Diwrnod Gweithgareddau Arddangosfa Pop Peth
22 Medi 2009
,Mae lansiad swyddogol yr arddangosfa Pop Peth ddydd Sadwrn yma (26 o Fedi), gyda gweithgareddau amrywiol sydd ar agor i bawb.
Rhwng 11.00 a 1.00 a 2.00 tan 4.00 fydd cyfle i ymwelwyr gynllunio Ffansin gyda'r curaduron gwadd Leusa Fflur a Lowri Johnston neu ddysgu sut i 'Sleeveface(io)' gyda Grace Todd. Am 1.00 mae'r curadur gwadd Gari Melville yn cynnal sgwrs ar yr arddangosfa ac am 2.00 fydd sgwrs a pherfformiad gan y grwp gwerin/jazz Burum. Wedyn am 3.00 allwch fwynhau set gan y curaduron gwadd Llwybr Llaethog
Mae Mynediad i'r parti am 3.30 drwy wahoddiad yn unig.