Aelod o staff Amgueddfa Cymru yn graddio o gwrs Cenedlaethau'r Dyfodol! Kate Breeze, 21 Mai 2026 Ym mis Mawrth fi oedd y person cyntaf erioed o Amgueddfa Cymru i raddio o Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol (AACD)!Mae AACD yn cael ei redeg gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ac yn dod â grŵp dethol o bobl ifanc 18-30 oed o bob cwr o Gymru at ei gilydd i ddatgloi sgiliau arwain ac ehangu gwybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.Dechreuodd hyn i gyd pan gyhoeddodd Amgueddfa Cymru eu bod nhw wedi derbyn cyllid drwy Broject Cronfa Arloesi Treftadaeth y Loteri Genedlaethol #GROW i noddi cyfranogwr, sy’n arwain at y person yn gweithio gydag Arweinydd Project #GROW i gefnogi cynaliadwyedd a gweithredu dros yr hinsawdd yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Dwi wastad wedi bod yn angerddol am natur a sut all natur siapio ein hunaniaeth, ein lle yn y byd a'n lles. Fel siaradwr Cymraeg ail iaith hefyd, dw i wastad wedi ffeindio’r ffordd mae iaith a natur yn pontio ac yn gallu ysgogi cysylltiadau gwahanol â'n cynefin yn hynod ddiddorol. Roedd hwn yn gyfle perffaith i roi’r angerdd hwn ar waith a chyfoethogi fy sgiliau a ’ngwybodaeth drwy AACD.Roeddwn i mor gyffrous i fod yn rhan o AACD 5.0 eleni a'r cyfranogwr cyntaf erioed o Amgueddfa Cymru – roedd yn wefreiddiol ac ychydig yn frawychus i fod y person cyntaf erioed. Ond mae wedi bod yn gyfle anhygoel i ennill sgiliau i danio newidiadau cadarnhaol yn y sefydliad wedi'u hysbrydoli gan werthoedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Fel corff cyhoeddus, mae Amgueddfa Cymru yn dod dan ofynion y Ddeddf, ac mae'n hanfodol bod gan y cenedlaethau nesaf o staff y wybodaeth a'r profiad i'w sianelu yn weithredoedd cadarnhaol.Dechreuodd fy nhaith AACD gyda chyfnod preswyl lle cwrddais i â'm cohort am y tro cyntaf. Fe wnaethon ni rannu syniadau ac amcanion, ac yn rhwydweithio fel arweinwyr y dyfodol. Cwrddon ni hefyd â'r siaradwyr preswyl, cyn-fyfyrwyr yr Academi, a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Derek Walker. Roedd hyn yn hynod ysbrydoledig ac yn gosod y naws ar gyfer fy sesiynau hyfforddi bob pythefnos ar draws y rhaglen 8 mis.Dysgais amrywiaeth o bethau – o sut i weithredu ac ystyried saith cenhedlaeth i’r dyfodol ac adeiladu economi lles, i sut mae arweinwyr eraill yn arloesi dan y Ddeddf. Gwnaeth ein cwrs preswyl olaf yng Ngogledd Cymru sbarduno fy syniadau ymhellach ac adeiladu fy rhwydweithiau gyda phobl sy'n gwneud gwaith mor anhygoel ar draws y sector cyhoeddus, trydydd a phreifat yng Nghymru. Wrth I'r hyfforddiant ddatblygu, roeddwn i hefyd yn rhannu ac yn trafod syniadau gyda gwahanol gydweithwyr, ac mae wedi bod mor foddhaol gweld sut mae pobl eraill yn gyffrous am y potensial o weithio mewn ffyrdd newydd.O'r diwedd, daeth fy mhrofiad i ben gyda seremoni raddio llawn hwyl ond chwerw-felys yng Nghaerdydd gyda fy nghohort, Swyddfa Cenedlaethau'r Dyfodol, cyn-fyfyrwyr, a chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a sefydliadau. Fe wnes i hyd yn oed gymryd rhan fel siaradwr i gyflwyno fy nghynllun newid (mwy am hynny isod!). Roedd yn anhygoel gallu rhannu sut rydw i wedi ymgorffori fy sgiliau a'm gwybodaeth newydd mewn cynllun.Felly beth sy’n nesaf? Fel rhan o'r AACD, mae pob person yn creu rhywbeth o'r enw 'Cynllun Newid'; sef cynnig yn eich maes arbenigol sy'n sianelu eich gwybodaeth newydd yn gynllun ymarferol fel bod eich gweithle yn alinio'n well â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae fy nghynllun newid yn edrych ar sut allwn ni gyfuno iaith, natur a chynefin i ddatblygu cyfleoedd i gynulleidfaoedd Amgueddfa Cymru sy'n ysgogi cysylltiad, perthyn a lles ac yn helpu pobl i gysylltu â'u cynefin ac â natur yn gyffredinol. Mae cysylltu'r rhain nid yn unig yn meithrin dysgu dyfnach a gofalu am y byd naturiol, mae'n gwahodd pobl i ailgysylltu â natur, yn rhannu treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol ac yn cysylltu iaith â llythrennedd ecolegol.Canlyniad hyn fydd cyfrannu at Gymru yfory lle mae cysylltiadau, gwybodaeth a gofal cynyddol pobl am natur yn meithrin gwytnwch. Mae hefyd yn dangos sut y gall Amgueddfa Cymru fod yn ganolbwynt i'r Gymraeg fel ffordd o fwynhau natur a chynefin – wedi'u hysbrydoli gan ein casgliadau, ein lleoliadau, ein rhaglenni, ein digwyddiadau a'n profiadau.Rydw i'n hynod falch o fod wedi cael y cyfle hwn i ddatblygu cynllun uchelgeisiol, newydd sbon, creadigol sy'n cyd-fynd â nodau sefydliadol Amgueddfa Cymru. Dw i wedi cyffroi i weld sut all gael ei ddefnyddio er mwyn cyfrannu at ddyfodol gwell i Gymru.Ni fyddai'r cyfle hwn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth Project #GROW Cronfa Arloesi Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, sy'n adeiladu gwytnwch yn y gweithle yn wyneb newid yn yr hinsawdd. Rydw i hefyd yn estyn diolch twymgalon i 'nghydweithwyr ar oject GROW, – Sarah Younan, Heather Jackson, Steph Burge, a Victoria Hillman am eu holl gefnogaeth.
Gwaith cadwraeth ar wrthrychau'r Amgueddfa Lechi 16 Ebrill 2026 Mae cadwraeth wrth wraidd prosiect ailddatblygu Amgueddfa Lechi Genedlaethol ac mae'r tîm Cadwraeth eisoes yn gweithio'n galed yn asesu ac yn gweithio ar y casgliadau i'w cadw'n ddiogel a sicrhau eu bod yn edrych ar eu gorau, pan fydd yr Amgueddfa yn ailagor. Jennifer Griffiths yw Uwch Gadwraethwr Casgliadau'r Diwydiant ac mae'n un o sawl aelod o'r tîm sy'n gweithio ar gasgliad yr Amgueddfa. Dyma ychydig o hanes y gwaith mae hi'n ei wneud ar hyn o bryd: “Rydw i wedi dechrau fy rhan i o’r gwaith cadwraeth drwy drin troli tâliadau" meddai Jennifer. "Mae'r cabinet pren yma yn cynnwys 49 o duniau tâl bach wedi’u gwneud o dunplat. Roedd y cabinet a’r holl ddroriau yn y cabinet yn fudr iawn gyda baw ar yr wyneb a baw wedi’i wreiddio, ac roedd y tuniau i gyd wedi cyrydu’n drwm iawn. Gellir gweld y cabinet yma cyn ac ar ôl y gwaith cadwraeth. "Hyd yn hyn, mae cadwraeth y cabinet a 7 o’r tuniau wedi cymryd cyfanswm o 45 diwrnod o waith. Mae pob tun tâl yn cymryd 2 ddiwrnod i’w gwblhau, ac mae 7 tun wedi’u cwblhau hyd yn hyn. "Dim ond 42 tun i fynd!"Mae nifer o bobol eraill yn gweithio ar y casgliad hefyd yn cynnwys ein casgliad patrymau pren anferth, dilladau, dodrefn, papur a llawer mwy! Dros y misoedd nesaf byddwn yn edrych yn fwy manwl ar y holl elfennau gwahanol o gadwraeth sy'n mynd ymlaen yn rhan o'r project ailddatblygu cyffrous yma felly cadwch lygaid allan am fwy o hanes. Noddir y project ailddatblygu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU drwy Cyngor Gwynedd fel rhan o broject Llewyrch o'r Llechi, Llywodraeth Cymru gan gynnwys y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Sefydliad Wolfson, Sefydliad Garfield Weston a noddwyr eraill. Rydyn ni'n diolch o galon i'n holl noddwyr am eu cefnogaeth.
Gwanwyn yn Sain Ffagan Ellen Davies, 18 Mawrth 2026 Mae’r gwanwyn yn gyfnod arbennig yn Sain Ffagan. Mae’r cennin pedr a’r crocysau yn blodeuo ac mae’r fferm yn gwch gwenyn o weithgarwch. O fis Chwefror i Ebrill, mae Llwyn-yr-eos yn llawn sŵn brefu wrth i’r defaid gysgodi yn y siediau wyna. Eleni, rydym yn disgwyl dros 350 o ŵyn. Mae 200 o ŵyn wedi’u geni hyd yn hyn ac mae mwy i ddod. Rydyn ni’n cadw tri brid prin o ddefaid yn Sain Ffagan: Llanwenog Defaid Mynydd MaesyfedDefaid Mynydd Duon CymreigMae cadw bridiau prin yn bwysig oherwydd eu bod yn rhan o dreftadaeth ffermio Cymru. Gallwch dysgu mwy am y bridiau prin yn y blog hwn. Unwaith mae ŵyn yn cael eu geni, maen nhw’n cael eu marcio gyda’r un rhif a’u mam fel bod modd i’r ffermwyr wybod pa ŵyn sydd yn perthyn i bwy! Mae’r ŵyn a’r mamau yn cael eu symud allan o’r sied wyna i ardal dawel cyn iddyn nhw fynd allan i’r caeau. Ydych chi’n gallu dod o hyd i’r mamau a’r ŵyn wrth gerdded o amgylch yr amgueddfa? I ddiogelu lles ein defaid, ni chaniateir cŵn ar y fferm yn ystod y tymor wyna. Methu ymweld â Sain Ffagan? Does dim ffrwd byw eleni ond gallwch fwynhau uchafbwyntiau’r sied dros y blynyddoedd ar ein gwefan.
Dathlu Merched sy’n Arwain: Helen Goddard, Cyfarwyddwr Project Ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru. 6 Mawrth 2026 Dathlu Merched sy’n Arwain: Dyma Helen Goddard, Cyfarwyddwr Prosiect yn Amgueddfa Lechi Cymru. Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched, rydym yn rhoi’r llwyfan i rai o’r merched anhygoel sy’n siapio dyfodol Amgueddfa Lechi Cymru. Heddiw, rydym yn falch o gyflwyno Helen Goddard, Cyfarwyddwr Prosiect ar gyfer ein rhaglen ailddatblygu. Arwain gyda Phwrpas Fel Cyfarwyddwr Prosiect, mae Helen yn goruchwylio pob agwedd ar ailddatblygiad uchelgeisiol yr Amgueddfa Lechi. Ei rôl yw sicrhau bod y prosiect yn cyflawni ei botensial yn llawn- yn greadigol, yn ddiwylliannol ac o fudd i gymunedau ledled Cymru ac ehangach. “Dwi’n gyfrifol am y prosiect yn ei gyfanrwydd,” meddai Helen, “a sicrhau ei fod yn cyflawni ei uchelgais.” Taith drwy Dreftadaeth Cyn ymuno â’r amgueddfa, bu Helen yn gweithio fel archeolegydd ac archeolegydd cymunedol. Treuliodd lawer o’i gyrfa gynnar yn Ynysoedd hardd y Gogledd a’r Gorllewin yn yr Alban, gan weithio’n agos ag ynyswyr ar brosiectau treftadaeth a chymunedol. Symudodd Helen i Gymru yn 2011 - gyda’r nod o ddysgu Cymraeg - a chafodd ei chymhwyso’n weithwyr amgueddfeydd wrth weithio i Gyngor Sir Conwy. Merched sy’n Arwain y Ffordd Mae Helen yn angerddol dros weld mwy o ferched yn camu i mewn i sectorau sydd yn hanesyddol yn cael eu harwain gan ddynion. Er bod cynrychiolaeth dda o ferched ym maes treftadaeth, mae’r sector adeiladu angen dal i fyny. Ond yma yn yr Amgueddfa Lechi, mae’r darlun yn newid. “Mae gennym nifer o ferched mewn rolau arweinyddiaeth yma,” meddai. “Ein Pennaeth Safle, Elen; y Rheolwr Datblygu Arddangosfeydd, Ulli; ein Curadur, Cadi; a’n Penaethiaid Prosiectau Cyfalaf, Julie a Diane. Maent i gyd yn ferched eithriadol.” Ei chyngor i ferched sy’n dymuno dilyn llwybrau tebyg? “Arwain o’r galon. Ti ddim angen ymddwyn mewn ffordd wrywaidd i arwain. Mae’n iawn i ddangos emosiwn, i gydweithio, ac ymddiried yn dy dîm”. Bywyd y Tu Allan i’r Amgueddfa Tu hwnt i’r Amgueddfa Lechi, mae gan Helen nifer o straeon annisgwyl - gan gynnwys un bennod gofiadwy yn ei bywyd: “Nes i weithio ar gwch pysgota yn Ynysoedd Heibridiau unwaith!” Ysbrydoliaeth gan Ddynes Gryf Mae Helen yn nodi ei mam fel un o’i dylanwadau mwyaf: “Daeth fy mam o deulu o 10 o blant yn byw mewn tlodi gwledig, ond gwnaeth hi greu ei llwybr ei hun. Nath hi fyth roi’r gorau i’r freuddwyd o helpu pobl, ac aeth ymlaen i ddod yn Nyrs Ymarferydd tuag at ddiwedd ei gyrfa.” Diolch am rannu, Helen, mi wyt yn ysbrydoliaeth ac yn arweinydd bendigedig!
Bywyd gwyllt cudd yng ngardd yr amgueddfa 🐝🌿 Josh David-Read, 3 Mawrth 2026 Cyn 2017 roedd gardd ganolog Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ardal dywyll, heb unrhywbeth i ddenu bywyd gwyllt. Yna daeth Gradd GRAFT i droi’r pridd a chreu hafan i fywyd gwyllt mewn ardal goncrid yma yn Abertawe.Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rwyf wedi gweld nifer o rywogaethau o bryfed ac adar yn ymweld â’r Ardd, ac mae rhai wedi ymgartrefi yma yn yr Ardd yn gartref iddynt.Yn Graft nid ydym yn defnyddio unrhyw blaladdwyr, ac rydym yn ceisio datrys problemau gydag atebion naturiol ac organigAr gyfer Diwrnod Bywyd Gwyllt y Byd rwy’n tynnu sylw at rai o’r pryfed a’r adar mwyaf diddorol – a hefyd rhai annifyr – sy’n ymweld â’r Ardd, a sut maent yn effeithio ar y gofod.Brenhiniaeth y compost! 👑🌱 Rydym yn cynhyrchu ein compost ein hunain ar y safle. Dyma’r lle gorau i weld “brenhiniaeth” y domen gompost, a’r pryfed gorau wrth eu gwaith o dorri deunydd organig i lawr yn bridd cyfoethog ar gyfer ein gwelyau tyfu.Mae gennym y mwydyn pridd gostyngedig, sy’n helpu i awyru’r pridd ac yn torri deunydd organig i lawr yn bridd defnyddiol. Mae gennym gannoedd os nad miloedd ohonynt! A oeddech chi’n gwybod bod dros 16 o rywogaethau gwahanol? 🪱Peillwyr 🐝🌼Dyma’r pryfed rydyn ni’n eu caru fwyaf – y peillwyr. Mae’r rhain yn gasgliad o bryfed (ac weithiau adar, ond nid yn ein hachos ni) sy’n cefnogi ein hecosystem.Wrth gwrs mae gennym ein gwenyn mêl, sy’n cael eu rheoli gan Alyson a grŵp o fyfyrwyr o Ysgol Dylan Thomas. Ar eu hanterth mae gennym dros 100,000 o wenyn yn ein cychod gwenyn!Mae gwenyn yn chwarae rhan enfawr mewn bioamrywiaeth fyd-eang a chynhyrchu bwyd, ac rydym yn ffodus iawn o’u cael yma ar y safle. Cadwch lygad ar ein rhaglen ddigwyddiadau am gyfle i’w gweld!Plâu 🐛Bydd pob garddwr yn cael brwydr gyda phryfed – boed gwyfyn y bresych neu wlithod yn bwyta ein cnydau!Ond rwy’n mynd i dynnu sylw at bla gardd llai adnabyddus o’r enw llysiau’r dail (aphids). Pryfed du bach yw’r rhain sy’n casglu mewn miloedd ar blanhigion. Mae aphids yn hoff iawn o’n ffa llydain a’n brocoli.Gallant achosi clefydau mewn planhigion felly mae’n bwysig eu rheoli. Rydym yn defnyddio plannu cydymaith a hefyd cymysgedd o ddŵr a hylif golchi llestri i helpu ein planhigion.Mae gennym hefyd arwr bach ar ffurf y fuwch goch gota, sy’n bwyta aphids ac yn helpu i greu cydbwysedd. A oeddech chi’n gwybod y gallwch brynu buchod coch gota drwy’r post? Doeddwn i ddim! 🐞Adar 🐦Nid wyf yn wyliwr adar, ond pan fyddaf yn gweithio yn yr ardd ac yn gweld adar yn fy nilyn o gwmpas mae’n rhoi tipyn bach o lawenydd i mi.Daethom o hyd i dystiolaeth o nyth yn ein gwinwydden y llynedd. Nid wyf yn siŵr pa rywogaeth oedd hi, ond mae gennym hefyd robin goch preswyl sy’n galw’r ardd yn gartref ac yn ei “thiriogaeth”.Mae robin goch yn hynod diriogaethol ac anaml y byddwch yn gweld mwy nag un ar y tro. Nid ydym wedi rhoi enw ar yr un yma eto – ond efallai y dylem ei galw’n Charles Watkins, ar ôl crëwr awyren Y Robin Goch… 😄Felly tro nesaf byddwch yn ymweld a’r amgueddfa, ewch allan am dro o amgylch ar ardd i weld pa fywyd gwyllt gallwch chi weld.