: Iechyd, Lles ag Amgueddfa Cymru

Creu pecyn hyfforddi 'Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion: Pecyn cymorth i ymwelwyr sydd wedi eu heffeithio gan ddementia’ – dull cydweithredol

Gareth Rees a Fi Fenton, 10 Gorffennaf 2024

Fel rhan o Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion, ein project partneriaeth tair blynedd gyda Chymdeithas Alzheimer Cymru, rydyn ni wedi bod yn gweithio ar y cyd â'r gymuned dementia ledled Cymru i ddatblygu pecyn hyfforddi a fydd yn helpu staff - yn Amgueddfa Cymru ac ar draws y sector treftadaeth - i gynorthwyo pobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia, sy'n dod i'n hamgueddfeydd.

Mae'r blog hwn yn rhoi cipolwg ar ein dull cydweithredol dros y deunaw mis diwethaf, i ddatblygu a threialu ein hadnodd hyfforddi staff, gan arwain at lansio'r pecyn hyfforddi yn Sain Ffagan ar 2 Mai 2024.

Ymgynghori â'r gymuned dementia 

Ers dechrau'r project, rydyn ni wedi ceisio sicrhau bod profiadau personol rhai sydd wedi'u heffeithio gan ddementia yn rhan flaenllaw o'n gwaith.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf (rhwng mis Rhagfyr 2022 a mis Mawrth 2023), cynhaliwyd 30 ymgynghoriad ledled Cymru, gan wahodd pobl sy'n byw gyda dementia, eu gofalwyr a'u cefnogwyr, cydweithwyr yn y sector treftadaeth a gweithwyr proffesiynol o sefydliadau cynrychioliadol, i gymryd rhan.

Cynhaliwyd y digwyddiadau hyn yn ein hamgueddfeydd, mewn lleoliadau cymunedol a lleoliadau gofal ac iechyd. Ymunodd 270 o bobl â ni, ac roedd eu cyfraniadau i'r sgwrs yn sail i ddechrau llunio cynnwys ein pecyn hyfforddi. Yn ystod yr ymgynghoriadau hyn, gwnaethom strwythuro sgyrsiau gyda chyfres o gwestiynau gyda'r nod o gymell pobl i rannu eu profiadau o ymgysylltu ag amgueddfeydd. Gofynnwyd:  

Beth sy'n atal pobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia rhag ymgysylltu ag amgueddfeydd, eu casgliadau ac adnoddau ar-lein? 

Pa anghenion gofal a chymorth allai fod eu hangen ar ein safleoedd? 

Sut allen ni wella mynediad i bobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia? 

Pa anghenion hyfforddi sydd ar gael i ofalwyr/staff gofal a staff/gwirfoddolwyr y sector treftadaeth? 

  

Datblygu'r pecyn hyfforddi staff 

Gan ddefnyddio'r wybodaeth a gasglwyd o'r ymgynghoriadau hyn, aethom ati i ddatblygu strwythur posibl ar gyfer ein pecyn hyfforddi, gan gasglu syniadau a phrofiadau pobl dan 5 thema eang: ‘Cyflwyniad', 'Beth yw dementia', 'Rhwystrau a phryderon y gymuned', 'Bod yn gefnogol' a 'Cyfleoedd a gwybodaeth bellach’. O dan bob thema, fe wnaethom ddatblygu is-benawdau i ddisgrifio'r wybodaeth a fyddai'n cael ei chynnwys ym mhob adran. 

Mireinio'r pecyn hyfforddi staff 

Ar ôl creu strwythur 'drafft' posibl, fe wnaethom ddatblygu'r pecyn hyfforddi trwy ragor o sesiynau a sgyrsiau cymunedol, a daeth yn ffocws yn ystod ein cyfarfodydd gyda'r Grŵp Llais Dementia mewn Treftadaeth.

Grŵp Llais Dementia mewn Treftadaeth yw grŵp llywio ein project.  Mae grŵp yn cynnwys pobl sy'n byw gyda dementia, partneriaid gofalwyr, gofalwyr cyflogedig, gweithwyr cymorth, cydweithwyr o sefydliadau cysylltiedig (megis Cymdeithas Alzheimer) a chydweithwyr o Amgueddfa Cymru a sefydliadau eraill yn y sector treftadaeth. Rydyn ni’n cyfarfod wyneb yn wyneb neu ar-lein bob deufis, ac rydyn ni’n strwythuro ein cyfarfodydd fel bod pawb yn gallu cyfrannu a siapio datblygiad agweddau canolog ar ein gwaith.

Ym mis Hydref a mis Rhagfyr 2023 fe wnaethom ymrwymo cyfarfodydd ein grŵp i ddatblygu'r pecyn hyfforddi staff. 

Mae cyfraniadau aelodau grŵp i'r pecyn hyfforddi wedi bod yn werthfawr ac yn sylweddol. Mae aelodau'r grŵp wedi siarad am eu profiadau cadarnhaol eu hunain o ymweld ag amgueddfeydd, pwysigrwydd a gwerth amgueddfeydd i bobl sy'n byw gyda dementia, a beth sydd angen i staff yr amgueddfa ei wybod er mwyn cynorthwyo pobl sy'n byw gyda dementia. Dywedwyd wrthym pa mor bwysig yw hi fod pobl sy'n byw gyda dementia yn cael cymorth i deimlo'n ddiogel, eu gwerthfawrogi a'u croesawu: 

Er y gall rhywun adael amgueddfa heb gofio'r holl fanylion, efallai y bydd yn cofio'r teimlad a brofodd yn ystod yr ymweliad”  Person sy’n byw gyda dementia 

Yn olaf, pwysleisiwyd pwysigrwydd cynnwys pobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia wrth gyflwyno'r hyfforddiant staff. 

Ein sesiynau hyfforddi staff peilot: Profi ein pecyn hyfforddi gyda chydweithwyr 

Ar ôl cynnwys cyfraniadau gwerthfawr y Grŵp Llais Dementia mewn Treftadaeth yn y pecyn hyfforddi staff, aethom ati wedyn i holi barn cydweithwyr yn Amgueddfa Cymru, mewn adrannau amrywiol. Er enghraifft, fe wnaethom ymgynghori â'r Adran Ddysgu yn ystod diwrnod hyfforddi adrannol, a chwrdd â thimau Blaen Tŷ yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.   

Roedd y sgyrsiau hyn yn bwysig i fesur dealltwriaeth pobl am anghenion ymwelwyr sydd wedi'u heffeithio gan ddementia (dywedodd rhai staff eu bod yn teimlo nad oedd ganddyn nhw ddigon o wybodaeth am ddementia) ac asesu pa mor hyderus yr oedd pobl yn teimlo am gynorthwyo pobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia (dywedodd rhai staff eu bod yn poeni 'am ddweud rhywbeth anghywir’).  O'r trafodaethau hyn, fe wnaethom fireinio'r cynnwys ymhellach a datblygu sesiwn hyfforddi ddwyawr. 

Rydyn ni wedi treialu'r sesiwn hyfforddi mewn tair amgueddfa erbyn hyn: Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Wlân Cymru, gydag aelodau o'r timau Dysgu, Cynnal a Chadw, Crefftau, Blaen Tŷ ac Arlwyo yn cymryd rhan, ac rydyn ni wedi cael adborth cadarnhaol ganddyn nhw. 

Lansio'r pecyn hyfforddi

Ar 2 Mai, lansiwyd y pecyn hyfforddi’n ffurfiol yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Gwahoddwyd pobl y buon ni'n yn gweithio gyda nhw dros y deunaw mis diwethaf, gan gynnwys Gymdeithas Alzheimer Cymru, aelod o’r Grŵp Llais Dementia mewn Treftadaeth ac aelod o fwrdd ein project, i siarad am eu profiadau o gyfrannu at ddatblygu'r sesiwn hyfforddi. 

Daeth 29 o bobl i'r lansiad, i glywed y cyflwyniadau ysbrydoledig hyn ac i ddysgu am sut mae'r gwaith wedi datblygu mewn partneriaeth â'r gymuned. Nod y pecyn hyfforddi yw archwilio'r hyn y gallwn ni, yn ein rolau gwahanol ar draws y sector treftadaeth, ei wneud i gynnig profiad cadarnhaol i unrhyw ymwelydd sydd wedi'i effeithio gan ddementia. Bydd y pecyn ar gael i unrhyw un yn y sector treftadaeth, p'un ai fel man cychwyn i ddechrau ar eu taith i fod yn fwy ystyriol o ddementia neu er mwyn ategu'r hyn sy’n digwydd eisoes.

Er nad yw pobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia wedi bod yn rhan o gyflwyno'r sesiynau hyfforddi peilot eto, rydyn ni wrthi'n gweithio gyda'n partneriaid oedd yn rhan o'r broses greu, ac yn cynllunio sut i'w helpu i gynnal, arwain a / neu gyfrannu at ein sesiynau hyfforddi yn y dyfodol.

Wrth i'n project fynd rhagddo dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn parhau i gydweithio a sicrhau bod llais dementia wrth wraidd yr hyn a wnawn.

Os ydych chi'n aelod o sefydliad yn y sector treftadaeth a bod gennych ddiddordeb yn y ffordd rydyn ni wedi datblygu ein cynnig hyfforddiant, os ydych eisiau dysgu mwy am ddefnyddio'r pecyn yn eich lleoliad, neu os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi'r sesiynau hyn yn ein hamgueddfeydd, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bostio mims@museumwales.ac.uk   neu ffonio 029 2057 3418.       

Project garddio yn parhau yn Ysgubor Fawr, Sain Ffagan

Zoe Mouti, Innovate Trust, 30 Hydref 2023

Mae The Secret Garden yn broject garddwriaeth a hanes a ariennir gan Grant Gwirfoddoli Cymru CGGC. Rydym yn gweithio gydag oedolion ag Anableddau Dysgu a gwirfoddolwyr cymunedol i ddatblygu a gofalu am ardd fwthyn yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Rydym hefyd yn cefnogi cyfranogwyr y project i ymchwilio i hanes yr ardd, bwthyn Ysgubor Fawr ar y safle a’i chyn-drigolion gan ddefnyddio archifau Sain Ffagan ac Archifau Morgannwg

Mae dwy thema i broject yr Ardd Gudd. Mae'n broject garddio ac ymchwil hanesyddol. Rydym yn cynnig y cyfle i gymryd rhan mewn sesiynau garddio ymarferol yn ein gardd yn Sain Ffagan i ddysgu am a threialu technegau garddio o’r gorffennol, megis plannu at ddibenion meddyginiaethol neu lanhau. Bydd cyfranogwyr hefyd yn ymchwilio i’r ardd, y bwthyn a’i drigolion mewn partneriaeth ag Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ac Archifau Morgannwg

Mae cyfranogwyr sy’n mynychu’r project yn gallu dysgu amrywiaeth o sgiliau gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, cydlynu a llawer mwy i helpu i’w cynorthwyo a’u cefnogi yn eu datblygiad personol. Mae amgylchedd gwaith diogel yn sicrhau bod cyfranogwyr yn gallu dysgu ar eu cyflymder eu hunain, pe bai hynny'n dysgu am arddwriaeth neu hanes! Mae'r project yn gallu siwtio eu hanghenion a chael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a'u lles.

Mae ein gweithgareddau yn rhad ac am ddim, ac rydym yn annog unrhyw un i ymuno. Gall cyfranogwyr gymryd rhan naill ai yn yr elfen arddio neu hanes neu'r ddau os dymunant! 

Ewch at wefan Innovate Trust i weld fwy am broject The Secret Garden, ac am sut i gymryd rhan - The Secret Garden | Innovate Trust (innovate-trust.org.uk)

Gweithgareddau dementia gyfeillgar yn Amgueddfa Cymru – Memory Jar yn ymweld â Sain Ffagan

Gareth Rees a Fi Fenton, 11 Hydref 2023

Yn ddiweddar dyma Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru yn croesawu Memory Jar, grwp cymorth i bobl sydd wedi eu heffeithio gan ddementia yn y Bont-faen. Roedd yr ymweliad yn rhan o Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion⁠, project partneriaeth tair mlynedd rhwng Amgueddfa Cymru a Chymdeithas Alzheimer Cymru sy'n defnyddio amgueddfeydd, casgliadau ac adnoddau Amgueddfa Cymru i ddatblygu dulliau ymarferol o wella iechyd a lles pobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia. ⁠

Mae'r fenter bellach yn ei hail flwyddyn, ac un o'r amcanion yw datblygu rhaglen fwy cynhwysfawr a chynaliadwy o weithgareddau dementia gyfeillgar, yn ein hamgueddfeydd ac yn y gymuned. Rydyn ni wrthi'n datblygu a threialu gweithgareddau, ac yn gwahodd grwpiau cymunedol i gymryd rhan a lleisio'u barn. Bydd hyn, yn ei dro, yn helpu i lywio a datblygu ein adnoddau a'n rhaglen cyn lansio yn y Gwanwyn.

Yr ymweliad 

Ar 9 Awst, ymunodd 29 o aelodau Memory Jar â ni ar daith drwy orielau Cymru... a Byw a Bod yn Sain Ffagan, cyn mwynhau te, coffi a theisen wrth drafod yr ymweliad. Dyma ni'n gofyn beth oedd y grŵp wedi'i fwynhau, ac am unrhyw awgrymiadau ar wella gweithgareddau yn y dyfodol.

Yn oriel Cymru... dyma'r grŵp yn cael eu tywys gan Gareth Rees (Arweinydd Llais Dementia, Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion) a Loveday Williams (Uwch Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli).⁠ Fe gyflwynodd Gareth a Loveday rai o'r gwrthrychau yn yr oriel, sydd wedi ei churadu i gyflwyno beth mae Cymru yn ei olygu i wahanol bobl, gan gynnwys Cymru ‘Amlddiwylliannol’, ‘Balch’, ‘Gwleidyddiaeth’ a ‘Gwrthdaro’.

Yn oriel Byw a Bod y tywysydd oedd Gareth Beech (Uwch Guradur Economi Wledig).⁠⁠⁠ Yn yr oriel hon mae gwrthrychau wedi'u curadu i ddangos gwahanol agweddau o fywyd yng Nghymru drwy'r canrifoedd, o gaffis i goginio, o fywyd gwledig i ddiwydiant, o wyliau i blentyndod. Un o'r gwrthrychau poblogaidd oedd ffwrn ffrio pysgod haearn bwrw Preston â Thomas, wnaeth danio nifer o atgofion yn y grŵp.

Ar ôl crwydro'r orielau dyma ni gyd yn dod at ein gilydd fel grŵp mawr. Yn ogystal â chael sgwrs gyffredinol, dyma ni'n gofyn i bob bwrdd ddefnyddio sticeri i roi eu barn ar gwestiwn penodol: ‘Sut oedd ymweld â'r oriel yn gwneud i chi deimlo heddiw?’ Darparodd y tîm dri opsiwn positif (Hapus, Diddordeb, Ysbrydoliaeth), a thri opsiwn negatif (Anhapus, Diflastod, Anghyfforddus) a lle i esbonio unrhyw deimladau ymhellach. Gallai pobl hefyd gynnig adborth drwy rannu eu hoff wrthrychau yn yr orielau gan ddefnyddio post-its, beiros a lluniau o rai o'r gwrthrychau. Dyma ni hefyd yn gofyn i'r grŵp beth wnaethon nhw ei fwynhau am yr ymweliad, ac ydyn nhw'n mwynhau amgueddfeydd yn gyffredinol?

Roedd yr adborth ar y cyfan yn bositif iawn – nifer yn dweud eu bod nhw wedi mwynhau, yn teimlo'n hapus, wedi eu hysbrydoli ac yn gweld y teithiau drwy'r orielau yn ddiddorol. ⁠Roedd eraill yn dweud eu bod nhw'n teimlo 'hiraeth' ac yn 'wladgarol'. Roedd rhai o'r gwrthrychau yn sbarduno sgyrsiau ac atgofion am fywyd teuluol, gan gynnwys hen fangl wnaeth atgoffa un fenyw o'i mam a'i mam-gu yn golchi dillad.

"Atgof hyfryd o'r gorffennol"

"Mae'n gwneud i fi feddwl pa mor agos mae fy atgofion, o ble dwi'n dod yn wreiddiol yn Swydd Efrog, a Chymru wedyn am dros 40 mlynedd. Dylai Cymru fod yn falch o'i thraddodiad a pharhau i groesawu eraill."

⁠"Roedd yr arddangosiadau a'r wybodaeth ar lefel cadair olwyn. Da." 

⁠"Fy ffefryn oedd y delyn a'r gwrthrychau cerddoriaeth. Byddai clywed cerddoriaeth Gymraeg wedi bod yn braf." ⁠

"Roedd e'n brofiad llawn hiraeth."

"Mwy o gadeiriau!"

(Peth o'r adborth)

"Roedd y sgwrs yn byrlymu yn y bws yr holl ffordd nol i'r Bont-faen. Awyrgylch llawn hwyl a phobl yn mwynhau eu diwrnod mas. Nol yn Memory Jar, roedd cyfle i edrych ar ffotograffau o'r diwrnod a siarad am y pethau wnaethon ni eu cofio yn yr Amgueddfa. Roedd llawer o'r sylwadau positif yn sôn sut oedd pobl wedi'u sbarduno i fyfyrio ar eu hanes eu hunain, gan ennyn atgofion braf o'u gorffennol. Roedd un sylw yn gwneud y cyfan yn werth chweil: John, un o'r aelodau tawelaf, oedd y cyntaf i ymateb yn y drafodaeth grŵp. 'Dwi eisiau mynd eto!' meddai John gyda gwen fawr, gyda gweddill y grŵp i gyd yn cytuno."

(e-bost gan Colin, trefnydd Memory Jar, ar ôl yr ymweliad)

Diolch yn fawr 

Mae'r tîm am ddiolch i Memory Jar am eu help gyda'r gwaith datblygu – roedd hi'n bleser eu tywys nhw drwy'r orielau a chlywed eu barn ar sut i wneud ein hamgueddfeydd yn fwy dementia gyfeillgar yn y dyfodol. Hoffen ni ddiolch hefyd i Glwb Rotary y Bont-faen am ddarparu cludiant, ac i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth hael i broject Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion.

Roedd ymweliad grŵp Memory Jar yn gyfle gwerthfawr i'r tîm gael blas o sut fydd ein harlwy yn effeithio ar y gymuned. Roedd yr ymateb brwdfrydig a'r adborth positif yn dangos fod gan dreftadaeth rôl bwysig i chwarae ym mywydau pobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia. Wrth i'r gwaith o brofi a datblygu ein harlwy ar draws ein saith amgueddfa barhau dros y misoedd nesaf, rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio eto gyda Memory Jar a grwpiau ac unigolion eraill ar draws Cymru.

Cysylltwch â ni 

Am ragor o wybodaeth, gallwch chi gysylltu â'r tîm drwy e-bostio mims@amgueddfacymru.ac.uk neu drwy ffonio (029) 2057 3418. Gallwch chi hefyd gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr chwarterol yn yr un modd.

Y gwir am seiclo i'r gwaith

Tom Cotterell, 2 Medi 2023

Dwi'n byw yn bell o'r Amgueddfa, ac yn yr haf dwi'n tynnu'r llwch oddi ar fy meic ac yn paratoi ar gyfer y daith epig i'r Amgueddfa! Yn ddiweddar, fe wnaeth Amgueddfa Cymru cyflwyno cynllun Seiclo i'r Gwaith. Mae rhai tebyg i'w cael mewn gweithloedd eraill, hefyd. Hoffwn i rannu fy stori i (neu ran ohoni) a chynnig cyngor i eraill sydd ddim yn siŵr lle i ddechrau.

Prynais i fy meic ffordd cyntaf ar gynllun tebyg rhyw ddeuddeg mlynedd yn ôl, a dwi wedi bod wrth fy modd yn seiclo ers hynny. Wel, roedd y teithiau cyntaf yn anodd – roeddwn i’n rhedwr brwd, ond erioed wedi seiclo ar ffyrdd o’r blaen, ac roedd gen i daith 40 milltir i’r gwaith a 40 milltir yn ôl. Mae gen i atgof clir o fethu cerdded i fyny'r grisiau yn yr Amgueddfa, ac roedd gen i boen ofnadwy yn fy nghefn pan oeddwn i ar y beic, ond nawr, hyd yn oed yn fy mhedwar degau, rwy'n fwy heini nag erioed. Dwi hefyd yn gallu trwsio twll yn fy nheiar nawr, rhywbeth doeddwn i ddim yn gallu ei wneud am y pum mlynedd gyntaf o seiclo!

Taith epig…

Ar ddechrau'r haf, rwy'n teithio unwaith yr wythnos o Raglan ar hyd y lonydd i Gasnewydd, ac ymlaen i Gaerdydd drwy’r lefelau – sef cyfanswm o 34 milltir. Yn fuan wedyn rwy'n ymestyn y daith i Drefynwy (40 milltir) ac unwaith y flwyddyn rwy’n gwneud y daith lawn o 50 milltir drwy Fforest y Ddena, Lydney, Cas-gwent ac ymlaen drwy Gasnewydd i Gaerdydd. Mae amser yn ffactor wrth gwrs ar deithiau mor bell, felly rwy'n tueddu i seiclo’n gyflym – rwy’n anelu at 20 milltir yr awr ar gyfartaledd, sydd yn bosib, hyd yn oed wrth gario gliniadur. Fodd bynnag, mae angen bod yn wyliadwrus o'r blaenwynt ofnadwy… ond stori arall yw honno.

Doedd seiclo ddim wastad mor rhwydd…

Mae effaith seiclo ar eich corff yn raddol ond yn bositif iawn. Mae’n well o lawer ar eich cymalau na rhedeg, ond bydd y gwahaniaeth y mae'n ei wneud yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys pa mor bell rydych chi'n seiclo ac am ba hyd, a hefyd y dwyster – mae mynd i fyny bryn yn galetach na seiclo ar y gwastad. Wrth seiclo am y tro cyntaf, gall y poenau hyn fod yn annifyr – ar ôl fy nhaith hir gyntaf i’r gwaith ar y beic, roedd fy mhengliniau yn teimlo fel pe baen nhw’n cael eu gwthio ar wahân, oherwydd doedd gen i mo'r cyhyrau sydd eu hangen ar gyfer seiclo. Does gen i ddim y fath broblemau nawr.

Mae eich corff yn addasu…

Nawr, wrth gyrraedd y gwaith rwy'n teimlo'n iawn ac yn iach, ond roeddwn i'n teimlo'n wahanol iawn ar y dechrau. Pan ddechreuais i seiclo, fe fyddwn i wedi blino'n aml, ond mae eich corff yn addasu. Dwi'n dod o gefndir gweithgar iawn o hyfforddi a chwarae hoci maes ar lefel uchel dair gwaith yr wythnos am ryw 20 mlynedd. Roedd fy lefel ffitrwydd cyffredinol yn dda iawn o ganlyniad i’r holl redeg, ond roedd gen i’r cyhyrau anghywir. Dywedodd rywun wrthyf i yn ddiweddar bod seiclo yn ‘lefelwr’ da – gallwch chi ‘berfformio’ ar lefel uchel am gyfnod llawer hirach nag y byddech chi wrth wneud unrhyw chwaraeon eraill sy’n cynnwys rhedeg. Mae fy amseroedd seiclo eleni'n gyflymach o lawer na phan oeddwn i'n hyfforddi i chwarae hoci drwy'r amser!

Cymudo gyda gliniadur a chynghorion eraill

Rwy'n cario sach deithio ganolig sy’n cynnwys fy ngliniadur mewn casyn (heb y gwefrwr i wneud y bag yn ysgafnach, gan fod modd ei wefru yn y gwaith). Wedyn, mae gen i fag o ddillad gwaith i'w wisgo, a llawer o fwyd i ginio. Mae popeth yn y sach deithio wedi'i lapio mewn sawl bag plastig, rhag ofn iddi fwrw glaw. Mae gen i fagiau bach iawn wedi'u hatodi i fy meic ar gyfer tiwbiau mewnol sbâr a phethau eraill yn fy mhecyn trwsio.

Manteision ac anfanteision seiclo, a phethau i'w hystyried

Mae prynu beic yn gost fawr erbyn hyn, ond rydych chi'n arbed arian drwy beidio talu am barcio, tanwydd ac ôl traul ar gar. Ar y llaw arall, mae'r daith yn cymryd llawer hirach. Os ydych chi'n cerdded neu'n dal y bws i'r gwaith, gall seiclo fod yn gyflymach ac yn rhatach hefyd. Gall oerfel a gwlypter y gaeaf fod yn rheswm dros beidio seiclo, ond erbyn hyn mae cymaint o opsiynau ar gyfer dillad cynnes sy'n gwrthsefyll gwynt a glaw. Mae'r amser mae'n cymryd i fi baratoi ar gyfer y diwrnod gwaith yn hirach ar ôl seiclo nag y byddai petawn i'n gyrru – e.e. cloi fy meic, newid fy nillad ac yn y blaen, ond yn sicr mae'n bosib ei wneud

Cyrraedd uchelfannau newydd

Erbyn hyn, sawl beic newydd yn ddiweddarach ac wedi i mi symud tŷ yn bellach fyth i ffwrdd, rwy'n arwain teithiau seiclo o dros gan milltir neu fwy, ac rydw i wrth fy modd yn dringo bryniau serth. Mae'n fyd o wahaniaeth o gymharu â fy mhrofiadau cynnar o gymudo, lle roeddwn i'n ofni'r bryn serth drwy Gas-gwent. Ar ddydd Sadwrn 24 Mehefin, cymerais ran mewn her a drefnwyd gan Glwb Seiclo Cas-gwent, er budd Tîm Achub Mynydd Bannau Brycheiniog. Seiclon ni i fyny Bryn Llangynidr deg waith – efallai na fyddai hynny at ddant pawb! Doedden ni ddim yn rasio, ond er fy syndod, fi oedd y person cyntaf i gwblhau'r her. Yr ystadegau: dringo 4,325m i fyny, teithio 124km a seiclo am 6 awr a hanner.

Te, Cacen a Chasgliadau: ⁠Te Partis Re-engage yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Loveday Williams, 31 Gorffennaf 2023

"Mae Re-engage yn cynnig cyswllt cymdeithasol allweddol i bobl hŷn ar adeg yn eu bywyd pan fydd eu cylchoedd cymdeithasol yn mynd yn llai."

https://www.reengage.org.uk/ 


Ers dros ddeg mlynedd rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Re-engage (Cyswllt â'r Henoed gynt), yn cynnal te partis rheolaidd yn ein hamgueddfeydd ar gyfer pobl hŷn sy'n profi unigrwydd.


Cafodd y te partis cyntaf eu cynnal yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, bedair gwaith y flwyddyn i ddechrau, ond wrth i'r grŵp dyfu, aeth hyn yn wyth gwaith y flwyddyn, rhwng Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. 


Mae'r te partis yn gyfle i aelodau'r grŵp ymweld â'r amgueddfeydd mewn ffordd ddiogel, cyfarfod hen ffrindiau, gwneud ffrindiau newydd, a mwynhau'r casgliadau drwy gyfrwng gweithgareddau a sgyrsiau gydag aelodau. A digon o de a chacen, wrth gwrs! 


Yn ystod y cyfnod hwn, rydyn ni wedi magu perthynas gref gydag aelodau'r grŵp a gyda Jane Tucker, yr arweinydd. Cyn y te partis rydyn ni'n cael sgyrsiau gyda Jane i wneud yn siŵr ein bod ni’n ymwybodol o anghenion hygyrchedd, mynediad ac ati o fewn y grŵp, er mwyn gallu paratoi'r sesiynau yn iawn. 


Dyma Jane i sôn ychydig am sut ddechreuodd y te partis a sut mae hi’n cefnogi’r grŵp:


“Dechreuais i wirfoddoli gyda Re-engage ym mis Mawrth 2013, fel gyrrwr.


Wrth ymweld â Sain Ffagan, yn digwydd bod, tua 2017, digwyddais i weld Marion Lowther a oedd yn drefnydd Re-engage yng Nghymru. Dywedodd fod ganddi grŵp o ryw chwech, ond neb i gydlynu. Ar y pryd, roedden nhw'n cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn, a'r unig leoliad oedd ar gael oedd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – dyna pam mai grŵp Amgueddfa Caerdydd ydyn ni. Gwirfoddolais i gymryd gofal o'r grŵp, ac ers hynny rydw i wedi llwyddo i ddenu mwy o leoliadau a mwy o aelodau. Mae'r amgueddfeydd yn ffefrynnau mawr gan y grŵp, am eich bod chi'n cynnal sgyrsiau a gweithgareddau mor ddiddorol. 


Fel y gwyddoch chi, mae llawer o'r aelodau yn fregus, ac yn methu gadael eu cartrefi heb gwmni. Mae ymweld â'r Amgueddfa yn uchafbwynt iddyn nhw, ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth." (

Jane Tucker, Arweinydd Grŵp Re-engage).


Fis Mawrth eleni, ymwelodd y grŵp ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar gyfer sesiwn am yr arddangosfa BBC 100, sy'n archwilio 100 mlynedd o hanes y BBC yng Nghymru. Cynhaliwyd y sesiwn gan ddau aelod o dîm addysg yr amgueddfa, Jo a Louise.⁠ Defnyddion nhw gwisiau anffurfiol a hwyliog i amlygu cynnwys yr arddangosfa mewn lleoliad cyfforddus, gan y byddai crwydro'r arddangosfa ei hun wedi bod yn her i aelodau'r grŵp. Cwis lluniau a oedd yn canolbwyntio ar deledu y 60au a'r 70au wnaeth Jo, a chwis byr ar arwyddganeuon rhaglenni teledu wnaeth Louise. ⁠Dywedodd Jo a Louise "Fe wnaeth y grŵp fwynhau sgwrsio am eu hatgofion ac roedd llawer o hel atgofion am ymweliadau â'r amgueddfa gyda'u plant a'u hwyrion a'u hwyresau. Gwnaethon nhw wir fwynhau eu te!"
Dywedodd Jane ar ôl yr ymweliad "roedd y sgwrs gawson ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn wych, yn enwedig pan oedd y ddau gyflwynydd yn chwarae cerddoriaeth o hen raglenni teledu a hysbysebion. Cafodd ein gwesteion lawer o hwyl yn ceisio adnabod yr alawon ac yn siarad am yr hen raglenni wedyn."


Roedd ymweliad diwethaf y grŵp â Sain Ffagan ym mis Mai 2023, a hwyluswyd gan ddau aelod o dîm addysg Sain Ffagan, Hywel a Jordan.


Dyma Jordan yn esbonio: "Ar ôl rhoi cyflwyniad iddynt o'r safle, gwnaethon ni roi sgwrs am y gwaith 'Cynefin' sy'n cael ei ddatblygu yn ein rhaglen addysg ysgolion, gan ddefnyddio oriel Cymru... i drafod ymdeimlad unigolion o’u hunaniaeth a sut allwn ni ddefnyddio eitemau i helpu i rannu'r straeon hyn. Yna, gwnaethon ni drafod dealltwriaeth bersonol y grŵp o'u 'Cynefin' nhw, gan ddefnyddio eitemau trin a thrafod o gasgliad yr amgueddfa i danio sgyrsiau ac atgofion. ⁠Roedd trin a thrafod eitemau fel pellenni gwnïo, ceiniogau cyn degoli a stampiau Green Shield, i weld yn destunau trafod poblogaidd ar gyfer y grŵp, gan eu hannog i rannu straeon am fyw yng Nghymru a rhannau eraill o'r byd, eu profiadau o ddefnyddio eitemau bob dydd fel rhain a newidiadau dros amser."


Dyma beth ddywedodd rhai o aelodau'r grŵp am gymryd rhan ar ôl y sesiwn: 


"Prynhawn gwerth chweil yn amgueddfa Sain Ffagan. Mae'n hyfryd gweld pobl eraill a chael sgwrsio gyda nhw gan fy mod yn treulio llawer o amser ar ben fy hun. Dwi wir yn gwerthfawrogi." (Anne)


"Wnes i wir fwynhau'r sgwrs am yr Amgueddfa a'r gwaith maen nhw'n ei wneud. Gall dyddiau Sul fod yn unig iawn, felly mae cael te parti Re-Engage yn gymaint o hwyl ac yn rhywbeth i edrych ymlaen ato." (Rita)


"Roedd trin a thrafod yr eitemau yn yr Amgueddfa yn llawer o hwyl ac yn addysgiadol. Roedd yn ysgogi'r ymennydd ac yn dod ag atgofion yn ôl." (Hazel)


Byddwn ni’n croesawu'r grŵp yn ôl i Sain Ffagan dros yr haf i gymryd rhan mewn sesiwn crefftau edafedd traddodiadol wedi'i hysbrydoli gan ein casgliad tecstilau, a byddan nhw'n dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn yr hydref. 


Mae tîm staff yr Amgueddfa ac aelodau'r grŵp ill dau wastad yn edrych ymlaen at y te partis ac maen nhw wedi tyfu i ddod yn un o hoelion wyth ein rhaglen Iechyd a Lles ehangach. Hir oes iddyn nhw! 


Diolch i bob aelod o'r grŵp Re-engage am rannu eu straeon, barn ac adborth.