: Ailddatblygu Llechi

Magu hyder, un mat rhacs ar y tro!

Chloe Ward, 13 Mehefin 2025

Ym mis Mehefin 2023 cychwynnodd Amgueddfa Lechi Cymru rôl wirfoddoli crefftau er mwyn creu 6 mat rhacs ar gyfer ein rhaglen addysg. Wnaethon ni recriwtio 6 o wirfoddolwyr, ac oedd Isabel de Silva yn rhan o’r grŵp. Dechreuodd wirfoddoli tra'r oedd hi'n gorffen ei gradd meistr ym Mhrifysgol Bangor, a’i rheswm dros wirfoddoli oedd er mwyn ennill profiad ar gyfer swydd neu yrfa. 

Gwirfoddolwyr yn creu matiau rhacs.

Yn o gystal a chreu matiau rhacs, bu rhaid i Isabel a’r gwirfoddolwyr ymgysylltu ag ymwelwyr yn Nhŷ’r Prif Beiriannydd er mwyn egluro sut oedd creu matiau rhacs a thrafod hanes y draddodiad. Pan ddechreuodd Isabel wirfoddoli, roedd hi’n eithaf swil ac yn ddihyder. I weithio ar hyn ymhellach, gwirfoddolodd Isabel i'n helpu ni adeg y Nadolig gyda gweithdai gwneud torchau rhacs hefyd – roedd yn amgylchedd prysur a bywiog! Tyfodd ei hyder wrth iddi siarad â mwy a mwy o ymwelwyr a delio â'r llu o gwestiynau am y matiau rhacs gan ymwelwyr brwdfrydig. 

Gwirfoddolwr yn creu addurniadau nadolig traddodiadol.

“Nath gwirfoddoli hefo'r Amgueddfa Llechi helpu fi i godi fy hyder, gwella fy sgiliau cyfathrebu a dysgu sgil ymarferol newydd.” - Isabel de Silva

Ar ôl iddi raddio a chwblhau ei gradd meistr ac ers magu hyder a datblygu sgiliau gwaith, mae Isabel bellach wedi cael swydd gyda Gwasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd a gyda Storiel, amgueddfa ac oriel Gwynedd. Mi orffennodd Isabel mat rhacs bendigedig ar ei phen ei hun erbyn Gorffennaf 2024… cymerodd blwyddyn o wirfoddoli unwaith yr wythnos! 

"Drwy fy ngwirfoddoli nes i ddysgu gymaint amdan hanes yr ardal leol, ac effaith y chwarel ar fywydau pobol Gogledd Cymru heddiw. Nath y wybodaeth hynny ysbrydoli fi i neud fy rhan mewn cadw a rhannu hanes Cymru, a dwi wedi cael y cyfle i neud hynny drwy fy swydd yn Storiel." - Isabel de Silva

Sut mae pacio a symud Amgueddfa?

21 Mai 2025

Un o rannau cyntaf a mwyaf ein prosiect ailddatblygu fu'r gwaith o symud y rhan fwyaf o'n casgliadau oddi ar y safle i ganolfan gasglu gyfagos. 

Roedd hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau eu diogelwch tra bod gwaith adnewyddu ac adeiladu yn cael ei wneud ar y safle.

Dechreuwyd y gwaith yn ôl ym mis Gorffennaf 2024 gyda phenodiad 2 Gynorthwyydd Casgliadau newydd - Osian Thomas a Mathew Williams - a ymunodd â’r Curadur Cadi Iolen, i ddechrau ar y dasg enfawr o eitemeiddio, labelu a phacio pob gwrthrych yn yr Amgueddfa. 

Yma maen nhw'n dweud ychydig mwy wrthym am yr hyn oedd ynghlwm wrth 'symud amgueddfa'.

"Mae dros 8,000 o greiriau yn ein casgliad - roedd hon yn broject anferth!" Cadi Iolen, Curadur

Mae Amgueddfa Lechi Cymru wedi’i lleoli yng ngweithdai peirianneg gwreiddiol y Gilfach Ddu, ac fe’i hagorwyd yn 1972 yn dilyn ymgyrch i’w chadw’n gyflawn fel Amgueddfa. Er bod y rhan fwyaf o'n casgliad wedi'i ddogfennu, nid oedd nifer mawr wedi a felly rydym wedi gorfod mynd yn ôl at y pethau sylfaenol a dogfennu a thagio popeth yn yr Amgueddfa fel bod popeth wedi'i recordio. 

“Mae’n broses sydd erioed wedi cael ei wneud yn yr Amgueddfa Lechi o’r blaen. Pan agorodd yr amgueddfa yn 1972 doedd o ddim mewn adeilad newydd efo waliau gwyn, a phobl yn dod â phethau i mewn i’w rhoi i ni. Roedd hi’n anodd gwybod beth oedd yma yn wreiddiol a beth sydd wedi cael ei gludo yma gan staff yr amgueddfa dros yr holl flynyddoedd. Ond wrth gwrs mae hynny hefyd wedi rhoi math gwahanol o amgueddfa i ni sydd mor unigryw ei naws."  Cadi Iolen, Curadur O'r patrwm pren lleiaf i’n locomotif hyfryd, UNA, mae gweithdai’r Gilfach Ddu bellach yn le gwahanol iawn i’r hyn y mae pobl wedi arfer ei weld. 

Mae'r gwrthrychau llai naill ai wedi cael eu rhoi mewn bocsys, eu slotio ar silffoedd neu mewn droriau.  O fyrddau trin llechi i feginau, blociau, a thaclau i beiriannau trwsio, mae maint y prosiect wedi bod yn aruthrol ac yn syndod ar adegau. Wrth symud drwy’r Amgueddfa rydym wedi gwneud rhai darganfyddiadau syfrdanol. 

"Ddois i o hyd i focs o offer a oedd yn berchen i'r teulu Patrwm a oedd yn gweithio yn y Llofft Patrwm ers talwm. Roedd y bocs wedi ei guddio o dan fagiau  phatrymau ers blynyddoedd. Rydyn ni mor falch ein bod ni wedi dod ar eu traws gan eu bod nhw – fel llawer o eitemau yn yr Amgueddfa – i’w gweld wedi cael eu gadael fel ag yr oedden nhw pan gaewyd cyfadeilad y gweithdai yn 1969!  Mathew Williams, Cynorthwydd Casgliadau

Roedd y Ffowndri yn ystafell arall yr oedd angen ei chofnodi cyn symud eitemau. Ar un adeg roedd yr ardal dywod anferth yng nghanol yr ystafell wedi’i llenwi â blychau castio ac offer metel ac roedd y waliau wedi’u haddurno â phatrymau pren mor fawr fel ei bod yn anodd amgyffred eu maint nes iddynt ddod oddi ar y wal yn y pen draw – pob un yn datgelu eu hen argraffnod ar y gwaith paent y tu ôl iddynt.

"Wrth archwilio'r adeilad, fe wnaethon ni ddarganfod sawl darn graffiti cudd. Yn Llofft y Gwirfoddolwyr, daethom o hyd i ddarluniau o arweinwyr rhyfel o’r Ail Ryfel Byd, a oedd wedi’u cuddio’n flaenorol y tu ôl i raciau storio. Fe wnes i ddarganfyddiad personol wrth dagio offer ar y craen yn y Ffowndri. Roedd fy nhaid, Gwynfryn Thomas, yn gweithio yno fel Moulder, a sylwais ar “GT” wedi'i ysgythru i'r gwaith coed. Er mawr syndod i mi, fe wnes i gyfri naw o'r hiinitals ar y craen - cysylltiad teimladwy â hanes fy nheulu." Osian Thomas, Cynorthwydd Casgliadau

Caewyd yr Amgueddfa ddiwedd mis Hydref 2024 ac ym mis Tachwedd dechreuwyd ar y gwaith symud! Roedd hyn yn heriol ar sawl lefel, o eitemau enfawr oedd angen eu cludiant eu hunain i symud yr holl eitemau bach mewn blychau storio. Gan weithio gyda Restore Harrow Green – cwmni symud arbenigol sy’n arbenigo mewn symud llyfrgelloedd, amgueddfeydd a swyddfeydd ar raddfa fawr – cafodd pethau eu hadleoli’n gyflym ac effeithlon iawn. 

Un o'r ystafelloedd cyntaf i gael ei wagio oedd Llofft y Gwirfoddolwyr (yr ystafell olaf yn y llofft patrwm) a oedd yn llawn Casgliadau Cadwedig o batrymau pren a gwrthrychau eraill. Dilynodd y Ffowndri, Efail, Caban ac o ystafell i ystafell, trawsnewidiodd yr amgueddfa'n araf o fod yn lle llawn gwrthrychau lle'r oedd gofod yn brin, i deimlo'n wag iasol.

Yna daeth yn amser symud y gwrthrychau mwy ar brif iard yr Amgueddfa. Pwy fyddai wedi meddwl ar ddechrau’r daith ailddatblygu hon y byddem yn gweld un o’n boeleri locomotif yn hongian dros iard yr amgueddfa gan graen ar fore dydd Iau? 

Mae hi wedi bod yn daith ddysgu wirioneddol i ni, un sydd wedi gwneud i ni sylweddoli a gwerthfawrogi maint ac amrywiaeth holl gasgliadau’r Amgueddfa. Mae hefyd wedi bod yn daith hynod werth chweil, yn trin gwrthrychau a oedd yn cael eu cadw ddiwethaf gan y gweithwyr yma ac sydd bellach yn eu gweld i gyd yn drefnus ac yn cael eu storio yn y Storfa Casgliadau newydd. (Osian) 

Ond dim ond diwedd pennod gyntaf y prosiect ailddatblygu mawr hwn yw hyn. 

Mae’r gwrthrychau bellach wedi dod o hyd i gartref dros dro newydd yn ein canolfan Gasgliadau newydd yn Llandegai ger Bangor. 

Rydyn ni'n cynllunio diwrnodau agored yno yn fuan ...ond byddwn yn dweud wrthych chi am y gofod anhygoel hwnnw yn y blog nesaf!

Chwarelwyr yn y Castell!

6 Mai 2025

Chwarelwyr Amgueddfa Lechi Cymru yn symud o’r chwarel i’r castell!  

Am y tro cyntaf erioed mae chwarelwyr llechi yn gweithio yng Nghastell Penrhyn – cartref un o berchnogion chwarel cyfoethocaf Cymru. 

Mae chwarelwyr o Amgueddfa Lechi Cymru, sydd fel arfer i’w gweld yn yr amgueddfa yn Llanberis, wedi symud dros-dro i arddangos eu sgil a’u crefft yn y Castell. 

Mae hyn yn digwydd wrth i Amgueddfa Lechi Cymru gau ei drysau am gyfnod ar gyfer ailddatblygiad mawr. Oherwydd y gwaith hwn mae’r amgueddfa, sy’n rhan o deulu Amgueddfa Cymru, wedi penderfynu rhannu ei stori mewn lleoliadau eraill o fewn safle treftadaeth byd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru. 

Sefydlwyd Chwarel y Penrhyn gan y teulu Pennant. Roedd yn un o brif chwareli llechi Cymru am bron i 150 o flynyddoedd, ac roedd yr amodau gweithio’n galed iawn yno. Ym 1900, aeth dros 2,000 o weithwyr ar streic am well cyflogau ac amodau gweithio – penllanw blynyddoedd lawer o wrthdaro ac anfodlonrwydd. 

Roedd Streic y Penrhyn yn un hir a chwerw. Fe barodd dros dair blynedd, un o’r streiciau diwydiannol hiraf yn hanes Prydain, ac achosodd galedi difrifol i’r chwarelwyr a’u teuluoedd. Rhwygwyd y gymuned yn ddwy; rhwng y ‘streicwyr’ a achosodd yn driw i’r streic neu adael i ddod o hyd i waith arall, a’r ‘bradwyr’ a ddychwelodd i’r chwarel. ⁠ 

I nifer o drigolion yr ardal, mae’r Castell yn dal i fod yn symbol o gyfoeth a gormes. Yn hanesyddol, fyddai’r chwarelwyr byth yn croesi trothwy’r Castell, ac mae llawer o’u teuluoedd wedi cadw draw ar hyd y blynyddoedd. 

Mae Castell Penrhyn a’r gerddi bellach dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, ac mae’r safle wedi bod yn cydweithio gyda thrigolion yr ardal ac artistiaid ers dros ddegawd i rannu mwy o’r hanes, ac ailgysylltu â’r gymuned leol, fel yr esboniodd Ceri Williams, Rheolwr Cyffredinol Castell Penrhyn: 

“Dros y degawd a mwy diwethaf, rydym wedi bod yn ail-edrych ar ein ffordd o rannu hanes a chysylltiadau diwydiannol a threfedigaethol Castell Penrhyn. Rydym wedi cyflawni cymaint ar hyd y cyfnod, ond mae croesawu’r chwarelwyr i’r castell yn garreg filltir arwyddocaol o ran ailgysylltu’r gymuned â’r safle hanesyddol hwn. 

⁠Yn barod, mae torfeydd wedi bod yn ymgasglu i wylio’r arddangosfa hollti llechi, sydd yn ddathliad o grefftwyr lleol, ond hefyd yn brofiad sy’n ychwanegu at hanes diwydiannol y castell. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gydag Amgueddfa Lechi Cymru dros y misoedd i ddod, a chynnig ymweliad unigryw a chofiadwy i Gastell Penrhyn.”

I Amgueddfa Lechi Cymru, mae’r cyfle i’w chwarelwyr arddangos eu gwaith yng Nghastell Penrhyn yn rhan allweddol o’r rhaglen ailddatblygu, ac yn benodol ymgyrch Amgueddfa ar y Lôn yn 2025, sy’n adleoli elfennau o’r amgueddfa tra bod y safle ar gau. 

Dywedodd Elen Roberts, Pennaeth Amgueddfa Lechi Cymru: 

“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r tîm yng Nghastell Penrhyn ac i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru am roi’r cyfle unigryw hwn i ni gydweithio fel rhan o raglen ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru.  Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r Ymddiriedolaeth dros y blynyddoedd i rannu hanes y diwydiant llechi, ac mae’r cyfle i rannu sgiliau a straeon ein chwarelwyr yn beth mawr i’r ddwy ochr. Bydd symud i Gastell Penrhyn – ac i safleoedd eraill yn yr ardal Treftadaeth Byd – yn ystod ailddatblygiad yr amgueddfa yn gyfle i ni gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a sicrhau bod ein stori yn parhau tu hwnt i furiau’r amgueddfa. 

Bydd ein staff ar eu hennill o gael dal i weithio gyda’r cyhoedd, a gwella eu gwybodaeth o hanes y llechi, a gobeithio y bydd ymwelwyr ar eu hennill o gwrdd â staff yr amgueddfa mewn lleoliadau newydd a fydd – ynghyd â’r cynnig presennol i ymwelwyr â Chastell Penrhyn – yn cynnig persbectif newydd ar stori’r llechi.”

Mae’r Amgueddfa a’r Castell yn rhannau allweddol o safle Treftadaeth Byd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru. Croesawyd y datblygiad gan yr Arglwydd Dafydd Wigley, Cadeirydd Partneriaeth Llechi Cymru:

 “Mae Cyngor Gwynedd a’i bartneriaid wedi cydweithio ers blynyddoedd i ddatblygu partneriaeth gref er mwyn sicrhau statws treftadaeth byd i Dirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru. Mae canlyniadau’r bartneriaeth gref hon nawr yn dwyn ffrwyth wrth i ni weld buddsoddiad sylweddol o dros £30m drwy raglen weithgareddau Llewyrch o’r Llechi – fel y rhai yn Amgueddfa Lechi Cymru a lleoliadau eraill ar draws yr ardal. Rydym hefyd yn gweld ffyrdd newydd ac arloesol o gydweithio i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, cynnig profiadau newydd, a rhannu stori fyd-eang llechi Cymru.” 

Mae’r chwarelwyr yng Nghastell Penrhyn bob dydd yn ystod 2025.                                         

Am fwy o hanes y Castell ewch i wefan Castell Penrhyn: www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/penrhyn-castle-and-garden

Lleisiau’r Amgueddfa: Helen Goddard - Cyfarwyddwr Project Amgueddfa Lechi Cymru

Helen Goddard, 28 Mawrth 2025

Helo Helen, dwed ychydig wrthon ni amdanat ti a dy rôl yn Amgueddfa Cymru.

Dw i efo Amgueddfa Cymru ers 12 mis ac mae wedi bod yn wych. Dw i ar secondiad o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy lle dw i fel arfer yn gofalu am wasanaethau’r amgueddfa, y llyfrgell, y celfyddydau a’r archifau. Cyn symud i ogledd Cymru 14 blynedd yn ôl, ro’n i’n gweithio ar draws ynysoedd yr Alban fel archaeolegydd a gweithiwr datblygu cymunedol.

Un o ogledd Cymru ydi fy mam, ac roeddwn i wastad eisiau dysgu Cymraeg. Mae wedi cymryd 14 blynedd i mi lwyddo, ond mi faswn i’n dweud bod blwyddyn yn Llanberis yn sicr wedi bod yn hwb enfawr i ’mhrofiad dysgu!

Yn fy rôl fel Cyfarwyddwr Project dw i’n gyfrifol am reoli a chyflawni project Ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru. Dw i’n arwain nifer o dimau project ehangach ac yn adrodd ar eu gwaith i Fwrdd y Project. Fi sy’n gyfrifol am sicrhau bod y project yn cadw i’w amserlen ac o fewn y gyllideb a’n bod ni’n bodloni disgwyliadau ein cyllidwyr a’n rhanddeiliaid. Fy ngwaith i hefyd ydi gwneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn rhannu ac yn gwthio’r un weledigaeth i gyflawni’r project ar y cyd â’n cymunedau mewn ffordd sy’n ateb eu hanghenion a’u dyheadau nhw.

Mae project Llanberis yn wirioneddol gyffrous. Beth alli di ei rannu amdano, wrth iddo fynd yn ei flaen?

Rydan ni’n sôn amdano fel cyfle unwaith-mewn-oes ac mae hynny’n wir go iawn. Ers i Dirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru gael ei dynodi’n Safle Treftadaeth Byd yn ôl yn 2021, mae cyfleon ariannu strategol wedi’n galluogi ni i ddatblygu cynllun gwirioneddol uchelgeisiol. Byddwn ni’n gallu creu siop, caffi a gofod dysgu newydd sbon i weddnewid profiad yr ymwelwyr. Ac rydan ni am osod lifft i’r llofft patrwm ar y llawr cyntaf am y tro cyntaf, yn ogystal â gwneud pob man yn fwy hygyrch a chael toiledau gwell (yn cynnwys toiled Newid Lle).

Rydan ni’n ceisio creu cydbwysedd ystyriol rhwng parchu sensitifrwydd Gilfach Ddu a darparu profiad cyfoes. Mae ymwelwyr, pobl leol a staff fel ei gilydd yn dweud wrthon ni eu bod nhw wrth eu bodd efo’r safle yn union fel y mae – fel petai’r gweithwyr newydd adael eu hoffer a mynd adref am y dydd. Dyna ysbryd y gweithdai hanesyddol rydan ni’n ceisio’i barchu, tra’n gwneud gwelliannau mwy sylweddol ar yr un pryd i fannau sydd yn hanesyddol wedi gweld llawer o newid yn barod. Er enghraifft, yn ein horielau newydd, byddwn ni’n gallu arddangos mwy o’n casgliad cenedlaethol, ond hefyd datblygu ein rôl fel porth i Safle Treftadaeth Byd y dirwedd lechi ehangach.

Rydan ni newydd gwblhau cam RIBA4, sef y cam dylunio technegol lle cytunir yn fanwl ar bob manyleb a’r deunyddiau i gyd. Rydan ni wedi tendro ar gyfer y prif waith a’r gobaith ydi dechrau ar y safle ym mis Ebrill.

Beth sydd wedi digwydd i’r casgliad tra bod y gwaith adnewyddu’n digwydd, ac allwn ni ymweld o hyd?

Mae’r casgliad cyfan, bron – tua 10,000 o wrthrychau – wedi cael ei symud o’r safle i ganolfan gasgliadau hygyrch newydd yn Llandygái ger Bangor. Mae unrhyw beth sy’n gallu symud, wedi symud! Hynny er mwyn diogelu’r casgliad, ond hefyd i sicrhau ei fod yn dal ar gael tra bod yr amgueddfa ar gau dros dro. Bydd ein rhaglen weithgareddau eleni’n cynnig digonedd o gyfleon i bobl weld, profi a gweithio gyda’r casgliadau yn eu lleoliad dros dro a helpu i ddewis gwrthrychau i’w harddangos a phenderfynu sut y caiff eu straeon eu hadrodd.

Fydd safle Llanberis ar agor tra bod y gwaith wrthi? Byddai’n cŵl cael taith o amgylch yr amgueddfa wag!

Mae’r amgueddfa wedi cau dros dro, yn rhannol er mwyn cadw staff ac ymwelwyr yn ddiogel oherwydd maint y gwaith, ond hefyd am ein bod ni’n gweithio i amserlen dynn iawn! Rydan ni’n cynnig teithiau ‘Gofodau Distaw’ ar hyn o bryd i’r gymuned leol wrth i ni baratoi i drosglwyddo i’r contractwr, a’r gobaith ydi y byddwn ni’n gallu cynnig mwy o deithiau am gipolwg y tu ôl i’r llenni dros y misoedd nesaf.

Mae Tîm Datblygu Llanberis wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau cyllid, sy’n gyfraniad arbennig o werthfawr at y project ac yn haeddu pob clod!

Argol fawr, mae ’na gymaint o bobl yn gwneud gwaith anhygoel. Yn sicr yn y chwe mis diwethaf rydw i wedi cael fy llorio gan Cadi, ein curadur, a staff y safle ehangach am y gwaith maen nhw wedi’i wneud i baratoi’r amgueddfa ar gyfer cau. Mae Kerry Vicker yn arwr imi. Hi wnaeth fy arwain i drwy ein cais ni am Gam 2 Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, sef ychydig dan £10m.

Pa gamau cynaliadwyedd sy’n cael eu hystyried, i ddiogelu dyfodol yr amgueddfa a’r casgliad?

Mae gennon ni Victoria Hillman yn gweithio ar dîm y project fel rhan o’r ailddatblygu er mwyn gallu cadw llygad manwl ar gynaliadwyedd a’r amgylchedd. Mae cymaint o elfennau i hyn, yn gyfuniad o fesurau ataliol a mentrau newydd.

O ran y casgliad, rydan ni’n bod yn bragmatig ac yn ymatebol i’r mathau o gasgliadau diwydiannol sydd gennon ni. Rydan ni’n cadw rhai elfennau – fel Una yr injan – fydd yn cael ei rhoi ar waith eto fel rhan o’r project. Bydd yr amgylcheddau rydyn ni am eu creu ar gyfer y prif orielau yn sicrhau lefel newydd o aerdymheru, a fydd yn ein helpu i arddangos gwrthrychau mwy sensitif am y tro cyntaf.

Rydan ni wedi bod yn gweithio hefyd gyda phrifysgol Met Caerdydd ar gamau ymaddasu i’r hinsawdd ac wedi cynnwys hyn yn y fanyleb ar gyfer pethau fel deunyddiau tirlunio, rheoli dŵr ffo, gallu adeiladau i anadlu, a dyluniad cafnau dŵr glaw ac ati. Dyma amcanion eraill sydd gennym:

  • Marc BREEAM ardderchog i’r adeiladau newydd
  • Blychau newydd i ystlumod a gwenoliaid duon
  • Trawsleoli cennau a mwsoglau
  • Plannu rhywogaethau brodorol a phrin
  • Cynaeafu dŵr glaw
  • Cynllun goleuo sensitif iawn
  • Sefydlu addysg am gynaliadwyedd a’r amgylchedd ym mhob deunydd dehongli

Mae’r rhestr yn mynd ymlaen!

Beth wyt ti’n edrych ymlaen ato fwyaf am yr ailddatblygu?

Fedra i ddim aros i weld fy nau blentyn ifanc yn chwarae yn y mannau rydan ni’n eu creu. Dw i’n gobeithio gweld dim byd ond cyffro a rhyfeddod ar eu hwynebau wrth iddyn nhw grwydro’r lle.

Yn olaf, mae hwn yn hoff gwestiwn ganddon ni – beth ydi dy hoff ddarn yng nghasgliad Amgueddfa Cymru?

Wel, dw i heb fod yma’n hir iawn, ond mi faswn i’n dweud mai fy hoff wrthrych hyd yma ydi Cadair Eisteddfod Caban Mills yng nghasgliad yr Amgueddfa Lechi. Am fynegiant syml, hardd o fywyd yng nghymunedau’r chwareli a phrofiad byw y rhai fu’n cydeistedd yn y Caban!

Gwirfoddoli: Dewch i Gymryd Rhan drwy gatalogio a glanhau casgliadau yn Amgueddfa Lechi Cymru

Chloe Ward, 2 Medi 2024

'Da ni wrthi'n paratoi ar gyfer y project ailddatblygu yn Amgueddfa Lechi Cymru, sydd ar ddechrau ym mis Tachwedd 2024! Ac eisiau rhoi cyfle i wirfoddolwyr fod yn rhan o'r project drwy helpu ni glanhau, catalogio a phacio'r casgliad o batrymau yn y Llofft Batrwm.

Er mwyn sicrhau bod ein casgliadau diwydiannol pwysig yn cael eu gwarchod tra bod gwaith cadwraeth ac adnewyddu hanfodol yn cael ei wneud i’r Gilfach Ddu, mae’r casgliad yn symud. Wel... rhan ohono! Mae ein Cynorthwywyr Casgliadau a Chatalogio, Mathew ac Osian, eisoes wedi bod yn brysur yn atodi labeli ac yn catalogio eitemau o’r casgliad sydd heb eu cofnodi'n mor fanwl o’r blaen. Byddant yn eu glanhau a'u pacio'n ddiogel gan ddefnyddio papur sidan.

Mae hon yn gyfle gwych i ni fel amgueddfa groesawu gwirfoddolwyr mewn ffyrdd newydd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle a rhoi cyfleoedd i bobl leol cael profiadau, datblygu sgiliau a chael gwella eu hiechyd meddwl trwy wirfoddoli.

Swnio'n ddiddorol? Eisiau Cymryd Rhan? Beth am edrych ar ddisgrifiad rôl Gwirfoddolwr Casgliadau sydd ar ein wefan. Bydd modd gwirfoddoli ar ddyddiau Mawrth neu Iau, 10:00-1:00 er gallwn fod yn hyblyg i siwtio trafnidiaeth cyhoeddus. Bydd y project yma'n rhedeg rhwng 24 Medi a 31 Hydref, ond bydd projectau gwahanol gyda'r casgliadau yn cychwyn yn y flwyddyn newydd. Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â Chloe Ward, ein Cydlynydd Gwirfoddoli ac Ymgysylltu ar chloe.ward@amgueddfacymru.ac.uk.