Hafan y Blog

Lawr ar lan y môr...

Dafydd Newton-Evans, 13 Awst 2026

Fe welwch chi fwy na merch fach ddel! Mae digon i’w ddarganfod a’i ddysgu am y bywyd gwyllt anhygoel sydd gennym o amgylch arfordiroedd Cymru.

Mae ein biolegwyr morol, y gwyddonwyr yn yr amgueddfa sy’n astudio bywyd môr, wedi gosod her i chi weld a allwch chi ddod o hyd i 16 o wrthrychau ar lan y môr. Ydych chi awydd rhoi cynnig arni?

Ceisiwch ddod o hyd i’r holl wrthrychau yma a thynnu lluniau ohonyn nhw. Efallai y bydd rhai yn fwy cyfarwydd i chi, ond mae rhai yn llai amlwg. Mae ein gwyddonwyr wedi rhannu canlyniadau eu hymweliad diwethaf â’r traeth i roi help llaw i chi [Atebion Bingo]. Maen nhw hefyd wedi paratoi taflenni nodi y gallwch chi eu hargraffu a mynd â nhw gyda chi er mwyn nodi pan fyddwch chi’n gweld y gwrthrychau: 

https://museum.wales/media/52515/10TS-Trysoraur-Traethlin.pdf

https://museum.wales/media/51670/08TS-Sylwi-ar-Wymon-yng-Nghymru-cochion-a-gwyrddion.pdf

https://museum.wales/media/52513/09TS-Cregyn-mor-Cyffredin.pdf

https://museum.wales/media/51686/03TS-Ydw-i-wedi-darganfod-ffosil.pdf

https://museum.wales/media/51671/07TS-Sylwi-ar-Wymon-yng-Nghymru-gwymon-brown.pdf

Mae ambell un yn fwy anodd nag eraill i’w gweld, felly mae gan ein biolegwyr morol awgrymiadau defnyddiol i chi;

Gwymon corniog

Er bod enw ac edrychiad y gwymon corniog yn awgrymu mai gwymon ydyw, anifail mwsogl bryosoaidd yw e mewn gwirionedd! Cytref o unigolion bychan bach o’r enw sõoidau ydyn nhw, y mae’n bosib y byddwch chi’n gallu eu gweld drwy ddefnyddio chwyddwydr. Gallwch ddod o hyd i ddarnau wedi eu golchi i’r lan ar ymyl y traeth.

Clustog Fair

Math o blanhigyn yw Clustog Fair. Mae’n tyfu ar y lan mewn twmpathau bach sy’n edrych fel clustogau.

Gŵydd fôr

Gallwch ddod o hyd i wyddau môr wedi’u glynu wrth greigiau ar y traeth. Efallai eu bod nhw’n edrych fel cregyn, ond oeddech chi’n gwybod eu bod nhw’n perthyn i grancod a chimychiaid! Yn hytrach na defnyddio’u traed i gerdded, maen nhw’n eu defnyddio i gasglu bwyd o’r dŵr. Mae’r rhan fwyaf o’r gwyddau môr rydych chi’n eu gweld yn eithaf bach, ond mae gennym ni wyddau môr mawr yng nghasgliadau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Fe ddaethon nhw oddi ar cefn y Morfil Cefngrwm sydd ar ddangos ac maen nhw’n llawer mwy, bron mor fawr â’ch dwrn!

Seren fôr

Mae sawl math (rhywogaeth) gwahanol o sêr môr y gallech chi eu gweld ar y traeth, ond yr un mwyaf cyffredin yw’r Seren Fôr Gyffredin, sydd â lliw coch/oren. Fodd bynnag, efallai y byddwch chi’n dod ar draws seren bigog, seren dywod neu hyd yn oed seren frau, sydd â choesau cain iawn. Mae hyd yn oed rhai sêr môr bach iawn o’r enw sêr clustog, y gallech chi eu gweld yn sownd ar greigiau. Maen nhw’n anodd i’w canfod gan nad ydyn nhw’n fawr iawn. Tro nesaf y gwelwch chi seren fôr, cyfrwch faint o goesau sydd ganddyn nhw. 

Llyngyr y traeth

Mae’n siŵr ein bod ni i gyd yn gyfarwydd â’r sgwigls bach o dywod a welwch chi ar draeth tywodlyd. Yr enw ar y rhain yw ‘tywod llyngyr’ neu ‘casts’ yn Saesneg, sef “baw” y llyngyr. Maen nhw’n cael eu gadael ar ôl ar ôl i lyngyr y traeth, math o fwydyn gwrychog morol, fwyta llawer o dywod. Fodd bynnag, mae yna wahanol fathau o lyngyr y traeth i’w cael ar hyd arfordir y de, a gallwch chi wahaniaethu rhyngddynt ar sail siâp y tywod llyngyr maen nhw’n ei greu! Mae llyngyr y traeth yn gadael baw blêr iawn ar ei ôl, tra bod y llyngyr du yn gadael baw mewn pentwr taclus iawn.

Llyngyr diliau

Ydych chi wedi gweld y siâp rhyfedd yma sy’n debyg i ddiliau mêl yn gorchuddio creigiau ger traeth tywodlyd? Wel, llyngyr diliau sy’n gyfrifol am eu creu. Mae pob agoriad yn gartref i un llyngyr ac maen nhw’n adeiladu’r strwythurau tebyg i rîff yma gyda’i gilydd. Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n ceisio gofalu am y riffiau a pheidio â sathru arnyn nhw wrth i ni gerdded dros y creigiau. 

Cofiwch os fyddwch chi’n mynd i’r traeth, byddwch yn ddiogel (Diogelwch Traeth yr RNLI – Pum Awgrym Gorau i Gadw’n Ddiogel wrth y Môr) a dilynwch y cod glan y môr (Cod Glan y Môr PDF (yn Saesneg)), Parch | Moroedd Gwyllt Cymru 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.