Amgueddfa Blog

Hafan y Blog

Y penwythnos hwn bydd ein Curaduron yn agor drysau ar-lein i'n casgliadau meteoryn a chreigiau gofod hynod ddiddorol. Ymunwch â nhw ddydd Sadwrn a dydd Sul am teithiau rhad ac am ddim y tu ôl i'r llenni, wedi'u ffrydio ar wefan Amgueddfa Cymru, fel rhan o'n Penwythnos Serydda Syfrdanol. Yna ddydd Sul, bydd seryddwyr arbenigol yn ymuno â’n curaduron i ateb eich cwestiynau mewn digwyddiad byw. Am fanylion pellach ac i archebu lle, gwelwch: Serydda Syfrdanol.

Dyma Andrew Haycock, Curadur Mwynoleg a Gwyddorau Petroleg Naturiol yn cynnig blas o’r penwythnos ac yn rhannu’r cefndir ar un o'n trysorau gofod, craig o'r blaned Mawrth.

Mae 77 meteoryn yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, a ddarganfuwyd mewn ardaloedd ledled y Byd. Mae rhai o'r rhain yn cael eu harddangos yn barhaol yn ein Oriel Esblygiad Cymru. Maent yn cynnwys gwibfaen haearn 260kg, a ddisgynnodd yn Namibia, Affrica; a thafell o feteoryn caregog a ddisgynnodd yn Beddgelert ym 1949. Mae'r gwibfaen hwn yn un o ddim ond dau feteoryn o Gymru.

Mae'r mwyafrif helaeth o feteorynnau yn y casgliad yn cael eu cadw mewn storfa sydd a hinsawdd wedi ei reoli i atal dadfeilio, ond fe'u defnyddir yn aml ar gyfer ein digwyddiadau arbennig ar thema’r Gofod a’n gweithgareddau addysgiadol. Mae gan bob sbesimen - waeth pa mor fach neu fawr, weledol syfrdanol neu ddibwys ei olwg - stori ddiddorol i'w hadrodd. Un sbesimen anhynod ei olwg yw meteoryn shergottite caregog a gasglwyd yn Libya ym 1998.

Shergotte yw’r meteoryn yma o’r blaned Mawrth (NMW 2010.17G.R.26). Er bod wyneb y blaned Mawrth yn edrych yn goch, llwyd yw’r creigiau sydd gennym, dim ond llwch wyneb y blaned sy'n rhoi’r lliw oren iddo.

Mae tua 95% o ddarganfyddiadau meteorynau yn cael eu graddio fel ‘caregog’, ac yn cynnwys mwynau sy’n gyffredin i’r Ddaear yn bennaf, ac mae’r mwyafrif o rhain (99.8%) tua 4,560 miliwn o flynyddoedd oed, ac yn tarddu o’r Llain Asteroid rhwng y blaned Mawrth a Iau. Mae hynny’n hen iawn, a gellid maddau i arsylwr achlysurol feddwl mai dim ond meteoryn caregog arall oedd y gwibfaen shergottite hwn, ond mewn gwirionedd mae'n eithaf arbennig, darn ydyw o'r blaned Mawrth.

O'r 65,000 neu fwy o feteorynnau, a gasglwyd, a archwiliwyd ac a enwyd, dim ond 292 sy'n cael eu hystyried i darddu o'r blaned Mawrth. Gellir eu dosbarthu fel tri math gwahanol o graig, pob un yn darddiad igneaidd (wedi'i ffurfio o fagma neu lafa). Maent yn llawer iau na'r gwibfeini o'r gwregys Asteroid, ac fe'u ffurfiwyd gan weithgaredd folcanig ar blaned Mawrth rhwng 165 a 1,340 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Dim ond un gwibfaenu hyn, a ddarganfuwyd ym Mryniau Allen yn Antarctica, y credir ei fod oddeutu 4,500 miliwn o flynyddoedd oed, ac o gramen gychwynnol Mawrth pan ffurfiwyd y blaned.

Mae’r planed Mawrth wedi bod yn y newyddion lawer yn ddiweddar (Chwefror 2021), gyda glaniad crwydrwr Perseverance NASA. Prif waith y crwydrwr yw chwilio am arwyddion o fywyd hynafol a chasglu samplau o graig a regolith (craig a phridd wedi malu) er mwyn eu dychwelyd i'r Ddaear o bosib.

Liawns y crwydrwr Perserverance i'r blaned Mawrth, 30 Gorffennaf 2020

Cyn glanio’r crwydrwr Perseverance, danfonwyd pedwar crwydryn arall yn llwyddiannus i’r blaned Mawrth gan anfon data gwerthfawr yn ôl at wyddonwyr ar y Ddaear; Sojourner (1997), Spirit and Opportunity (2004); a Curiosity (2012). Roedd y llong ofod gyntaf i lanio'n llwyddiannus ar y blaned yn rhan o genadaethau Viking 1 a Viking 2 (Cylchlwybrwr a Glaniwr) a gyrhaeddodd y blaned Mawrth ym 1976.

Felly, sut mae gwyddonwyr yn gwybod bod y gwibfeini hyn o'r blaned Mawrth? Trwy astudio cyfansoddiad meteorynnau tebyg i'r un hwn, a'i gymharu â data a anfonwyd yn ôl gan long ofod ar y blaned Mawrth. Canfuwyd bod gan y meteorynnau gyfansoddiadau elfennol ac isotopig tebyg iawn i rai creigiau o Fawrth. Mae'r grŵp Shergottite o feteorynnau o’r blaned Mawrth yn debyg iawn i greigiau basalt a geir ar y Ddaear, ond mae'r isotopau ocsigen yn wahanol i rai creigiau'r Ddaear.

Darparwyd tystiolaeth derfynol ar gyfer tarddiad o’r blaned Mawrth ym 1983, pan ddadansoddwyd swigod bach o nwy wedi'u amrwydo y tu mewn i ddarnau gwydrog o feteoryn shergottite o Antarctica. Roedd y nwyon yma’n cyd-fynd yn berffaith â llofnod awyrgylch Mawrth fel yr adroddwyd gan lanwyr Viking 1 a 2 NASA ym 1976.

Nid oes unrhyw ofodwyr wedi bod i'r blaned Mawrth, ac nid oes unrhyw ddeunydd o'r blaned Mawrth wedi'i anfon yn ôl i'r Ddaear hyd yn hyn. Felly sut gyrhaeddodd craig o'r blaned Mawrth i'r Ddaear? Yr unig fecanwaith hysbys i daflu craig o'r blaned Mawrth yw digwyddiad gwibfaen enfawr. Byddai'r hyn wedi taro’r blaned Mawrth gyda digon o rym i daflu malurion allan i'r Gofod, i ffwrdd o dynfa disgyrchiant y blaned, sy'n llawer llai nag effaith y Ddaear. Ar ryw adeg cafodd y gwibfeini eu gwyro o'u chwylgylch a'u tynnu i mewn i faes disgyrchiant y Ddaear. Yna syrthiodd peth o'r malurion hyn i'r Ddaear fel gwibfeini.

Mae'r crater 3-miliwn-mlwydd-oed Mojave, yn 58.5 km mewn diamedr. Hwn yw’r crater ieuengaf o'i faint ar y blaned, ac wedi'i nodi fel ffynhonnell bosibl i'r mwyafrif o feteorynnau o’r blaned Mawrth.

Yn wahanol i'r Lleuad, o ran y blaned Mawrth, nid oes gan wyddonwyr greigiau a gasglwyd gan ofodwr i'w hastudio. Ond mae ganddyn nhw'r peth gorau nesaf, a’r meteorynnau yma o’r blaned Mawrth ydyn nhw.

 

 

Gadael sylw