Straeon y Streic: Ross Mather (cyn-gwnstabl heddlu)

Ross Mather, 16 Ionawr 2025

Yn y gyfres yma o Straeon y Streic fe glywn ni am y gorau a gwaetha o fywyd yn ystod y flwyddyn a newidiodd fywydau glowyr, eu teuluoedd, yr heddlu a gwleidyddion wrth iddynt hel atgofion am beth oedd bywyd fel rhwng 84-85.

Mae Straeon y Streic yn rhan o arddangosfa Streic 84-85 Strike sydd i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan Ebrill 27 2025.

© Mike Thompson

Ross Mather, cyn-gwnstabl heddlu.

Fi oedd y prif escort ar gyfer y glöwr cyntaf i ddychwelyd i’w waith yng Nghymru, yng Nglofa’r Cwm. Roedd gyda chi fi yn y car patrôl, a grŵp patrôl arbennig mewn fan, yn hebrwng y tacsi oedd yn cludo’r glöwr.

Felly roedd angen dechrau’n gynnar. Byddwn i’n cyrraedd y gwaith erbyn 1.30am, i sortio’r car patrôl. Ar y to roedd sbotolau i weld y ffordd, a goleuo’r pontydd i wneud yn siŵr ei bod hi’n ddiogel i basio danddyn nhw. Roedd si ar led bod rhywun yn cynllwynio i ymosod. Byddwn i’n checio’r daith bob diwrnod, ac yn dilyn teithiau gwahanol fel bod dim cysondeb. Doedd neb yn gwybod pa daith fyddwn i’n ei dewis ar y diwrnod, dim hyd yn oed y Prif Gwnstabl. Roedd rhaid i chi wneud yn siŵr ei bod hi mor ddiogel â phosib. Roedden ni’n gwybod bod rhywbeth yn cael ei gynllwynio, tan y diwrnod ofnadwy pan ymosododd rhywun ar y tacsi.

Bob diwrnod, byddwn ni’n eu gyrru nhw heibio i’r llinellau piced a’r heddlu. Mewn gwirionedd, yng Nghymru, dim ond rhyw ychydig o dynnu a gwthio welon ni. Doedd dim trais go iawn, oherwydd y berthynas rhwng y ddwy ochr. Roedd gan lawer o’r picedwyr deulu yn yr heddlu, a llawer o’r heddlu deulu dan ddaear. ⁠ Roedd digon o gydymdeimlad ar y ddwy ochr. Yn Pentre’r Eglwys oeddwn i’n gweithio, ac roeddwn i’n nabod tipyn o lowyr, ac yn rhannu peint yn y dafarn. Ro’n i’n gwybod yn iawn eu bod nhw’n dwyn glo gwastraff o hen domen Glofa’r Cwm lawr y ffordd gefn, ond doedd e ddim yn lo oedd unrhyw un yn mynd i’w werthu. Dwyn oedd e, er taw hen domen wastraff oedd hi. Ond tase plant gyda fi, fydden i ddim wedi gadael iddyn nhw fynd heb wres chwaith. Felly doeddwn i’n dweud dim. Roedden ni i gyd yn gwybod byddai popeth yn mynd nôl i’r arfer ryw ddiwrnod, a byddai’n rhaid i bawb gydfyw yn yr un cymunedau. Hawl i fyw, i ryw raddau Ond mae drwgdeimlad yn dal i fod yn llawer o’r cymoedd yna.

Roedd hi’n ddiddorol yr ymdeimlad o gymuned ar waith. Am y rhan fwyaf o’r streic, roedd y glowyr ar ein patsh ni i gyd mas, felly doedd dim i’r heddlu gadw llygad arno. Roedd hi’n dawel. Bryd hynny bydden ni’n cael ein galw i helpu yn llefydd eraill dros y ffin. Mae ‘na gydgytundeb rhwng lluoedd yng Nghymru a Lloegr, a bydd heddweision yn cael eu galw i helpu mewn lluoedd eraill pan fydd angen. Felly bydden ni’n ffeindio’n hunain yn Swydd Nottingham, Swydd Derby, Swydd Efrog. Bydden ni’n aml yn cael ei hanfon i gyffordd ar yr M1, i droi nôl ceir a bysiau oedd i weld yn cario glowyr. Bydden ni’n defnyddio’n gwybodaeth leol i gadw llygad ar y ffyrdd cefn hefyd. Roedd ‘na barch ar y ddwy ochr ar y cyfan. Roedd sïon ym mhobman bryd hynny bod milwyr yn cael eu gwisgo mewn lifrau heddlu, pobl yn clustfeinio ar ffonau, pob math o bethau. Doedd dim ohonyn nhw’n wir.

Mewn rhai pyllau, roedd y glowyr yn croesawu dynion Heddlu De Cymru. ⁠Roedden ni’n wahanol i heddlu rhannau eraill o’r wlad. Roedd cymaint ohonon ni’n cydymdeimlo oherwydd ein bod ni’n byw yn yr un cymunedau. Roedden ni’n deall dros beth oedden nhw’n ymladd, eu bywoliaeth a’u cymunedau. Fyddwch chi ddim yn gweld hen bicedwyr yn honni fod yr heddlu ddim yn deall. Roedden ni, rydyn ni yn deall. Mae pawb yn hoffi ein cofio ni fel ‘heddlu mewn dillad terfysg’, ond fel hynny oedd hi.

Roedd Orgreave yn wahanol, ond cafodd hwnnw ei drefnu yn arbennig gan Scargill a Thatcher. Ddigwyddodd hynna byth yn ne Cymru. Roedd hi’n barchus ar y cyfan, ychydig o dynnu a gwthio, ond braidd dim trais. Roedden nhw fel arfer yn falch o’n gweld ni yn Ne Swydd Efrog. Bydden ni’n cyfnewid ein bathodynnau tair pluen am un NUM, ac yn rhannu brechdanau o’n bocsys bwyd. Roedden nhw’n ein hoffi ni am ein bod ni’n deall.

Pan ddechreuodd y sïon am ymosod ar dacsis roedd y teimlad yr un peth ym mhobman, o’r glowyr i’r gymuned i’r heddlu – peidiwch bod mor blydi stiwpid, does dim angen i hynna ddigwydd. Ac wedyn fe ddigwyddodd e, ar Ffordd Blaenau’r Cymoedd. Allen ni ddim credu’r peth.

Diwrnod meddiannu 'Kids in Museums' yn Amgueddfa Wlân Cymru

13 Ionawr 2025

Fel rhan o Ddiwrnod Meddiannu Kids in Museums bu disgyblion Ysgol Penboyr yn mwynhau gweithdai addurniadau Nadolig.

Dysgodd y crefftwraig, Non Mitchell, y disgyblion sut i ffeltio wlyb baubles a gwneud Llygaid Duw Nadolig.

Hwylusodd Ellie Smallcombe weithdai gwehyddu addurniadau Nadolig, cafodd pawb amser da!

Straeon y Streic: Les Jackson (glöwr)

Les Jackson, 10 Ionawr 2025

Yn y gyfres yma o Straeon y Streic fe glywn ni am y gorau a gwaetha o fywyd yn ystod y flwyddyn a newidiodd fywydau glowyr, eu teuluoedd, yr heddlu a gwleidyddion wrth iddynt hel atgofion am beth oedd bywyd fel rhwng 84-85.

Mae Straeon y Streic yn rhan o arddangosfa Streic 84-85 Strike sydd i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan Ebrill 27 2025.

© Getty Images / Alamy

Les Jackson (glöwr, Glofa Maerdy)

Gadewais yr ysgol yn 16 oed i fod yn godwr tolciau ar £9 yr wythnos. Ond cefais sgwrs gyda fy mrawd yng nghyfraith a deall ei fod yn gwneud £80 yr wythnos. Felly es i i’r pwll glo ar unwaith. Cefais fy nerbyn yn 17 oed, wedi fy nghyffroi gan yr arian, ac roeddwn i eisiau cychwyn cyn gynted ag y gallwn i.

Cychwynnais yn ‘78, ‘79. Fe wnes i fy hyfforddiant sylfaenol yn Nhondu, roedd yna ganolfan efelychu yno. Maen nhw’n eich dysgu chi sut i wneud pac - llenwi’r ochrau lle rydych chi’n gweithio fel nad oes nwyon perygl yn dianc. Ond ni wnaeth unrhyw beth godi ofn arnaf i, mynd lawr yn y gawell, dim byd. Byddech chi weithiau’n gorfod tynnu eich belt i ffwrdd, gan ei bod hi mor dynn. Weithiau roeddech chi’n sâl yn gorfforol, doeddech chi ddim yn ei ddisgwyl.

Y rhan nesaf oedd hyfforddi ar ffas bedair troedfedd. Bydden nhw’n anfon ni’r hogiau main gan ei bod hi mor dynn. Ar un adeg, yn yr hyfforddiant ar y ffas, roeddwn i’n gweithio ar ffas is, dim ond bar uwch eich pen. Bydden ni’n torri’r uchder i mewn a byddai’r hogiau mwy yn mynd i mewn ar ôl hynny. Unwaith rydych chi wedi cael hyfforddiant, cyn gynted ag y mae yno le, rydych chi i mewn. Roeddwn i’n adnabod pawb ar y ffas ac y tro cyntaf es i lawr, gwnaethon nhw ffỳs fawr ohonof i. Mae pawb yn edrych ar ôl ei gilydd. A’r ymdeimlad hwnnw o gymuned oedd beth oedden ni’n brwydro i’w achub, dan ddaear ac ar y wyneb. Roedd yn fwy na jobyn.

Pan wnes i ymuno, o’n i’n meddwl y byddai’n jobyn am byth. Gwnes i weithio tan y diwrnod y caeodd y pwll.

Yn ‘84, roedd Thatcher eisiau i ni fynd ar streic. Roedd hi wedi storio glo, cael popeth yn barod, ac wedi cyhoeddi bod pyllau’n cau.⁠ Roedd yn bryfociad bwriadol i gael yr holl undebau llafur i gydymffurfio. Roedd hi’n meddwl os fyddai’n gallu ein torri ni, byddai pawb arall yn ufuddhau hefyd. Ond doedd hi heb ddisgwyl i ni gael undeb mor gryf. Y pwll cyntaf i mi ei bicedu oedd Caerffili. Fe wnaethon ni gerdded i fyny a chawson ni lond ceg gan y gwragedd ar y ffordd i fyny at gatiau’r lofa. Ond fe wnaethon ni ffurfio’r llinell a siarad â’r bois drodd fyny i weithio - fe wnaethon nhw droi’n ôl, a pheidio mynd i’r gwaith. Er, fe wnaethon ni glywed fod rhywfaint wedi mynd i mewn dros y mynydd. Ond doedd hi ddim wastad fel hynny - un tro, fe ddaethon nhw i weithio, cyn stopio i siarad â ni, cytuno cael cyfarfod rheoli i benderfynu a dod allan i adael i ni wybod eu bod am ymuno â ni ar y llinell. Unwaith oedden ni wedi mynd, dechreuodd y shifft prynhawn fel yr arfer!

Fe wnaethon ni deithio ar draws y wlad. Orgreave oedd yr un a newidiodd popeth. Roedd yn dywydd braf a chynnes. Diwrnod gogoneddus. Roedden ni wedi cysgu ar y pafin tu allan i’r adeilad NUM. Roeddwn i’n dreifio fan transit. Fel arfer, bydden ni’n cael ein stopio gan yr heddlu. Y tro hwn, fe wnaethon nhw stopio a siarad â ni a dywedon nhw ‘Rydyn ni’n gwybod lle rydych chi’n mynd.’ Ond yn hytrach na’n troi ni ffwrdd neu rwystro’r ffordd, fe wnaethon nhw ein hel ni ymlaen a’n cyfeirio at le parcio. Trap oedd e.

Unwaith roedd pawb wedi ymgynnull, roeddwn i yn y tu blaen. Roeddwn i’n fachgen ifanc, ges i fy nghario i ffwrdd, fy nhraed oddi ar y llawr. Roedd cerrig yn cael eu hyrddio tuag atom ni. Agorodd yr heddlu i fyny yn sydyn, bwlch enfawr, ac roedd yna geffylau yn dod yn syth amdanaf i. Fe wnes i droi a rhedeg, cyn gynted ag y gallwn i. Neidiais i mewn i’r llwyni. Neidiodd eraill ar fy mhen. Roedd mwy o heddlu yn ein taro gyda ffyn. Roedd y dyn ar fy mhen i yn cael ei guro. Llwyddais i ddianc a rhedeg. Roedd wal dair troedfedd ac fe neidiais drosti - cyn gweld ei bod yn chwe throedfedd yr ochr arall. Ac yno, o fy mlaen i roedd llwythi o gŵn heddlu ar denynnau hir. Rhedais tuag at y dref - gwaeddodd ddynes ‘Sydyn, dere i mewn’ ac fe wnes i ddianc drwy gefn ei thŷ hi i mewn i’r ganolfan siopa leol lle ges i ddal fy ngwynt. Trodd Scargill i fyny yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, daeth i lawr y llethr gwelltog tuag at y protest. Cafodd ei arestio am annog terfysg.

Roeddwn i fod i briodi ar 22 Gorffennaf a chael fy mharti stag yn Bierkeller Coed-duon.⁠ ⁠ Rhai dyddiau ynghynt, roedd rhai lorïau glo o gwmni lleol wedi cael eu llosgi, gan rai o’r picedwyr yn ôl y sôn - roedd yr heddlu wedi fy marcio am dipyn, am ryw reswm. Roedden nhw’n sicr mai fi wnaeth ac roedden nhw eisiau fi allan o’r ffordd. Roedd 45 ohonom ni yn y parti stag - bu ffeit, ac roedd heddlu mewn dillad cyffredin yn rhan ohoni. Fe wnes i anelu ambell i ergyd a chefais fy arestio a fy ngharcharu am wythnos nes dau ddiwrnod cyn y briodas tra’r oedden nhw’n trio rhoi’r bai arnaf i. Fe wnes i briodi - roedd fy nheulu i gyd wedi cyfrannu i sicrhau bod y briodas yn digwydd ac y bydden ni’n cael mis mêl braf, er gwaethaf mor anodd oedd hi i bawb yn ariannol.

Felly i ffwrdd â ni ar ein mis mêl a tra roeddwn i ffwrdd, gollyngodd yr heddlu siaced ledr yn fy nhŷ a dweud wrth y lojar eu bod wedi dod o hyd i fy siaced. Dim fy siaced i oedd hi. Daethon nhw’n ôl y diwrnod ar ôl i mi gyrraedd yn ôl i chwilio fy nhŷ a fy arestio am ddwyn siaced ledr. Yna ges i ddirwy o £200 am y parti stag - ac fe gytunon nhw i ohirio’r taliad am ychydig gan nad oedd gen i arian. Dau fis wedyn roedden nhw wrth y drws eto, yn ceisio fy arestio eto am beidio talu’r ddirwy wnaethon nhw ‘gytuno’ i’w ohirio. Roedden nhw’n benderfynol o fy nghosbi, un ffordd neu’r llall.

Mae gen i deulu mawr. Fe wnaethon nhw sicrhau nad oedden ni’n gwneud heb ac fe fenthycodd fy chwaer yr arian i mi dalu’r ddirwy a fy nghadw allan o’r carchar. Roeddwn i’n un o’r rhai lwcus - roedd gen i lojar a oedd yn helpu i dalu llog y morgais ac roeddwn i’n gallu cael morgais arall i dalu’r gweddill - mae honno’n sgandal arall yn ei hun.

Roedden ni’n dechrau clywed fod rhai aelodau NUM wedi bod yn cael cyfarfodydd i geisio ein cael ni i ddychwelyd i’r gwaith gan eu bod yn gwybod na allen ni ennill. Pan ddaeth y newyddion fod y streic yn dod i ben a chawson ni ein gorchymyn i fynd yn ôl i’r gwaith, roeddwn i’n torri fy nghalon. Ni chawson ni bleidlais, dim ond gorchymyn i ddychwelyd. Roeddwn yn teimlo embaras am bopeth o’n i wedi rhoi pawb trwyddo. Wedi cael ein gadael i lawr gan y pwerau uwchben - roedd gen i bob math o deimladau. Roeddwn i’n teimlo’n uffernol gan ein bod wedi colli.

Os fyddwn i’n gorfod troi’r cloc yn ôl, buaswn i’n ei wneud i gyd eto. Dyna wnaeth fy ffurfio i.

Disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Antonella Chiappa & Megan Naish, 9 Ionawr 2025

Mae llawer o wahanol ffyrdd i ymwelwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol gymryd rhan a dysgu yn Amgueddfa Cymru. 

Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd mae'r rhaglen addysg ffurfiol yn cynnal gweithdai ysgol rhyngweithiol sy'n cynnwys gwahanol weithgareddau e.e. creu gwaith celf, archwilio'r orielau neu ddysgu am gelf a hanes natur. 

Mae rhai sesiynau yn digwydd yn yr orielau ar gyfer disgyblion sy'n hoffi archwilio, ac mae rhai sesiynau yn cael eu cynnal mewn gofod addysg caeedig sy'n llawn gwrthrychau y gellid eu cyffwrdd ac yn cynnig profiad dysgu mwy annibynnol.

Trwy drafod â'n staff wrth archebu, gellir addasu sesiwn amgueddfa, gweithdy neu weithgaredd i gyd-fynd â themâu sy'n cael eu hastudio yn yr ysgol ac anghenion pob grŵp o ddysgwyr. Er enghraifft, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gallwch wneud cais am becynnau synhwyrau cyn i chi ymweld sy'n cynnwys adnoddau fel teganau synhwyrau ac amddiffynwyr clustiau.

Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, mae blychau teganau synhwyrau ar gael mewn 5 oriel ac maent yn dilyn thema'r arddangosfa dan sylw - mae blog arall am y blychau yma: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae'r blychau'n ffordd arall i ymwelwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ac anghenion synhwyrau yn benodol i ymgysylltu â'r straeon ym mhob oriel. Maent yn cynnwys eitemau fel teganau, llyfrau ac atgynyrchiadau ac yn rhoi cyfle i stopio a meddwl wrth i ymwelwyr fynd trwy'r amgueddfa.

Mae gan bob safle Amgueddfa Cymru 'Stori Weledol' hefyd er mwyn i ddisgyblion a staff gael ymgyfarwyddo ag adeiladau'r amgueddfa a deall sut i wneud y mwyaf o'u hymweliad: ⁠Stori weledol: Taith i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Straeon y Streic: Richard Williams (ffotograffydd) ac Amanda Powell (newyddiadurwraig)

Richard Williams ac Amanda Powell, 8 Ionawr 2025

Yn y gyfres yma o Straeon y Streic fe glywn ni am y gorau a gwaetha o fywyd yn ystod y flwyddyn a newidiodd fywydau glowyr, eu teuluoedd, yr heddlu a gwleidyddion wrth iddynt hel atgofion am beth oedd bywyd fel rhwng 84-85.

Mae Straeon y Streic yn rhan o arddangosfa Streic 84-85 Strike sydd i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan Ebrill 27 2025.

© Richard Williams

Richard, ffotograffydd

Roeddwn i’n ffotograffydd i’r wasg yn ystod y Streic, yn gweithio yng nghymoedd glofaol y De o ‘nghwmpas. Byddwn i’n cael galwad pan fyddai llinell biced yn cael ei thorri, er enghraifft.

Un o’r dyddiau mwyaf cofiadwy oedd yng Nghwm Garw, pan ddaeth Monty Morgan y glöwr cyntaf yng Nghymru i dorri’r streic. Daeth cannoedd o heddlu a phicedwyr allan. Roedd Monty’n teimlo bod y Streic yn mynd yn ofer, wnaeth ei yrru yn ôl i’r gwaith. Roedd llawer o ddicter – roedd bywoliaeth pobol yn y fantol. Cafodd e sioc faint o ddicter oedd tuag ato fe. Ond un o bant oedd e, Sais oedd yn arfer bod yn y fyddin, ac efallai nad oedd e’n deall y teimlad o gymuned yno.

Mae un o’n lluniau yn dangos y bws oedd yn ei yrru i’r lofa, gyda channoedd o heddlu o’i hamgylch. Safodd un glöwr dewr o flaen y bws, a chael ei arestio. Wrth ymchwilio i’n llyfr fe lwyddon ni i ganfod y glöwr. Roedd ganddo fe blant, ac roedd e’n gwybod bod pobl yn cael eu harestio’n gyson. Er gwaetha’r cyfan, roedd e’n dal mewn hwyliau da, hyd yn oed dan glo.

Yn gynharach yn y flwyddyn roeddwn i wedi tynnu llun o’r Prif Weinidog Margaret Thatcher yng nghynhadledd y Torïaid ym Mhorthcawl, gyda channoedd o brotestwyr crac a rhwystredig tu ôl i ffensys dur ar hyd y prom. Ar ôl ei haraith, dyma hi’n cael ei phledio ag wyau o’r dorf wrth adael yr adeilad. Cyrhaeddodd un wy y nod, cyn i’r heddlu godi ambarél a’i rhuthro ymaith.

Roedd hi’n amser tanllyd, gydag emosiynau’n gorlifo, oedd yn hollol ddealladwy gan y byddai colli’n golygu newid am byth i gymunedau’r ardal. Wrth i’r gaeaf gyrraedd aeth pethau’n anoddach, a glowyr mewn rhai ardaloedd yn dechrau mynd yn ôl, roedd y streic yn ne Cymru yn syndod o gadarn.

Amanda, newyddiadurwraig

Dwi o deulu glofaol yng Nghwm Rhymni yn wreiddiol, ac roedd hi’n teimlo’n bwysig i atgoffa pobl o’r straeon hyn a’r heriau wnaeth pobl eu hwynebu. Rydyn ni gyd yn bwrw ‘mlaen nawr.

Yr hyn wnaeth dynnu fy sylw i oedd rôl menywod yn y Streic: sut wnaethon nhw drefnu a dechrau codi eu llais. Yn 2023 fe wnes i gyfweld menyw oedd yn aelod o un o grwpiau cymorth y glowyr. Roedd hi’n berson digon swil, wnaeth gael ei pherswadio i siarad mewn cyfarfod codi arian mawr ym Maesteg o flaen torf oedd yn cynnwys aelodau seneddol ac arweinwyr glofaol. Newidiodd hi fel person. Ac mae hi, a llawer o bobl wnes i siarad â nhw, yn teimlo’r un mor gryf am y Streic heddiw. Pob un wan jac yn dweud y bydden nhw’n ymladd yr un modd.

Mae fy mrawd, oedd yn gyn-löwr, yn disgrifio’r hiwmor iach yn y pwll oedd yn cadw pobol i fynd mewn proffesiwn peryglus lle’r oedd yr agwedd at iechyd a diogelwch yn eithaf llac ar brydiau. Mae cyfoeth o straeon. Roedd anafiadau’n gyffredin, ac weithiau byddai’r golchfeydd (lle byddai’r glo’n cael ei brosesu) yn cyflogi glowyr allai ddim gweithio dan ddaear bellach. Yn ein llyfr rydyn ni’n rhannu stori gweithiwr golchfa anabl, gaeth ei anafu pan dorrodd y cawell oedd yn mynd ag e dan ddaear a phlymio i waelod y siafft.

Dyw llawer o’r bobl yn y llyfr ddim gyda ni bellach, a llai fyth i adrodd y straeon yn y dyfodol, felly mae’n hanfodol i ni wneud hynny nawr er mwyn i’r genhedlaeth iau ddeall dros beth oedd eu teuluoedd yn brwydro.

Awduron Coal and Community in Wales: Richard Williams ac Amanda Powell.