Hafan y Blog

Te, Cacen a Chasgliadau: ⁠Te Partis Re-engage yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Loveday Williams, 31 Gorffennaf 2023

"Mae Re-engage yn cynnig cyswllt cymdeithasol allweddol i bobl hŷn ar adeg yn eu bywyd pan fydd eu cylchoedd cymdeithasol yn mynd yn llai."

https://www.reengage.org.uk/ 


Ers dros ddeg mlynedd rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Re-engage (Cyswllt â'r Henoed gynt), yn cynnal te partis rheolaidd yn ein hamgueddfeydd ar gyfer pobl hŷn sy'n profi unigrwydd.


Cafodd y te partis cyntaf eu cynnal yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, bedair gwaith y flwyddyn i ddechrau, ond wrth i'r grŵp dyfu, aeth hyn yn wyth gwaith y flwyddyn, rhwng Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. 


Mae'r te partis yn gyfle i aelodau'r grŵp ymweld â'r amgueddfeydd mewn ffordd ddiogel, cyfarfod hen ffrindiau, gwneud ffrindiau newydd, a mwynhau'r casgliadau drwy gyfrwng gweithgareddau a sgyrsiau gydag aelodau. A digon o de a chacen, wrth gwrs! 


Yn ystod y cyfnod hwn, rydyn ni wedi magu perthynas gref gydag aelodau'r grŵp a gyda Jane Tucker, yr arweinydd. Cyn y te partis rydyn ni'n cael sgyrsiau gyda Jane i wneud yn siŵr ein bod ni’n ymwybodol o anghenion hygyrchedd, mynediad ac ati o fewn y grŵp, er mwyn gallu paratoi'r sesiynau yn iawn. 


Dyma Jane i sôn ychydig am sut ddechreuodd y te partis a sut mae hi’n cefnogi’r grŵp:


“Dechreuais i wirfoddoli gyda Re-engage ym mis Mawrth 2013, fel gyrrwr.


Wrth ymweld â Sain Ffagan, yn digwydd bod, tua 2017, digwyddais i weld Marion Lowther a oedd yn drefnydd Re-engage yng Nghymru. Dywedodd fod ganddi grŵp o ryw chwech, ond neb i gydlynu. Ar y pryd, roedden nhw'n cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn, a'r unig leoliad oedd ar gael oedd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – dyna pam mai grŵp Amgueddfa Caerdydd ydyn ni. Gwirfoddolais i gymryd gofal o'r grŵp, ac ers hynny rydw i wedi llwyddo i ddenu mwy o leoliadau a mwy o aelodau. Mae'r amgueddfeydd yn ffefrynnau mawr gan y grŵp, am eich bod chi'n cynnal sgyrsiau a gweithgareddau mor ddiddorol. 


Fel y gwyddoch chi, mae llawer o'r aelodau yn fregus, ac yn methu gadael eu cartrefi heb gwmni. Mae ymweld â'r Amgueddfa yn uchafbwynt iddyn nhw, ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth." (

Jane Tucker, Arweinydd Grŵp Re-engage).


Fis Mawrth eleni, ymwelodd y grŵp ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar gyfer sesiwn am yr arddangosfa BBC 100, sy'n archwilio 100 mlynedd o hanes y BBC yng Nghymru. Cynhaliwyd y sesiwn gan ddau aelod o dîm addysg yr amgueddfa, Jo a Louise.⁠ Defnyddion nhw gwisiau anffurfiol a hwyliog i amlygu cynnwys yr arddangosfa mewn lleoliad cyfforddus, gan y byddai crwydro'r arddangosfa ei hun wedi bod yn her i aelodau'r grŵp. Cwis lluniau a oedd yn canolbwyntio ar deledu y 60au a'r 70au wnaeth Jo, a chwis byr ar arwyddganeuon rhaglenni teledu wnaeth Louise. ⁠Dywedodd Jo a Louise "Fe wnaeth y grŵp fwynhau sgwrsio am eu hatgofion ac roedd llawer o hel atgofion am ymweliadau â'r amgueddfa gyda'u plant a'u hwyrion a'u hwyresau. Gwnaethon nhw wir fwynhau eu te!"
Dywedodd Jane ar ôl yr ymweliad "roedd y sgwrs gawson ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn wych, yn enwedig pan oedd y ddau gyflwynydd yn chwarae cerddoriaeth o hen raglenni teledu a hysbysebion. Cafodd ein gwesteion lawer o hwyl yn ceisio adnabod yr alawon ac yn siarad am yr hen raglenni wedyn."


Roedd ymweliad diwethaf y grŵp â Sain Ffagan ym mis Mai 2023, a hwyluswyd gan ddau aelod o dîm addysg Sain Ffagan, Hywel a Jordan.


Dyma Jordan yn esbonio: "Ar ôl rhoi cyflwyniad iddynt o'r safle, gwnaethon ni roi sgwrs am y gwaith 'Cynefin' sy'n cael ei ddatblygu yn ein rhaglen addysg ysgolion, gan ddefnyddio oriel Cymru... i drafod ymdeimlad unigolion o’u hunaniaeth a sut allwn ni ddefnyddio eitemau i helpu i rannu'r straeon hyn. Yna, gwnaethon ni drafod dealltwriaeth bersonol y grŵp o'u 'Cynefin' nhw, gan ddefnyddio eitemau trin a thrafod o gasgliad yr amgueddfa i danio sgyrsiau ac atgofion. ⁠Roedd trin a thrafod eitemau fel pellenni gwnïo, ceiniogau cyn degoli a stampiau Green Shield, i weld yn destunau trafod poblogaidd ar gyfer y grŵp, gan eu hannog i rannu straeon am fyw yng Nghymru a rhannau eraill o'r byd, eu profiadau o ddefnyddio eitemau bob dydd fel rhain a newidiadau dros amser."


Dyma beth ddywedodd rhai o aelodau'r grŵp am gymryd rhan ar ôl y sesiwn: 


"Prynhawn gwerth chweil yn amgueddfa Sain Ffagan. Mae'n hyfryd gweld pobl eraill a chael sgwrsio gyda nhw gan fy mod yn treulio llawer o amser ar ben fy hun. Dwi wir yn gwerthfawrogi." (Anne)


"Wnes i wir fwynhau'r sgwrs am yr Amgueddfa a'r gwaith maen nhw'n ei wneud. Gall dyddiau Sul fod yn unig iawn, felly mae cael te parti Re-Engage yn gymaint o hwyl ac yn rhywbeth i edrych ymlaen ato." (Rita)


"Roedd trin a thrafod yr eitemau yn yr Amgueddfa yn llawer o hwyl ac yn addysgiadol. Roedd yn ysgogi'r ymennydd ac yn dod ag atgofion yn ôl." (Hazel)


Byddwn ni’n croesawu'r grŵp yn ôl i Sain Ffagan dros yr haf i gymryd rhan mewn sesiwn crefftau edafedd traddodiadol wedi'i hysbrydoli gan ein casgliad tecstilau, a byddan nhw'n dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn yr hydref. 


Mae tîm staff yr Amgueddfa ac aelodau'r grŵp ill dau wastad yn edrych ymlaen at y te partis ac maen nhw wedi tyfu i ddod yn un o hoelion wyth ein rhaglen Iechyd a Lles ehangach. Hir oes iddyn nhw! 


Diolch i bob aelod o'r grŵp Re-engage am rannu eu straeon, barn ac adborth. 

Loveday Williams

Uwch Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.