Trysor Cudd
19 Chwefror 2010
,Fe ddaeth yr alwad ar bnawn Llun: "Mae o yn y post. Fydd o gen ti mewn tridie". Geiriau braf i'w clywed i gîc fel fi: roedd y thuseur yn post ac ar ei ffordd!
Cyn i mi fynd ymhellach, gai esbonio mai llosgwr arogldarth, neu incense yn Saesneg, yw thuseur. Mae'n siâp cawg, ac wedi'i gysylltu at gadwyn, i'r arogldarth gael ei chwifio 'nôl a mlaen. Caiff arogldarth ei ddefnyddio mewn eglwysi, temlau, ac allorau ar hyd a lled y byd hyd heddiw. Mae'r aroglau cryfion hyn yn gallu bod yn rhan bwysig o brofiad yr addolwr o adeilad, neu fan, sanctaidd. Byddwn yn clywed o hyd sut 'mae synnwyr arogl yn gallu agor rhannau cyfrin o'r cof. Mae'r gymysgedd o Thus, Myrr ac olewau sitrws a gaiff eu llosgi mewn llawer o Eglwysi Catholig yn gymysgedd o aroglau trymion, a rhai ohonynt wedi eu defnyddio mewn seremonïau a phersawrau ers oes yr Eifftiaid cynoesol a thu hwnt. Er nad yw'r arogl yn deffro cymaint o atgofion â bara ffres, neu mothballs, mae'r arogl gyfoethog yn medru arwain y dychymyg ar drywydd troellog yn ôl drwy hanes.
Nawr, cyn mod i'n dechre swnio'n rhy debyg i hysbyseb shampŵ, gadewch i mi gyfadde': rwy'n sgut am arogldarth. Dim unrhyw arogldarth chwaith. Fe fyddai'n cerdded yn ffroenuchel heibio'r conau a'r brigau llachar ac yn anelu am yr ystor (resin). Caiff ystor ei gasglu, gan amla, ar ffurf nodd (sap) o goed arbennig. Mae gan bob math ei nodweddion a'i hanes unigryw. Mae Thus yn debyg i ddagrau ambr, meddal. Myrr, wel, mae hwnnw'n debycach i hen gragen pili-pala. Mae Damar, ar y llaw arall, yn edrych fel pear drops ac yn arogli fel neithdar a sitrws ysgafn...
Ta waeth am hynny - 'nôl at y thuseur! Mae'n un ni yn replica, a bydd yn cael ei ddefnyddio yn Eglwys Teilo Sant. Rydym ni wedi gwneud arbrofion yn y gorffennol, ac wedi cael ymateb positif a negyddol. Roedd rhai yn credu bod yr arogl yn ychwanegu at lonyddwch yr adeilad. Rhuthrodd rhai yn syth allan trwy'r drws ar ôl dechrau peswch. Nododd rhai eu bod yn teimlo'n anghyfforddus, efallai oherwydd eu daliadau crefyddol personol. Fe fyddwn ni'n defnyddio'r thuseur newydd pan fyddwn ni'n ceisio ail-greu ein gwasanaeth Tuduraidd cyntaf eleni (mwy am hynny rywbryd eto...). Byddwn hefyd yn defnyddio cerddoriaeth o'r cyfnod a litwrgi Lladin, i weld a allwn ni ail-greu naws gwasanaeth eglwysig Cymreig ym 1500.
Yr unig drafferth ar hyn o bryd yw'r ffaith fod y Curadur a gomisiynodd y thuseur ar ei wyliau. Mae'r parsel mawr yn eistedd yn yr ystafell ddur. Dwi'n ceisio bod yn ddisgybledig a pheidio â phipio y tu fewn. Byddai hyn yn reit anodd, ta beth, am nad oes allweddi gennyf. Bydd rhaid i ni aros, felly, tan ddydd Llun i'w agor. Fe fyddaf yn recordio'r cyfan, felly cofiwch alw 'nôl i gael golwg arno!