Arddangosfa Rithwir a Sgyrsiau Olion nawr ar gael ar-lein Lowri Ifor, 9 Chwefror 2021 Mae’r byd wedi gweld newid mawr yn y flwyddyn ddiwethaf, ac mae’r bygythiad i’r blaned a achosir gan newid hinsawdd yn cynyddu. Mae’r argyfwng hinsawdd yn effeithio ar bawb, boed hen neu ifanc, ond gallwn wneud penderfyniadau fel unigolion a fel cymdeithas i frwydro’n erbyn newid hinsawdd cyn ei bod hi’n rhy hwyr.Ddiwedd Ionawr, lansiwyd gŵyl ddigidol newydd Olion – cyfres o sgyrsiau a digwyddiadau am newid hinsawdd a chynaliadwyedd. Fel rhan o’r ŵyl, rhoddwyd galwad agored i artistiaid ifanc Cymru i gyfrannu at arddangosfa rithwir gyda gwaith ar thema protest, cynaliadwyedd neu newid hinsawdd. Mae’r arddangosfa hon bellach ar gael i’w gweld arlein yma: artsteps | Arddangosfa Rithwir Olion - Footprints Virtual ExhibitionCliciwch ar y gweithiau i ddysgu mwy am yr artistiaid a beth â’u hysbrydolodd, yna ewch i http://doo.vote/footprintsexhibition i bleidleisio am eich ffefryn. Chwefror 28 yw’r dyddiad cau a bydd gwobr i’r artist â’r mwyaf o bleidleisiau.Mae holl sgyrsiau byw yr wŷl bellach ar gael ar sianel Youtube Amgueddfa Cymru. Dyma beth sydd ar gael:Cartrefi Cynaliadwy Ddoe Heddiw ac Yfory – 20 mlynedd ers agor ‘Y Tŷ Ar Gyfer y Dyfodol’Yn 2001, agorwyd y ‘Tŷ ar Gyfer y Dyfodol’ yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Roedd yr adeilad arloesol yma’n ffrwyth llafur cydweithio rhwng yr amgueddfa a phenseiri Jestico + Whiles i adeiladu cartref cynaliadwy oedd yn darogan safon tai yng Nghymru erbyn 2050. Mae ugain mlynedd bellach wedi pasio, felly ymunwch a’n panel am drafodaeth ynglyn a pherthnasedd y ‘Tŷ ar Gyfer y Dyfodol’ erbyn heddiw, sut yr ysbrydolwyd y cywaith gan adeiladau hanesyddol Sain Ffagan, a datblygiadau cyffrous ym maes cartrefi ac ynni cynaliadwy at y dyfodol.PanelTalulah Thomas (Cadeirydd) – Cynhyrchydd Amgueddfa CymruDafydd Wiliam – Prif Guradur Adeiladau HanesyddolElinor Gray-Williams – Pensaer, PEGWArchitectsGrant Peisley – DEG CymruMeilyr Tomos – Y Dref WerddMae’r sgwrs hon drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae fersiwn gyda’r cyfieithu ar y pryd hefyd ar gael.Cymraeg: Olion-Footprints 2021: Cartrefi Cynaliadwy Ddoe, Heddiw ac Yfory CYMRAEG - YouTubeCyfieithu ar y pryd: Olion-Footprints 2021: Sustainable Homes Past Present and Future WITH ENGLISH TRANSLATION - YouTubeFfarwelio â Ffasiwn BrysDim ond y diwydiant olew sy’n creu mwy o lygredd yn y byd na’r diwydiant ffasiwn, ac mae cynhyrchu ffasiwn yn gyfrifol am 20% o holl lygredd dŵr diwydiannol pob blwyddyn. Yn y DU, rydym yn prynu mwy o ddillad pob blwyddyn na unrhyw wlad arall yn Ewrop, ac mae tua 300,000 tunnell o hen ddillad yn cael eu llosgi neu eu rhoi mewn tomenni sbwriel pob blwyddyn. Mae’n amlwg fod gennym ni broblem gyda ffasiwn brys, ond sut allwn ni symud ymlaen?Bu’n panel yn trafod y prif faterion sy’n ymwneud a ffasiwn brys, y camau y gallwn eu cymryd fel unigolion, a hefyd sut i sicrhau fod cwmnïau mawr yn gweithredu. Beth ydy ‘greenwashing’? Beth mae cwmnïau ffasiwn yng Nghymru yn ei wneud i fod yn fwy cynaliadwy? Sut y gallwn dorri’r cylch o brynu’n newydd trwy’r amser a gwneud y mwyaf o’r dillad sydd gennym yn barod? Gwyliwch y drafodaeth i ddysgu mwy!PanelIzzy Mcleod (Cadeirydd) – Cynhyrchydd Amgueddfa Cymru, blog themuccycloud.comImogen Ferda-Riley – perchennog cwmni dillad cynaliadwy Clecs CymruElen Mai – blog cynaliadwyedd welshwanderer.comOphelia Dos Santos – dylunydd tecstiliauMae’r sgwrs hon drwy gyfrwng y Saesneg: Olion-Footprints 2021: Ffarwelio â Ffasiwn Brys Farewell to Fast Fashion - YouTubeCaru Bwyd Casau Gwastraff: Symud at Ddyfodol Bwyd CynaliadwyMae cartrefi’r DU yn gwastraffu 4.5 miliwn tunnell o fwyd bwytadwy pob blwyddyn, ac os petai gwastraff bwyd y byd yn wlad, hi fyddai’r allyrrydd trydydd mwyaf o nwyon tŷ gwydr ar ôl China a’r Unol Daleithiau. Mae nifer o brosiectau a mentrau’n cydweithio i greu dyfodol bwyd cynaliadwy, ac mae lleihau gwastraff bwyd yn gam gyntaf bwysig yn y broses.Bu ein panel yn trafod pam fod lleihau gwastraff bwyd yn bwysig a beth allwn ni wneud am hyn, pwysigrwydd bwyta a choginio’n dymhorol a’r economi fwyd leol, a materion ehangach am gynaliadwyedd bwyd ar draws a thu hwnt i Gymru. Gwyliwch i ddysgu mwy ac am gamau ymarferol o bethau bach all bawb wneud i helpu!PanelPearl Costello (cadeirydd) – ymgynghorydd cynaliadwyeddMargaret Ogunbanwo – sefydlydd cwmni bwyd Maggie’s African Twist, awdurDan Hunt – perchennog siop gynaliadwy Siop y GlorianBecca Clark – Green SquirrelMae’r sgwrs hon drwy gyfrwng y Saesneg ac ar gael yma: Olion-Footprints 2021: Caru Bwyd Casau Gwastraff Love Food Hate Waste - YouTube Lowri Ifor Rheolwr Addysg a Dehongli Cysylltwch â Lowri Ifor Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.