Cau amgueddfeydd cenedlaethol Cymru
23 Mawrth 2020
,Wedi i Lywodraeth y DU osod cyfyngiadau llym ar ein bywydau a’n gwaith oherwydd Covid-19 – er mwyn gofalu am ein hiechyd – roedd rhaid i ni gau holl amgueddfeydd cenedlaethol Cymru bron yn syth.
Mewn cwta bedwar diwrnod, llwyddodd timau ar draws y sefydliad i wneud hyn yn rhyfeddol o gyflym ac effeithlon. Rwyf mor ddiolchgar am eu hymateb unedig ac ymroddedig i’r her eithriadol hon, a hithau mewn gwirionedd yn argyfwng cenedlaethol.
Rwy’n gwybod fod cau ein hamgueddfeydd, gadael ein swyddfeydd a cholli’r cyswllt dydd-i-ddydd â ffrindiau a chydweithwyr wedi bod yn brofiad emosiynol a gofidus i lawer ohonom, gan gynnwys fi fy hun. Ond rydym wedi gwneud hyn er mwyn diogelu ein staff, ein gwirfoddolwyr a’n hymwelwyr.
Erbyn hyn mae gennym brotocol yn ei le ym mhob amgueddfa ar gyfer pob posibilrwydd y gallwn feddwl amdano, a sianeli cyfathrebu chwim i reoli gweithrediadau dydd-i-ddydd trwy gyfrwng y Rheolwr ar Ddyletswydd a’r Cyfarwyddwr ar Ddyletswydd.
Ddoe roeddwn i’n Gyfarwyddwr ar Ddyletswydd am yr eildro, gyda Bethan Lewis, Pennaeth Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn Rheolwr ar Ddyletswydd.
Buom yn gweithio gyda detholiad bychan o staff fydd yn rheoli diogelwch ein saith amgueddfa genedlaethol, y casgliadau ac eiddo cyhoeddus eraill. Diolch yn arbennig iddyn nhw, TGCh, Cyllid, AD, Penaethiaid Safleoedd a staff o adrannau eraill sydd wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod yr Amgueddfa’n gallu parhau i weithredu yn yr amgylchiadau anodd hyn.
Byddwn hefyd yn dal i gysylltu’n rheolaidd â holl deulu Amgueddfa Cymru wrth iddynt wneud eu gorau i weithio o adref.
Rydym yn gwybod fod cyfathrebu’n anoddach pan nad yw’n bosibl cwrdd wyneb-yn-wyneb, dim ond dros y ffôn neu gyfrifiadur. Rwy’n annog staff Amgueddfa Cymru ac eraill i gadw mewn cysylltiad â’ch cydweithwyr yn rheolaidd, yn enwedig os nad ydych wedi clywed ganddynt ers tro.
sylw - (2)
Dear Ioma Jones,
Thank you very much for your message and for your good wishes. Take good care of yourself as well.
Kind regards,
Nia
(Digital team)