Amgueddfa Blog

Gwnaeth adroddiad State of Caring 2019 Gofalwyr Cymru amcangyfrif fod 400,000 o ofalwyr yng Nghymru y llynedd. Roedd Cyfrifiad 2011 yn gosod y ffigwr llawn fel 370,000 neu 12% o’r boblogaeth, gyda 30,000 o’r gofalwyr hynny o dan 25 oed a nodwyd fod gan Gymru y gyfradd uchaf o ofalwyr o dan 18 oed yn y DU. Mae’r ffigurau hyn i gyd yn cyfeirio at ofalwyr di-dâl, sy’n cefnogi oedolyn neu blentyn gydag anabledd, salwch corfforol neu feddyliol, neu sydd yn cael eu heffeithio drwy gamddefnyddio sylweddau. Nid yw’n cynnwys y rheiny sy’n gweithio mewn swyddi gofal am dâl.

Amcangyfrifir y bydd y rhan fwyaf ohonom, tri allan o bump, yn dod yn ofalwr ar ryw bwynt yn ystod ein bywydau.

Wrth ystyried y rhifau anferthol hyn a’r ffaith fod y rhan fwyaf ohonom eisoes naill ai’n cael ein heffeithio, neu’n mynd i gael ein heffeithio, pam nad oes mwy o sôn am ofalwyr? Un rheswm efallai yw bod gofalwyr yn rhy brysur yn gofalu. Rwyf innau wedi bod yn ofalwr, a chyn ymuno ag Amgueddfa Cymru treuliais 30 mlynedd yn gweithio mewn gwasanaethau gofal iechyd a chymdeithasol, ac yn ystod yr adeg honno rwy’n amcangyfrif fy mod wedi gweithio gydag ychydig filoedd o ofalwyr. Mae fy mhrofiad a’m hymchwil helaeth wedi dangos fod nifer o ofalwyr yn profi unigrwydd ac ynysu cymdeithasol, yn dioddef o iechyd meddyliol neu gorfforol gwael eu hunain, a phwysau ariannol, o ganlyniad i’w rôl fel gofalwyr. 

Felly beth mae hyn yn ei olygu i Amgueddfa Cymru? Un o’r amcanion ar gyfer ein strategaeth 10 mlynedd, a gaiff ei chyhoeddi yng Ngwanwyn 2021, yw ein bod yn berthnasol i bawb ac ar gael i bawb; un arall yw ein bod yn canolbwyntio ar iechyd a lles i bawb. Mae gan ein rhaglen ymgysylltu gymunedol ystod eang iawn o ffyrdd i bobl sydd ag anghenion gofal (yn sgil iechyd, anabledd neu amgylchiadau eraill) fod yn rhan o weithgareddau’r amgueddfa fel ymwelydd neu drwy ein rhaglenni gwirfoddoli ac addysg. Croesawn ofalwyr drwy gyfrwng y mentrau hyn ac mae nifer o ofalwyr sydd wedi cymryd rhan, ond nid oes gennym eto lawer iawn o adnoddau sydd wedi’u cynllunio o gwmpas anghenion gofalwyr. 

Wrth edrych ymlaen at flwyddyn nesaf, mae’r Tîm Gwirfoddoli yn awyddus i ddarparu cyfleoedd sydd wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer gofalwyr. Gall hyn gynnwys gwirfoddolwyr sy’n gallu cefnogi gofalwyr wrth ymweld â’n hamgueddfeydd, neu, gall olygu cynllunio cyfleoedd gwirfoddoli i ofalwyr sy’n gweithio o amgylch gofynion gofalu. Ar hyn o bryd rydym yn dychmygu cymysgedd o opsiynau o ran presenoldeb – rhai cyfleoedd i ofalwyr fynychu neu ymuno â rhywbeth ar eu liwt eu hunain, eraill lle y gall gofalwyr wneud hynny gyda’r person y maen nhw’n gofalu amdanynt. 

Y darlun arferol o ofalwr yw rhywun hŷn, yn gofalu naill ai am riant oedrannus neu bartner. Mae sawl gofalwr yn gweddu’r disgrifiad hwnnw, ond mae yna hefyd fwy o bobl ifanc a phlant yn gofalu nag y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol ohono, ac mae gofynion gofalu mewn perygl o gael effaith andwyol ar eu haddysg, eu datblygiad ac ansawdd eu bywyd yn gyffredinol. Rydym felly yn cynllunio i gynnwys rhai cyfleoedd sydd wedi’u hanelu’n benodol at ofalwyr ifanc.   

Mae pobl o bob cymuned yn wynebu cyfrifoldebau gofal, a allai mewn rhai achosion fod yn fwy heriol yn sgil gwahaniaethu systemig ac anfantais. O’m profiad innau yn gofalu am fy mam-gu Iraci, gwelais fod y gwasanaethau cymorth oedd ar gael â bwriad gwirioneddol i groesawu pawb, ond bod bron pob un ohonynt wedi eu trefnu o amgylch arferion, ffyrdd o fyw, a phrofiadau bywyd poblogaeth Gwyn Prydeinig. Nid oedd y bwyd a’r gweithgareddau a gynigiwyd, a’r pynciau a drafodwyd (er enghraifft mewn therapi Atgof), yn berthnasol nac yn cynnig cysur iddi hi mewn unrhyw ffordd. Nid wyf yn awgrymu fod hyn yn rhoi dealltwriaeth i mi o brofiad rhywun arall, nid ydyw, ond mae yn rhoi dealltwriaeth i mi o gyfyngderau gweithredu un dull yn unig. 

Felly rydym yn ymwybodol y bydd angen i ni weithredu mewn modd amrywiol a gofalus, a dyma lle hoffem ofyn am eich cymorth. Rydym wedi llunio arolwg sy’n amlinellu rhai o’n syniadau hyd yma, ond hoffem hefyd glywed oddi wrthoch chi os ydych chi’n ofalwr neu wedi bod yn ofalwr yn y gorffennol. Os nad ydych yn ofalwr, byddem yn ddiolchgar pe baech yn medru ein helpu drwy rannu hwn gyda gofalwyr yr ydych yn eu hadnabod. 

Mae’r arolwg yn lansio ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr ar 26 Tachwedd, ac ar yr un diwrnod rydym yn trefnu trafodaeth fyw ar-lein (gyda thocyn digwyddiad am ddim i bob gofalwr sy’n ymuno â ni). Gallwch ddod o hyd i fanylion ynglŷn â sut i gymryd rhan, a hefyd gweld y sesiynau ‘blasu’ ar yr un diwrnod, drwy gyfrwng tudalen Gwirfoddoli ar ein gwefan: https://amgueddfa.cymru/cymrydrhan/gofalwyr

Helo Cyfeillion y Gwanwyn,

Rwyf isio rhoi diolch mawr i chi gyd am eich gwaith caled yn plannu eich bylbiau. Wnaethom ni plannu dros 18,800 o fylbiau ar draws y DU! Mi welais o’r llunia chafodd pawb llawer o hwyl yn helpu!

Wnaeth Cofnodion Tywydd cychwyn ar 2 Tachwedd. Mae 'na adnoddau dysgu ar y wefan i helpu paratoi am gymryd cofnodion tywydd. Rwyf wedi atodi hyn rhag ofn bod rhai heb ei gweld eto. Mae’r adnodd hyn yn helpu ymateb cwestiynau pwysig fel pam yw mesur tywydd yn bwysig i’n harbrawf.

Defnyddiwch eich siart tywydd i gofnodi'r glaw a’r tymheredd pob ddiwrnod y ydych yn yr ysgol. Ar ddiwedd yr wythnos, cofnodwch mewn i’r wefan i rannu eich canfyddiadau. Fedrwch hefyd gadael sylwadau a chwestiynau i fi ymateb yn fy blog nesaf!

Plîs gadewch i mi wybod sut ydych yn wneud, a rhannwch luniau trwy Twitter ac e-bost.

Daliwch ati Gyfeillion y Gwanwyn,

Athro’r Ardd

 

Sylwadau a rhannwyd hefo'r wythnos gyntaf o ddata tywydd:

Plannu bylbiau

St Patrick Primary School: We planted the bulbs on 3 November 2020 as it was a sunny day. We had so much fun planting the bulbs, it was a great experience for our class. Athro'r Ardd: I’m glad you enjoyed planting your bulbs Bulb Buddies. I hope you enjoy taking weather records too! 

Our Lady of Peace Primary School: Thank you for sending us bulbs we really enjoyed planting them from K and A. Athro'r Ardd: You are more than welcome Bulb Buddies, thank you for taking part in the project.  

Arkholme Primary School: We planted our bulbs before the half term holiday. The rain gauge and thermometer are set up and we enjoyed collected the information. Athro'r Ardd: Fantastic work Bulb Buddies, it sounds like you have everything under control. Thank you for sharing your weekly data. 

Livingston Village Primary School: We had lots of rain over the weekend so that is why our rainfall was so high on Monday. We have had some of our bulbs dug up so we used our night vision camera to watch and see what was happening. We saw a squirrel and a bird digging at our bulbs! Athro'r Ardd: I’m sorry to hear your bulbs were dug up, but what exciting detective work to find the culprit! I'd love to see the video footage if you are able to share it. It’s likely that the bird was making the most of the newly turned soil to look for food. Squirrels do eat some spring bulbs , but they are also known to dig up bulbs when looking for somewhere to store their food for the winter! If you find that your bulbs are dug up again, apparently sprinkling chilli flakes or powder in the area will deter squirrels.  

Coastlands School: Our professor plant has been wondering if the frosty mornings might effect the growth of our bulbs! Athro'r Ardd: Hi Bulb Buddies, that's a good question. We expect that the weather will affect the growth of our plants and that they will flower earlier if we have a mild winter. Your bulbs will be nice and warm in the soil for the winter. You might like origami booklet resource on the Spring bulb website, this looks at the secret life of a bulb and what your bulb does in winter. 

Casglu data tywydd

YGG Tonyrefail: Helo Athro'r ardd. Dyma ein canlyniadau cyntaf ni o YGG Tonyrefail. Rydw i'n falch o gael gweld yr heulwen!!! Athro'r Ardd: Diolch Cyfeillian y Gwanwyn, daliwch ati gyda'r gwaith da. 

Steelstown Primary School: Our first week of weather watching was good fun. We had to set an alarm to remind us to do it at the same time every day. Athro'r Ardd: Setting an alarm is a great idea Bulb Buddies! Thank you for sharing your data. 

Pearson Primary School: The children loved going down to the garden every day to check the temperature and to see if their plants are growing yet. As yet we have had no rain here, so hopefully we will get some over the weekend and the children can measure the rainfall next week. Athro'r Ardd: I’m glad that the class are enjoying the project. I love that they are hoping for rain so that they can take rainfall readings! Fantastic work Bulb buddies. 

Pil Primary School: There was a lot of rain on Monday! We liked recording the results. Athro'r Ardd: I’m glad you are enjoying taking weather readings. Keep up the good work Bulb Buddies. 

Sheuchan Primary School: Very wet start to week. Monday's rainfall figure includes from 2pm Friday to 2pm Monday. Athro'r Ardd: Thank you for emptying the rain gauge on the Friday Bulb Buddies, keep up the good work. 

Carreghofa Primary School: It hasn't rained much this week but on Monday Mr Roberts empty the funnel out so mondays results was not accurate. Athro'r Ardd: Thank you for letting me know Bulb Buddies, keep up the good work. 

St Mary Primary School (Co Down): Hello Professor Plant. We are the eco ambassador and the science champion in our class. We ae going to help our class observe the rainfall and the temperature this year to see the flowers grow. Athro'r Ardd: Thank you for taking on leading roles with this project Bulb Buddies. I look forward to your updates on how the investigation is going at your school. 

St Peter Primary School (Plumbridge): We enjoyed our first week recording. Athro'r Ardd: Fantastic Bulb Buddies, thank you for sharing your data. 

Arsylwadau tywydd

Athro'r Ardd: Diolch i'r ysgolion canlynol am yr arsylwadau tywydd maen nhw wedi'u rhannu â'u data wythnosol. Daliwch ati gyda'r gwaith gwych Cyfeillion y Gwanwyn.

Oystermouth Primary: Very dry end to the week in Mumbles. Temperatures appear high but it was much colder in reality. 

Porthcawl Primary: After loads of rain for the whole of half term and the start of the week it has been amazing sunshine since Wednesday 

Moffat Academy: At the weekend it was so rainy it filled up the rain-gage. The rest of the week was pretty dry. It felt very cold, though it was considerably warm temperature wise. Mostly cloudy through the week, with a bit of sun. Frost on the fifth, and mist or fog on the sixth. 

Newbuildings Primary School: The sun has been shining brightly in Newbuildings today! Monday and Tuesday have been very wet Thursday has been the hottest day of the week. Our bulbs are snug asleep in their little plant pots! 

Litchard Primary School: It's been frosty every morning with some ground frost. All the temp and rainfall has been the same and its sunny every afternoon. 

High Cross Primary School: We have noticed it has got colder this week. 

Ysgol Bro Pedr: It's been quite a cold week, but it's been really sunny towards the end of the week. 

Stanford in the Vale Primary School: We observed our first frosts this week - its been a cold week! 

How a Distanced Professional Training Year Can Still Be Enjoyable and Successful

As an undergraduate, studying biosciences at Cardiff University, I am able to undertake a placement training year. Taxonomy, the study of naming, defining, and classifying living things, has always interested me and the opportunity to see behind the scenes of the museum was a chance I did not want to lose. So, when the time came to start applying for placements, the Natural Sciences Department at National Museum Cardiff was my first choice. When I had my first tour around the museum, I knew I had made the right choice to apply to carry out my placement there. It really was the ‘kid in the candy shop’ type of feeling, except the sweets were preserved scientific specimens. If given the time I could spend days looking over every item in the collection and marvelling at them all. 

Of course, the plans that were set out for my year studying with the museum were made last year and, with the Covid-19 pandemic this has meant that plans had to change! However, everyone has adapted really well and thankfully, a large amount of the work I am doing can be done from home or in zoom meetings when things need to be discussed.

Currently, my work focuses on writing a scientific paper that will be centered on describing and naming a new species of shovel head worm (Magelonidae) from North America. Shovel head worms are a type of marine bristle worm and as the name describes, are found in the sea. They are related to earth worms and leeches. So far, my work has involved researching background information and writing the introduction for the paper. This  is very helpful for my own knowledge because when I applied for the placement I didn’t have the slightest clue about what a shovel head worm was but now I can confidently understand what people mean when they talk about chaetigers or lateral pouches!

Part of the research needed for the paper also includes looking closely at species found in the same area as the new species, or at species that are closely related in order to determine that our species is actually new.

Photos for the paper were taken by attaching a camera to a microscope and using special imaging stacking software which takes several shots at different focus distances and combines them into a fully focused image. While ideally, I would have taken these images myself, I am unable to due to covid restrictions, so my training year supervisor, Katie Mortimer-Jones took them.

Then I cleaned up the backgrounds and made them into the plates ready for publication. I am very fortunate that I already have experience in using applications similar to photoshop for art and a graphics tablet so it wasn’t too difficult for me to adjust what I already had in order to make these plates. Hopefully soon, I will be able to take these images for myself.

My very first publication in a scientific journal doesn’t seem that far away and I still have much more time in my placement which makes me very excited to see what the future holds. Of course, none of this would be possible without the wonderful, friendly and helpful museum staff who I have to express my sincere thanks to for allowing me to have this fantastic opportunity to work here, especially my supervisor, Katie Mortimer-Jones.

Oeddech chi’n gwybod ein bod ni, ar gyfartaledd, yn cyhoeddi tua 1000 o negeseuon y mis ar ein rhwydweithiau digidol? Mae pob neges yn rhannu gwybodaeth a rhoi blas o’r hyn sydd gan yr Amgueddfa i’w gynnig, ac mae gennym ni dipyn i’w gynnig.

Yr hyn sydd wrth wraidd yr holl gynnwys sydd yn cael ei rannu ydi gwerthoedd yr Amgueddfa. Fel sefydliad, rydym yn cydnabod ein gwahaniaethau ac yn eu dathlu. Rydym yn awyddus i bob platfform gynnig lle diogel i bobl rannu eu safbwyntiau a barn gyda'i gilydd, i gael sgwrs barchus lle mae pob person yn cael ei drin gyda pharch ac urddas. Ein bwriad ydi creu cynnwys sydd yn rhoi cyfle i chi fedru ymgysylltu hefo ni. Mae mor braf gweld rhyngweithio ar ein platfformau ni ac rydym yn mwynhau ymateb neu fod yn rhan o sgyrsiau difyr ac yn awyddus i barhau gyda hynny.

Yn ddiweddar, fodd bynnag, rydym wedi derbyn ambell i neges sydd yn ysgogi casineb ac wedi dod wyneb yn wyneb a throliaid. Rydym yn cymryd unrhyw neges sydd yn mynd yn groes a’n gwerthoedd o ddifrif. O ganlyniad, rydym wedi bod yn trafod pa ffordd fyddai orau i ymateb, pa gamau i’w cymryd er mwyn tanlinellu ein safbwynt ni at bynciau penodol, a sut i sicrhau bod ein cydweithwyr yn cael eu cefnogi yn ddigonol wrth ymdrin â negeseuon o’r fath.

Y cam cyntaf rydym wedi ei gymryd ydi i ddiweddaru ein polisi rhwydweithiau cymdeithasol. Roeddem yn awyddus i ddiffinio rôl troliaid yn swyddogol ac i danlinellu ein safbwynt ni wrth ymdrin â chasineb a sylwadau negyddol. Ni fyddwn yn goddef, yn esgusodi nac chwaith yn cefnogi gweithredoedd o gasineb, ni fyddwn chwaith yn ymgysylltu gyda throliaid a byddwn yn cymryd camau penodol i rwystro neu ddileu unrhyw berson sydd yn ceisio achosi gofid neu fewnwelediad o gasineb ar unrhyw un o’n cyfrifon ni.

Ychydig o negeseuon yn ysgogi casineb rydym wedi ei dderbyn hyd yn hyn, a bydd ein hymateb yn cael ei ddiffinio yn ôl pob achos. Fodd bynnag, roeddem yn awyddus i gydnabod ein safbwynt ar dderbyn negeseuon o’r fath. Mae modd darllen ein polisi rhwydweithiau cymdeithasol ar y wefan. Yn y cyfamser, cadwch lygad ar ein cyfrifon a mwynhau’r holl gynnwys sydd ganddom ni i’w gynnig.

Traddodiadau Calan Gaeaf

Mae noson Calan Gaeaf ar y gorwel ac mae’n siwr fod plant ledled Cymru yn ysu am gael hyd i’r wisg ddychrynllyd berffaith ar gyfer y noswaith, a phwmpenni ar draws y wlad yn cael eu gwacáu a’u cerfio. Daw rhai o’r traddodiadau hyn oddi wrth ein ffrindiau dros ddyfroedd yr Atlantig, ond yn y blog hwn hoffwn gynnig blas o’r ffyrdd eraill y dathlwyd y dyddiad hwn yng Nghymru. 

Diwedd y Cynhaeaf

Gyda chasglu’r cynhaeaf a dyfodiad Calan Gaeaf roedd y gwaith amaethyddol trwm yn dod i ben am y flwyddyn. Roedd diogelu’r cynnyrch yn barod at y gaeaf yn dynodi diwedd yr haf a dechrau’r gaeaf, sef diwedd  yr hen flwyddyn Geltaidd ar Noson Calan Gaeaf. I ddathlu’r achlysur pwysig hwn byddai llawer yn paratoi gwledd foethus yn llawn danteithion a cherddoriaeth er mwyn diolch i gymdogion am eu cymorth yn hel yn cnydau. Roedd hi hefyd yn arfer i ladd anifeiliaid fferm yn y cyfnod hwn er mwyn cadw’r cig at y gaeaf. 

Bwganod ar Bob Camfa

Ond, yn ôl pob sôn, gallai pethau rhyfedd iawn ddigwydd ar noswaith Calan Gaeaf. Roedd rhwydd hynt i ysbrydion grwydro’r wlad a chredid y byddai eneidiau’r meirwon i’w gweld ar bob camfa am hanner nos. Byddai i’r ysbrydion hyn nodweddion gwahanol o ardal i ardal ond dau o’r bwganod mwyaf cyffredin oedd y Ladi Wen, ac yn arbennig yn y gogledd, yr Hwch Ddu Gwta. Arferid cynnau coelcerthau wedi iddi dywyllu, ond wrth i’r fflamau farw ac wrth i’r tywyllwch ennill y nos, ofnid gweld yr Hwch Ddu Gwta. Rhaid oedd brysio adref heb oedi, ac wrth wneud hynny, byddai rhai yn adrodd: 

Adref, adref am y cynta’, Hwch Ddu Gwta a gipio’r ola’

neu

Hwch Ddu Gwta a Ladi Wen heb ddim pen

Hwch Ddu Gwta a gipio’r ola’

Hwch Ddu Gwta nos G’langaea

Lladron yn dwad tan weu sana.

ac hefyd

Hwch Ddu Gwta, yn brathu coesau’r hogia’ lleia’.

Stwnsh, Tair Powlen a 'Thwco ’Fale'

Roedd llawr o ofergolion yn gysylltiedig â’r adeg hon o’r flwyddyn, yn enwedig y rhai hynny a fyddai’n eich galluogi i ddarogan y dyfodol. Dau gwestiwn pwysig ar lawer tafod oedd pwy fyddai’n priodi a phwy fyddai’n cwrdd ag anffawd marwol. Er mae’r un oedd y cwestiynau, byddai y modd y’u hatebid yn amrywio o sir i sir. Yn Sir Drefaldwyn, byddid yn paratoi stwnsh o naw cynhwysyn (yn eu plith ceid tatws, moron, erfin, cennin, pupur a halen), wedi eu cymysgu gydag ychydig o laeth ac yn y canol, rhoddid modrwy briodas. Byddai pawb yn cymryd ei dro i brofi’r stwnsh hwn a’r sawl a fyddai’n dod o hyd i’r fodrwy yn siwr o briodi ymhen dim.  

Traddodiad arall oedd plicio croen afal mewn un darn, a thaflu’r croen dros eich ysgwydd. Byddai siap y croen ar y llawr yn dynodi llythyren gyntaf eich darpar briod. 

Yn ardal Llandysul byddid yn llenwi tair powlen: un â phridd, un â dŵr â gwaddod ac un â dŵr clir. Wedi rhoi mwgwd am y llygaid, rhaid oedd estyn a chyffwrdd un o’r powlenni. Roedd gwahanol ystyr i’r dair. Byddai’r cyntaf yn darogan marw cyn priodi; yr ail yn darogan priodas gythryblus a’r drydedd yn dynodi priodas hapus. Arferid hefyd chwarae gemau megis 'twco ’fale', neu fersiwn braidd yn fwy peryglus, ceisio dal afal yn hongian o’r to ynghlwm wrth gannwyll, yn eich ceg!

Eitemau Brawychus ein Casgliadau

Mae sawl eitem dychrynllyd yn ein casgliadau. Yn eu plith bydd dol o Wlad Belg a gasglwyd gan Edward Lovett (1852-1933). Roedd gan Lovett ddiddordeb mawr mewn swynion, boed yn rhai lwcus neu’n rhai anlwcus. Gwnaethpwyd y ddol hon o gwyr a gellid ei defnyddio i niwedio eraill trwy osod piniau neu unrhywbeth miniog ynddi, ac os am achosi marwolaeth araf boenus i elyn, gellid ei thoddi yn araf mewn simne. Gwrthrych dychrynllyd arall yw potel gwrach gyda swyn wedi ei gosod ynddi. Mae’n debyg nad agorwyd y botel hon erioed. Gosodwyd poteli tebyg mewn waliau adeiladau i amddiffyn rhag ysbrydion drwg.

Straeon i Godi Gwallt Pen

Recordiwyd miloedd o siaradwyr gan Archif Sain Amgueddfa Werin Cymru dros y blynyddoedd. Ymysg ein recordiadau ceir toreth o straeon am brofiadau arswydus, am fwganod ac ofergoelion. Mae rhai o’r straeon yn perthyn i’r siaradwr ei hyn tra bod eraill yn rhai a drosglwyddwyd ar lafar o’r gorffennol o un cenhedlaeth i’r llall.

Dyma ambell i glip sain o’r Archif:

Ysbryd Pwll Glo McClaren 

https://www.casgliadywerin.cymru/items/606763

Hwch - Ddu Gwta

https://www.casgliadywerin.cymru/items/606778

Crinjar

https://www.casgliadywerin.cymru/items/606781

Ydych chi’n edrych am weithgareddau Calan Gaeaf i wneud adref? Lawrlwythwch y taflenni isod ac addurnwch bwmpen, neu ysgrifennwch swyn eich hun!

 

Addurno Pwmpen

 

Dyfeisiwch Swyn