Modelau amgueddfa
4 Hydref 2021
,Mae gan yr Amgueddfa dri model pensaernïol o adeilad Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Cafodd pedwar model eu creu, ond erbyn hyn dim ond mewn hen ffotograff lliw sepia y gellir gweld yr hynaf. Nid yw'n syndod o ystyried mai prototeip papur bregus ydoedd. Mae'r nesaf, 'y model gwreiddiol' fel y'i gelwir yn barchus, mor ddrudfawr (ac anferth) mae wedi ei ddatgymalu a'i bacio, ac yn cael ei gadw mewn storfa ddiogel. Ciwb Perspex cŵl o'r 1960au yw'r model nesaf, a chanddo blatiau chwareus y gellid eu symud sy'n cynrychioli gwahanol loriau'r amgueddfa. Mae gwaith cadwraeth yn cael ei gynnal ar y model hwn ar hyn o bryd. Cafodd y model olaf, sydd hefyd yn cynnwys ffigurau, ceir a gwyrddni bach plastig, ei greu ym 1988 i ddarlunio Estyniad Cwrt yr Amgueddfa gan Bartneriaeth Alex Gordon.
Sefydlwyd Amgueddfa Genedlaethol Cymru trwy Siarter Frenhinol ym 1907, ac wedi pennu'r lleoliad ym Mharc Cathays, Caerdydd, cafwyd cystadleuaeth agored ym 1909 i ddylunio'r adeilad. Cafodd 130 o ddyluniadau eu cyflwyno, a chwmni o benseiri o Lundain, A. Dunbar Smith & Cecil C. Brewer, ddaeth i'r brig. Nid oedd yr Amgueddfa yn bwriadu adeiladu'r cyfan ar unwaith, felly roedden nhw'n ffafrio dyluniad fyddai'n caniatáu ychwanegu darnau dros amser, yn unol â'r gyllideb oedd ar gael. Cafodd y garreg sylfaen ei gosod gan y Brenin Siôr V a'r Frenhines Mair ar 26 Mehefin 1912, ac ym 1913 dechreuwyd gwaith ar yr uwchstrwythur. Gan nad oes sôn amdano yng Nghofnodion Cyngor yr Amgueddfa, rydyn ni'n cymryd y cafodd y model papur cain hwn ei greu a'i gyflwyno at sylw'r Cyngor gan Smith & Brewer.
Mae'r cyfeiriad cyntaf at y model gwreiddiol yn ymddangos yng Nghofnodion Cyngor yr Amgueddfa, 1 Tachwedd 1910-31 Hydref 1911. Maent yn nodi y penodwyd Is-Bwyllgor yn cynnwys y Cadeirydd, Syr E. Vincent Evans, a'r cerflunydd enwog o Gymro, W. Goscombe John, i ddechrau trefnu creu model, a chanddynt yr hawl i dderbyn tendr am hyd at £200 am ei greu. Yn ddiweddarach, fe welwn y derbyniwyd dyfynbris o £165 gan Mr. J. Lambert (o Lundain). Byddai'r model yn dangos yr adeilad cyfan, byddai wedi'i greu o bren a'r raddfa fyddai chwarter modfedd i bob troedfedd. Yn nes ymlaen, sonnir fod Mr Lambert yn gweithio'n rhy araf a pennwyd dyddiad terfyn o 1 Hydref 1912!
Yn y Cofnodion ar gyfer 27 Hydref 1911 i 22 Hydref 1912, nodir y cafodd y model terfynol ei arddangos yn yr Ystafell Ddeisebu yn Neuadd San Steffan am bythefnos ym mis Mai 1912, ac ym mis Gorffennaf roedd i'w weld yn yr Amgueddfa Dros Dro, Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Adeiladwyd yr Amgueddfa Dros Dro yn yr iard tu ôl i Neuadd y Ddinas, a bu'r Amgueddfa'n ei defnyddio ar gyfer arddangosfeydd tan fod yr adeilad terfynol wedi'i orffen ac yn barod i roi cartref i'r casgliadau. Cafodd ei anfon i'r Amgueddfa Genedlaethol hefyd, a gynhaliwyd yn Wrecsam ym 1912. Mae'r deunydd marchnata a hyrwyddo yma'n dangos ei bwysigrwydd, a phenllanw degawdau o lafur a arweiniodd at sefydlu Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Hefyd, roedd yn paratoi trigolion y ddinas am sut y byddai'r Amgueddfa yn gweddnewid ardal Parc Cathays, gyda'r adeilad yn swatio rhwng Neuadd y Ddinas (a adeiladwyd ym 1906) ar y dde a'r Brifysgol (a adeiladwyd ym 1883) tu cefn iddi.
Cafodd un o'r ffotograffau gorau o'r model gwreiddiol ei gymryd pan gafodd ei arddangos yn y Brif Neuadd hanner can mlynedd yn ddiweddarach i ddathlu Jiwbilî'r Amgueddfa ym 1957. Mae'r ffotograff hwn yn ymddangos yn yr Adroddiad Blynyddol gyda'r capsiwn "Arddangosfa'r Jiwbilî yng nghanol y Brif Neuadd. Ar y chwith, mae model yn dangos yr Amgueddfa pan fydd wedi'i gorffen...". Ymddengys mai dyma'r tro olaf i'r model gael ei arddangos yn gyhoeddus.
Nawr, ymlaen â ni i'r Chwedegau ac at fodel – a chyfnod – hollol wahanol! Dyma flwch Perspex clir sy'n mesur tua 2 droedfedd sgwâr a thua 5 modfedd o uchder, yn dangos cynllun lloriau adeilad yr Amgueddfa. Cafodd ei gomisiynu gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru yn rhodd i Wasanaeth Ysgolion yr Amgueddfa ym 1969 (costiodd £173) er mwyn hwyluso'u gwaith o esbonio'r adeilad i grwpiau o blant ysgol.
The staff of the Museum Schools Service often give talks to large groups of school children in which they explain the purpose and lay-out of the Museum. On these occasions it has proved difficult to give a clear idea of the location of the principal galleries to a seated audience. The new model provides an admirable aid for this purpose. It is made of clear Perspex and is constructed in such a way so that each “floor” can be re-moved separately for explanatory comments. Each Museum Department has been given a colour code to distinguish it when the model is fully assembled.
Pymthegfed Adroddiad Blynyddol Cyfeillion Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1969 [tudalen 9].
Y dylunydd oedd Christopher Shurrock (g. 1939), arlunydd, gwneuthurwr printiau a cherflunydd a oedd bryd hynny yn dysgu Astudiaethau Celf Sylfaenol yn Sefydliad Addysg Uwch Caerdydd. Ac yntau'n aelod cynhyrchiol o Grŵp 56 Cymru ac Academi Frenhinol Gorllewin Lloegr yn y 1960au, ei ddiddordeb pennaf oedd ymchwilio i ddirnadaeth, lliw a strwythurau wedi'u darlunio, a'u dadelfennu i'w ffurfiau mwyaf sylfaenol. Dyma Shurrock yn esbonio'r model '...gall gwedd arwynebol a mecanwaith ddrysu gyda gormod o stwff mympwyol, mae'r cynnwys mewnol yn aml yn fregus, nid yw cyd-ddigwyddiad o reidrwydd yn brawf. Y broblem fythol yw dirnad beth sydd wir angen cael ei ddangos...' .
Fel y nodwyd eisoes, cafodd y model olaf ei greu ym 1988 i ddarlunio Estyniad Cwrt yr Amgueddfa gan Bartneriaeth Alex Gordon.
Pensaer a Chymro oedd Syr Alexander John Gordon CBE (1917-1999). Fe ddyluniodd nifer o adeiladau mawr y De, gan gynnwys Theatr y Sherman yng Nghaerdydd (1973) ac estyniad y Gyfnewidfa Ffôn yn Abertawe (1971). Bu hefyd yn llywydd Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain rhwng 1971 a 1973. Cafodd yr estyniad yr enw 'estyniad y cwrt' am ei fod yn cynnwys llenwi'r gofod rhwng y ddwy adain a oedd, yn nyluniad gwreiddiol y penseiri, yn cynnwys gardd gwrt awyr agored. Fodd bynnag, yn ei hanfod adeiladu to dros yr ardal ganolog a wnaed, fel y gwelwch yma.
Cymharwch hwn gyda'r model papur gwreiddiol yn dangos y man canolog agored:
Mae'r modelau hyn yn agos iawn at ein calonnau. Mae'r cynharaf yn cynrychioli penllanw'r gobaith a'r freuddwyd o ddechrau creu hunaniaeth Gymreig genedlaethol, a'r modelau ers hynny yn dangos ac yn dathlu esblygiad a datblygiad y weledigaeth sydd wrth wraidd yr Amgueddfa heddiw.
Mae hefyd yn bleser gennym adrodd fod ysbryd creu modelau yr Amgueddfa yn dal yn fyw ac yn iach! Yn ystod y cyfnod clo dechreuodd y Cynorthwy-ydd Amgueddfa Jade Fox ail-greu rhai o orielau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Cymerwch gip ar y ffilm fer hon ohoni'n esbonio sut y daeth y project yn fyw, pan oedd ganddi amser i'w lenwi a hen focs pizza yn sbâr...
sylw - (1)