Amgueddfa Blog

Hafan y Blog

Tra bod Cymru yn gweithio'n galed i hyrwyddo agenda hinsawdd gadarnhaol, gyda tharged o 100% o drydan adnewyddadwy erbyn 2035, mae ein gorffennol diwydiannol yn taflu cysgod amgylcheddol hir. Yma mae Jennifer Protheroe-Jones, Prif Guradur Diwydiant, yn edrych ar ein hanes diwydiannol a'i effaith. 

Cyfrannodd Cymru yn gynnar ac yn ddiarwybod at newid yn yr hinsawdd. 

Dangosodd Cyfrifiad 1851 mai Cymru oedd y wlad gyntaf i fod â mwy o bobl yn cael eu cyflogi mewn diwydiant nag mewn amaethyddiaeth. Digwyddodd y newid pwysig hwn tua chanol i ddiwedd y 1840au yn ôl pob tebyg. 

Roedd Cymru yn ganolfan ddiwydiant rhyngwladol nodedig yng nghanol y 19eg ganrif, gan ei bod yn un o'r cenhedloedd cynhyrchu haearn pwysicaf, ac yn ganolbwynt diwydiannau copr a thunplat y byd. Roedd glo – gâi ei fwyngloddio ar raddfa anferth yng Nghymru – yn sail i'r holl ddiwydiannau hyn, yn tanio ffwrneisi, yn pweru’r injans stêm a oedd yn gyrru peiriannau, a’r locomotifau a oedd yn tynnu deunyddiau crai a chynhyrchion gorffenedig. 

Môr o wagenni rheilffordd wedi'u llwytho â glo mewn seidins ger Doc y Rhath, Caerdydd, yn aros i'w cludo ym mis Mawrth 1927. Mae'r llythrennau cyntaf ar y wagenni yn nodi ystod o brif gwmnïau'r pyllau glo: Burnyeat, Brown & Co Ltd; D.Davis & Sons Ltd; Nixon’s Navigation Coal Co Ltd; United Collieries Ltd.

Roedd glo ager o Gymru yn ddelfrydol ar gyfer codi ager. Mae'n llosgi heb lawer o fwg, yn creu ychydig o ludw ac yn cynhyrchu llawer iawn o wres. Wrth iddo losgi, mae glo ager yn agennu ond nid yw'n hollti’n ddarnau bach. Mae'r agennau yn caniatáu i'r glo losgi o'r tu mewn yn ogystal ag o'r tu allan, sydd yn cynyddu’r gwres yn sylweddol ac felly’n cynyddu priodweddau codi ager y tanwydd. Oherwydd nad yw’n torri'n ddarnau bach wrth losgi, mae'n eistedd ar ben y bariau tân, yn hytrach na disgyn trwy'r bariau fel darnau bach o lo heb eu llosgi a fyddai'n mynd yn wastraff ymysg y lludw. Mae'r nodwedd hon yn arbennig o berthnasol i danwydd a ddefnyddir mewn locomotifau, oherwydd mae dirgryniad y locomotif wrth iddo symud ar hyd y trac yn tueddu i wneud i danwydd o ansawdd is i dorri'n ddarnau bach sy'n cael eu gwastraffu pan fyddant yn syrthio trwy'r bariau tân i mewn i’r pwll lludw. Roedd y rhinwedd hwn yn golygu bod galw mawr am lo stêm Cymru.

Golygfa o'r awyr yn edrych i'r de-ddwyrain dros Waith Dur Caerdydd (East Moors) tua 1960.

Ychydig ddegawdau yn ddiweddarach, roedd symiau enfawr o lo yn cael eu defnyddio gan ddiwydiannau yng Nghymru, ond roedd mwy fyth yn cael ei allforio. Erbyn dechrau'r ugeinfed ganrif, de Cymru oedd maes glo pwysicaf y byd o ran allforio glo , gan gyflenwi glo stêm yn rhyngwladol. O ran ynni, roedd Môr Hafren ar yr adeg hon yn cyfateb i Gwlff Persia ganrif yn ddiweddarach. Os mai tanwydd o ansawdd uchel a fedrai bweru ystod eang o beiriannau oedd ei angen, yna porthladdoedd glo de Cymru oedd y lle i'w gael.

Yn y 19eg ganrif roedd gweld mwg o bentyrrau simneiau gweithfeydd yn cael ei ystyried yn arwydd o ffyniant. Erbyn dechrau'r 20fed ganrif roedd mwg o losgi glo yn cael ei gydnabod fwyfwy fel niwsans, ond hefyd fel rhywbeth anochel. Dim ond ar ôl yr Ail Ryfel Byd y dechreuwyd gwneud ymdrechion difrifol i leihau’r mwg o ddiwydiannau ac o danau glo mewn cartrefi – ac erbyn hynny roedd olew wedi datblygu’n ffynhonnell ynni pwysicach na glo ar draws y byd.

Mae llosgi glo, olew a nwy naturiol yn rhyddhau carbon deuocsid a nwyon tŷ gwydr eraill sy'n achosi newid yn yr hinsawdd. Yn rhyngwladol, caiff glo ei ddefnyddio’n bennaf wrth gynhyrchu trydan, cynhyrchu sment ac wrth wneud dur. Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio glo yn y diwydiant cynhyrchu trydan yng Nghymru ym mis Mawrth 2020; mae’n parhau i gael ei ddefnyddio yn y diwydiannau dur a sment.

Arllwys llond wagen o lo yn Nociau Caerdydd, dechrau'r 20fed ganrif. Roedd rhai mathau o lo yn tueddu i dorri'n fân, felly, yn lle tipio'r wagenni yn uniongyrchol i grombil llongau o uchder sylweddol, roedd y glo yn cael ei dywallt i 'flwch gorchuddio' patent Lewis Hunter (sydd i'w weld o dan y llwch glo helaeth) gâi wedyn ei godi gan graen ar ochr y doc ar y chwith, a'i ostwng i howld y llong llong, gan leihau'r uchder gollwng.

Cloddiwyd meysydd glo Cymru yn ddwys yn y 19eg ganrif a chyrhaeddodd y diwydiant ei uchafbwynt ym 1913, gan ddirywio wedi hynny wrth i’r glo brinhau. Yr allbwn ym 1913 oedd 60 miliwn o dunelli, ac allforiwyd ei hanner; yn 2018 roedd allbwn i lawr i 1.1 miliwn o dunelli. Roedd allbwn glo Cymru eisoes wedi dirywio'n sylweddol erbyn i newid hinsawdd gael ei gydnabod yn eang fel mater o bwys byd-eang. Bob blwyddyn mae'r byd yn cynhyrchu dros ganwaith cymaint o lo ag y gwnaeth Cymru ym 1913, pan oedd diwydiant glo Cymru ar ei anterth. Hyd yn oed yn ôl ym 1913, dim ond tua 5% o allbwn glo'r byd yr oedd Cymru yn ei gynhyrchu – ei bwysigrwydd ar y pryd oedd bod ei hanner yn cael ei allforio a'i fod yn cael ei ystyried yn danwydd premiwm ei amser.

Mae esboniad o’r rhwydwaith cymhleth o gyfathrebu a alluogodd fasnach lo ryngwladol Cymru i’w weld yn oriel y Glo, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

Gadael sylw