Profiad Gwaith yn Amgueddfa Lechi Cymru 2026 Lloer a Becca, myfyrwyr profiad gwaith, 14 Gorffennaf 2026 Yn ystod wythnos profiad gwaith eleni yn Amgueddfa Lechi Cymru, gofynnwyd i'r myfyrwyr gwneud cofnod o'u profiad nhw trwy'r wythnos er mwyn ysgrifennu blog. Dyma'r fformat wnaeth y myfyrwyr dewis! Cliciwch ar y lluniau ar y dde, neu darllenwch isod am brofiadau Becca a Lloer!Diwrnod 1Cawsom gyflwyniad gan Chloe, a chawsom hefyd laniard i ddangos ein bod ar brofiad gwaith yma. Aethom i Ysbyty'r Chwarel i helpu ac i greu fideo yn dangos sut i gyrraedd y chwarel er mwyn annog mwy o bobl i ymweld â'r ardal. Er na wnaethom llawer iawn heddiw, roedd yn ffordd dda o ymgartrefu yn yr amgylchedd gwaith. Dysgom fod amgueddfeydd yn gymhleth iawn y tu ôl i'r llenni, a bod llawer o wahanol swyddi yn cyfrannu at eu gweithrediad. Roedd yn dawel iawn ac nid oedd llawer o ymwelwyr yn Ysbyty'r Chwarel, felly rydym yn gobeithio y bydd y fideo yn annog mwy o bobl i fynd yno. Sylweddolon ni fod mwyafrif yr ymwelwyr heddiw yn bobl o Loegr, sy'n beth da gan eu bod eisiau dysgu am yr hanes. Fodd bynnag, yn rhyfeddol, nid oedd llawer o bobl Cymru eu hunain yn awyddus i fynd i ddysgu am eu hanes eu hunain. Ar ddiwedd y dydd, gwnaethom edrych ar y golygfeydd hardd y mae Ysbyty'r Chwarel yn edrych drostynt a chael cyfle i ddod i adnabod ein gilydd, gan nad oeddem yn adnabod ein gilydd cyn heddiw.Diwrnod 2Ar ddiwrnod 2, dechreuon ni gyda thasg weinyddol lle gwnaethom ddysgu mwy am ddefnyddio Excel i gadw a rheoli ystadegau ffigyrau. Gwnaethom ddefnyddio Excel i deipio ystadegau o hen ymweliadau, er enghraifft o 1967. Dysgom fod manylion fel hyn yn ddefnyddiol iawn wrth adnabod patrymau a gweld beth sydd angen ei wella mewn digwyddiad neu dasg. Gwnaethom hefyd helpu Lowri i greu gweithgaredd ar gyfer plant ifanc, a oedd yn ddefnyddiol iawn i mi gan fy mod wedi dysgu bod llawer o wahanol swyddi o fewn un sefydliad nad fyddech chi byth yn eu disgwyl. Yn ddiweddarach, gwnaethom helpu Mari, sy’n gweithio yn yr adran addysg ochr yn ochr â Lowri, i fynd i lawr i’r storfa. Mae hi’n gweithio’n rhan-amser, ac roedd hynny’n rhywbeth nad oeddwn yn gwybod y gellid ei wneud pan fyddwch yn oedolyn sy’n gweithio. Roedd yn ddiddorol ac yn ddefnyddiol dysgu bod swydd neu gyfle gwaith sy’n gallu addas i bawb bob amser, sy’n beth gwych i’w wybod wrth ddechrau eich gyrfa. Yn ddiweddarach, cawsom gyfle i gael cyfarfod gydag Amgueddfa Cymru am bwysigrwydd defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Roedd hyn yn ddiddorol iawn oherwydd dysgom fod bod yn ddwyieithog yn wirioneddol fuddiol gan ei fod yn darparu mwy o gyfleoedd gwaith.Diwrnod 3Roedd hwn yn un o ddiwrnodau mwyaf cyffrous yr wythnos, gan ein bod wedi cael y cyfle i fynd i mewn i’r Amgueddfa Lechi tra oedd ar gau. Ond ar ddechrau’r dydd, gwnaethom helpu Lois drwy greu cynllun ar sut i wneud plant a rhieni yn fwy ymwybodol o’r llwybr natur y mae Amgueddfa Cymru yn ei gynnig. Buom yn trafod syniadau gyda’n gilydd cyn cael cinio cynnar. Yna aethom i lawr i’r safle adeiladu i gael offer diogelwch fel bod pawb yn ddiogel yn ystod y daith. Roedd yn rhaid i ni hefyd gymryd rhagofalon diogelwch eraill, fel gwisgo trowsus ac esgidiau cerdded. Roedd y daith yn hwyl iawn, ac fe wnaethon ni helpu i gadw pawb gyda’i gilydd drwy gydol y daith. Fodd bynnag, roedd hi’n hynod boeth y diwrnod hwnnw, felly roedd yn eithaf anodd canolbwyntio ar adegau. Ar ôl y daith, prynodd Chloe hufen iâ i’r ddau ohonom. Dewisom flas 'cookie dough', ac roedd hynny’n hyfryd iawn ac yn help mawr gyda’r gwres. Wedyn cerddom yn ôl i fyny at y chwarel a ffilmio TikTok am y llwybr natur cyn gorfod gadael. Dysgom am waith cadwraeth a pha mor bwysig ydyw, yn ogystal â faint o waith sy’n mynd i mewn i warchod amgueddfeydd. Roedd yn dangos y gwaith gofalus a manwl sydd ei angen i sicrhau bod popeth yn gywir er mwyn adrodd stori’r amgueddfa yn effeithiol.Diwrnod 4Ar ddiwrnod pedwar aethom i Gastell Penrhyn. Cawsom daith o amgylch y castell, ond yn ddiweddarach dysgom fwy am hanes y castell a hanes teulu Penrhyn. Dysgom fod hyn yn rhan bwysig iawn o redeg amgueddfa neu safle hanesyddol oherwydd, er bod pobl yn mwynhau ymweld â Chastell Penrhyn, mae’r rhan fwyaf yn ei weld fel taith o amgylch tŷ hardd yn hytrach nag edrych ar rannau da a drwg hanes y castell. Er enghraifft, buom yn dysgu am y cysylltiadau â chaethwasiaeth yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif. Rydym yn meddwl ei bod yn bwysig iawn i ymwelwyr wybod beth ddigwyddodd mewn gwirionedd yn y gorffennol, yn hytrach na gweld y castell fel tŷ mawr yn unig. Yna gwnaethom wylio arddangosiad llechi, cyn helpu pobl i gwblhau arolwg am eu profiad ac am eu hymweliadau blaenorol ag Amgueddfa Lechi Llanberis. Roedd hyn yn brofiad da iawn gan ei fod yn dangos pa mor ddefnyddiol y gall arolygon fod wrth redeg sefydliad neu gwmni. Mae arolygon yn caniatáu i’r sefydliad ddeall barn a safbwyntiau ymwelwyr am yr hyn y maent yn ei gynnig. Maent hefyd yn helpu i nodi’r hyn sydd angen ei hyrwyddo’n well neu’r meysydd y mae angen eu gwella.Diwrnod 5Ar ein diwrnod olaf yma gydag Amgueddfa Cymru, dechreuon ni’r diwrnod drwy grynhoi sut roedd yr wythnos wedi mynd a beth roeddem wedi’i wneud a’i ddysgu. Gwnaethom ysgrifennu’r blog hwn ac wedyn byddwn yn creu blog arall am bwysigrwydd hanes y diwydiant llechi yng Nghastell Penrhyn. Wedi hynny, byddwn yn gwneud ychydig o fideos hyrwyddo ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol cyn gorffen yn gynnar. Mae’r profiad gwaith hwn wedi dangos llawer i ni ac wedi ein helpu i sylweddoli pa mor bwysig yw amgueddfeydd a sut maent yn gweithio y tu ôl i’r llenni. Mae hefyd wedi rhoi sgiliau newydd i ni, megis siarad â phobl newydd, gweithio fel rhan o dîm a helpu eraill. Nid oeddem wedi ein synnu’n arbennig gan y ffordd mae amgueddfeydd yn gweithredu, gan ei bod yn debyg iawn i’r hyn yr oeddem wedi’i ddychmygu y byddai gweithio mewn amgueddfa yn ei olygu.
Parti Lleoliad Llyngyr Gwrychog - Straeon gan fyfyrwyr sydd ar leoliadau ac yn gweithio ar lyngyr gwrychog morol Teresa Darbyshire, 26 Awst 2025 Mayu SeguchiHelo, Mayu Seguchi ydw i ac rydw i newydd ennill gradd BSc (Anrh) mewn Bioleg Bywyd Gwyllt Rhyngwladol o Brifysgol De Cymru. Y cwestiwn mwyaf cyffredin yr ydw i wedi ei gael ers symud i ffwrdd o fy nhref fach ym Michigan yw "Pam Cymru"? Rwy’n ateb yn syth, bob tro, drwy ganmol y cwrs prifysgol oherwydd bod cymaint o deithio yn rhan o’r cwricwlwm. Mae gen i straeon am fy mhrofiadau - am y gyr o eliffantod Affricanaidd wnaeth ein bygwth ni yn Ne Affrica, neu am nofio mewn afon hyfryd yng Nghoedwig Law Chiquibul yn Belize, wrth i adar seithliw hedfan uwch ein pennau. A byddaf yn siŵr o sôn wrth unrhyw un sy’n fodlon gwrando sut i mi blymio naw gwaith i’r ail farriff mwyaf yn y byd, a sut y gwnaeth hynny agor llwybr newydd ac annisgwyl i mi i fyd bioleg forol. Mi es i mor bell â dewis traethawd hir ar yr iguana er mwyn i mi allu byw ar ynys fach oddi ar arfordir Honduras am ddau fis, gan blymio a snorclo bob munud sbâr.Felly, pan ddaeth cyfle yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i weithio gyda llyngyr gwrychog morol, aka polychaetes, roedd yn rhaid imi gyflwyno cais. Yn fy niwrnod cyntaf, osgoi mynd ar goll ar hyd llwybrau dryslyd coridorau’r amgueddfa oedd y brif dasg ac yna dechrau dysgu am y dulliau digideiddio y mae’r amgueddfa yn eu defnyddio ar gyfer sbesimenau. Dim ond ar ôl imi gael trefn ar bethau a dechrau gweithio gyda’r casgliad y sylweddolais pa mor anhygoel ydoedd mewn gwirionedd. Cafwyd y samplau gan R. D. Purchon o bum lleoliad ar hyd Môr Hafren: Llan-bedr Gwynllŵg, Ynys Sili, Harbwr y Barri, Breaksea Point, a Thwyni Dale. Mae hyn yn golygu bod pob sbesimen rwy'n ei drin wedi byw yn nyfroedd Cymru o amgylch Caerdydd! A finnau wedi teithio dramor ar gyfer fy ngwaith maes i gyd, roedd yn hawdd cael fy swyno gan farriffiau lliwgar a mamaliaid morol mawr. Ond mae'r casgliad hwn wedi agor fy llygaid i'r bylchau yn fy ngwybodaeth am rywogaethau rydw i’n rhannu fy nghartref â nhw ac sy’n rhoi cyfle i mi ddysgu mwy. Felly, erbyn hyn, pan fydd pobl yn gofyn i mi pam y symudais i Gymru, rwy’n gallu ateb "Pam lai?” Gyda’r holl fywyd gwyllt hardd, o balod i lyngyr gwrychog, mae cymaint i'w ddarganfod.Mewn amgueddfeydd sydd â chasgliadau mawr, fel Amgueddfa Cymru, mae bron yn amhosibl cofrestru pob sbesimen sy'n dod i law. Fodd bynnag, mae hyn yn cyfyngu ar faint o wybodaeth y gallwn ei ganfod am rywogaeth, ac mae hynny'n cynnwys gwybodaeth sy’n werthfawr i ffawna Cymru a'r DU. Felly, cafodd fy nghydweithwraig, Caitlin Evans (gweler isod), a minnau y dasg o 1) curadu'r sbesimenau yng nghronfa ddata yr amgueddfa a 2) tynnu llun o bob sbesimen a’i atodi. Byddaf yn trafod y fethodoleg a ddefnyddiwyd ar gyfer curadu'r casgliad gan Purchon (1950), cyn i Caitlin esbonio sut yr aethon ni ati i ddelweddu ein gwaith gyda'r llyngyr gwyrchog.I guradu'r casgliad, defnyddiais gronfa ddata FileMaker Pro gyda thempled a ddatblygwyd gan yr amgueddfa (Ffigur 1). Ar gyfer pob sbesimen, cofnodais enw'r casgliad, rhif derbyn (rhif unigryw sy'n ein galluogi i leoli pob sbesimen), a dyddiad casglu'r sbesimen, yn ogystal â theulu, genws a rhywogaeth y sbesimen. Roedd pob sbesimen hefyd yn nodi safle casglu sydd, o'i baru â thraethawd PhD R. Denison Purchon ar The Littoral and Sublittoral Fauna of the Northern Shores, near Cardiff a Dale Fort Marine Fauna a olygwyd gan J.H. Crothers, yn rhoi'r wybodaeth angenrheidiol i mi bennu cyfesurynnau hydred a lledred bras yr ardal lle tarddodd y sbesimen. Hefyd, roedd y papurau hyn yn cynnwys llawer mwy o gyd-destun ar gyfer safleoedd casglu'r sbesimenau, gyda rhai unigolion yn disgrifio'r gwaddodion lle cawsant eu darganfod. Ar ôl cofnodi'r gwaddod a chwblhau'r dogfennau hyn, byddai gwybodaeth adnabod allweddol yn cael ei hargraffu ar labeli llai i'w cadw yn y jar gyda'r sbesimen (Ffigur 2). Gyda'r casgliad wedi'i guradu'n llawn ar gronfa ddata yr amgueddfa, roedd hi'n bryd dechrau'r broses ddelweddu.Caitlin EvansDychmygwch allu dysgu am anifeiliaid sy'n gwbl angof i bobl ac ymchwilio iddynt. Infertebratau morol yw’r llyngyr gwrychog, a dydy rhai pobl ddim hyd yn oed yn gwybod amdanyn nhw oherwydd eu natur o gloddio yn y tywod. Maen nhw'n byw ar hyd traethlinau a llanw ein hoff draethau ac mae’n hawdd i rywun beidio â sylwi arnyn nhw o gwbl. Caitlin ydw i, myfyrwraig Bioleg sydd ar flwyddyn olaf fy ngradd israddedig ym Mhrifysgol De Cymru. Ar hap y daeth y cyfle i mi weithio ar leoliad yn Amgueddfa Cymru - doedd gan i ddim bwriad go iawn i fynd ar leoliad. Ond pan soniodd un o'm darlithwyr am y cyfle hwn, roeddwn i'n gwybod bod rhaid i mi fachu ar y cyfle. Pan ddechreuais yn y brifysgol, doeddwn i ddim yn siŵr pa faes i’w ddilyn. Ond cyn gynted ag y dechreuais i astudio ecoleg a sŵoleg, taniwyd diddordeb angerddol yn y pwnc. Teithiais i goedwig law ac arfordir Belize am fis, gan ennill profiad ymarferol a chael cipolwg heb ei ail ar sut brofiad fyddai gweithio yn y maes. O rwydi dal adar ac ystlumod i sgwba ddeifio, fe wnaeth y profiad hwn atgyfnerthu fy niddordeb. Ar hyn o bryd, rwy'n casglu data ar gyfer fy mhrosiect traethawd hir ar boblogaethau ystlumod, gan gasglu data ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod ynghyd â chwblhau'r lleoliad hwn, sy'n golygu bod fy wythnosau i'n llawn dop o weithgareddau sŵoleg.Yn ystod fy amser yn yr amgueddfa, cefais y dasg o guradu a chwblhau gwaith delweddu ar Gasgliad Mendelssohn gan fy ngoruchwylydd Dr Teresa Darbyshire (Uwch Guradur: Infertebratau Morol). Mae hwn yn gasgliad enfawr o tua 115 o sbesimenau sydd wedi'u cadw mewn hylif. Maen nhw'n amrywio o samplau bach y gallwch prin eu gweld i lyngyr mawr sydd prin yn ffitio yn eu jariau. Mae'r sbesimenau sydd yn y casgliad hwn i gyd wedi'u casglu ar ynys Guernsey gan J.M. Mendelssohn ac wedi eu cadw mewn ethanol. Mae gweithio gyda'r casgliad hwn wedi fy helpu i werthfawrogi bioamrywiaeth rhan o’r byd sy’n anghyfarwydd i mi. Mae'n rhoi cipolwg heb ei ail ar fyd natur yr ardal honno. Fel i Mayu grybwyll, roedd y dasg o guradu'r casgliad hwn yn cynnwys chwilio'n drylwyr trwy draethawd ymchwil PhD Mendelssohn o 1976 er mwyn darganfod union leoliadau casglu'r sbesimenau hyn. Trwy ddefnyddio'r traethawd ymchwil a chymorth Google Maps dibynadwy, roedd modd i mi bennu cyfesurynnau hydred a lledred ar gyfer pob sbesimen a'u cofnodi yn y gronfa ddata. Cafodd pob manylyn ei nodi ar y gronfa ddata gan gynnwys yr holl wybodaeth dacsonomaidd a hyd yn oed manylion gwaddodion. Ar ôl cwblhau hyn ar gyfer pob sampl, aethom ati i baratoi labeli ffres ar gyfer y samplau hylif corfforol. Roedd hyn yn cynnwys agor y samplau a rhoi label newydd yn y jar. Dull hawdd a chyflym o adnabod y sbesimen.Y cam nesaf fyddai llywio'n ffordd trwy'r ddrysfa i lawr i'r ystafell ddelweddu. Roedd y broses o ddelweddu'r sbesimenau hyn yn cynnwys y profiad corfforol o sut i ymdrin â sbesimenau hylif wedi'u cadw, yn y ffordd gywir. Roedd tynnu'r llyngyr gwrychog wedi'u cadw allan o'r jar a dadansoddi manylion anhygoel a nodweddion esblygiadol y llyngyr hyn yn wirioneddol anhygoel. Roedd y gwaith delweddu yn rhoi cyfle i ni ennill sgiliau na fydden ni byth wedi'u datblygu oni bai am yr amgueddfa, gan gynnwys sut i drafod hen sbesimenau yn iawn - a chawsom hefyd ein trwytho mewn ffotograffiaeth. Yn ystod ein hamser yn yr amgueddfa, buom yn ddigon ffodus i dreialu project DISSCO (System Ddosbarthedig ar gyfer Casgliadau Gwyddonol) sy'n cynnwys digideiddio casgliadau'r amgueddfa. Mae’r project helaeth hwn yn cynnwys POB casgliad, a'r gobaith yw y bydd y casgliadau morol yn rhan ohono rywbryd yn y dyfodol (Ffigur 3).Cam cyntaf y broses ddelweddu yw cwblhau delwedd archwilio, sef tynnu llun o bopeth sy'n bresennol yn y jar (Ffigur 4). Gan ddefnyddio gefeiliau, byddem yn tynnu'r sbesimen allan a'i roi mewn dysgl petri llawn ethanol. Byddem wedyn yn cymryd yr holl labeli, hen a newydd, ac yn eu gosod yn daclus mewn ffrâm. Yna, byddem yn ychwanegu cod QR ar gyfer proses DISSCO. Ar ôl tynnu lluniau o du blaen a thu ôl y labeli a'r sbesimen, byddem wedyn yn symud ymlaen i'r delweddau o’r sbesimen. Mae Ffigur 5 yn dangos manylion y sbesimen, er enghraifft mae gan Arenicola marina nifer benodol o 'gylchoedd' ar ei ben a ddefnyddir i'w adnabod. Mae'r broses hon o ddelweddu sbesimenau yn golygu tynnu sawl llun ar lefelau ffocws gwahanol, sydd wedyn yn cael eu cyfuno i greu ffotograff hynod glir a manwl. Yna, rydyn ni'n defnyddio meddalwedd Helicon Focus i rendro'r ddelwedd derfynol hon cyn ei throsglwyddo i Photoshop i ychwanegu bar graddfa. Cwblhawyd y broses hon ar gyfer fy nghasgliadau i a Mayu (Ffigur 5). Byddem yn cyfnewid tasgau’n rheolaidd, gan roi cyfle i ni feithrin ein sgiliau delweddu ymhellach (Ffigur 6). Ein tasg olaf yn ystod ein hamser yn yr amgueddfa oedd defnyddio Photoshop i olygu ein delweddau i'w gwneud yn lân ac yn daclus. Mae'r profiad ar leoliad wedi caniatáu i ni ennill sgiliau gwerthfawr a fyddai’n amhosibl eu cael yn unrhyw le arall. Bu'n brofiad anhygoel sydd wedi agor y drws i fyd y gwyddorau naturiol ac mae’n gam anhygoel yn ein gyrfaoedd i’r dyfodol.Roedd ein cyfnod yn yr amgueddfa yn llawn hwyl a rhyfeddodau, diolch i bawb yn yr adran gwyddorau naturiol. Yn ogystal â'r adran forol, cawsom bersbectif mewnol o sawl adran arall gan gynnwys fertebratau a botaneg - rydyn ni'n hynod ddiolchgar iddyn nhw, ac wedi meithrin cyfeillgarwch newydd trwy gydweithio. Diolch i'r staff ac i’n goruchwylydd, Teresa Darbyshire, am greu amgylchedd gwaith mor gynnes a chroesawgar ac am sicrhau amser anhygoel i ni yn yr amgueddfa. Rydyn ni wedi ehangu ein gwybodaeth yn aruthrol, ac allen ni ddim fod wedi gofyn am brofiad gwell.
Wythnos yn gweithio yn Amgueddfa Lechi Cymru efo Cari a Mali Cari a Mali, myfyrwyr profiad gwaith, 14 Gorffennaf 2025 Diwrnod 1 Beth wnaethom ni heddiw ‘ma?Yn ein diwrnod cyntaf yma bu i ni fynd am dro o amgylch yr ardal gan ehangu ein dealltwriaeth am hanes y chwareli. Yn ogystal, bu i ni ymweld gyda’r Ysbyty Chwarel gan ddysgu mwy am afiechydon a chlefydau a byddai’r chwarelwyr yn eu hwynebu.Pa sgiliau ddysgon ni o’r profiad?Gan fod disgyblion ysgol wedi dod i ymweld gyda’r Amgueddfa cawsom ddysgu sut i weithio gydag ymwelwyr - yn enwedig plant iau, a dysgu mwy am yr ardal o wrando ar y cyflwyniad. Wrth gerdded o amgylch yr ardal, yn sicr, rydym wedi dysgu llawer mwy am hanes y chwareli a’r chwarelwyr.Diwrnod 2Beth wnaethom ni heddiw ‘ma?Heddiw yr aethom ni i Gastell Penrhyn. Yma, bu i ni gerdded o amgylch y castell a gwylio arddangosiad naddu a hollti. Yn yr arddangosfa cawsom ddysgu fwy am ddylanwad llechi, nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y byd. Gofynnom hefyd am adborth gan y gwylwyr. Tra yn ymweld â’r Castell, bu i ni ddarganfod gwely wedi ei greu yn gyfan gwbl o lechan!Pa sgiliau ddysgon ni o’r profiad?Wrth drafod gyda chynulleidfa’r arddangosfa, bu i ni ddatblygu sgiliau trafod cyhoeddus a derbyn adborth ac roedd o fodd er mwyn magu hyder a sgiliau cyfathrebu. Diwrnod 3Beth wnaethom ni heddiw ‘ma?Diwrnod hanesyddol heddiw yn Ysbyty’r Chwarel. Cawsom ehangu ein dealltwriaeth hanesyddol o’r ysbyty, yr ardal, y chwareli a’r chwarelwyr. Daethom yn ôl i’r swyddfa wedyn i weithio ar ein blog ac am gyfarfod.Pa sgiliau ddysgom ni o’r profiad?Drwy weithio ar y blog rydym wedi cryfhau ein sgiliau dylunio, gwirio ac iaith. Ac wrth gwrs, drwy wario amser yn Ysbyty’r Chwarel cawsom ehangu ein dealltwriaeth hanesyddol.Diwrnod 4Beth wnaethom ni heddiw ‘ma?Heddiw cawsom roi ein sgiliau ffilmio a technegol i’r defnydd drwy gymryd clipiau fideo ar gyfer ‘insta reels’. Erbyn diwedd y dydd roeddem wedi casglu clipiau fideo ar gyfer reel ‘Helfa Natur’ ac ar gyfer reel ‘Wythnos Profiad Gwaith’.Pa sgiliau ddysgom ni o’r profiad?Yn sicr, cryfhaom ein sgiliau TGCh wrth ddefnyddio camerâu, mics, a dysgu sut i greu cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol. Diwrnod 5Beth wnaethom ni heddiw ‘ma?Heddiw roedden ni'n help setio fyny stondin yr Amgueddfa Lechi ar gyfer Trail Marathon Eryri 2025. Ar ôl hynny daethom yn ôl i’r swyddfa i orffen ein blog ac y reels.Pa sgiliau ddysgom ni o’r profiad?Drwy setio’r stondin i fyny cryfhaom ein sgiliau gwaith tîm ac wrth gwrs ein sgiliau corfforol! Drwy orffen y blog a'r reels fe wnaeth ganiatáu inni gryfhau eich sgiliau golygu a thechnoleg.Ewch draw i Facebook i weld Reel sy'n cofnodi amser Cari a Mari ar brofiad gwaith i glywed fwy!
Meeting Microscopic Marvels Aron O'Shea, 28 Awst 2024 I’m currently studying heritage conservation at Cardiff University, so I wanted to undertake his placement as I have a keen interest in how museums digitise their collections for educational purposes and to increase the accessibility of the heritage they safeguard, and I also wanted to explore how museum collections are used for research purposes.What are diatoms?Diatoms are microscopic, single-celled algae that inhabit oceans, rivers, and lakes. They are notable for their intricate cell walls made of silica, which resemble delicate glass shells when viewed under a microscope. These cell walls, called frustules, have unique and complex patterns. Diatoms play a vital role in the environment by performing approximately one-fifth of the total global photosynthesis. This process not only produces a significant portion of the Earth's oxygen but diatoms also form an important part of aquatic food webs, supporting a diverse range of marine and freshwater organisms.Their importance for research lies in their ability to act as bio-indicators in aquatic ecosystems. Analysis of diatom populations and diversity studies have been used to evaluate human impact on freshwater and marine environments. As bio-indicators, diatoms can be used to assess the levels of organic pollution, eutrophication and acidification of their aquatic environment. Different species have differing tolerance levels of environmental conditions like water pH (the acidity or alkalinity of the water) and nutrient concentrations. Several diatom indices have been developed and are used by the Environment Agency to monitor water quality in UK rivers and lakes.Analysis of diatom populations can also be used to demonstrate trends over time, as Ingrid’s work on the restoration of water quality of the rivers Wye and Irfon through periodic liming shows (for more details visit https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S1470160X20309961#ab010). The same case can be made for historical collections stored in museums, which can provide unique insight into historical diatom populations, and which can be used to infer previous environmental conditions and compare them to those found in contemporary studies.In addition to their environmental and research importance, diatoms are incredibly beautiful. So much so, that during the Victorian period, they were often assembled into decorative arrangements on microscope slides. For the uninitiated, I would highly recommend searching for images of Johann Diedrich Möller’s work as well as the more contemporary works of Klaus Kemp; they are truly astounding arrangements. The PlacementUnder Dr. Ingrid Juttner’s excellent guidance I learned basic diatom morphology and how to identify Gomphonema species, which typically display asymmetry along the trans-apical axis (i.e. the top and bottom halves are not usually mirror images of each other).Ingrid took me through the process of diatom analysis in light microscopy, from “cooking” the water samples with hydrogen peroxide to remove organic cell content and preparing the microscope slides, through to photographing, editing and uploading the images to the museum’s diatom website. The photographs featured were taken with a light microscope at x1000 magnification, and measurements (length, width, striae density) were recorded. These images were then edited and prepared as plates to provide an overview of the cell size distribution in the species population. The plates were uploaded to the website with corresponding literature and morphological descriptions. Some notable species I photographed which are now featured on the website are Eunotia arcubus, Eunotia botuliformis and Planothidium incuriatum.Overall, my placement within the Lower Plants section hasProvided me with invaluable insights into scientific and particularly, taxonomic, practicesHighlighted the role that diatoms play in our natural environmentsDemonstrated how museum collections can and are being utilised for the benefit of science as well as being important repositories for mapping changes in biodiversity.Illustrated how projects like the Diatom Flora and Fauna of Britain and Ireland can help create accessible resources for professional and amateur researchers as well as opening up collections to a wider public, who might otherwise be unaware of their existence.Finally, this placement has been an opportunity to admire the exceptional beauty of diatoms.If you would like to know more about the diatom collection at the National Museum of Wales, please see the museum’s Diatom Research page as well as blog posts by Ingrid entitled ‘Scientific expedition to Rara Lake, Nepal’ and ‘Diatom diversity of the Falklands Islands’. I would also highly encourage anyone interested in diatom identification to view the Diatom Flora and Fauna of Britain and Ireland website.My heartfelt thanks go out to Dr. Ingrid Jüttner for her instruction, her wealth of knowledge and, not least, her conversation. I would equally like to thank the various staff members who coordinated and supported this placement at Amgueddfa Cymru, may there be many more such opportunities.
Work Experience at the National Roman Legion Museum. Lois Davidson, 17 Gorffennaf 2024 Zoe and I completed a work experience week with the Museum. This is my diary of the week. Day 1: To begin the week, Zoe and I were able to work with Verdun, the Learning Officer, and shadow him whilst he took a primary school class on what the museum calls a ‘Walk with the Romans’, around the Amphitheatre and Barracks. It was clear to me throughout this experience that the children were gaining interest in the presence of Romans in Welsh history, whilst being given the opportunity to dress up in Roman tunics, with shields and wooden swords, and impersonate soldiers charging into battle. The sheer sense of enjoyment from not only the children, but the teachers as well, was clear to me, which I purely believe was a result of the massive amount of enthusiasm and obvious passion for their work shown by the staff involved in providing this experience. By the end of Day 1, I could safely say that I had gained more knowledge of the Romans impact on Welsh history than I ever had in my 17 years of living, along with the ability to understand how to engage with a large audience and maintain their full attention for a long duration of time.Day 2: As my desired career involves marketing, I was given the opportunity to work with Kathryn, the Digital Learning Officer and understand how she advertises the different workshops, events, and exhibits the museum hosts through its website and social media. To begin, Kathryn talked us through the different apps that are used to create digital content to advertise the museum. I was able to create a twitter post for the museum’s twitter account in order to advertise their ‘Roman Classroom’, which is an online teaching platform that involves a ‘costumed facilitator’ explaining all different areas of Roman history. I thoroughly enjoyed learning about the different methods that are used in order to advertise and market the Museum online, and encourage more to get involved, and immerse themselves in the Roman history that exists in Wales.Day 3:For day 3, we spent the day shadowing Dai, Visitor Experience Supervisor. He talked us through what is required of us in order to ensure that visitors are provided with the best experience possible. I was surprised by the sheer number of visitors the museum has every day, whether it is families, school trips, or tourists, whilst also picking up the knowledge of how to supervise and maintain order within the museum. Day 4: We spent the day with Mark, Senior Curator of Roman Archaeology. We were given the opportunity to photograph artifacts in order to update the museum’s records and provide photos for the website so people can study online. As well as using the advanced set up to photograph the artifacts, Mark also trusted us enough to handle the objects like a Roman brooch, lioness ornament, and a tile antefix, which was an especially interesting new experience. Along with this I was able to gain knowledge of the stories behind the different artifacts and what they symbolize at the time. After recording the descriptions, accession numbers, and other important information, Zoe and I were able to record that we were the ones that photographed the artifacts, which will then be uploaded for anyone to see.Day 5: I was able to spent some time with Rosie, Commercial Marketing Officer and she gave me amazing advice on steps I can take in order to achieve my career in marketing. As a result, I have gained a contact in the industry I aspire to become a part of, and this is something I would never have been able to attain if it weren't for this work experience, and for that I am eternally grateful.Lastly, I would like to express how much I appreciate all the opportunities and experiences this museum has provided me with and how much it will benefit me going forward, and Michelle, Engagement & Volunteer Coordinator, who has been a big factor of my experience here, continuing to welcome Zoe and I every morning and seeing us out every afternoon, and ensuring we are given as many amazing experiences as possible. I’ve also been inspired to volunteer – and I now volunteer at my local National Trust Property.