Hafan y Blog

Agor yr Amgueddfa Genedlaethol yn Hydref 1922

Kristine Chapman, 28 Hydref 2022

Ar 28 Hydref byddwn yn dathlu can mlynedd ers i Amgueddfa Cymru agor ei drysau i’r cyhoedd am y tro cyntaf. Er mai yn 2007 oedd canmlwyddiant swyddogol yr Amgueddfa, yn nodi sefydlu’r Amgueddfa o dan Siarter Frenhinol yn 1907, roedd y daith i’w hagor yn broses lawer arafach, gyda chryn oedi, yr amharwyd arni gan anferthedd y Rhyfel Mawr. 

Ar ôl caniatáu’r Siarter, cyflogwyd penseiri i ddylunio’r adeilad newydd a gosodwyd y Garreg Sylfaen gan Siôr V ar 26 Mehefin 1912. Y bwriad gwreiddiol oedd cwblhau’r adeilad fesul cam, felly codwyd digon o arian i ddechrau ar y rhan ddeheuol (yn cynnwys y Brif Neuadd) o’r adeilad. 

Ffotograff arlliw sepia o’r Brenin Siôr V a’r Frenhines Mary yn sefyll o dan ganopi streipïog yn ystod y seremoni i osod y Garreg Sylfaen. Mae’r menywod yn gwisgo ffrogiau hir golau gyda hetiau mawr ac mae’r dynion yn gwisgo gwisg filwrol seremonïol

Gosod y Garreg Sylfaen, 26 Mehefin 1912

Pan ddechreuodd y rhyfel yn 1914, parhaodd y gwaith i ddechrau, fel y dengys ffotograffau o 1915, ond cyn hir roedd diffyg deunyddiau adeiladu (yn enwedig dur a phlwm) a llafurwyr yn golygu y bu’n rhaid atal y gwaith. Pan ailddechreuodd ar ôl diwedd y rhyfel, roedd yr hinsawdd yn wahanol iawn. Profodd Prydain ddiweithdra a thlodi difrifol, a phlymiodd y wlad i ddirwasgiad o ganlyniad.

Ffotograff o’r Amgueddfa yn cael ei hadeiladu dan orchudd sgaffaldiau a chraeniau

Adeiladu adeilad yr Amgueddfa ym Mharc Cathays, 1915

Yn erbyn y cefndir hwn, hyd yn oed gyda gwaith adeiladu yn parhau i fynd rhagddo, agorwyd rhan orllewinol y Brif Neuadd i’r cyhoedd ar 28 Hydref 1922. Bedwar diwrnod ynghynt roedd y byrddau hysbysu o amgylch yr adeilad wedi cael eu tynnu i ffwrdd, ac er na chynhaliwyd seremoni ffurfiol ar yr adeg honno, daeth Llys Llywodraethwyr yr Amgueddfa ar ymweliad arolygu, cyn mynychu cinio yn Neuadd y Ddinas gyda’r Arglwydd Faer ar y diwrnod cynt.

Ffotograff o’r tu allan i’r Amgueddfa Genedlaethol wedi’i dynnu o’r de-orllewin. Mae ambell goeden yn y blaendir a gellir gweld un neu ddau o bobl yn cerdded o amgylch yr adeilad

Golygfa o’r tu allan i’r Amgueddfa o’r de-orllewin

Yn ystod y pymtheng mlynedd ers ei sefydlu roedd yr Amgueddfa wedi bod yn cyflogi staff ac adeiladu casgliadau yn raddol. Ni chynhyrchwyd arweinlyfrau ar gyfer yr agoriad anffurfiol; ni chyhoeddwyd yr arweinlyfr cyntaf i’r casgliadau tan y flwyddyn ganlynol, ond mae erthyglau a ffotograffau a gyhoeddwyd yn y papurau lleol yn rhoi syniad inni o’r hyn y byddai’r ymwelwyr cyntaf hynny â’r Amgueddfa wedi ei weld.

Ffotograff o’r tu mewn i’r Brif Neuadd gyda grisiau mawreddog yn y cefndir, colofnau mawr yn cynnal y nenfwd a cherfluniau o ffigurau hwnt ac yma

Golygfa o’r Brif Neuadd yn edrych tuag at y grisiau gorllewinol

Yn y Brif Neuadd roedd cerfluniau mawr megis Y Gusan gan Auguste Rodin ac Ioan Fedyddiwr gan William Goscombe John. O’r Brif Neuadd gallai ymwelwyr fynd i Oriel Glanely (a elwir bellach yn Ganolfan Ddarganfod Clore) i weld casgliadau Daeareg, yn enwedig creigiau a mwynau a geir yng Nghymru. Yn yr oriel sgwâr ar hyd ochr arall y Neuadd roedd y casgliadau Sŵoleg, yn yr un man ag y maent o hyd, er bod yr arddangosiadau wedi cael eu diweddaru ers y dyddiau cynnar hynny!

Ffotograff o wyth carlwm tacsidermi gyda chotiau tymhorol amrywiol, o wyn llachar i liw tywyll, ac yn sefyll ar fodel o greigiau

Arddangosfa carlwm o’r Oriel Sŵoleg

I fyny’r grisiau yn Oriel Pyke Thompson (a elwir bellach yn Oriel 18), y prif bethau i’w gweld oedd darluniau dyfrlliw a fu’n eiddo i James Pyke Thompson ar un adeg a chasgliad o gerameg Cymreig a roddwyd gan Wilfred de Winton yn 1918. Ar draws y bont yn yr oriel sgwâr, roedd arddangosfa o baentiadau olew o’r Rhodd Menelaus. 

Ffotograff o’r tu mewn i Oriel Pyke Thompson. Mae lluniau wedi’u fframio ar hyd y waliau ac mae cwpwrdd gwydr yn cynnwys llestri Cymreig yn sefyll yng nghanol yr ystafell

Oriel Pyke Thompson yn 1925

Nid oedd gan yr Adran Archaeoleg ei horiel ei hun ar adeg agor yr Amgueddfa yn 1922, gan y byddai’n rhan o’r adeilad a oedd yn dal i gael ei adeiladu. Ond, flwyddyn yn ddiweddarach cafodd gwrthrychau o’r casgliadau Archaeoleg eu harddangos yn y Brif Neuadd ac ar y balconïau, cyn symud i ofod mwy parhaol yn oriel flaen y llawr cyntaf (sydd bellach yn gartref i gasgliad o gerameg Cymreig). Erbyn 1925, mewn oriel yng nghefn y Brif Neuadd, roeddent hefyd wedi gosod yr Oriel Hynafion, gydag adluniadau o gegin Gymreig ac ystafell wely Cymreig, ac yn oriel flaen y de-ddwyrain ar y llawr gwaelod roedd y casgliadau Botaneg (sef ardal yr Herbariwm Cymreig bellach).

Ffotograff o’r tu mewn i’r Oriel Archaeoleg; mae pedwar cwpwrdd gwydr mawr yn cynnwys crochenwaith Rhufeinig yn sefyll yng nghanol yr ystafell

Yr Oriel Archaeoleg yn 1925

 

Parhaodd cynllun yr Amgueddfa fel hyn nes i’r orielau gael eu had-drefnu’n helaeth fel rhan o waith adeiladu’r adain ddwyreiniol yn y 1930au. Gwnaethpwyd newidiadau pellach ar hyd yr 20fed ganrif wrth i’r adain orllewinol gael ei hadeiladu yn y 1960au, ac yna ychwanegwyd orielau’r Bloc Canol yn ystod y 1990au cynnar. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu rhagor am hanes Amgueddfa Cymru, bydd rhagor o flogiau ac erthyglau yn ymddangos ar ein gwefan dros y misoedd nesaf. 

Kristine Chapman

Prif Lyfrgellydd (Maw-Gwe)
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.