Hafan y Blog

Eisteddfod Genedlaethol 2019 - Pwrcasiad Amgueddfa Cymru

Andrew Renton, 6 Awst 2019

Blancedi Argyfwng Cymreig gan Daniel Trivedy

Trist yw gweld trafodaeth wleidyddol a chyhoeddus heddiw yn troi fwyfwy yn senoffobia, atgasedd at ffoaduriaid a cheiswyr lloches gyda sêl bendith llywodraethau, cenedlaetholdeb mewnblyg a hiliaeth agored. Yn y cyd-destun hwn, gellir gweld gwaith Daniel Trivedy fel gwrthsafiad calonogol. Mae'n dangos Cymru fel cenedl groesawgar, drugarog, gynhwysol a gwlad sydd â nod o ddod yn 'Genedl Noddfa', y gyntaf yn dilyn lansio Cenedl Noddfa – Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2019.

Braint Amgueddfa Cymru felly yw dewis Blancedi Argyfwng Cymreig Daniel fel pwrcasiad blynyddol cyntaf y sefydliad o'r Eisteddfod Genedlaethol. Blancedi argyfwng gyda gorchudd ffoil PET arian ac aur yw'r rhain. Mae'r blancedi'n rhan gyfarwydd o'r golygfeydd o driniaeth annynol mewnfudwyr o Fecsico ar ffin UDA, neu'r mewnfudwyr i Ewrop a achubwyd wrth groesi Môr y Canoldir. Ond rhoddwyd naws groesawgar unigryw a Chymreig i'r rhain drwy brintio dros yr ochr aur (sy'n cadw gwres) batrymau blancedi gwlân traddodiadol Cymreig – esiampl wych o gyfuno'r lleol a'r rhyngwladol.

Mae Daniel yn deall fod gan ddeunyddiau iaith, a bod gan ddefnyddiau penodol gysylltiadau sy'n ennyn ymateb penodol. Ei nod yw dangos i ni beth all ddigwydd o uno'r gwahanol elfennau. 'Ydyn nhw'n gwrthdaro a chroestynnu, neu'n cydorwedd mewn tawelwch anghysurus? Ydyn nhw'n uno ac asio, yn siarad â'i gilydd, neu'n esgor ar ffurf newydd hyd yn oed?'

Ar y naill llaw, dyluniwyd y flanced argyfwng i'w masgynhyrchu yn rhad ac effeithiol, a fawr mwy na hynny. I nifer ohonom, mae'n dwyn i gof boen a dioddefaint ymfudwyr mewn amodau erchyll ar y môr neu mewn gwersylloedd ffoaduriaid. Mae'n perthyn i 'rywle arall' a 'phobol eraill', fel dywed Daniel.

Ar y llaw arall, mae'r flanced wlân Gymreig yn cyfleu cynhesrwydd, traddodiad ac atgof, diogelwch a chysur. Beth sy'n digwydd wrth ddod â'r ddwy nodwedd ynghyd? Dwi'n credu ei bod hi'n neges galonogol. Rydyn ni'n sylweddoli ein bod 'ni' ac 'eraill' yr un fath. Fe allwn ac fe ddylem ni feddwl a gweithredu yn lleol ac yn rhyngwladol ar yr un pryd. Fe allwn ac fe ddylem ni ddefnyddio ein traddodiadau, nid i'n cau rhag eraill, ond i ddod at ein gilydd i gefnogi'n gilydd.

Ganwyd Daniel Trivedy ym 1975 ac mae o dras Indiaidd. Cafodd ei fagu yn ne-ddwyrain Lloegr ac mae bellach yn gweithio yn Abertawe. Yn ogystal â gweithio fel artist, mae'n darlithio yng Ngholeg Sir Gâr, Caerfyrddin, ac yn Swyddog Rhanbarthol Cyngor Celfyddydau Cymru, Caerfyrddin. Wedi ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Daeareg a Phalaeontoleg yn Imperial College, Llundain (1993-1996), yn ddiweddarach astudiodd Gelfyddyd Gain yng Ngholeg Celf Abertawe (2010-2013).

 

Andrew Renton, Ceidwad Celf

 

http://www.danieltrivedy.com/welsh-emergency-blankets.html

Andrew Renton

Pennaeth Casgliadau Dylunio
Gweld Proffil

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Ted clarke
7 Awst 2019, 14:57
Beautiful