Aros am y gwanwyn...
8 Chwefror 2010
,Braf oedd gweld cymaint o bobl allan ar safle Sain Ffagan bnawn Gwener. Roedd fel petai'r safle wedi deffro fymryn - mae hi mor hawdd anghofio, dros y gaeaf, cyn gymaint o ymwelwyr sy'n dod i'n gweld ni y munud y bydd y tywydd gaeafol-go-iawn wedi gostegu.
Er bod digon wedi bod yn mynd yn ei flaen ar y safle yn ystod y misoedd diwethaf, mae'r rhan fwyaf wedi bod yn digwydd tu ôl i gefnau'r ymwelwyr: trwsio toi gwellt, torri cwysi ar gyfer ceblau, cynnal gwaith cadwraeth ac ail-osod arddangosfeydd. Erbyn heddiw, mae'r safle wedi ei hawlio'n ôl gan y cyhoedd. Ar ôl taith i lynnoedd Cosmeston bnawn Sadwrn, ro'n i'n argyhoeddiedig bod yr rhan fwyaf o bobl y de-ddwyrain wedi deffro o'u trwmgwsg gaeaf. Roedd 'na fwy o bobl yno nag oedd o hwyaid ar y llyn.
Lan yn Eglwys Teilo Sant, mae'r arlunydd Fleur Kelly wedi bod yn cwblhau gwaith pellach ar baneli pren yn y gangell. Gan mai'r ardal hon oedd yn ardal fwyaf sanctaidd yn yr Eglwys (ac yn dal i fod, mewn rhai achosion), mae cynllun yr addurniadau yn adlewyrchu chwaeth a meddylfryd y clerigwyr fyddai'n gweithio yno yn y 16ed ganrif. Mae'r murluniau yn dangos yr Archesgob Tomos a Becet, a'r sant arwrol, Siôr. (I'r rhai ohonoch sy'n pendronni pam bod Siôr yn ymddangos mewn eglwys gymreig, bydd blog am hynny yn y dyfodol agos!). Rydym wedi dewis cynllun o angylion cerddorol, yn gafael mewn offerynnau o'r cyfnod 1500-1530, ar gyfer y paneli pren ar y sgrîn.
Mi es â chamera newydd yr Adran Addysg i fyny i'r Eglwys hefo fi, gan obeithio tynnu ffilm o Fleur wrthi'n gweithio i'w rannu gyda chi yma ar y blog. Yn anffodus, nid Scorsesyn mohonof, felly dyma i chi luniau llonnydd o fy ffilm gyntaf, sigledig. Bydd Fleur yn dychwelyd ymhen rhai wythnosau i orffen y gwaith. Mae paent pigment traddodiadol yn hir iawn, iawn yn sychu - gobeithio erbyn hynny y byddaf wedi dysgu sut i ddefnyddio'r camera'n well, a chyflwyno ffilm i chi sy'n debycach i 'The Agony and the Ecstasy' na 'Pollock'...