Amgueddfa Blog

Hafan y Blog

Traddodiadau Calan Gaeaf

Mae noson Calan Gaeaf ar y gorwel ac mae’n siwr fod plant ledled Cymru yn ysu am gael hyd i’r wisg ddychrynllyd berffaith ar gyfer y noswaith, a phwmpenni ar draws y wlad yn cael eu gwacáu a’u cerfio. Daw rhai o’r traddodiadau hyn oddi wrth ein ffrindiau dros ddyfroedd yr Atlantig, ond yn y blog hwn hoffwn gynnig blas o’r ffyrdd eraill y dathlwyd y dyddiad hwn yng Nghymru. 

Diwedd y Cynhaeaf

Gyda chasglu’r cynhaeaf a dyfodiad Calan Gaeaf roedd y gwaith amaethyddol trwm yn dod i ben am y flwyddyn. Roedd diogelu’r cynnyrch yn barod at y gaeaf yn dynodi diwedd yr haf a dechrau’r gaeaf, sef diwedd  yr hen flwyddyn Geltaidd ar Noson Calan Gaeaf. I ddathlu’r achlysur pwysig hwn byddai llawer yn paratoi gwledd foethus yn llawn danteithion a cherddoriaeth er mwyn diolch i gymdogion am eu cymorth yn hel yn cnydau. Roedd hi hefyd yn arfer i ladd anifeiliaid fferm yn y cyfnod hwn er mwyn cadw’r cig at y gaeaf. 

Bwganod ar Bob Camfa

Ond, yn ôl pob sôn, gallai pethau rhyfedd iawn ddigwydd ar noswaith Calan Gaeaf. Roedd rhwydd hynt i ysbrydion grwydro’r wlad a chredid y byddai eneidiau’r meirwon i’w gweld ar bob camfa am hanner nos. Byddai i’r ysbrydion hyn nodweddion gwahanol o ardal i ardal ond dau o’r bwganod mwyaf cyffredin oedd y Ladi Wen, ac yn arbennig yn y gogledd, yr Hwch Ddu Gwta. Arferid cynnau coelcerthau wedi iddi dywyllu, ond wrth i’r fflamau farw ac wrth i’r tywyllwch ennill y nos, ofnid gweld yr Hwch Ddu Gwta. Rhaid oedd brysio adref heb oedi, ac wrth wneud hynny, byddai rhai yn adrodd: 

Adref, adref am y cynta’, Hwch Ddu Gwta a gipio’r ola’

neu

Hwch Ddu Gwta a Ladi Wen heb ddim pen

Hwch Ddu Gwta a gipio’r ola’

Hwch Ddu Gwta nos G’langaea

Lladron yn dwad tan weu sana.

ac hefyd

Hwch Ddu Gwta, yn brathu coesau’r hogia’ lleia’.

Stwnsh, Tair Powlen a 'Thwco ’Fale'

Roedd llawr o ofergolion yn gysylltiedig â’r adeg hon o’r flwyddyn, yn enwedig y rhai hynny a fyddai’n eich galluogi i ddarogan y dyfodol. Dau gwestiwn pwysig ar lawer tafod oedd pwy fyddai’n priodi a phwy fyddai’n cwrdd ag anffawd marwol. Er mae’r un oedd y cwestiynau, byddai y modd y’u hatebid yn amrywio o sir i sir. Yn Sir Drefaldwyn, byddid yn paratoi stwnsh o naw cynhwysyn (yn eu plith ceid tatws, moron, erfin, cennin, pupur a halen), wedi eu cymysgu gydag ychydig o laeth ac yn y canol, rhoddid modrwy briodas. Byddai pawb yn cymryd ei dro i brofi’r stwnsh hwn a’r sawl a fyddai’n dod o hyd i’r fodrwy yn siwr o briodi ymhen dim.  

Traddodiad arall oedd plicio croen afal mewn un darn, a thaflu’r croen dros eich ysgwydd. Byddai siap y croen ar y llawr yn dynodi llythyren gyntaf eich darpar briod. 

Yn ardal Llandysul byddid yn llenwi tair powlen: un â phridd, un â dŵr â gwaddod ac un â dŵr clir. Wedi rhoi mwgwd am y llygaid, rhaid oedd estyn a chyffwrdd un o’r powlenni. Roedd gwahanol ystyr i’r dair. Byddai’r cyntaf yn darogan marw cyn priodi; yr ail yn darogan priodas gythryblus a’r drydedd yn dynodi priodas hapus. Arferid hefyd chwarae gemau megis 'twco ’fale', neu fersiwn braidd yn fwy peryglus, ceisio dal afal yn hongian o’r to ynghlwm wrth gannwyll, yn eich ceg!

Eitemau Brawychus ein Casgliadau

Mae sawl eitem dychrynllyd yn ein casgliadau. Yn eu plith bydd dol o Wlad Belg a gasglwyd gan Edward Lovett (1852-1933). Roedd gan Lovett ddiddordeb mawr mewn swynion, boed yn rhai lwcus neu’n rhai anlwcus. Gwnaethpwyd y ddol hon o gwyr a gellid ei defnyddio i niwedio eraill trwy osod piniau neu unrhywbeth miniog ynddi, ac os am achosi marwolaeth araf boenus i elyn, gellid ei thoddi yn araf mewn simne. Gwrthrych dychrynllyd arall yw potel gwrach gyda swyn wedi ei gosod ynddi. Mae’n debyg nad agorwyd y botel hon erioed. Gosodwyd poteli tebyg mewn waliau adeiladau i amddiffyn rhag ysbrydion drwg.

Straeon i Godi Gwallt Pen

Recordiwyd miloedd o siaradwyr gan Archif Sain Amgueddfa Werin Cymru dros y blynyddoedd. Ymysg ein recordiadau ceir toreth o straeon am brofiadau arswydus, am fwganod ac ofergoelion. Mae rhai o’r straeon yn perthyn i’r siaradwr ei hyn tra bod eraill yn rhai a drosglwyddwyd ar lafar o’r gorffennol o un cenhedlaeth i’r llall.

Dyma ambell i glip sain o’r Archif:

Ysbryd Pwll Glo McClaren 

https://www.casgliadywerin.cymru/items/606763

Hwch - Ddu Gwta

https://www.casgliadywerin.cymru/items/606778

Crinjar

https://www.casgliadywerin.cymru/items/606781

Ydych chi’n edrych am weithgareddau Calan Gaeaf i wneud adref? Lawrlwythwch y taflenni isod ac addurnwch bwmpen, neu ysgrifennwch swyn eich hun!

 

Addurno Pwmpen

 

Dyfeisiwch Swyn

 

Lowri Jenkins

Archifydd Cynorthwyol
Gweld Proffil

sylw(2)

Marc Haynes Staff Amgueddfa Cymru
13 Tachwedd 2017, 11:47
Hi Holly,

I have forwarded your enquiry to the relevant curator, who will contact you with any information we have on this subject.

Best wishes,

Marc
Digital Team
Holly Herda
11 Tachwedd 2017, 19:54
Do you have any more info on that Belgian wax doll, or other Belgian practices? I've been looking high and low for info on Belgian folk magic with no luck!

Gadael sylw