Afalau Treftadaeth Sain Ffagan
27 Ionawr 2025
,Yn nhawelwch y gaeaf, mae gerddi Amgueddfa Genedlaethol Sain Ffagan yn llawn bwrlwm. Ionawr yw'r amser perffaith i docio coed afalau, gan sicrhau twf iach a chynhaeaf da yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Yn Sain Ffagan, mae’r perllannau’n gartref i sawl math o afalau treftadaeth, pob un â’i henw a’i stori hynod ddiddorol ei hun.
Un afal o'r fath yw Gwell na Mil, gelwir yr afal hwn “Seek No Further” gan siaradwyr Saesneg ym Mynwy. Mae’r afal yn dyddio'n ôl i'r 1700au o leiaf ac ysgrifennwyd am yn y Cambrian Journal o 1856. Un arall yw Pig y Golomen, neu "Pigeon's Beak," math traddodiadol o Sir Benfro, gydag enw wedi'i ysbrydoli gan ei siâp nodedig. Mae yna hefyd “Morgan Sweet”, ffefryn ymhlith glowyr Cymru, a oedd yn gwerthfawrogi ei flas adfywiol yn ystod sifftiau hir o dan y ddaear.
Gellir dod o hyd i'r afalau hyn, ynghyd a llawer o rai eraill, o amgylch y perllannau niferus ar draws Sain Ffagan.
Mae'r hen goed nid yn unig yn darparu ffrwythau ond hefyd yn gweithredu fel cynefinoedd hanfodol i fywyd gwyllt. Mae adar, pryfed ac ystlumod i gyd yn dibynnu ar y perllannau am gysgod a bwyd.
Bob blwyddyn, mae'r afalau'n cael eu cynaeafu a'u cymryd oddi ar y safle i'w gwasgu i sudd, sydd wedyn yn cael ei werthu yn siop yr amgueddfa. Mae’r gofal blynyddol hwn, o docio’r gaeaf i gynaeafu’r hydref, yn cadw’r perllannau’n iach ac yn gynhyrchiol ac yn adlewyrchu gofal traddodiadol sydd wedi cynnal perllannau ers cenedlaethau.
Ionawr hefyd yw'r tymor ar gyfer gwaseilio, traddodiad hynafol i fendithio coed afalau a sicrhau cynhaeaf da. Mae gwasael yn aml yn golygu canu, cynnig seidr i'r coed, ac weithiau gyrru ysbrydion drwg i ffwrdd. Mae casgliadau’r amgueddfa’n cynnwys bowlenni gwaseilio hardd, a ddefnyddir yn draddodiadol yn ystod y dathliadau hyn. Gall ymwelwyr weld rhai enghreifftiau o’r rhain yn oriel Gweithdy, gan gynnwys darnau o grochenwaith Ewenni.
Mae Ionawr yn y perllannau yn amser i fyfyrio ar draddodiadau a gofalu am y dyfodol. Mae’r tocio a wneir nawr yn sicrhau bod y coed yn parhau’n iach a chynhyrchiol am flynyddoedd i ddod, gan barhau a chylch sydd wedi bod yn rhan o fywyd cefn gwlad Cymru ers canrifoedd.