Hafan y Blog

Nodi Mis Ymwybyddiaeth Awtistiaeth

Dave Enright, 25 Ebrill 2023

Oeddech chi'n gwybod bod mis Ebrill yn Fis Ymwybyddiaeth Awtistiaeth? Mae Amgueddfa Cymru yn gwerthfawrogi ein holl ymwelwyr ac mae'n bwysig ein bod yn ystyried pobl sydd ag anghenion gwahanol i'r mwyafrif ohonom fel bod ymwelwyr yn cael croeso yn ein lleoliadau a bod ein haelodau staff sydd ar y sbectrwm yn cael eu gwerthfawrogi.

I'n hymwelwyr, rydym yn hyrwyddo ein cyfnodau tawelach ar ein gwefan ar gyfer ein holl safleoedd ac wedi tynnu sylw at ardaloedd a allai achosi gorlwyth synhwyraidd ar ein mapiau. Mae gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ystafell ymlacio i bobl sydd ei hangen. Mae mwy o waith ar y gweill i wella ein harlwy i ymwelwyr ag anableddau - cadwch olwg am y rhain drwy gydol y flwyddyn.

David Enright yw Dirprwy Rheolwr Gwasanaethau Ymwelwyr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac eisteddodd i lawr i ddweud wrthym am ei daith i fod yn Hyfforddwr Ymwybyddiaeth Awtistiaeth a rhannu sut mae bobl sydd ar y sbectrwm awtistiaeth yn adnodd gwerthfawr sy’n cael effaith gadarnhaol ar brofiad ymwelwyr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

***

Beth sy'n wych am weithio mewn sefydliad fel Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yw bod pawb yn ein nabod ni a'r gwaith anhygoel sy'n mynd ymlaen yma. Mae hyn yn golygu bod pobl ifanc yn ei weld fel lle diddorol ac amrywiol i wneud eu profiad gwaith oherwydd eu bod yn cael gwneud amrywiaeth o bethau yn ystod eu cyfnod gyda ni. Rwy'n angerddol dros roi cyfleoedd i bobl ifanc yn yr amgueddfa, ac felly rwy'n gwneud fy ngorau i roi cyfleoedd am brofiad gwaith pryd bynnag y gallaf.

Tua 12 mlynedd yn ôl, wnes i sylwi bod 'na gynnydd yn y bobl oedd yn dod atom ni am brofiad gwaith oedd ar y sbectrwm awtistig. Roeddwn i eisiau gwneud yn siŵr, wrth roi'r cyfle i bobl ddod atom ni, fy mod i hefyd yn gallu eu cefnogi nhw ac roeddwn i'n gweld deall awtistiaeth fel rhywbeth allweddol i'w helpu i ffynnu yn ystod eu cyfnod gyda ni. Doeddwn i ddim yn gwybod unrhyw beth am sut mae awtistiaeth yn cyflwyno ei hun a beth allai achosi ‘trigger’, ond roeddwn i'n llawn bwriadau da.

Ar ôl cyfarfod rhai o'r bobl angerddol, diddorol oedden nhw gyda diddordeb yng ngwaith yr amgueddfa, dechreuais feddwl: "Beth sy'n digwydd i'r bobl yma ar ôl iddyn nhw wneud eu pythefnos o brofiad gwaith gyda ni? Oni fyddai'n wych pe gallem eu cadw a chael budd o'u natur chwilfrydig, llawn diddordeb?"

Mae awtistiaeth yn anabledd datblygiadol, ac oherwydd yr amryw o ffyrdd y gall yr anabledd gyflwyno ei hun – ymddygiad ailadroddus neu gyfyngol, heriau cyfathrebu cymdeithasol, a rhyngweithio cymdeithasol, er enghraifft - mae pobl ar y sbectrwm awtistig weithiau'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i waith hirdymor ystyrlon. Ond mae fy mhrofiad i o weithio gyda phobl ar y sbectrwm wedi bod yn gwbl groes i hyn - gall pobl ag awtistiaeth fod yn gyflogadwy iawn gyda sgiliau gwerthfawr ac maen nhw'n gydweithwyr gwych.

Fe wnes i gysylltu â'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol ac yn ddigon buan, cefais fy hyfforddi mewn ymwybyddiaeth o awtistiaeth. Gan deimlo'n fwy parod, croesawais fwy o bobl i'n tîm blaen tŷ am brofiad gwaith ac am waith parhaol neu pŵl ar ein tîm. Fe ddechreuon ni hyd yn oed ddod yn adnabyddus gan rai asiantaethau arbenigol am ddarparu'r cyfleoedd yma i bobl ag awtistiaeth, oedd yn arwydd da ein bod ni'n gwneud rhywbeth yn iawn!

Fe'm hyfforddais yn ddiweddarach fel hyfforddwr ymwybyddiaeth awtistiaeth gyda'r Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac rwy' bellach yn rhedeg hyfforddiant yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd sydd yn agored i bawb ar draws Amgueddfa Cymru. 

Dave Enright

Dirprwy Rheolwr Gwasanaethau Ymwelwyr
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.