Hafan y Blog

Project gwirfoddoli yn ennill gwobr!

Sian Taylor-Jones, 16 Tachwedd 2022

Mae ‘Gardd ein Hamgueddfa’ yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wedi derbyn gwobr gymdogaeth Lefel 3 – Cynnydd gan Cymru yn ei Blodau a’r RHS. 

Rydym wrth ein boddau o dderbyn y wobr hon ar ôl cyfnod mor fyr. Mae’n brawf o waith caled ein gwirfoddolwyr, wnaeth ddim ond dechrau ar y project ym mis Mawrth 2022. Fe wnaeth y beirniaid gydnabod ein “gweledigaeth o greu newid cadarnhaol”, oedd yn un o amcanion y project, ac yn un o brif ymrwymiadau Amgueddfa Cymru.

Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio i wella tiroedd yr Amgueddfa, clirio chwyn, a chreu cynefinoedd newydd ar gyfer bywyd gwyllt. Mae grŵp yn cyfarfod bob bore Iau, ac mae grŵp llai o Dimensions UK yn cefnogi’r gwaith. Os hoffech ymuno â ni i wneud gwahaniaeth yng Nghaerdydd, ewch i Cyfleon cyfredol | Museum Wales .

 

Sian Taylor-Jones

Cydlynydd Project Gardd Amgueddfa Cymru
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.