Cofnodi bywyd bob dydd yng Nghymru'r Ugeinfed Ganrif
1 Medi 2021
,Dros yr wyth mis diwethaf, rydw i wedi bod yn casglu gwybodaeth am yr holiaduron a anfonwyd gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru mewn amryw ddegawdau yn ystod yr ugeinfed ganrif.
Mae'r holiaduron yn canolbwyntio ar gofnodi bywyd bob dydd yng Nghymru a chasglu gwybodaeth gan y cyfranwyr am wahanol bynciau yn ymwneud â bywyd cymdeithasol a diwylliannol y Cymry. Maen nhw'n rhoi cipolwg hynod ddiddorol i ni ar sut oedd pobl yn gweld y byd o'u cwmpas a'r hyn roedden nhw'n ei wneud o ddydd i ddydd, yn ogystal â disgrifio eitemau yn eu cartrefi neu offer gwaith. Yn aml iawn mae'r ymatebion yn cynnwys gwybodaeth leol fanwl iawn. Mae'r holiaduron cynharaf yn y casgliad o 1937. Mae llawer o'r cyfranwyr wedi cynnwys darluniau o'r eitemau a ddisgrifiwyd ganddynt ac maent wedi cymryd gofal ac amser i ddisgrifio'r ffordd y cawsant eu defnyddio.
Un o gyfranwyr casgliad 1937 oedd W. Beynon Davies a roddodd wybodaeth am Ddyffryn Aeron a chanolbarth Sir Aberteifi. Yn y darlun hwn, mae'n disgrifio dau wahanol fath o gert Gambo a ddefnyddiwyd yn Nyffryn Aeron, y naill ag ochrau a'r llall ag ochrau isel at ddibenion gwahanol
Dyma G. Elfed Jones o Faesteg hefyd yn nodi llawer o ffeithiau diddorol am eitemau domestig ac yn cynnig llawer o sylwadau am ei filltir sgwâr gan gynnwys darlun o focs haearn a rhwbiadau o geiniog cwmni Crown Copper dyddiedig 1811. Roedd Islwyn Ffowc Elis, nofelydd yn ddiweddarach, yn blentyn ysgol adeg cyhoeddi'r holiaduron cyntaf, ac fe gyfrannodd ddarluniau pensil o heyrn cwicio ac eitemau eraill a ddefnyddiwyd yn ei gartref.
Ymhlith yr holiaduron diddorol eraill mae casgliad 1957 a anfonwyd ar y cyd gan Gyngor Gwlad Môn a'r Amgueddfa Werin, fel y gelwid Sain Ffagan ar y pryd. Cafwyd rhestri manwl o ddiwrnod gwaith a phatrymau bwyta arferol gweithwyr gwledig. Ymhlith y cwestiynau oedd faint o'r gloch oedd y cyfranwyr yn codi yn y bore, faint o'r gloch oedden nhw'n bwyta'u brecwast, beth oedd eu horiau gwaith, pa fath o waith oedden nhw'n ei wneud a pha fath o brydau oedden nhw'n eu bwyta, a beth oedd yr enw ar y bwyd? Mae'n rhoi darlun unigryw i ni o ddiwrnodau llafurus a hir y gweithwyr gwledig. Nododd Frances Grace Hughes o Lanfachreth bod ei diwrnod gwaith yn cychwyn am 5am a'i bod yn mynd i'r gwely am 9pm. Y gweision oedd y cyntaf i ddeffro, yna meistr a meistres y tŷ. Cyn brecwast, roedd y stablau a'r beudai'n cael eu glanhau. Roedd brecwast, sef bara a llaeth, am 6am y bore a thatws a chig moch i ginio am 12pm. Roedd amryw dasgau i'w cwblhau yn ystod y dydd gan gynnwys godro am 7am a 5pm, ac am 8pm roedd swper. Ar ôl swper, roedden nhw'n canu ac yn adrodd straeon neu'n paratoi prydau bwyd y diwrnod canlynol.
Ym 1958, roedd Lewis Williams oedd yn byw yn Nhreharris yn cofio traddodiadau Nadolig ei blentyndod yng Nghorris yn glir. Rhoddodd ddisgrifiad manwl o holl weithgareddau'r gymuned gan gynnwys Calennig a thraddodiad 'ciga' yn ystod gaeaf caled 1894, pan oedd ffermydd cyfagos yn rhoi cig i deuluoedd oedd yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd.
Yn ystod y 1970au a'r 1980au, roedd yr holiaduron yn canolbwyntio ar dafodiaith ac iaith, a chadw tŷ a pharatoi bwyd. Wrth ateb cwestiynau am fwyd a choginio, gofynnwyd i'r cyfranwyr nodi'r math o ardal oedden nhw'n ateb yn ei chylch e.e. ar fferm, ardal wledig, ardal chwareli llechi neu ardal pyllau glo. Gofynnwyd i'r cyfranwyr nodi gwybodaeth am wahanol fwydydd oedd yn cael eu bwyta wrth bob pryd, ar wahanol ddiwrnodau ac mewn gwahanol dymhorau.
Dyma flas yn unig ar yr wybodaeth sydd yn y casgliad, ac mae'n ddrych ar fywyd yng Nghymru. Mae modd i chi bori drwy yr holiaduron a’r llyfrau ateb yma.