: Amgueddfeydd, Arddangosfeydd a Digwyddiadau

Blog ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl: Gŵyl Caru Eich Lles Meddwl yn Amgueddfa Cymru

Loveday Williams , 12 Mai 2025

Dathlu lles meddwl cadarnhaol drwy ymgysylltu â threftadaeth, creadigrwydd a chymuned ar Ddiwrnod Santes Dwynwen:

Ar 25 Ionawr 2025, dathlodd Amgueddfa Cymru Ddiwrnod Santes Dwynwen, sef diwrnod Nawddsant Cariad Cymru, gyda gŵyl i ddathlu lles meddwl cadarnhaol gyda chefnogaeth creadigrwydd, treftadaeth a chymuned. 

Ar draws ein saith amgueddfa, cynhaliwyd gwahanol weithgareddau a pherfformiadau, a ddyluniwyd i ddileu straen, gwella hwyliau a helpu pobl i ymdopi â heriau bob dydd. Roedd y rhain yn cynnwys gweithdai celfyddydau creadigol a ysbrydolwyd gan ein casgliadau, datganiadau cerddoriaeth, perfformiadau côr, sesiynau blasu gwaith gof a gweithdai barddoniaeth. Yn ogystal â hyn, fe wnaethon ni hefyd gynnal marchnadoedd gwybodaeth yn Sain Ffagan a Big Pit lle gallai sefydliadau sy’n cynnig gwasanaethau i gefnogi lles pobl ymgysylltu â’r cyhoedd a rhannu gwybodaeth a chyngor. 

Sain Ffagan

Yn Sain Ffagan fe wnaethon ni groesawu Côr Cymunedol Sally’s Angels a buon nhw’n canu ar y Llwyfan Cymunedol yng nghyntedd yr amgueddfa wrth i ymwelwyr gyrraedd yn y bore. Yn dilyn hyn cafwyd perfformiadau ar safle Capel Pen-rhiw a Sefydliad y Gweithwyr Oakdale yn ddiweddarach yn y dydd. Perfformiodd y côr amrywiaeth o ganeuon yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan gynnwys perfformiad twymgalon o’r gân fythol boblogaidd, Calon Lân. Ymatebodd ymwelwyr yn dda iawn i’r awyrgylch hapus a gwresog a gafwyd gan y côr drwy gydol y dydd. Diolch i holl aelodau gwych y côr a helpodd i’w wneud yn ddigwyddiad mor arbennig. 

Cynhaliwyd marchnad stondinau gwybodaeth yn y prif gyntedd hefyd, gyda sawl sefydliad yn cynnal gweithgareddau crefft galw heibio, fel addurno fframiau cardfwrdd siâp calon. Roedd y gweithgareddau yma’n boblogaidd iawn gyda phlant ac oedolion fel ei gilydd ac yn galluogi’r sefydliadau partner i siarad ag ymwelwyr am eu gwasanaethau yn fwy manwl wrth i bobl dreulio amser ar y stondinau yn cymryd rhan yn y gweithgareddau crefft oedd ar gael. Roedd wyth stondin i gyd, yn cynnwys Canolfan Ganser Felindre, Oasis Caerdydd, Prosiect Hapus (Iechyd Cyhoeddus Cymru), grŵp cymorth dementia Memory Jar, Mudiad Meithrin/Cymraeg i Blant, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Platfform – yr elusen iechyd meddwl, yn ogystal â stondin gan yr Amgueddfa yn hyrwyddo rhaglen Iechyd a Lles Amgueddfa Cymru, yn enwedig y Prosiect Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion

Rydyn ni’n amcangyfrif bod y farchnad wedi ymgysylltu â thua 165 o bobl drwy gydol y dydd.

Yn ystod y dydd cynhaliwyd gweithgareddau amrywiol yn Sain Ffagan gyda’r nod o ddarparu amgylchedd ymlaciol i fwynhau ac ymgysylltu â chasgliadau’r amgueddfa mewn ffordd greadigol. Roedd y rhain yn cynnwys gweithdai crefft gwlân a gwehyddu gan ddefnyddio ein hatgynhyrchiadau o wyddiau llaw o’r Oes Haearn, teithiau cerdded myfyriol ym myd natur yn archwilio gofodau tu allan, fflora a ffawna’r amgueddfa, a gweithdy creu Llwy Garu bapur eich hun wedi’i hysbrydoli gan y casgliad Llwyau Caru yn oriel Gweithdy, wedi’i gynnal gan yr artist Nia Skyrme.

Roedd y gweithdai gwehyddu lle roedd pobl yn gallu creu eu nod llyfr gwlân eu hunain i fynd adref gyda nhw yn boblogaidd iawn. Roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn gyda llawer o bobl yn dweud pa mor ymlaciol a myfyriol oedd y gweithgaredd iddyn nhw a pha mor hyfryd oedd hi i wneud rhywbeth drostyn nhw eu hunain wrth dreulio amser gyda theulu a ffrindiau. Dywedodd llawer o rieni a gymerodd ran yn y sesiwn pa mor hyfryd oedd hi i wneud rhywbeth y gallen nhw roi cynnig arno eu hunain, gyda’u plant, gan ddysgu sgil newydd a mwynhau’r broses greadigol gyda’i gilydd. Roedd y plant a gymerodd ran i’w gweld yn canolbwyntio ac yn y mwynhau’r gweithdai ac yn gadael yn falch iawn gyda’u llyfrnodau gwlanog! 

Soniodd y bobl a gymerodd ran ar y teithiau natur myfyriol pa mor ymlaciol a heddychlon oedd y profiad iddyn nhw, a’u bod hefyd yn gweld y teithiau’n ddiddorol ac yn llawn gwybodaeth. Rhannodd Ian Daniel, a arweiniodd y teithiau cerdded, dechnegau meddwlgarwch gyda phobl i fynd gyda nhw a’u defnyddio yn eu bywydau bob dydd, yn ogystal â ffeithiau diddorol am y fflora a’r ffawna ar eu taith gerdded. 

Cafodd yr artist Nia Skyrme, a fu’n arwain y gweithgaredd Llwy Garu yn y Gweithdy, brynhawn prysur iawn gydag o leiaf 95 o bobl yn galw draw i gymryd rhan yn ystod y sesiwn. Gwnaeth y cyfranogwyr lwyau caru papur hardd yn cynrychioli beth oedd yn bwysig iddyn nhw, wedi’u hysbrydoli gan yr arddangosfa hyfryd yn oriel Gweithdy drws nesaf i’r sesiwn. 

Roedd teuluoedd â phlant hŷn yn gallu cymryd rhan yn y gweithgaredd celf hygyrch yma gyda’i gilydd, ac roedd rhieni plant ifanc iawn yn gallu mwynhau gweithgaredd creadigol yn heddychlon tra roedd eu babanod yn cysgu. Roedd hi’n ffordd hyfryd o annog ymwelwyr i gysylltu â’r casgliadau mewn ffordd wahanol; roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn.

Roedd y tywydd yn hyfryd ar 25 Ionawr. Roedd yr haul yn gwenu drwy’r dydd, gan ddenu llawer o ymwelwyr i Sain Ffagan – llawer mwy nag y bydden ni’n ei ddisgwyl fel arfer ar ddiwedd mis Ionawr. Rhoddodd hyn hwb mawr i’r ŵyl a chaniatáu i ni hyrwyddo ‘amgueddfeydd er lles’ i gynulleidfa eang.

Big Pit

Yn Big Pit roedd amrywiaeth o weithgareddau i’w harchebu a gweithgareddau galw heibio. 

Drwy gydol y dydd, bu Len Howell, sydd â dros 50 mlynedd o brofiad o weithio fel gof mewn pwll glo, yn arwain sesiynau gwaith gof yn yr efail yn Big Pit. Bwriad rhain oedd helpu dynion i ymdopi â straen drwy gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol a ‘tharo’r einion yn galed’. Gydag arweiniad, roedd y cyfranogwyr yn gallu gweithio gyda dur poeth a gwneud calon fach i fynd adref gyda nhw. 

Arweiniodd y bardd Patrick Jones weithdai ‘Ysgrifennu er Lles’ er mwyn ceisio curo diflastod mis Ionawr. Drwy weithdy hwyliog ac ysgafn o ddarllen, gwrando a thrafod cerddi, bu cyfranogwyr hefyd yn cymryd rhan mewn ymarferion ysgrifennu a gynlluniwyd i godi hwyliau. Dywedodd pob un o’r cyfranogwyr fod lefel eu bodlonrwydd a’u hapusrwydd wedi codi erbyn diwedd y gweithdy, ac roedd pawb yn hapus i rannu eu meddyliau a’u teimladau mewn ffilm fer a wnaed ar y diwrnod.

Cymerodd teuluoedd ran mewn gweithgaredd ‘Creu Llwy Garu’, a dysgu am y gwahanol symbolau ac ystyron, cyn dylunio a chreu eu llwy eu hunain. Rhoddodd y gweithgaredd difyr yma gyfle i bobl ymlacio a sgwrsio ag arweinwyr y gweithdai, a manteisiodd llawer o bobl ar y cyfle hefyd i wisgo gwisgoedd mwyngloddio yn erbyn cefnlen hanesyddol, wrth archwilio’r thema ‘Cynefin’. 

Daeth nifer o sefydliadau sy’n gallu helpu gyda lles meddwl cadarnhaol a chyfeirio pobl at ragor o wybodaeth i’r farchnad ar y diwrnod. 

Cafodd Andy’s Man Club, grŵp cerdded Take a Stroll Torfaen, Sport in Mind, Torfaen Talks CIC, Cymdeithas Alzheimer’s Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyd gyfleoedd i ymgysylltu â’r cyhoedd a hyrwyddo’r cymorth, y cyngor a’r arweiniad maen nhw’n eu darparu. Fe wnaeth yr ymwelwyr fwynhau chwarae tenis bwrdd ar y bwrdd a ddarparwyd gan Sport in Mind (ac ambell i dwrnamaint mwy difrifol). Llwyddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru i annog sefydliadau i gofrestru fel cefnogwyr Hapus.

Amgueddfa Wlân Cymru 

Yn Amgueddfa Wlân Cymru, gwahoddwyd ymwelwyr i fachu paned, codi cacen gri siâp calon a gwrando ar alawon melfedaidd y delynores Delyth Jenkins. Perfformiodd Delyth drwy gydol y dydd, a rhoddodd ymdeimlad o dawelwch a llonyddwch i’r Amgueddfa. Roedd yr ymwelwyr yn ei gwerthfawrogi’n fawr. 

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd achubwyd ar y cyfle i dreialu ein Llwybr Celf Meddyliol sydd newydd ei ddatblygu. Mae Louise Rogers, un o’n hwyluswyr yn y tîm Dysgu wedi treulio amser dros y flwyddyn ddiwethaf yn datblygu’r adnoddau ar gyfer y llwybr hunan-arweiniol a gwahoddiad i brofi’r orielau celf mewn ffordd fyfyriol. Ar y diwrnod, arweiniodd Louise ddau lwybr myfyriol, gan annog cyfranogwyr i edrych ar gelf o safbwynt myfyriol yn unig, heb bwysau, ac i fwynhau’r gelfyddyd syml o ‘edrych’.

Yn ôl ymchwil, mae’r rhan fwyaf o bobl yn edrych ar waith celf am tua saith eiliad, ond roedd y sesiwn yn annog pobl i gymryd mwy o amser i edrych ac amsugno’r hyn roedden nhw’n ei weld, yn lle rhuthro drwy’r orielau. Arweiniodd hyn at ddarganfod mwy o fanylion ym mhob darn o waith, ac roedd defnyddio’r synhwyrau a’r dychymyg yn galluogi pobl i ddelweddu straeon posib am y gweithiau celf. Roedd hwn yn brofiad newydd i’r holl gyfranogwyr, ac fe wnaeth pawb ymlacio i’w ffordd eu hunain o ryngweithio â’r gelfyddyd. Rydyn ni’n gobeithio y bydd adnoddau fel y rhain yn annog pobl i edrych ar yr orielau fel gofod diogel ac anfeirniadol i gael seibiant o’u harferion dyddiol prysur, ac i fwynhau eiliadau o dawelwch.

Diolch i’n holl sefydliadau partner anhygoel, aelodau hyfryd Côr Sally’s Angels, arweinwyr y gweithdai gwych a phawb a ddaeth i gymryd rhan. Fydden ni ddim wedi gallu ei wneud hebddoch chi. 

Dywedodd y bobl a ddaeth i’r digwyddiadau yn y gwahanol amgueddfeydd eu bod yn gwerthfawrogi gallu galw heibio i sesiynau yn rhad ac am ddim, gan gael gwared ar y straen o ddifyrru plant yn ystod cyfnod ariannol anodd.

Diolch yn arbennig i Brosiect Hapus Iechyd Cyhoeddus Cymru am gefnogi’r ŵyl gyda chyllid, gan ein galluogi i gynnig mwy o gyfleoedd a gweithio gyda’r gweithwyr creadigol llawrydd a helpodd i wneud y digwyddiad yn gymaint o lwyddiant. Dilynwch y ddolen i ddarganfod mwy am Brosiect Hapus a chofrestru fel cefnogwr. 

Diolch hefyd i holl staff yr amgueddfa a gefnogodd y digwyddiad, arwain sesiynau a helpu gyda’r gwaith trefnu ar y diwrnod. 

Fel gwaddol i’r ŵyl, rydyn ni wedi cynhyrchu cyfres o ffilmiau byrion sy’n cael eu lansio yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Diolch i Glyn Roberts a Tom Maloney am weithio i greu cofnod o’r holl weithgareddau bendigedig a’r eiliadau hyfryd a rannwyd yn ystod y dydd. Rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu’r canlyniadau! 

Byddwn hefyd yn gweithio ar ddatblygu adnoddau meddwlgarwch mewn cydweithrediad â Meddwlgarwch Cymru ar gyfer ein hamgueddfeydd, yn ogystal â chroesawu pobl greadigol llawrydd i gyflwyno gweithdai lles sy’n ystyriol o ddementia wedi’u hysbrydoli gan ein casgliadau. Cadwch lygad am ragor o fanylion. 

Lleisiau’r Amgueddfa: Helen Goddard - Cyfarwyddwr Project Amgueddfa Lechi Cymru

Helen Goddard, 28 Mawrth 2025

Helo Helen, dwed ychydig wrthon ni amdanat ti a dy rôl yn Amgueddfa Cymru.

Dw i efo Amgueddfa Cymru ers 12 mis ac mae wedi bod yn wych. Dw i ar secondiad o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy lle dw i fel arfer yn gofalu am wasanaethau’r amgueddfa, y llyfrgell, y celfyddydau a’r archifau. Cyn symud i ogledd Cymru 14 blynedd yn ôl, ro’n i’n gweithio ar draws ynysoedd yr Alban fel archaeolegydd a gweithiwr datblygu cymunedol.

Un o ogledd Cymru ydi fy mam, ac roeddwn i wastad eisiau dysgu Cymraeg. Mae wedi cymryd 14 blynedd i mi lwyddo, ond mi faswn i’n dweud bod blwyddyn yn Llanberis yn sicr wedi bod yn hwb enfawr i ’mhrofiad dysgu!

Yn fy rôl fel Cyfarwyddwr Project dw i’n gyfrifol am reoli a chyflawni project Ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru. Dw i’n arwain nifer o dimau project ehangach ac yn adrodd ar eu gwaith i Fwrdd y Project. Fi sy’n gyfrifol am sicrhau bod y project yn cadw i’w amserlen ac o fewn y gyllideb a’n bod ni’n bodloni disgwyliadau ein cyllidwyr a’n rhanddeiliaid. Fy ngwaith i hefyd ydi gwneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn rhannu ac yn gwthio’r un weledigaeth i gyflawni’r project ar y cyd â’n cymunedau mewn ffordd sy’n ateb eu hanghenion a’u dyheadau nhw.

Mae project Llanberis yn wirioneddol gyffrous. Beth alli di ei rannu amdano, wrth iddo fynd yn ei flaen?

Rydan ni’n sôn amdano fel cyfle unwaith-mewn-oes ac mae hynny’n wir go iawn. Ers i Dirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru gael ei dynodi’n Safle Treftadaeth Byd yn ôl yn 2021, mae cyfleon ariannu strategol wedi’n galluogi ni i ddatblygu cynllun gwirioneddol uchelgeisiol. Byddwn ni’n gallu creu siop, caffi a gofod dysgu newydd sbon i weddnewid profiad yr ymwelwyr. Ac rydan ni am osod lifft i’r llofft patrwm ar y llawr cyntaf am y tro cyntaf, yn ogystal â gwneud pob man yn fwy hygyrch a chael toiledau gwell (yn cynnwys toiled Newid Lle).

Rydan ni’n ceisio creu cydbwysedd ystyriol rhwng parchu sensitifrwydd Gilfach Ddu a darparu profiad cyfoes. Mae ymwelwyr, pobl leol a staff fel ei gilydd yn dweud wrthon ni eu bod nhw wrth eu bodd efo’r safle yn union fel y mae – fel petai’r gweithwyr newydd adael eu hoffer a mynd adref am y dydd. Dyna ysbryd y gweithdai hanesyddol rydan ni’n ceisio’i barchu, tra’n gwneud gwelliannau mwy sylweddol ar yr un pryd i fannau sydd yn hanesyddol wedi gweld llawer o newid yn barod. Er enghraifft, yn ein horielau newydd, byddwn ni’n gallu arddangos mwy o’n casgliad cenedlaethol, ond hefyd datblygu ein rôl fel porth i Safle Treftadaeth Byd y dirwedd lechi ehangach.

Rydan ni newydd gwblhau cam RIBA4, sef y cam dylunio technegol lle cytunir yn fanwl ar bob manyleb a’r deunyddiau i gyd. Rydan ni wedi tendro ar gyfer y prif waith a’r gobaith ydi dechrau ar y safle ym mis Ebrill.

Beth sydd wedi digwydd i’r casgliad tra bod y gwaith adnewyddu’n digwydd, ac allwn ni ymweld o hyd?

Mae’r casgliad cyfan, bron – tua 10,000 o wrthrychau – wedi cael ei symud o’r safle i ganolfan gasgliadau hygyrch newydd yn Llandygái ger Bangor. Mae unrhyw beth sy’n gallu symud, wedi symud! Hynny er mwyn diogelu’r casgliad, ond hefyd i sicrhau ei fod yn dal ar gael tra bod yr amgueddfa ar gau dros dro. Bydd ein rhaglen weithgareddau eleni’n cynnig digonedd o gyfleon i bobl weld, profi a gweithio gyda’r casgliadau yn eu lleoliad dros dro a helpu i ddewis gwrthrychau i’w harddangos a phenderfynu sut y caiff eu straeon eu hadrodd.

Fydd safle Llanberis ar agor tra bod y gwaith wrthi? Byddai’n cŵl cael taith o amgylch yr amgueddfa wag!

Mae’r amgueddfa wedi cau dros dro, yn rhannol er mwyn cadw staff ac ymwelwyr yn ddiogel oherwydd maint y gwaith, ond hefyd am ein bod ni’n gweithio i amserlen dynn iawn! Rydan ni’n cynnig teithiau ‘Gofodau Distaw’ ar hyn o bryd i’r gymuned leol wrth i ni baratoi i drosglwyddo i’r contractwr, a’r gobaith ydi y byddwn ni’n gallu cynnig mwy o deithiau am gipolwg y tu ôl i’r llenni dros y misoedd nesaf.

Mae Tîm Datblygu Llanberis wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau cyllid, sy’n gyfraniad arbennig o werthfawr at y project ac yn haeddu pob clod!

Argol fawr, mae ’na gymaint o bobl yn gwneud gwaith anhygoel. Yn sicr yn y chwe mis diwethaf rydw i wedi cael fy llorio gan Cadi, ein curadur, a staff y safle ehangach am y gwaith maen nhw wedi’i wneud i baratoi’r amgueddfa ar gyfer cau. Mae Kerry Vicker yn arwr imi. Hi wnaeth fy arwain i drwy ein cais ni am Gam 2 Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, sef ychydig dan £10m.

Pa gamau cynaliadwyedd sy’n cael eu hystyried, i ddiogelu dyfodol yr amgueddfa a’r casgliad?

Mae gennon ni Victoria Hillman yn gweithio ar dîm y project fel rhan o’r ailddatblygu er mwyn gallu cadw llygad manwl ar gynaliadwyedd a’r amgylchedd. Mae cymaint o elfennau i hyn, yn gyfuniad o fesurau ataliol a mentrau newydd.

O ran y casgliad, rydan ni’n bod yn bragmatig ac yn ymatebol i’r mathau o gasgliadau diwydiannol sydd gennon ni. Rydan ni’n cadw rhai elfennau – fel Una yr injan – fydd yn cael ei rhoi ar waith eto fel rhan o’r project. Bydd yr amgylcheddau rydyn ni am eu creu ar gyfer y prif orielau yn sicrhau lefel newydd o aerdymheru, a fydd yn ein helpu i arddangos gwrthrychau mwy sensitif am y tro cyntaf.

Rydan ni wedi bod yn gweithio hefyd gyda phrifysgol Met Caerdydd ar gamau ymaddasu i’r hinsawdd ac wedi cynnwys hyn yn y fanyleb ar gyfer pethau fel deunyddiau tirlunio, rheoli dŵr ffo, gallu adeiladau i anadlu, a dyluniad cafnau dŵr glaw ac ati. Dyma amcanion eraill sydd gennym:

  • Marc BREEAM ardderchog i’r adeiladau newydd
  • Blychau newydd i ystlumod a gwenoliaid duon
  • Trawsleoli cennau a mwsoglau
  • Plannu rhywogaethau brodorol a phrin
  • Cynaeafu dŵr glaw
  • Cynllun goleuo sensitif iawn
  • Sefydlu addysg am gynaliadwyedd a’r amgylchedd ym mhob deunydd dehongli

Mae’r rhestr yn mynd ymlaen!

Beth wyt ti’n edrych ymlaen ato fwyaf am yr ailddatblygu?

Fedra i ddim aros i weld fy nau blentyn ifanc yn chwarae yn y mannau rydan ni’n eu creu. Dw i’n gobeithio gweld dim byd ond cyffro a rhyfeddod ar eu hwynebau wrth iddyn nhw grwydro’r lle.

Yn olaf, mae hwn yn hoff gwestiwn ganddon ni – beth ydi dy hoff ddarn yng nghasgliad Amgueddfa Cymru?

Wel, dw i heb fod yma’n hir iawn, ond mi faswn i’n dweud mai fy hoff wrthrych hyd yma ydi Cadair Eisteddfod Caban Mills yng nghasgliad yr Amgueddfa Lechi. Am fynegiant syml, hardd o fywyd yng nghymunedau’r chwareli a phrofiad byw y rhai fu’n cydeistedd yn y Caban!

Sgiliau newydd, gwlanen ac amynedd

Dafydd Newton-Evans, 5 Mawrth 2025

Ar ôl dwy flynedd o lonyddwch a thawelwch, mae'r Sied Wehyddu yn Amgueddfa Wlân Cymru yn deffro o’i thrwmgwsg, ac mae sŵn peiriannau ar waith unwaith eto yn llenwi'r aer.

Nawr bod y gwaith o lanhau, atgyweirio a gwarchod yr adeilad ac ail-gyflunio'r gofod gwaith y tu mewn wedi’i gwblhau, mae'r gwaith cyffrous o ddysgu sut i weithredu'r peiriannau wedi dechrau.

Cyn i Melin Teifi gau ddwy flynedd yn ôl, Raymond Jones oedd y gwneuthurwr gwlanen Cymreig olaf yng Nghymru; gwlanen sy'n ddiwylliannol bwysig gan ei fod wedi cael ei ddefnyddio'n helaeth i wneud gwisgoedd cenedlaethol a dillad gwaith. Eleni mae Raymond wedi bod yn ein helpu i adfer a thiwnio'r gwŷdd gwlan, gan ei fod wedi bod mewn storfa ac yn segur ers dwy flynedd.

Rydym wedi cynhyrchu ystenaid gwlanaidd sy'n unigryw i Amgueddfa Cymru ac wedi ei glymu ymlaen i'r gwŷdd. Rydym wedi dysgu defnyddio ystof sy'n atal y gwŷdd sy’n lleihau y difrod i’r brethyn os bydd unrhyw un o'r 1,500 o edafedd yn torri ac yn lleihau'n sylweddol yr amser sydd ei angen i drwsio'r brethyn.

Hefyd, gan fod yr edafedd yn edafedd sengl mae'n gofyn am lefel uwch o sgil ac ymwybyddiaeth wrth wehyddu ag ef. Mae gweithio gydag edafedd sengl wedi profi i fod yn eithaf heriol ac mae wedi cyflwyno materion a phroblemau gwahanol i ni sydd wedi herio ein dealltwriaeth o sut mae'r gwŷdd yn gweithio. Mae wedi bod yn brofiad diddorol a gwobrwyol.

Trwy wella ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o sut mae'r gwŷdd yn gweithio, gallwn wneud gwell brethyn. Ein bwriad yw gallu gwneud amrywiaeth o frethyn gwahanol fel gwlanen, brethyn dwbl, a blancedi twil. Bydd hyn yn ein helpu i gynhyrchu incwm i'r amgueddfa a darparu profiad mwy boddhaus i ymwelwyr.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni fel crefftwyr yn yr amgueddfa wedi dysgu llawer iawn, wedi dod ar draws llawer o rwystrau a heriau yn ogystal â rhai rhwystredigaethau. Y wers orau a ddysgon ni fel tîm oedd ... amynedd!

Eleni, bydd y Sied Wehyddu yn dod yn fyw eto wrth i ni barhau â'r traddodiad o greu gwlanen yma yn Nyffryn Teifi ac edrychwn ymlaen at rannu'r profiad a'r hanes yma gyda chi, ein hymwelwyr!
 

Afalau Treftadaeth Sain Ffagan

Elin Barker, Cadwraethydd Gardd, 27 Ionawr 2025

Yn nhawelwch y gaeaf, mae gerddi Amgueddfa Genedlaethol Sain Ffagan yn llawn bwrlwm. Ionawr yw'r amser perffaith i docio coed afalau, gan sicrhau twf iach a chynhaeaf da yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Yn Sain Ffagan, mae’r perllannau’n gartref i sawl math o afalau treftadaeth, pob un â’i henw a’i stori hynod ddiddorol ei hun.

Un afal o'r fath yw Gwell na Mil, gelwir yr afal hwn “Seek No Further” gan siaradwyr Saesneg ym Mynwy. Mae’r afal yn dyddio'n ôl i'r 1700au o leiaf ac ysgrifennwyd am yn y Cambrian Journal o 1856. Un arall yw Pig y Golomen, neu "Pigeon's Beak," math traddodiadol o Sir Benfro, gydag enw wedi'i ysbrydoli gan ei siâp nodedig. Mae yna hefyd “Morgan Sweet”, ffefryn ymhlith glowyr Cymru, a oedd yn gwerthfawrogi ei flas adfywiol yn ystod sifftiau hir o dan y ddaear.

Gellir dod o hyd i'r afalau hyn, ynghyd a llawer o rai eraill, o amgylch y perllannau niferus ar draws Sain Ffagan.

Mae'r hen goed nid yn unig yn darparu ffrwythau ond hefyd yn gweithredu fel cynefinoedd hanfodol i fywyd gwyllt. Mae adar, pryfed ac ystlumod i gyd yn dibynnu ar y perllannau am gysgod a bwyd.

Bob blwyddyn, mae'r afalau'n cael eu cynaeafu a'u cymryd oddi ar y safle i'w gwasgu i sudd, sydd wedyn yn cael ei werthu yn siop yr amgueddfa. Mae’r gofal blynyddol hwn, o docio’r gaeaf i gynaeafu’r hydref, yn cadw’r perllannau’n iach ac yn gynhyrchiol ac yn adlewyrchu gofal traddodiadol sydd wedi cynnal perllannau ers cenedlaethau.

Ionawr hefyd yw'r tymor ar gyfer gwaseilio, traddodiad hynafol i fendithio coed afalau a sicrhau cynhaeaf da. Mae gwasael yn aml yn golygu canu, cynnig seidr i'r coed, ac weithiau gyrru ysbrydion drwg i ffwrdd. Mae casgliadau’r amgueddfa’n cynnwys bowlenni gwaseilio hardd, a ddefnyddir yn draddodiadol yn ystod y dathliadau hyn. Gall ymwelwyr weld rhai enghreifftiau o’r rhain yn oriel Gweithdy, gan gynnwys darnau o grochenwaith Ewenni.

Mae Ionawr yn y perllannau yn amser i fyfyrio ar draddodiadau a gofalu am y dyfodol. Mae’r tocio a wneir nawr yn sicrhau bod y coed yn parhau’n iach a chynhyrchiol am flynyddoedd i ddod, gan barhau a chylch sydd wedi bod yn rhan o fywyd cefn gwlad Cymru ers canrifoedd.

Diwrnod meddiannu 'Kids in Museums' yn Amgueddfa Wlân Cymru

13 Ionawr 2025

Fel rhan o Ddiwrnod Meddiannu Kids in Museums bu disgyblion Ysgol Penboyr yn mwynhau gweithdai addurniadau Nadolig.

Dysgodd y crefftwraig, Non Mitchell, y disgyblion sut i ffeltio wlyb baubles a gwneud Llygaid Duw Nadolig.

Hwylusodd Ellie Smallcombe weithdai gwehyddu addurniadau Nadolig, cafodd pawb amser da!