: Dysgu Gyda'r Teulu

Blog Gwadd gan y Grŵp Tecstilau Cutting Edge: Arddangos ein Gwaith yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Loveday Williams, 13 Mai 2025

Ar ôl blwyddyn (2024) o greu tecstilau a chelf amlgyfrwng anhygoel wedi’u hysbrydoli gan Sain Ffagan, daeth aelodau Cutting Edge at ei gilydd yn Oriel Gweithdy, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar 25 a 26 Ebrill i arddangos eu gwaith a chynnig gweithgareddau crefft a gwnïo i ymwelwyr er mwyn dathlu Wythnos Pontio Cenedlaethau’r Byd. Ac am ddeuddydd anhygoel! 


Roedd yr ymwelwyr wrth eu boddau’n cael gweld yr arddangosfeydd a darllen y gweithlyfrau a oedd yn disgrifio sut datblygodd y prosiect dros amser. Roedden nhw hefyd wir yn mwynhau bod modd iddyn nhw ymuno yn y gweithgareddau amrywiol, a chawson ni lawer o adborth dros y deuddydd, mewn sgyrsiau ac yn y Llyfr Ymwelwyr. Dyma flas o’r hyn oedd gan bobl i’w ddweud: 
 

“Fel cyd-gwiltiwr ac artist tecstilau, mae’n hyfryd mynd allan a gweld gwaith pawb. Llongyfarchiadau.” Lesley, Higham Quilters, Caerloyw 
“Roedd yn drawiadol iawn gweld darn mor syfrdanol o ysbrydoliaeth leol a gwaith dychmygus” y teulu Byron 
“Arddangosfa ffantastig. Da iawn bawb. Diolch am y croeso cynnes” Sue a Vicki 
  
Rhoddodd y plant gynnig ar y rhan fwyaf o bethau, o liwio i stampio i wnïo, a oedd i weld yn plesio pawb. Ar ôl lliwio llun ar ffabrig, roedd llawer yn awyddus i roi cynnig ar wnïo, a doedden nhw methu cael digon! 
Darluniodd un ferch fach y llythyren E yn fawr ar sgwâr tecstilau a dechreuodd ei wnïo. Roedd hi’n siomedig pan oedd rhaid iddi adael ar ganol ei gwaith, ond fe aeth hi ag ychydig o edafedd gyda hi i’w orffen gartref. Serch hynny, nes ymlaen daeth yn ôl i gasglu mwy o edafedd gan ei bod wedi rhedeg allan o un o’r lliwiau. Mae’n rhaid ei bod hi wedi dod o hyd i gornel fach i barhau â’i gwnïo wrth grwydro o gwmpas yr amgueddfa! 
Roedd yr oedolion yn mwynhau’r gwnïo hefyd! 
Bu criw Grŵp Pwytho Pontardawe yn mwynhau creu broetsys a thylluanod: 
“Am arddangosfa hyfryd, mor ysbrydoledig. Diolch am fy nhylluan/pengwin. Dw i wrth fy modd ag e! Rydych chi’n griw mor hyfryd. Diolch yn fawr i chi gyd!" Glenda, Stitch Pontadawe.  
“Am ddigwyddiad hyfryd. Diolch am y cit broetsh. Wnes i fwynhau ei greu yn fawr. Roedd pawb yn hyfryd a chyfeillgar.” Dawn 

Roedd digonedd o dylluanod yno diolch i Carol. Roedden nhw mor boblogaidd nes bod rhaid iddi fynd adre nos Wener i baratoi mwy! 
“Diolch Carol am fy helpu i greu fy nhylluan!” 
Roedd yna waith lliwio a braslunio gwych i’w weld. Roedd llyfrau braslunio lledr bach Pat yr un mor boblogaidd â thylluanod Carol. Dydy hynny’n ddim syndod, gan eu bod yn rhodd bach gwych i fynd adre gyda chi. 
“Diwrnod hyfryd gyda llawer o grefftau gwych, mwynheuodd y plant yn fawr. Diolch yn fawr iawn.”

Doedd aelodau Cutting Edge ddim yn ofni ymgolli yn y gweithgareddau eu hunain chwaith. Roedden nhw wrth eu boddau’n sgwrsio ag ymwelwyr hefyd, gan ei fod yn gyfle i rannu gwybodaeth, cyngor, ac i’w cyfeirio at adnoddau. Roedd un ymwelydd yn bwriadu mynd ati i drwsio lliain allor, ac roedd hi’n falch iawn o gael ei chyflwyno i ymwelydd arall a allai ei helpu i ddod o hyd i’r plethiadau oedd eu hangen arni. 
 

Adborth gan aelodau grŵp Cutting Edge:  
“Mwynheais i’r prynhawn. Roedd yn ffordd wych o’i dreulio. Ro’n i wrth fy modd yn edrych ar yr arddangosfeydd unwaith eto, a mwynheais i’r stampio!” Sally 
“Roedd yn ddiwrnod llawn hwyl gyda chymaint o ddiddordeb a gwerthfawrogiad... cwrddais i â phobl hyfryd, gyda rhai’n dweud eu bod wedi’u hysbrydoli i roi cynnig ar rywbeth creadigol eu hunain, a phlant cwrtais iawn oedd yn dweud diolch am eu helpu. Wrth fy modd.” Ella. 
 

“Am amser hyfryd heddiw yn cwrdd ag ymwelwyr oedd â chymaint o ddiddordeb yng ngwaith ein grŵp. Roedd cymaint wedi’u synnu ar yr ystod o wahanol sgiliau celf / tecstilau oedd i’w gweld.  Ond fy hoff ran oedd y bachgen ifanc yn y llun uchod, a oedd yn benderfynol o bwytho o gwmpas ei gennin Pedr cyn gadael. Roedd hi mor braf cael cyfle i annog y bobl ifanc.”  Liz 
 

“Deuddydd gwych, a chymaint o bobl yn gadael wedi’u hysbrydoli i barhau i bwytho.” Eleri 
Roedd y cwilt Monopoly yn boblogaidd, a chafwyd sawl awgrym ar gyfer cartref parhaol iddo, ond roedd llawer o’r farn y dylai aros yn Sain Ffagan. 
 

“Ystod anhygoel o waith a sgiliau. Wir wedi mwynhau’r arddangosfa gyfan, yn enwedig y cwilt Monopoly.” Lesley, Y Rhws 
Roedd prosiect pwytho coeden deulu Carol yn boblogaidd hefyd. Roedd Carol wedi’i syfrdanu gan yr ymateb a gafodd. O ganlyniad, mae cnewyllyn gweithdy bellach yn cael ei ffurfio! 

Dros y ddau ddiwrnod, cawson ni dros 650 o ymwelwyr – o bell ac agos – a rhai mor bell â’r Iseldiroedd! 
Roedd dwy fenyw o’r Iseldiroedd a ymwelodd yn awyddus i brynu darnau o’n gwaith celf. Pan ofynnon ni beth oedd yn denu eu diddordeb, cyfeirion nhw at gerdyn post Dianne a cherdyn post Thomas the Taylor gan Monica. Rhoddwyd y cardiau yn rhodd i’r menywod, a chyfnewidiwyd cyfeiriadau gydag addewid gan Monica a Dianne y bydden nhw’n postio cerdyn post ffabrig iddyn nhw hefyd! 
Deuddydd gwych, gydag ymwelwyr ac aelodau Cutting Edge wedi mwynhau fel ei gilydd.  
 

Diolch yn fawr i: 
Yr aelod o staff Sain Ffagan, Loveday, a aeth yr ail filltir i wneud yn siŵr fod popeth oedd ei angen arnon ni ganddon ni. Fe wnaeth hi hyd yn oed ymuno a helpu pan oedden ni’n brysur iawn, ac roedden ni wir yn gwerthfawrogi hynny! 
Gŵr Jan, Alan, am dynnu lluniau i ni. Maen nhw’n edrych yn wych yn ein halbwm! 
A diolch yn fawr iawn i holl aelodau anhygoel Cutting Edge am eu darnau o waith ysbrydoledig a’u hymroddiad i wneud y digwyddiad deuddydd yn Sain Ffagan yn un cofiadwy. Rydych chi’n sêr! 
 

Cynhalion ni’r digwyddiad yn ystod Wythnos Pontio Cenedlaethau’r Byd, a oedd ar ddiwedd y gwyliau Pasg. Roedd yn sicr yn ticio pob bocs ar gyfer ymgysylltu rhwng cenedlaethau, gan fod plant ac oedolion wedi gadael yno’n hapus ac yn fwy hyderus gyda’r sgiliau newydd roedden nhw wedi’u dysgu. 
“Arddangosfa wych a hyfryd oedd gweld yr holl sgiliau. Menter hyfryd, a gwych i blant o bob oed i’w phrofi!” 
"Fantastisch!" Lia, yr Iseldiroedd 
“Arddangosfa ysbrydoledig wych. Ro’n i’n hoff o’r amrywiaeth hefyd – patrymau, pwythau, dyfrlliwiau. Mwynheais i’r gweithgareddau ymarferol hefyd. Ymlaciol a hwyl.” Gwynedd 
“Am ddigwyddiad gwych, gyda darnau gwaith hyfryd i’w hedmygu ac i ysbrydoli! Roedd darparu popeth ar gyfer y prosiectau pontio’r cenedlaethau wnaethon ni mor garedig a hael” Caroline 
“Arddangosfa ardderchog. Menywod dawnus a hyfryd.” 

Ar ôl y digwyddiad, roedden ni’n falch iawn o dderbyn llun o’r digwyddiad gan Mike, sy’n aelod o Grŵp Braslunio Sain Ffagan. Ymwelodd ar y dydd Sadwrn, gan eistedd yn dawel yn y gornel yn braslunio’r olygfa o’i flaen. Roedd e’n meddwl bod ein gwaith, fel ei waith e, yn anhygoel: 
“Cefais i’r cyfle i ymweld â’r arddangosfa o waith aelodau Grŵp Tecstilau Cutting Edge yn Sain Ffagan. Roedd hi’n ddiwrnod hyfryd, ac roedd y digwyddiad yn boblogaidd iawn gyda theuluoedd yn mwynhau diwedd gwyliau’r Pasg. Roedd llawer o weithgareddau llawn hwyl i blant ac oedolion. Cefais fy annog i ymweld ag arddangosfa Grŵp Tecstilau Cutting Edge i weld beth maen nhw’n ei wneud gan aelod o’r grŵp sydd hefyd yn aelod o Grŵp Braslunio Sain Ffagan. Yr ateb yw llawer, gyda’r safon yn uchel iawn hefyd! Roedd pawb mor garedig yn rhannu eu gwaith. Mae gen i lwyth o syniadau, a cheisiais ddal y digwyddiad yn fy mraslun” Instagram @mikelinewalker 
 

Nodyn cloi: 
Postiodd Monica gerdyn post ffabrig at un o’r menywod o’r Iseldiroedd a ymwelodd â’r arddangosfa, ac fe gyrhaeddodd y cerdyn cyn iddi ddychwelyd adre i’r Iseldiroedd! Dyma’r e-bost gafodd Monica gan Thea: 
“Annwyl Monica, 
Am sioc oedd darganfod bod y cerdyn anfonaist ti ata i wedi cyrraedd yn barod erbyn i fi ddychwelyd o fy ngwyliau yn teithio drwy Gymru.  
Roedd hi’n braf iawn dy gwrdd yn yr arddangosfa a chael dewis o’r cardiau roeddet ti wedi’u creu. Roedd hi’n arddangosfa ysbrydoledig iawn, a mwynheais i hi’n fawr. 
Bydda i’n dangos y cardiau i aelodau’r clwb cwiltio yfory, ac rwy’n siŵr y byddan nhw wrth eu bodd gyda nhw hefyd. Mae angen i fi ddod o hyd i le da i’w rhoi nhw, un ai yn fy nghartref neu yn fy ysgol, lle bydda i’n mwynhau edrych arnyn nhw, ond dydw i ddim yn siŵr eto. 
Dymuniadau gorau, ac i aelodau eraill Grŵp Tecstilau Cutting Edge 
Thea”

I ddysgu mwy am Grŵp Cutting Edge, ymwelwch â: Cutting Edge | Sharing textiles knowledge, ideas and skills

Sgwrs gyda Theatr na n'Óg

Leisa Williams a Christopher Parry, 4 Medi 2024

Mae Theatr na n'Óg wedi bod yn frwd dros adrodd straeon ers 40 mlynedd ac wedi cydweithio gyda nifer o safleoedd Amgueddfa Cymru. Gyda'i gilydd, maent wedi cydweithio ar lawer o brosiectau sydd wedi dod â hanes a diwylliant Cymru yn fyw, gan ysbrydoli pobl ifanc ac oedolion ar draws llawer o weithdai a pherfformiadau. 

Mewn blynyddoedd blaenorol mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wedi cydweithio gyda nhw ar amrywiaeth o brosiectau. Yn 2009,  sioe Alfred Russel Wallace, y ffocws oedd ymchwil Wallace ar esblygiad a wnaeth sbarduno Darwin  i gyhoeddi 'On the Origin of Species'. Yn 2022, daeth stori Elgan Jones, bachgen 14 oed a arestiwyd am potsio yn 1898, drama ystafell llys oedd hon a osododd y gynulleidfa fel rheithwyr. Nawr, yn 2024, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn gweithio gyda nhw unwaith eto ar brosiect yn archwilio hanes y bocsiwr Cuthbert Taylor, a anwyd ym Merthyr Tudful, mewn cynhyrchiad o'r enw 'The Fight.' 

Er mwyn cael dealltwriaeth ddyfnach o Theatr na n'Óg, 'The Fight, a rôl y mae Amgueddfa Cymru yn ei chwarae yn y bartneriaeth, eisteddodd Leisa Williams, Uwch Swyddog Dysgu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Geinor Styles, Cyfarwyddwr Artistig Theatr na n'Óg, i gael sgwrs am brosiectau ddoe a heddiw. 

Defnyddiwch y chwaraewr cyfryngau i wrando ar y sgwrs yn llawn. 

Ynghylch ‘The Fight’ | 

Mae "The Fight' yn ddrama newydd sbon sy'n adrodd stori gwir am arwr bocsio Cymraeg. 

Yng nghymoedd difreintiedig y 1930au, roedd bocsio yn fwy na fath o chwaraeon; roedd yn ffordd allan o dlodi. Ganwyd Cuthbert Taylor yn Merthyr, gwelwyd nawr fel un o focswyr orau ei genhedlaeth, dylai fod wedi cael y cyfle i frwydro am deitl Prydeinig, ond cafodd ei wrthod oherwydd lliw ei groen. 

Gan Geinor Styles, Cyfarwyddwyd gan Kev McCurdy 

SuperSibs Tŷ Hafan

Megan Naish, Hwylusydd Addysg, 27 Mawrth 2024

Mae Amgueddfa Cymru wedi dechrau partneriaeth gyda Tŷ Hafan fel rhan o’n Rhaglen Teuluoedd a Blynyddoedd Cynnar. Yn y bartneriaeth hon, rydyn ni hefyd yn gweithio gyda grŵp SuperSibs Tŷ Hafan, a grëwyd ar gyfer brodyr a chwiorydd plant â salwch sy’n cyfyngu ar eu bywyd a theuluoedd sydd wedi cael profedigaeth. Yn ein sesiynau, rydyn ni’n ysgogi’r plant gyda chrefftau, chwarae a gemau sy’n seiliedig ar agweddau o gasgliad ein hamgueddfa, megis ‘Diwrnod Darganfod Deinosoriaid’, ‘Dan y Môr’ a ‘Bwystfilod Bach’.

Mae rhai sesiynau yn cael eu cynnal yn yr Hosbis ei hun, sydd ger y traeth, a’r tir hardd o’i hamgylch yn rhoi lle i’r teuluoedd ymlacio, chwarae a chrwydro. Mae sesiynau eraill yn cael eu cynnal ar-lein o’r amgueddfa, gan ddarparu fersiwn ddigidol a hygyrch y gellir ei gwneud gartref o’r gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio. Mae ein sesiynau yn aml yn canolbwyntio ar weithgareddau cymdeithasol mewn grŵp sy’n cynnig cyfle i blant chwarae a threulio amser gyda’i gilydd, tra’n gwneud defnydd o gasgliad trin a thrafod hyfryd yr amgueddfa. Mae’r gweithgareddau anffurfiol yn annog iddyn nhw sgwrsio, ymddiried a rhannu, sy’n gallu bod yn fuddiol ac yn bwysig i blant a allai fod â phrofiadau bywyd tebyg. 

Gan weithio gyda’r staff gwych yn Tŷ Hafan, rydyn ni’n gallu cyfrannu at yr amgylchedd positif, diddorol a chyfeillgar hwn drwy rannu ein hadnoddau a datblygu perthynas deilwng o ymddiriedaeth gyda theuluoedd hyfryd Tŷ Hafan!

Addysg Blynyddoedd Cynnar yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd mewn partneriaeth â Dechrau'n Deg

Megan Naish, Hwylusydd Addysg, 7 Chwefror 2024

Mae Amgueddfa Cymru wedi cydweithio â Dechrau’n Deg i wahodd teuluoedd â phlant ifanc i edrych ar ein casgliad drwy chwarae, crefftau, a gweithgareddau synhwyraidd fel rhan o’n Rhaglen Addysg Teuluoedd a Blynyddoedd Cynnar.

Mae dod â phlant ifanc i amgueddfeydd yn gallu peri pryder a phetrustod i lawer o deuluoedd, felly mae ein sesiynau dydd Sadwrn wedi’u cynllunio i leddfu’r pryder hwnnw drwy ddarparu llefydd diogel o dan oruchwyliaeth ac adnoddau rhyngweithiol i’n hymwelwyr ieuengach sy’n hybu eu chwilfrydedd a’u haddysg. 

Mae’r sesiwn benwythnos yn cael ei chynnal unwaith y mis, ac mae yna thema gwahanol i bob un yn seiliedig ar agwedd o gasgliad ein hamgueddfa, fel ‘Diwrnod Darganfod Deinosoriaid’, ‘Dan y Môr’, ‘Bwystfilod Bach yn yr Ardd’, ac ‘Oes yr Iâ’. Rydyn ni’n defnyddio Canolfan Ddarganfod Clore fel lleoliad ar gyfer ein sesiynau Dydd Sadwrn i Deuluoedd, a gall teuluoedd daro mewn drwy gydol y dydd a chael cyfle i edrych ar ein casgliad trin a thrafod eang.

Ein nod yw rhoi amgylchedd diogel a chroesawgar i’n teuluoedd gael treulio amser gyda’i gilydd, creu atgofion a chael profiad o’r amgueddfa mewn ffordd unigryw sy’n cefnogi anghenion ein hymwelwyr ifanc a’u teuluoedd.

March is for mulching

Luciana Skidmore, 16 Mawrth 2023

If you are visiting St. Fagans this month you will notice an army of gardeners and volunteers marching around the gardens with wheelbarrows full of organic matter to condition the soil of our beautiful gardens. As winter comes to an end, spring arrives with a promise of growth. This is a crucial moment in the gardening calendar to prepare for the warmer months ahead. 

Because of the over-emittance of greenhouse gases, the Earth’s surface temperature is increasing rapidly. We are noticing summer months that are hotter and drier than ever, only last year we witnessed temperatures around 40°C in some areas of the UK. The excessive heat and prolonged drought have devastating effects on our local flora and fauna. 

One of the most important tasks for this month is to mulch the soil by adding a layer of organic matter to the soil surface. Mulching brings numerous benefits to plants including moisture retention in periods of drought, weed suppression, improvement of soil structure and fertility, reducing the need for artificial fertilisers, prevention of soil erosion, and encouragement of beneficial organisms such as earthworms, soil bacteria and fungi. Additionally, it attracts wildlife to our gardens, one of my favourite memories is of being followed by Robins as we mulch the garden in spring. They patiently wait for a feast of earthworms, while gifting us with their beautiful bird song announcing the arrival of spring. 

There are many different types of mulching materials and each with their own benefits and uses. Most of our gardens are mulched with well-rotted farmyard manure sourced from Llwyn-yr-eos farm in St. Fagans and from a local farmer. The manure is gradually incorporated into the soil by the activity of earthworms and other microorganisms, which improves the soil structure and supplies the plants with nutrients. This nitrogen rich material is ideal to be used on herbaceous borders, vegetable beds, roses and newly planted trees and shrubs.

However not all plants like nutrient rich mulches, plants that are adapted to growing in hot and dry conditions often do not cope well with excessive moisture and high fertility. For example, in the Herb Garden where we have Mediterranean plants such as lavender, rosemary, sage and thyme we have opted for mulching the beds with gravel. This is an inorganic material that does not break down; therefore it does not release nutrients to the soil. In addition, gravel is great at promoting good drainage, suppressing weeds, and adding aesthetic value to the garden.  

This year we are trying new methods of mulching as a sustainable way to utilise the maximum of our local resources. We have started using raw wool provided by the Llwyn-yr-Eos farm to mulch the vines in the greenhouse. This will help with water conservation and prevention of weeds. Besides the wool fleece degrades slowly releasing nutrients into the soil and feeding the vines. Another advantage is that wool can help retain heat during colder months, keeping the root of the vines warm in winter. 

In March we cut back the ornamental grasses and perennials of the Dutch garden and a large amount of material usually ends up in the compost heap. This year we decided to skip this process and instead we added the dried grass clippings directly to the surface of the pumpkin patch. We have sprinkled a fine layer of manure on top to weigh down the grasses and prevent them from blowing in the wind. This will also aid the process of decomposition by introducing nitrogen to this carbon rich material.  While the farmers make hay for a rainy day, the gardeners mulch with hay for a hotter day.

When choosing mulches or growing mediums for your garden, prefer materials from sustainable and local sources in order reduce the carbon footprint from transportation. It is also important to avoid peat-based composts at all costs. The extraction of peat has a negative impact in the environment, it destroys the natural habitat of many species that live in peatlands, besides it releases tons of carbon dioxide into the atmosphere contributing to the greenhouse effect. 
For the home gardener the most sustainable and cost-effective option is to mulch using homemade compost or leaf mould. Why not try making your own compost using kitchen and garden waste? You will be surprised at the benefits you can reap from your compost heap.