Dad-drefedigaethu Casgliad Amgueddfa Cymru - dechrau’r daith
6 Rhagfyr 2021
,Mae casgliadau amgueddfeydd yn aml wedi’u gwreiddio mewn trefedigaethu a hiliaeth - ac nid yw Amgueddfa Cymru yn eithriad.
Mae mudiad Mae Bywydau Du o Bwys wedi sbarduno trafodaeth ynghylch y straeon gaiff eu hadrodd gan ein casgliadau a’n harddangosfeydd, gan alw arnom i wynebu ein hanes a herio anghydraddoldeb.
Mae gennym lawer mwy o waith i’w wneud er mwyn sicrhau bod ein casgliadau yn cynrychioli pawb, a’u bod yn rhoi darlun mwy cytbwys, cywir a dad-drefedigaethol o’n hanes. I helpu gyda’r gwaith hwn, rydym wedi datblygu siarter ar gyfer dad-drefedigaethu casgliad Amgueddfa Cymru.
Rydym yn recriwtio ar gyfer Rheolwr Project, Dadgoloneiddio’r Casgliadau. Y dyddiad cau yw 13 Rhagfyr - ymgeiswch nawr i fod yn ran o ddad-drefedigaethu'r casgliadau cenedlaethol.
Diffinio Dad-drefedigaeth
Does dim un diffiniad penodol o ystyr dad-drefedigaethu, felly mae’r siarter yn esbonio beth mae’n ei olygu i Amgueddfa Cymru. Mae’n diffinio chwe maes allweddol lle byddwn ni’n gweithio gyda chymunedau perthnasol i ddad-drefedigaethu’r casgliad.
Ar hyn o bryd rydyn ni’n cynnal archwiliad o’n casgliad. Mae ein canfyddiadau hyd yn hyn yn dangos fod cysylltiadau â chaethwasiaeth wedi’u gwau i ffabrig cymdeithas Cymru. Mae gan bob storfa, pob silff, a phob oriel wrthrychau sydd angen eu dad-drefedigaethu.
Dros y misoedd nesaf byddwn yn cychwyn ar raglen o weithdai cymunedol i edrych yn fwy manwl ar y gwrthrychau hyn. I roi syniad i chi o’r math o wrthrychau fydd dan sylw, dyma ambell enghraifft o’r casgliad.
Ceiniog Sir Fôn
Roedd ceiniogau Sir Fôn yn llenwi pocedi sawl person tua diwedd y 18fed ganrif. Cafodd miliynau eu bathu gan Gwmni Mwyngloddio Parys gyda chopr o weithfeydd yr ynys, oherwydd prinder mewn arian mân swyddogol. Roedd Thomas Williams, partner gweithredol Cwmni Mwyngloddio Parys, yn eu defnyddio i dalu ei weithwyr, ond roedd y ceiniogau’n cael eu derbyn fel tâl ledled Prydain. Roedd y ceiniogau hyn yn gwneud trafodion bychan yn haws, ac yn hwb i’r fasnach gartref. Gwnaeth y ceiniogau hyn arian i Williams, ond daeth y rhan fwyaf o’i gyfoeth o’r diwydiant copr.
Cafodd copr o Fynydd Parys a mwyngloddiau eraill yng Nghymru ei ddefnyddio i wneud breichledau ‘manila’, gâi eu rhoi fel tâl i fasnachwyr caethweision yn Affrica. Câi copr Cymru hefyd ei ddefnyddio mewn llongau caethweision a llongau rhyfel y Llynges Frenhinol. Roedd y diwydiant copr yn allweddol wrth i Gymru droi’n wlad ddiwydiannol, a gwnaeth Thomas Williams ei ffortiwn yn ei sgil. Roedd y fasnach gaethwasiaeth yn cyfrannu at ei gyfoeth, a bu’n ymladd yn erbyn ei diddymu. Mae’r geiniog hon yn dangos y cyfoeth anferth a wnaed gan ddynion busnes o ganlyniad i gaethwasiaeth, ond hefyd sut y gwnaeth pobl gyffredin ar draws Cymru a Phrydain elwa.
Hances boced i goffáu’r Frenhines Fictoria
Roedd hancesi poced i goffáu digwyddiadau brenhinol, gwleidyddion, a brwydrau milwrol yn boblogaidd yn y 19eg ganrif. Roedden nhw’n hawdd i’w creu ac yn fforddiadwy. Gwnaed hon i goffáu Jiwbilî Diemwnt y Frenhines Fictoria ym 1897, 60 mlynedd ers iddi ddod yn frenhines. Roedd yr hances yn berchen yn wreiddiol i deulu o Ben-y-bont ar Ogwr, a chafodd ei rhoi i’r Amgueddfa ym 1954 dan y categori ‘ymweliadau a dathliadau brenhinol’. Mae’r dyluniad yn cynnwys delweddau o Fictoria a’i holynwyr, gyda baneri Jac yr Undeb, y Faner Frenhinol a’r Lluman Gwyn o boptu, a’r arysgrif ‘WORLD WIDE EMPIRE / INDIA / WEST INDIES / CANADA / AFRICA / AUSTRALIA / EGYPT / CHINA / 1837-1897 / QUEEN VICTORIA / EMPRESS OF INDIA.’ Mae’r hances boced yn enghraifft o wrthrychau ar draws ein casgliad sy’n dathlu a choffáu’r Ymerodraeth Brydeinig yn ddi-gwestiwn.
Coco de mer
Mae’r casgliad Gwyddorau Naturiol yn cynnwys pob math o sbesimenau - gan gynnwys mwynau prin, planhigion meddyginiaethol, a chofroddion hela - o wledydd gafodd eu trefedigaethu. Un enghraifft yw’r coco de mer (Lodoicea maldivica), neu’r gneuen goco ddwbl. Mae’n rhywogaeth sy’n endemig i Praslin a Curieuse, dwy o ynysoedd y Seychelles. Gwladychwyd y Seychelles gan Brydain ym 1794; a chafodd ei hannibyniaeth ym 1976.
Y coco de mer sy’n cynhyrchu’r hadau mwyaf yn y byd, ac maent yn werthfawr oherwydd eu siâp anarferol. Mae’n brin erbyn hyn, a chaiff ei warchod gan y Confensiwn ar y Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau sydd Mewn Perygl (CITES). Mae gennym chwe hedyn coco de mer yn ein casgliad, gan gynnwys un sy’n cael ei arddangos yn barhaol, ond ychydig a wyddom am sut y cawsant eu casglu. Mae gan y planhigyn le pwysig yn nhraddodiadau, diwylliant a chwedloniaeth y Seychelles, ond ni fu ymchwil trwyadl i’w arwyddocâd, ac nid yw’n cael ei gynnwys yn yr wybodaeth sydd gan yr Amgueddfa am y gwrthrych.
Jan van de Cappelle, Gosteg, 1654
Caiff Gosteg (1654) gan Jan van de Cappelle, a gaffaelwyd gan yr Amgueddfa ym 1994, ei ddisgrifio yn ein Llawlyfr fel ‘un o baentiadau morwrol gorau’r 17eg ganrif.’ Caiff y gwaith ei ddisgrifio fel arfer yng nghyd-destun ei safon a’i bwysigrwydd. Ond beth am edrych tu hwnt i’r wyneb, a thrin y gwaith fel dogfen hanesyddol y gellir ei weld a’i ddeall o sawl safbwynt? Beth sy’n digwydd i Gosteg ar ôl i ni dynnu’r lens trefedigaethol?
Erbyn y 17eg ganrif roedd gan yr Iseldiroedd drefedigaethau ledled y byd, ac roedd yn rhan o fasnach gaethweision yr Iwerydd. Yn ogystal â bod yn artist, roedd van de Cappelle yn fasnachwr cefnog o Amsterdam ac yn berchen ar waith lliwio. Roedd y paentiad hwn yn ddatganiad o gyfoeth a phŵer yr Iseldiroedd mewn cyfnod pan oedd imperialaeth ar gynnydd yn Ewrop. Ni wyddom beth yw hanes cynnar y paentiad, ond erbyn y 18fed ganrif roedd yn rhan o gasgliad Syr Lawrence Dundas (1712-1781), Albanwr oedd yn berchen ar blanhigfa a chaethweision yn y Caribî, ac un o fuddsoddwyr yr East India Company. Ydi’r ffeithiau hyn yn newid y ffordd ydyn ni’n edrych ar y llun hwn?
Coral Lands gan H. Stonehewer Cooper, 1880
Mae Llyfrgell yr Amgueddfa yn cynnwys casgliad o lyfrau teithio o’r 19eg ganrif, gyda hanesion teithiau wedi’u hysgrifennu o safbwynt Gorllewinol. Llyfrau ar gyfer cynulleidfa Ewropeaidd yw’r rhain, ac mae eu tôn yn adlewyrchu hyn. Yn aml byddai’r awduron yn cyfeirio at y manteision a’r cyfleoedd oedd yn codi o ddefnyddio adnoddau naturiol gwledydd, at ddibenion masnachol.
Un enghraifft o hyn yw Coral Lands, gan Herbert Stonehewer Cooper (1847-1906) a gyhoeddwyd ym 1880. Newyddiadurwr o Loegr oedd Cooper, a theithiodd i ynysoedd y Môr Tawel gan ysgrifennu am ei brofiadau. Yn ei gasgliad i’r llyfr, dywedodd ei fod yn teimlo bod dyletswydd ar lywodraeth Prydain i ofalu am drigolion yr ynysoedd, yn hytrach na “gadael y peth i ffawd”. Cafodd argraffiadau diweddarach o’r llyfr eu galw The Coral Lands of the Pacific: their Peoples and their Products sy’n awgrym cliriach o awydd Cooper i dynnu sylw at gyfleoedd masnachol i Brydain. Roedd yr Almaen wedi dechrau dangos diddordeb mewn trefedigaethu Samoa, ac mae modd edrych ar lyfr Cooper fel ymgais i berswadio Prydain i hawlio’r ynys, fel y gwnaethant yn Fiji ychydig flynyddoedd ynghynt.
Un o’r meysydd y byddwn yn canolbwyntio arno wrth i ni adolygu’r casgliadau yw sut y gwnaeth llyfrau fel hyn ar ddiwedd y 19eg ganrif gyfrannu at argraff Ewropeaidd o wledydd eraill a’u trigolion, gan annog ac atgyfnerthu syniadau ynghylch trefedigaethu.
Camau nesaf
Mae’r cam cyntaf o archwilio’r casgliadau Celf, Hanes ac Archaeoleg, Gwyddorau Naturiol a’r Llyfrgell yn sylfaen i ni wrth fynd ati i gydweithio gyda chymunedau ar draws Cymru i ddemocrateiddio a dad-drefedigaethu'r casgliad.
Gobeithiwn allu cynnig gwell diffiniad o beth yw ystyr dad-drefedigaethu casgliad yr Amgueddfa, gwella mynediad cymunedau at y gwrthrychau hyn, a gwella’r defnydd ohonynt yn y dyfodol. Byddwn yn gwerthfawrogi gwybodaeth, arbenigedd a phrofiadau cymunedau i greu gwell dealltwriaeth o’r casgliad trwy nifer o wahanol safbwyntiau.
Cadwch olwg am fwy o straeon a blogiau wrth i ni ddal i ymchwilio a datblygu gyda’n cymunedau. Ymunwch â ni ar ein taith tuag at ddad-drefedigaethu'r casgliad.
Yn y cyfamser, os oes diddordeb ganddo chi mewn ymgeisio am swydd yn dad-drefedigaethu'r casgliadau cenedlaethol, rydym yn recriwtio ar gyfer Rheolwr Project, Dadgoloneiddio’r Casgliadau. Y dyddiad cau yw 13 Rhagfyr - ymgeiswch nawr.
sylw - (3)
FAO: Heartland Patriot
Thank you for writing to Amgueddfa Cymru concerning the article ‘Decolonising Amgueddfa Cymru’s Collection – the journey begins’.
The intention of decolonisation is not to erase history, or the history of the object, but to work collaboratively with communities to develop multiple perspectives to support a better understanding and deeper meaning. Decolonising the collection will mean that we have more information about objects, not less. We will be able to present a more balanced, authentic and decolonised account of history.
Yours sincerely
Amgueddfa Cymru