Casglu Covid: edrych eto ar ddulliau casglu y gorffennol
1 Medi 2021
,Ym mis Mawrth 2020, dechreuodd amgueddfeydd ar draws y byd gasglu straeon a gwrthrychau yn ymwneud â phandemig Covid-19. Yma yn Amgueddfa Cymru, lansiwyd holiadur digidol ym mis Mai 2020 fel cam cyntaf tuag at greu casgliad Covid cenedlaethol fyddai'n cael ei archifo yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Mae'r Amgueddfa wedi defnyddio'r dull hwn o gasglu gwybodaeth trwy holiaduron ers 1937.
Buan iawn y sylweddolwyd y byddai defnyddio'r un dull o gasglu hefyd yn rhoi cyfle i ni edrych eto ar rai o'r ymatebion i'r holiaduron cynnar ac ysbrydoli mentrau casglu yng Nghymru ar ôl Covid. Er mwyn i ni allu gwneud y gwaith hwn, ymgeisiwyd am nawdd gan Gronfa Gasgliadau Esmée Fairbairn Cymdeithas yr Amgueddfeydd. Gyda'r nawdd yma roedd modd i ni ddechrau project 12 mis i ddigideiddio'r holiaduron hanesyddol ac arbrofi gyda modelau newydd o gasglu trwy ymgysylltu â chymunedau.
Dechreuwyd y project ym mis Medi 2020, ar adeg pan oedd cyfyngiadau Covid wedi dechrau llacio. Y dasg gyntaf oedd digideiddio cannoedd o dudalennau o ymatebion o'r holiaduron a llyfrau ateb hanesyddol.
Cyhoeddwyd yr holiadur cyntaf gan yr Amgueddfa ym mis Rhagfyr 1937 ac fe'i hanfonwyd at 493 o gyfranwyr ar draws Cymru. Mae'n bosibl mai project Arsylwi Eang 1937 wnaeth ysbrydoli hyn, pan gofnodwyd bywydau bob dydd pobl ar draws Prydain. Wedi'i lansio yn ystod degawd o galedi economaidd a diweithdra, roedd yr 'Holwyddoreg ar Ddiwylliant Gwerin Cymru' yn gofyn i gyfranwyr nodi gwybodaeth am bob math o bynciau gan gynnwys bywyd cartref, cyhoeddus a diwylliannol eu hardaloedd lleol. Roedd hefyd yn annog pobl i anfon ffotograffau a darluniau a dod yn gyfranwyr rheolaidd er mwyn helpu i ddatblygu casgliad a fyddai'n sail i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, a sefydlwyd ym 1948. Wedi hynny, defnyddiwyd holiaduron a 'llyfrau ateb' yn rheolaidd gan yr Amgueddfa fel dull o gasglu gwybodaeth am ystod o bynciau hyd at y 1980au.
Wedi i ni ddigideiddio'r swp cyntaf o holiaduron, anfonwyd cais at gyrff gwirfoddol mewn gwahanol rannau o Gymru yn eu gwahodd i drawsgrifio'r ymatebion oedd wedi'u hysgrifennu â llaw. Erbyn hyn (mis Rhagfyr 2020) roedd Cymru mewn cyfnod clo arall, ac roedd yn teimlo fel amser da i'r Amgueddfa gynnig e-wirfoddoli yn rhan o'i rhaglen am y tro cyntaf erioed. Recriwtiwyd 11 gwirfoddolwr, bob un ohonynt yn siarad Cymraeg neu'n dysgu, am mai Cymraeg oedd iaith y deunydd gan fwyaf. Anfonwyd y delweddau digidol yn uniongyrchol at bob gwirfoddolwr i'w trawsgrifio, a ble bynnag posibl, anfonwyd deunydd oedd yn berthnasol i ardal leol y gwirfoddolwr. Roedd cyfleoedd hefyd i gwrdd dros Zoom a Teams i drafod y gwaith a rhannu profiadau. Hyd yn hyn, mae'r gwirfoddolwyr wedi cyfrannu o leiaf 180 o oriau o'u hamser ac rydym yn hynod ddiolchgar iddynt am eu cyfraniad. Yn y pen draw, bydd y deunydd a drawsgrifiwyd i'w weld ochr yn ochr â'r ymatebion holiadur trwy gronfa ddata gasgliadau'r Amgueddfa.
Cam nesaf y project fydd creu holiadur Covid newydd ar gyfer 2021. Gan fod Cymru wedi bod trwy glo bach, clo mawr a rhaglen frechu ar raddfa fawr erbyn hyn, roedden ni'n dal i deimlo fod gwybodaeth i'w gasglu oedd heb ei gynnwys yn holiadur 2020. Ond y tro hwn, roeddem am drafod â'n partneriaid cymunedol yn gyntaf a chael eu cymorth i ysgrifennu'r cwestiynau ar y cyd er mwyn sicrhau eu bod yn fwy cynhwysol. Gyda chymorth ein partneriaid ein nod yw ceisio cyrraedd cymunedau nad oedden nhw wedi gallu cymryd rhan yn holiadur 2020 o bosibl, ac y mae'r pandemig wedi cael effaith fawr arnynt.
Gyda lansiad holiadur Casglu Covid 2021 ym mis Mehefin, rydym nawr yn ceisio sicrhau y caiff cynifer o leisiau Cymru â phosibl eu clywed a'u cofnodi yn rhan o greu 'cof cenedlaethol' i Gymru. Rydym ni hefyd yn gobeithio creu cysylltiad â chymdeithasau hanes rhai o'r ardaloedd a ymatebodd i holiaduron gwreiddiol yr Amgueddfa, a'u gwahodd i ymchwilio rhai o'r straeon lleol. Trwy gynnal y project hwn, ein gobaith yw creu templed ar gyfer casglu ac ymgysylltu ar gyfer y dyfodol trwy ddysgu gwersi gan ddulliau casglu'r gorffennol er mwyn i ni allu casglu yn gyflym, yn ymatebol ac yn hyblyg yn y dyfodol.