Hafan y Blog

Straeon Covid: “Mae celf yn cadw fi'n hapus”

Angharad, Bethel , 21 Mai 2020

Cyfraniad Angharad i broject Casglu Covid: Cymru 2020.

Dwi wedi byw yng Ngogledd Cymru erioed. Mewn pentref bach or enw Bethel wrth Caernarfon a Llanrug. Dwi'n byw gyda fy Mam a fy Nhad, fy chwaer, 2 ci a 3 bwji!

Gyda social media, mae'n hawdd i mi gysylltu gyda ffrindiau a teulu. Dwi hefyd yn gweld fy ffridiau o coleg trwy Google Hangout pob wythnos! Ma dad wedi dechra gweithio eto sydd yn neud i mi boeni am ei iechyd ond mae mam dal adref, yn gweithio ar y cyfrifiadur, felly dwi'n gallu gweld hi mwy aml nag oni o'r blaen (sydd yn neis).

Mi fyddai'n deffro tua 10 i chwarae dipyn o Animal Crossing cyn newid a gael coffi. Gan fy mod yn gorffen y cwrs sylfaen celf o adref, rhan fwyaf o ddiwrnodau mi fyddai'n peintio tan i dad ddod adref o gwaith. Bydd mam yn prynu llysiau gan ffarmwr lleol pob wythnos ac yn gwneud bwyd anhygoel gyda dad! Ar ôl bwyta te, awni â'r cwn am dro ac eith mam o gwmpas Felinheli. Trwy'r dydd dwi'n mwynhau gal ambell sioe teledu ymlaen i gadw fi cwmni ac hefyd dwi'n tecstio fy ffrindiau trwy'r dydd hefyd. Ar ôl dod adref, fyddai'n chwarae mwy o Animal Crossing, gwylio ffilm ac ysgrifennu ar fy mlog ac postio ar fy Instagram celf. Fyddai'n gorffen bob dydd yn gwylio mam yn chwarae candy crush.

Tydw i ddim yn gweithio tu allan i'r ty ond dwi wedi dechra gwerthu fy nghelf a gosod Etsy i fyny. Fel artist, ma hi wedi bod yn anodd gal mwy o baent a silver (i neud gemwaith) ond hefyd mae genddai lawer mwy o bobl yn dilyn fy mhroses celf ar Instagram i gymharu â cyn y pandemic. Mae creu fy mhroject celf o adref wedi bod yn anodd. Does genddai'm y cyflenwadau dwi angen adref, felly dwi wedi gorfod gweithio efo'r pethau gendda'i yn barod. Mae fy nhiwtors wedi bod yn anhygoel ac yn cysylltu trwy Classroom pob diwrnod ac yn cynnal Google Hangout pob dydd Llun. Mae delio gyda rhai pethau wedi bod yn anodd gan fy mod i efo Autism. Er hyn, dwi byth wedi colli gobaith bod pethau am wella. Mae celf yn cadw fi'n hapus ac mae'n neis gael rhywbeth positif fel hyn i ddenu fy sylw.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.