangos y cwlwm cymhleth o gariad, cyfeillgarwch a theulu oedd yn nodwedd o fywyd coleg Gwen. Roedd y fflat roedd y myfyrwyr yn ei rannu ar 21 Fitzroy Street yn bair creadigol wnaeth sbarduno ei datblygiad artistig, ac yn hafan ddiogel iddi arbrofi a darganfod ei rhywedd.

Gwen John, Portread Grŵp, 1897

Gwen John, Portread Grŵp, 1897. Casgliad Celf UCL – i'w weld ar hyn o bryd yn Gwen John: ⁠Hardd a Hynod

Patrwm tebyg welwn ni yn nifer o'i pherthnasau: atyniad cryf a theimladau dwys yn gorlifo'n ddefosiwn llethol gan Gwen. Yn fuan ar ôl symud i Baris yn 1904 dyma hi'n cyfarfod y cerflunydd Auguste Rodin. Cyn hir roedd hi'n hoff fodel iddo, a datblygodd perthynas ramantus. Mae'r berthynas wedi'i chofnodi yn y cannoedd o lythyrau anfonodd hi ato, ac sydd bellach yn archifau'r Musée Rodin. Mae nifer yn llythyrau caru sy'n trafod rhyw a chwant yn agored (gan gynnwys atyniad at fenywod) a rhai hefyd yn sôn am ei gwaith modelu dydd-i-ddydd i artistiaid eraill. Roedd nifer o'r rhain yn fenywod cwiar, fel Ottilie Roederstein, Ida Gerhardi, Anna Wood Brown, a Hilda Flodin – pob un yn gleientiaid a ffrindiau am flynyddoedd. Dyw hi ddim yn glir os fyddai Gwen byth yn mynychu'r caffis a'r salons oedd yn ganolbwynt i fyd artistig, Saffig y menywod hyn, ond byddai hi'n bendant yn cylchdroi yn yr un cylchoedd.

Ac fel nifer o'r menywod y byddai hi'n cydweithio â nhw, roedd rhentu lle ei hun yn hanfodol i'w byd personol a phroffesiynol. Yr apartment dan y distiau a welwn ni yn Cornel o Stafell yr Artist ym Mharis oedd ei chartref a'i stiwdio. Mae'r hanesydd Alicia Foster wedi dangos sut oedd ystafell ei hun yn allweddol i'w gwaith fel artist, ond fel menyw ddibriod, roedd hefyd yn lle diogel i wahodd ffrindiau a chariadon. Mewn oes pan allai cerdded y strydoedd heb gwmni ddenu sylw digroeso, roedd gallu rhentu lle bach, preifat yn rhoi rhyddid personol, rhywiol, cymdeithasol ac economaidd. Pa ryfedd fod ystafelloedd Gwen yn ymddangos mor aml, ac mor aml yn destun ei gwaith? I fenyw ac artist cwiar, sengl, roedd lle fel hyn yn hafan a bywoliaeth.

Gwen John, Cornel o Stafell yr Artist ym Mharis, 1907-9

Gwen John, Cornel o Stafell yr Artist ym Mharis, 1907-9, NMW A 3397

Ddiwedd 1926 dyma Gwen yn cyfarfod yr athronwyr Pabyddol enwog Jacques Maritain, oedd yn byw ym Meudon gyda'i wraig Raissa a'i chwaer yng-nghyfraith Véra Oumançoff. Buan y datblygodd Gwen deimladau dwys at Vera, ddaeth yn gyfaill mynwesol ac arweinydd ysbrydol iddi. Byddai'r ddwy yn siarad yn aml ar ôl yr offeren yn yr eglwys, ac yn cerdded yn y goedwig gyda'i gilydd. Datblygodd agosatrwydd Gwen yn deimladau rhamantus, ond mae'n debyg nad oedd Véra'n teimlo'r un fath. Mae sawl drafft o lythyrau angerddol at Véra ymhlith papurau Gwen John yn y Llyfrgell Genedlaethol. Yn y llythyrau mae Gwen yn plethu myfyrdodau crefyddol a defosiwn rhamantus, gan ofyn i Dduw sut i garu Véra, a gofyn am gael cusanu ei dwylo. Cafodd Véra ei llethu gan yr holl sylw, a gofynnodd i Gwen beidio â llythyru ac ymweld fwy nag unwaith yr wythnos. Fe wnaeth Gwen hynny, ond yn ogystal â llythyrau, dechreuodd ddod â darluniau o'r enw dessins de lundi (darluniau dydd Llun) yn anrhegion gyda hi ar ei hymweliadau. Bob wythnos am bron i ddwy flynedd fe gyflwynodd Gwen ddarlun neu ddyfrllun i Véra, yn gymysgedd o weithiau unigryw a fersiynau o syniadau cynharach. Mae'r testunau, yr arddull, a'r cyfrwng yn amrywio'n fawr. Byddai'n cyflwyno rhai wedi'u glynu ar bapur lliw, gyda'r teitl a'r dyddiad ar y cefn. Dyma sut ydyn ni'n gwybod teitlau cymaint o waith Gwen ar bapur (fel Mademoiselle Pouvereau a Souvenir du Dimanche des Rameaux⁠).

 Gwen John, Mademoiselle Pouvereau

Gwen John, Mademoiselle Pouvereau, NMW A 3607

Fe gadwodd Véra'r darluniau hyn ymhell ar ôl i'r berthynas orffen, hyd yn oed ar ôl iddi ffoi i'r UDA yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd dros gan dessins de lundi eu hailddarganfod yn archif y teulu Maritain yn y 1960au, ac mae nifer o'r gweithiau sydd nawr yng nghasgliad stiwdio Amgueddfa Cymru yn fersiynau o'r dessins de lundi a roddodd Gwen yn anrheg. Wrth edrych o'r newydd ar y rhain o safbwynt rhywioldeb Gwen, maen nhw'n amlwg yn fwy nag astudiaethau o gyfansoddiad ac arlliw. Maen nhw'n arwydd o gariad mynwesol yn deillio o gyd-addoli a chyd-weddïo, ac oherwydd taw unwaith yr wythnos y gallai Gwen gysylltu â Véra daeth y darluniau yn fodd ychwanegol o ddangos ei chariad. ⁠Lluniau dydd Llun yn lle llythyrau.

Un o'r delweddau wnaeth Gwen eu hanfon fel dessins de lundi oedd darlun o Santes Thérèse o Lisieux (1873-1897). Lleian gyfoes o Ffrainc oedd hon, wnaeth farw'n ifanc a chael ei dyrchafu'n sant cyn gynted â phosib. Roedd hi'n un o'r seintiau cyntaf i ymddangos mewn ffotograff, a defnyddiwyd hyn gan y cwfaint i gynhyrchu eiconau ohoni a sbarduno'r ymgyrch i'w dyrchafu. Fe gyhoeddodd y cwfaint yn Lisieux lyfrau, cardiau gweddi, a chofroddion gyda llun Thérèse. ⁠Fel artist wnaeth droi at y ffydd Babyddol, cafodd Gwen ei chyfareddu gan y ffotograffau hyn oedd yn dangos am y tro cyntaf wir wyneb sant, yn hytrach nag eicon delfrydol wedi'i gynhyrchu ganrifoedd ar ôl eu marw. Datblygodd hoffter arbennig at lun o Thérèse a'i chwaer hŷn, Céline, yn blant a dyma hi'n darlunio a phaentio'r cyfansoddiad gannoedd o weithiau. Anaml fydd y delweddau hyn yn cael sylw mewn astudiaethau o waith Gwen John, ac maen nhw'n aml yn cael eu wfftio fel brasluniau difeddwl neu obsesiynol. Ond mae hyn yn anwybyddu pa mor bwysig fyddai gweld 'gwir wyneb' santes oedd prin dair blynedd yn hŷn na Gwen. Yn goron ar y cyfan, erbyn i Gwen ddechrau ei darlunio hi yn y 1920au roedd Thérèse wedi dod yn dipyn o eicon cwiar ei hun, gyda Jean Cocteau, Henri Ghéon, Lucie Delarue-Mardrus, Vita Sackville-West, a Radclyffe Hall yn ddilynwyr brwd. Roedd ei neges o 'wneud y pethau bychain' – gallai bywyd tawel, amherffaith fod yn ddwyfol diolch i weithredodd bach cyffredin – yn apelio at bobl oedd wedi cael tröedigaeth, artistiaid avant-garde, a phobl ar gyrion cydeithas. Roedd 'ffordd fychan' Thérèse yn apelio'n fawr at Gwen a byddai hi'n ysgrifennu yn ei llyfrau nodiadau diweddarach ei bod hi am ddod yn santes ei hun. Fel rhywun ar y cyrion, oedd ddim yn cydymffurfio â safonau cyffredin yn ei gwaith na'i rhywioldeb, roedd delwedd a dysgeidiaeth Thérèse yn gysur mawr iddi.

Gwen John, Santes Thérèse o Lisieux a'i Chwaer

Gwen John, Santes Thérèse o Lisieux a'i Chwaer, NMW A 15561

Gwen John, Santes Thérèse o Lisieux a'i Chwaer

Gwen John, Santes Thérèse o Lisieux a'i Chwaer, NMW A 15534

Wrth edrych ar waith Gwen o safbwynt rhywedd hyblyg gallwn ni ddehongli ei gwaith o'r newydd. Dim ond ychydig o esiamplau mae'r erthygl hon yn eu trafod, ac mae digon o waith i'w wneud eto. Wrth gydnabod bod Gwen John yn berson cwiar ac ystyried sut fyddai hyn yn dylanwadu ar ei ffordd hi o weld y byd, rydyn ni'n dyfnhau ein dealltwriaeth ohoni. I ddysgu mwy am Gwen fel artist cwiar, darllenwch lyfr Norena Shopland Forbidden Lives (2017), Erthygl Tabitha Deadman yn Art UK ‘Bi visibility: Gwen John and multiple gender attraction’, ac erthyl Mair Jones yn Art UK ‘Queer Welsh women in art’.

Bywyd gwyllt cudd yng ngardd yr amgueddfa 🐝🌿

Josh David-Read, 3 Mawrth 2026

Cyn 2017 roedd gardd ganolog Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ardal dywyll, heb unrhywbeth i ddenu bywyd gwyllt. Yna daeth Gradd GRAFT i droi’r pridd a chreu hafan i fywyd gwyllt mewn ardal goncrid yma yn Abertawe.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rwyf wedi gweld nifer o rywogaethau o bryfed ac adar yn ymweld â’r Ardd, ac mae rhai wedi ymgartrefi yma yn yr Ardd yn gartref iddynt.

Yn Graft nid ydym yn defnyddio unrhyw blaladdwyr, ac rydym yn ceisio datrys problemau gydag atebion naturiol ac organig

Ar gyfer Diwrnod Bywyd Gwyllt y Byd rwy’n tynnu sylw at rai o’r pryfed a’r adar mwyaf diddorol – a hefyd rhai annifyr – sy’n ymweld â’r Ardd, a sut maent yn effeithio ar y gofod.

Brenhiniaeth y compost! 👑🌱

                                                                     

Rydym yn cynhyrchu ein compost ein hunain ar y safle. Dyma’r lle gorau i weld “brenhiniaeth” y domen gompost, a’r pryfed gorau wrth eu gwaith o dorri deunydd organig i lawr yn bridd cyfoethog ar gyfer ein gwelyau tyfu.

Mae gennym y mwydyn pridd gostyngedig, sy’n helpu i awyru’r pridd ac yn torri deunydd organig i lawr yn bridd defnyddiol. Mae gennym gannoedd os nad miloedd ohonynt! A oeddech chi’n gwybod bod dros 16 o rywogaethau gwahanol? 🪱

Peillwyr 🐝🌼

Dyma’r pryfed rydyn ni’n eu caru fwyaf – y peillwyr. Mae’r rhain yn gasgliad o bryfed (ac weithiau adar, ond nid yn ein hachos ni) sy’n cefnogi ein hecosystem.

Wrth gwrs mae gennym ein gwenyn mêl, sy’n cael eu rheoli gan Alyson a grŵp o fyfyrwyr o Ysgol Dylan Thomas. Ar eu hanterth mae gennym dros 100,000 o wenyn yn ein cychod gwenyn!

Mae gwenyn yn chwarae rhan enfawr mewn bioamrywiaeth fyd-eang a chynhyrchu bwyd, ac rydym yn ffodus iawn o’u cael yma ar y safle. Cadwch lygad ar ein rhaglen ddigwyddiadau am gyfle i’w gweld!

Plâu 🐛

Bydd pob garddwr yn cael brwydr gyda phryfed – boed gwyfyn y bresych neu wlithod yn bwyta ein cnydau!

Ond rwy’n mynd i dynnu sylw at bla gardd llai adnabyddus o’r enw llysiau’r dail (aphids). Pryfed du bach yw’r rhain sy’n casglu mewn miloedd ar blanhigion. Mae aphids yn hoff iawn o’n ffa llydain a’n brocoli.

Gallant achosi clefydau mewn planhigion felly mae’n bwysig eu rheoli. Rydym yn defnyddio plannu cydymaith a hefyd cymysgedd o ddŵr a hylif golchi llestri i helpu ein planhigion.

Mae gennym hefyd arwr bach ar ffurf y fuwch goch gota, sy’n bwyta aphids ac yn helpu i greu cydbwysedd. A oeddech chi’n gwybod y gallwch brynu buchod coch gota drwy’r post? Doeddwn i ddim! 🐞

Adar 🐦

Nid wyf yn wyliwr adar, ond pan fyddaf yn gweithio yn yr ardd ac yn gweld adar yn fy nilyn o gwmpas mae’n rhoi tipyn bach o lawenydd i mi.

Daethom o hyd i dystiolaeth o nyth yn ein gwinwydden y llynedd. Nid wyf yn siŵr pa rywogaeth oedd hi, ond mae gennym hefyd robin goch preswyl sy’n galw’r ardd yn gartref ac yn ei “thiriogaeth”.

Mae robin goch yn hynod diriogaethol ac anaml y byddwch yn gweld mwy nag un ar y tro. Nid ydym wedi rhoi enw ar yr un yma eto – ond efallai y dylem ei galw’n Charles Watkins, ar ôl crëwr awyren Y Robin Goch… 😄

Felly tro nesaf byddwch yn ymweld a’r amgueddfa, ewch allan am dro o amgylch ar ardd i weld pa fywyd gwyllt gallwch chi weld. 

Hwylio i Bennod Newydd: Ail-ddychmygu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Nicole Deufel, 25 Medi 2025

Yn gynharach eleni, cymerais y llyw yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ac wrth i ni gyrraedd yr Hydref mae eisoes yn teimlo fel pe baem yn dal y gwynt yn ein hwyliau. O’r diwrnod cyntaf, cefais fy ysbrydoli gan angerdd ac arbenigedd ein tîm, sy’n caru straeon rhyfeddol ein casgliadau. Mae eu mewnwelediadau, ynghyd â’r croeso cynnes a gefais gan Abertawe ei hun, wedi fy argyhoeddi o un peth: bod gan yr amgueddfa yma y potensial i fod yn gyrchfan sy’n synnu, yn swyno ac yn cysylltu pobl mewn ffyrdd newydd. 

Angori Ein Stori

Un o’r heriau cyntaf yr ydym yn eu hwynebu yw sut rydym yn adrodd ein stori. Mae ymwelwyr yn aml yn cyrraedd heb wybod ble dylai eu taith ddechrau. Gyda thair mynedfa wahanol a llwybrau troellog, mae’n hawdd colli’ch ffordd. Ychwanegwch at hynny’r disgwyliad (ar sail ein henw a’n lleoliad) fod yr amgueddfa’n ymwneud â’r môr a straeon morwrol Cymru, ac mae’n hawdd gweld pam y gall rhai ymwelwyr adael yn ddryslyd. 

Mae ymwelwyr hefyd yn aml yn chwilfrydig ynghylch stori ein warws haneysddol. Beth oedd ei bwrpas? Pam fod y warws yma? Am gyfnod rhy hir, nid ydym wedi adrodd stori’r adeilad rhyfeddol yma i’n hymwelwyr. 

Mae’r warws yn sefyll yn ei leoliad gwreiddiol, lle bu unwaith yn edrych allan dros ddoc prysur yn llawn llongau, gweithwyr, a rhythm diwydiant. Yma, bu’r warws yn rhan o’r cyfnewid mawr rhwng diwydiannau trwm Cymru a gweddill y byd ar draws y môr.

Dyna’r stori a’n hysbyrdolodd i droi ein golygon tua’r môr, i adael i’r môr arwain sut rydym yn adrodd straeon: y môr yw gwir galon ein gweledigaeth. Y môr yw’r edefyn sy’n cysylltu popeth – diwydiant, celf, archeoleg, a bywydau cymunedau ledled Cymru. O allforio glo a chopr, i deithiau teuluoedd a groesodd y cefnforoedd, mae stori Cymru’n stori a luniwyd gan y môr. 

A pha le gwell i adrodd y stori yma na’n warws haneysddol? Adeiladwyd yn 1900 wrth ymyl Doc y De – bellach yn gartref i Farina Abertawe – ac mae’r adeilad ei hun yn dal i sibrwd ei orffennol diwydiannol. Mae traciau rheilffordd yn rhedeg ar hyd y llawr, ac mae swyddfa’r Harbour Trust a’r Tŷ Pwmp yn dal i sefyll gerllaw. Dyma hanes y gellir ei weld, ei gyffwrdd a’i deimlo o’ch cwmpas. 

Agor y Drysau i’r Môr

Rydym eisoes wedi dechrau ar newidiadau bach ond pwerus. Mae ffenestri caeedig y warws bellach ar agor unwaith eto, gan adael golau i mewn a chysylltu’r gofod gyda’r Marina y tu allan. Mae’r weithred syml yma wedi trawsnewid yr awyrgylch, ac mae’n teimlo fel bod yr adeilad yn anadlu unwaith eto. Rydym hefyd wedi tynnu strwythurau arddangos swmpus oedd yn rhwystro’r olygfa, gan wneud yr amgylchedd haneysddol yn rhan o brofiad yr ymwelydd unwaith eto. 

Mae’r Neuadd Weston, sy’n cysylltu’r Oriel Newydd â’r Warws hefyd wedi gweld rhai newidiadau. Rydym wedi cael gwared ar yr annibendod ac wrthi yn datblygu’r gofod i fod yn ardal croesawgar ac ysbrydoledig. Yma, bydd ymwelwyr yn dod ar draws canolbwyntiau trawiadol – gwrthrychau bydd yn eich stopio gan roi’r foment “WOW” i chi!

Dychmygwch hyn: yr optic goleudy South Bishop o 1842, wedi’i adfer i’w gyflwr gweithio, ei ben uchaf yn disgleirio bob dydd pan gaiff ei droi â llaw. Neu gerbyd rheilffordd hanesyddol wedi’i osod ar y traciau gwreiddiol, gan wneud gorffennol diwydiannol y warws yn weladwy ar unwaith. Nid arddangosfeydd yn unig mohonynt, ond pileri ein hunaniaeth gan gychwyn sgyrsiau am ddiogelwch ar y môr, Abertawe fel Dinas Noddfa, a chysylltiadau dwfn rhwng Cymru a gweddill y byd. 

Golygfa Gyda’ch Coffi

Mae’n debyg hefyd y bydd ein caffi’n symud. Rydym yn archwilio’r posibilrwydd o’i leoli i fyny’r grisiau er mwyn manteisio ar ein balconi sy’n edrych allan dros y Marina. Dychmygwch yfed eich coffi gyda golygfa banoramig o’r glannau. Bydd hyn hefyd yn ein helpu i drawsnewid Mynedfa’r Marina yn fynedfa ddiddorol i groesawu’r nifer cynyddol o bobl sy’n pasio heibio. 

Gorwelion Newydd ar gyfer Arddangosfeydd

Hyd yma, cynhaliwyd arddangosfeydd dros dro yn Neuadd Weston, gofod na chafodd ei gynllunio ar gyfer cynnal arddangosfeydd. Canlyniad hyn oedd cyfaddawdau a chyfyngiadau ar yr hyn y gallem ei ddangos. Mae hyn ar fin newid!

Rydym yn disgwyl creu orielau pwrpasol ar y mesanîn yn yr Oriel Newydd. Bydd y gofod hyblyg yma yn caniatau i ni gynnal arddangosfeydd uchelgeisiol o safon uchel a fydd yn synnu ac yn ysbrydoli, gan roi mwy o resymau i ymwelwyr ddychwelyd dro ar ôl tro. 

Edrych Ymlaen

Mae’r daith o’n blaen yn un gyffrous i ni fel amgueddfa ac i Abertawe. Ein cynllun yw ail-ddatblygu’r Oriel Newydd a’r Warws yn unol â safonau arddangos modern, gan osod cymunedau ac ysbrydoliaeth i bawb yn greiddiol i’n gwaith. Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn llunio’r manylion, yn gweithio gyda chymunedau ac ymwelwyr, ac yn mapio sut i adrodd stori Cymru trwy lens y môr.

Hyd nes hynny, disgwyliwch newidiadau bach ond pwerus – eiliadau annisgwyl, cyfarfyddiadau llawen, a safbwyntiau newydd sy’n amlyug sut mae’r môr wedi siapio bywyd ledled Cymru. 

Amgueddfa Fyw i Bawb

Rwy’n hynod ddiolchgar i’r tîm yma, y mae eu syniadau a’u brwdfrydedd yn ein llywio ymlaen. Gyda phobl Abertawe a’n hymwelwyr, rydym yn gwneud Y Glannau yn lle i’w archwilio, ei fwynhau, a’i ddathlu – amgueddfa fyw, llawn profiadau llawen a rhyngweithiol i bawb. 

Felly dewch ar y daith gyda ni. Mae’r llawn’n troi, ac mae pennod newydd yn hanes Amgueddfa Genedlaethol y Glannau newydd ddechrau. 

Dathlu Balchder: Tu ôl i’r llen gyda Chynhyrchwyr Amgueddfa Cymru

James Lindsay, 25 Medi 2025

Ym mis Mehefin 2025, fel rhan o brosiect REACH Cymru, gwahoddodd Amgueddfa Cymru geisiadau ar gyfer dau Gynhyrchydd Amgueddfa Cymru i gynllunio a chynnal gweithdy ar Balchder. Dyma oedd gan James, un o Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru, i’w ddweud am y profiad:

Ar gyfer mis Balchder, gwahoddodd Amgueddfa Cymru Kleo a fi i drefnu gweithdy ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Innovate: elusen sy’n ymroddedig i helpu oedolion ag anableddau dysgu. Darparon ni’r deunyddiau, yr ysbrydoliaeth, a gwers hanes fer fel bod modd i bobl greu arwyddion i’w cario ym mharêd Balchder Caerdydd ar 21 Mehefin.

Rhan o fy rôl i oedd chwilota drwy gasgliad yr amgueddfa am ysbrydoliaeth, a wnaeth y catalog ddim siomi. Cefais fy synnu gan yr ystod o ddeunydd oedd ar gael; o ddeunydd protest y 1980au, i weithiau gan artistiaid cwiar balch, gweithiau a oedd yn annwyl i bobl gwiar, a ffotograffau teuluol preifat. Ymhlith y deunyddiau protest roedd crysau-t, baneri, a bathodynnau, gyda llawer ohonyn nhw’n gwrthwynebu Adran 28 yn benodol. Rhan o gyfraith a gyflwynwyd gan lywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher oedd Adran 28, a oedd yn nodi bod sôn am gyfunrywioldeb mewn ysgolion yn ymgais i ‘hyrwyddo’ ffordd o fyw. Roedd hyn yn golygu nad oedd gan blant mewn ysgolion unrhyw ffordd o gael mynediad at wybodaeth gywir a diduedd am rywioldeb a rhyw diogel am dros ugain mlynedd. Mae gan Amgueddfa Cymru grys-t sydd ag union eiriad Adran 28 wedi’i argraffu arno. I fi, wrth ddathlu Balchder, mae’n bwysig ein bod ni’n edrych yn ôl ar yr holl waith a wnaed yn y gorffennol, fel bod ganddon ni’r nerth i edrych tua’r dyfodol. Mae hi mor bwysig i fi bod amgueddfeydd yn cynnwys gwrthrychau fel y rhain, ac mae’n gam enfawr ymlaen i’n cymunedau a’n sefydliadau diwylliannol. 

Roedd fy nhro cyntaf mewn digwyddiad Balchder yn gymharol aflwyddiannus. Yn 2018 neu 2019, teithiais i a fy ffrind i Lundain gan obeithio dod o hyd i’r fath o gymuned oedd tu hwnt i gyrraedd plant mewn ysgol uwchradd gymharol fach. Ar y daith yno, fe glywon ni grŵp o bobl yn rhybuddio’i gilydd bod dathliad Balchder yn digwydd, a bod yn rhaid iddyn nhw fod yn ofalus gan y bydden ni i gyd yn cael rhyw yn y strydoedd. Galla i ddweud â sicrwydd bod clywed hyn wedi gwneud fi’n llawer mwy anghyfforddus nag unrhyw beth brofais i yn nathliad Balchder. Ond roedd clywed hynny’n dal i deimlo’n ynysig. Ymlwybrodd y ddau ohonon ni o gwmpas Llundain, a chadw i ni’n hunain fwy neu lai, ac nid oedd Balchder yn teimlo fel rhywbeth roeddwn i am fynd iddo eto.

Ar fore dathliad Balchder Caerdydd eleni, ro’n i wedi blino’n lân ac yn teimlo’n eithaf digalon o fod yn colli’r parêd. Ond erbyn y prynhawn, ro’n i’n ddigon effro i gerdded i ganol y ddinas, ac ymhen munudau roedd hi’n hawdd adnabod llawer o’r bobl a oedd yno ar gyfer Balchder neu’r Picnic Cwiar Mawr. Roedd hi mor galonogol gweld cymaint o deuluoedd gyda phlant. A wnes i ddim clywed un gair drwg am bobl gwiar. Dim rhybuddion nad oedden ni’n gwybod sut i reoli’n hunain. Dim codi ofn am bobl draws mewn mannau cyhoeddus. Eisteddais i yn yr haul gyda chwpl o ffrindiau. Gwelais gŵn wedi’u gwisgo’n lliwgar mewn hetiau dwl. Ac o’r diwedd, roedd yn teimlo bod digwyddiad Balchder wedi cyflawni ei fwriad, a daeth teimlad llethol o lawenydd ac o deulu drosta i. Ro’n i wedi ymlacio.

Roedd hi’n bleser llwyr gweithio gydag Amgueddfa Cymru ar gyfer mis Balchder. Disgrifiodd rhywun hanes cwiar i fi unwaith fel “crwydro” drwy archifau; gweld pwy neu beth sy’n dal eich llygad. Bydden i’n annog pawb i wneud yr un fath, ac i chwilio am lawenydd cwiar, waeth pa fis yw hi.

Mae REACH Cymru yn bosibl diolch i gymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae REACH Cymru yn bartneriaeth rhwng tri ar ddeg o sefydliadau ac yn cael ei arwain gan y Brifysgol Agored ac Amgueddfa Cymru. Mae’n cael ei ariannu gyda grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Dechreuodd y cyfnod presennol yn hydref 2024 ac mae disgwyl iddo barhau tan hydref 2026.

Creadigrwydd, Cyfeillgarwch a Balchder: Gweithdai REACH Cymru gyda Innovate Trust a First Choice

Hywel Squires, 20 Awst 2025

Fel rhan o brosiect REACH Cymru (Trigolion yn Ymgysylltu â'r Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth), rydym wedi cael y pleser o weithio gyda grwpiau o Innovate Trust a First Choice - dau sefydliad sy'n cefnogi pobl ag anableddau dysgu yn Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg. Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi dod at ein gilydd ar gyfer cyfres o weithdai creadigol i gysylltu â'n hanes a'n treftadaeth leol trwy gelf a chreadigrwydd.

Ers dechrau REACH, rydym wedi cynnal chwe gweithdy sy'n canolbwyntio ar amgueddfeydd. Dechreuon ni gyda thaith gerdded ymwybyddiaeth ofalgar o amgylch Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Rhoddodd gyfle i ni i gyd arafu, sylwi ar ein hamgylchoedd, a sgwrsio mewn lleoliad hamddenol. Roedd yn gosod tôn ysgafn ac agored, un sydd wedi cario trwy'r holl sesiynau ers hynny.

Un o'r uchafbwyntiau oedd ymweliad gan ein Prif Guradur Datblygu Casgliadau: LHDTC+, Mark Etheridge. Rhannodd Mark straeon LHDTC+ pwerus o gasgliadau'r amgueddfa, a arweiniodd at sgyrsiau meddylgar. Rhoddodd le i'r grŵp fyfyrio, gofyn cwestiynau a chysylltu'r straeon hynny â'u profiadau eu hunain. Dywedodd Rhys, un o'r cyfranogwyr, “The LGBTQ+ activity at St Fagans was important to me, after that I started to talk to people and be more open with the group about being gay” Ychwanegodd Zac “this is for me, I’m gay so this is for me, look it’s cool”.

Wedi'u hysbrydoli gan wrthrychau o'r amgueddfa, dechreuodd y grŵp greu eu gwaith celf eu hunain. Roedd rhai pobl yn braslunio delweddau a negeseuon, tra bod eraill yn dylunio crysau-T. Yr hyn oedd yn sefyll allan mewn gwirionedd oedd y meddylgarwch y tu ôl i bob darn. Roedd gan bob dyluniad ystyr ac yn adlewyrchu rhywbeth go iawn i'r person a'i gwnaeth. Yn ôl Rhys “Two of my favourite activities were the art lesson with Marion and designing a t-shirt about what being Welsh meant to me. I liked them because I liked sitting down with friends and support workers, just having fun and getting creative”.

Roedd rhai o'n gweithdai mwy diweddar yn canolbwyntio ar Pride. Arweiniodd dau o Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru sesiwn ddifyr am hanes ac arwyddocâd Pride, a wnaeth tanio lawer o chwilfrydedd a thrafodaeth. Cafodd y grŵp y dasg o greu baneri beiddgar, llachar y gellid eu cario yn yr orymdaith. Roedd y sesiynau hyn yn llawn brwdfrydedd, digon o liwiau ac ymdeimlad gwirioneddol o ddathlu.

Mae REACH yn ymwneud â dysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau newydd. Mewn gweithdai, rydym yn clywed straeon sydd heb gael eu clywed o’r blaen i uwcholeuo a chryfau balchder, yn ogystal â defnyddio talentau pobl leol i herio’r stigma y mae eu cymunedau yn eu hwynebu. Gwrandewch ar beth sydd gan Eve, Cydlynydd Iechyd a Lles ar gyfer First Choice, i'w ddweud

"Being part of the Wales REACH Project, I've loved seeing a core group form of people who are passionate about learning, sharing and creating. Wales REACH has provided the group with opportunities to try new things and form new friendships; some of these people may have never otherwise crossed paths despite their common interests. Their energy and enthusiasm has been infectious and it's been wonderful to join in with some of the sessions, hosted by kind and knowledgeable facilitators".

Cadwch lygad am flogiau eraill sydd ar ddod, yn arddangos y gwaith anhygoel sydd wedi bod yn digwydd ar draws ein holl gymunedau sy'n cymryd rhan.

Mae REACH Cymru yn bosibl diolch i gymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae REACH Cymru yn bartneriaeth rhwng tri ar ddeg o sefydliadau ac yn cael ei arwain gan y Brifysgol Agored ac Amgueddfa Cymru. Mae’n cael ei ariannu gyda grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Dechreuodd y cyfnod presennol yn hydref 2024 ac mae disgwyl iddo barhau tan hydref 2026.