Hafan y Blog

Blog gwadd e-wirfoddolwr

Rhodri Edwards, 1 Medi 2021

Helo, Rhodri Edwards ydw i ac rydw i wedi bod yn e-wirfoddoli gydag Amgueddfa Cymru ers Ionawr 2021. Rydw i’n astudio Lefelau A mewn Hanes, Llenyddiaeth Saesneg a Daearyddiaeth yn Ysgol Gyfun Aberaeron. Rydw i wedi bod yn helpu’r Adran Hanes ac Archaeoleg yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru i drawsgrifio rhai holiaduron sy’n manylu ar fywyd yng Nghymru o’r 1930au i’r 1980au. Mae pawb yn Amgueddfa Cymru wedi bod yn gymwynasgar a chyfeillgar iawn, yn enwedig fy ngoruchwyliwr Sioned Williams sydd bob amser yn ymateb yn gyflym i unrhyw ymholiadau sydd gennyf ac yn garedig yn cynnig llawer o gyngor a chefnogaeth. Rhoddodd Sioned sesiwn hyfforddi pan ddechreuais a wnaeth hi gyflwyno ni i’r gwaith gwirfoddoli, gan roi awgrymiadau defnyddiol fel defnyddio’r gair [sic] y tu ôl i unrhyw gamgymeriadau sillafu, atalnodi a gramadeg a rhoi marciau cwestiwn ar ôl unrhyw eiriau rydym yn ansicr ohonynt, felly roedd hyn yn caniatáu i ni i weithio’n effeithiol, yn annibynnol ac ar ein cyflymder ein hunain. Trwy drawsgrifio rhai o’r holiaduron, rydw i wedi dysgu llawer am hanes a threftadaeth gymdeithasol fy ardal leol megis y ffordd amaethyddol a ffermio o fyw, nodweddion ffermdy, pa fathau o fwyd byddai teuluoedd ffermio yn cynhyrchu yn aml, er enghraifft cynhyrchu llaeth fel hufen a chaws. Mae darllen am brofiadau pobl wedi dod â hanes yn fyw i mi ac mae’n ddiddorol gweld sut mae’r dafodiaith Gymraeg wedi newid ers y 1930au. Rwy’n mwynhau gwirfoddoli a gweithio gydag Amgueddfa Cymru gan fynychu cyfarfodydd Zoom a Microsoft Teams lle rwy’n gwrando ar brofiadau gwirfoddolwyr eraill am yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu a’i ddarganfod pan maen nhw wedi bod yn trawsgrifio’r holiaduron hanesyddol. Mae cwrdd â phobl eraill sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli i Amgueddfa Cymru, ymuno â digwyddiadau a drefnwyd yn feddylgar gan Amgueddfa Cymru fel y partïon rhithwir ar Eventbrite a derbyn pecyn gwirfoddoli wedi helpu i wneud i mi deimlo’n rhan werthfawr o Amgueddfa Cymru. Rwyf wedi datblygu fy sgiliau gwirio trwy drawsgrifio holiaduron ac rwyf wedi cael mwy o fewnwelediad i’r pwnc o Hanes sydd wedi rhoi profiad gwerthfawr imi. Diolch yn fawr iawn i bawb am eu holl gymorth a chefnogaeth, rwy’n gwerthfawrogi’r cyfle i fod yn wirfoddolwr yn Amgueddfa Cymru.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.