Hafan y Blog

Mae Ein Planhigion Yn Blodeuo

Penny Dacey, 29 Mawrth 2023

Mae'r gwanwyn wedi cyrraedd Cyfeillion,

Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd wedi sylwi ar arwyddion y gwanwyn, gan gynnwys planhigion crocws a chennin Pedr yn blodeuo'n llawn! Ydych chi erioed wedi meddwl am pam mae'r planhigion yma yn eu blodeuo, a sut fedrwn ni gwybod pryd maent wedi blodeuo? Gadewch i ni archwilio hyn gyda'n gilydd

Mae'r cennin Pedr a'r crocws yn blanhigyn bylbyn, sy'n golygu eu bod yn tyfu o fylbiau yn y ddaear. Mae'r bylbiau hyn yn cadw egni tan mae’n amser i’r planhigion dyfu. Mae'r bylbiau’n cysgu yn ystod y gaeaf ac yn dechrau tyfu wrth i'r tywydd cynhesu, sef pryd mae’r dail cyntaf yn dangos o'r pridd. Mae'r dail yn ymddangos yn gyntaf fel y gall gynhyrchu bwyd i'r planhigyn trwy ffotosynthesis, proses sy’n defnyddio egni o'r haul i droi carbon deuocsid a dŵr mewn i siwgr ac ocsigen. Mae'r planhigion yn defnyddio'r siwgr yma fel bwyd, i ddarparu egni at barhau tyfu ac i ail-lenwi eu bwlb hefo egni ar gyfer y gaeaf canlynol. 

Gallwch weld pryd mae'r planhigion hyn wedi blodeuo drwy chwilio am eu blodau. Fel arfer, mae gan gennin Pedr coesyn hir hefo un blodyn melyn o siâp trymped, tra bod gan y crocws flodau llai o siâp cwpan, sy'n dod mewn amrywiaeth o liwiau fel porffor, gwyn, a melyn. Mae'r blodau lliwgar, disglair hyn yn denu pryfed fel gwenyn a phili-pala. Mae paill y blodau yn glynu wrth y pryfed yma, fel bod nhw’n dosbarthu hyn i flodau gwahanol. Mae peilliad yn digwydd pan fydd paill o ran wrywaidd blodyn (y brigeryn) yn cael ei drosglwyddo i ran fenywaidd blodyn (y pistil). Unwaith y bydd hyn wedi digwydd, gall y blodyn gynhyrchu hadau.

Ar ôl i'r planhigion blodeuo a'r hadau gael eu cynhyrchu, mae'r planhigion yn dechrau marw yn ôl. Yna bydd ein bylbiau bach yn  orffwys eto, tan y tymor tyfu nesaf.

Mae rhai ysgolion wedi rhannu bod eu planhigion wedi blodeuo. Gallwch weld pa ysgolion sydd wedi anfon cofnodion blodeuo drwy edrych ar fap y prosiect a'r graffiau blodau. Cofiwch, gallwch hefyd edrych ar ganlyniadau o flynyddoedd blaenorol i gymharu. Beth am edrych i weld os yw eich ysgol wedi cymryd rhan yn y prosiect o'r blaen?

Rwyf wedi atodi'r adnodd Cadw Cofnodion Blodau i'r dde o'r dudalen. Mae hwn yn edrych ar sut i gymryd mesuriadau uchder eich planhigion a sut i ddweud pryd mae’r blodyn wedi agor yn llwyr. Mae’n hefyd yn rhestru adnoddau sef ar y wefan, fel taflenni i enwi rhannau o blanhigion.

Gofynnwn ichi nodi'r dyddiad mae eich planhigyn yn blodeuo a'r taldra ar y dyddiad hwnnw. Cofiwch, gofynnwn am fesuriadau yn filimedrau. Os byddwch yn cofnodi eich uchder mewn centimetr mewn camgymeriad, bydd hyn yn dangos ar y wefan mewn milimedrau. Bydd hyn yn golygu bod cennin Pedr o 15cm yn dangos fel 15mm (1.5cm)!

Rwyf wedi atodi darluniau botanegol a anfonwyd i ni gan ysgolion yn y blynyddoedd blaenorol. Beth am astudio eich planhigion a chreu llun o be welwch? Gall fod yn ddiddorol i wneud darluniau o'ch planhigion yn rheolaidd, i weld sut maent yn newid dros amser.

Rydym wedi gwylio ein planhigion o'r bwlb i'r blodyn. Rwyf wedi gweld o'r sylwadau bod llawer ohonoch yn frwd o'r newidiadau yr ydych wedi'u gweld. Rwyf wedi atodi taflen i greu llyfr Origami sy'n archwilio bywyd bwlb. Mae yna fersiwn lliw a fersiwn i liwio eich hun.

Rydym yn yr wythnos olaf o gasglu data tywydd. Gofynnwn i ysgolion cofnodi eu holl ddata tywydd i'r wefan erbyn 31 Mawrth. Os yw eich planhigion wedi blodeuo, cofnodwch eich data blodau erbyn 31 Mawrth. Os nad yw eich planhigion wedi blodeuo eto, plîs rhowch wybod i ni yn y sylwadau. Mae canllaw pellach am hyn yn yr adnodd ‘Cadw Cofnodion Blodau’.

Plîs rhannwch luniau drwy e-bost neu Twitter, mae’n hyfryd gweld y planhigion yn blodeuo. Plîs rhannwch eich syniadau am y prosiect yn y bwlch sylwadau wrth gofnodi data, a rhowch wybod beth ydych yn meddwl yw’r bylbiau dirgel!

Parhewch â'r gwaith da Cyfeillion y Gwanwyn,

Athro'r Ardd a Bwlb Bychan

Penny Dacey

Cydlynydd Project Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.