Diwrnod Cenedlaethol y Ddôl, 4 Gorffennaf 2026 Hannah Jenkins, 8 Gorffennaf 2026 I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol y Ddôl, rydyn ni’n rhannu stori’r Ddôl Drefol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, sy’n 13 oed eleni!Mae dolydd yn gynefinoedd sy’n gyforiog o laswelltau a blodau brodorol, sy’n cael eu rheoli’n draddodiadol gan un toriad gwair blynyddol a’u pori gan anifeiliaid yn ystod yr hydref a’r gaeaf. Ond er eu bod nhw’n gynefinoedd amrywiol sy’n cynnal amrywiaeth eang o blanhigion, anifeiliaid a ffyngau, mae cyfanswm y tir sy’n cael ei reoli yn y modd hwn wedi gostwng yn sylweddol. Yng Nghymru, mae dolydd yn enghraifft o gynefin â blaenoriaeth o bwysigrwydd pennaf gan eu bod nhw dan fygythiad gan newidiadau i’r ffordd mae tir yn cael ei reoli, newid yn yr hinsawdd a rhywogaethau goresgynnol.Cafodd y ddôl drefol wrth ymyl Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ei chreu yn 2013. Mae’r clwt o laswellt hwn wedi cael ei drawsnewid o ardal a ddisgrifiwyd unwaith fel un prin o rywogaethau i un sy’n gyforiog o wahanol rywogaethau o laswelltau a blodau gwyllt brodorol. Mae’n cynnig hafan i fywyd gwyllt, yn cyfoethogi’r fioamrywiaeth o amgylch ein safle ac, o fewn y ddinas, mae hefyd yn helpu i greu coridor gwyrdd ar gyfer natur, gan gysylltu mannau gwyrdd eraill ledled Caerdydd a thu hwnt. Dyddiau cynnar trawsnewid y ddôl Dyddiau cynnar trawsnewid y ddôl Mae’r ddôl bellach yn enghraifft hyfryd o laswelltir niwtral wedi’i led-wella yng nghanol Caerdydd. Mae briallu Mair (Primula veris), cennin Pedr (Narcissus) a blodau llefrith (Cardamine pratensis) yn y gwanwyn yn rhagflaenu rhywogaethau dolydd cyfarwydd fel llygad llo mawr (Leucanthemum vulgare), meillion (Trifolium spp.), blodau ymenyn (Ranunculus acris) a’r bengaled (Centaurea) ynghyd â gweiriau fel perwellt y gwanwyn (Anthoxanthum odoratum), rhonwellt y ci (Cynosurus cristatus) a maswellt penwyn (Holcus lanatus). Y llynedd, cofnodwyd cegiden Mynwy (Oenanthe pimpinelloides), rhywogaeth newydd yn y Ddôl Drefol, ac un sy’n anghyffredin yng Nghymru. Y Ddôl Drefol yn yr haf Pryf hofran ar flodyn ymenyn Mae angen rhywfaint o waith cynnal a chadw blynyddol ar unrhyw ddôl er mwyn ei chadw mewn cyflwr da, ac er ein bod wedi dilyn y drefn draddodiadol o dorri’r gwair unwaith y flwyddyn, mae rhai gweiriau trech wedi dechrau sefydlu wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, gan gynnwys ceirchwellt tal (Arrhenatherum elatius).Yn ystod hydref 2024, ychwanegwyd hadau cribell felen (Rhinanthus minor) gyda chymorth cyllid ganbrosiect TYFU Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae’r planhigyn blynyddol hwn yn lled-barasitig, ac mae’n gallu chwarae rhan bwysig o ran cynnal cydbwysedd iach rhwng gweiriau a blodau gwyllt.Wrth iddo dyfu, mae’n cymryd maetholion o wreiddiau gweiriau cyfagos, gan wanhau a lleihau eu goruchafiaeth a gadael lle i rywogaethau blodau gwyllt ledaenu. Eginblanhigyn cribell felen ym mis Mai 2025 Blodau cribell felen ym mis Mehefin 2025 Mae’r blodau gwyllt brodorol ar y ddôl yn ffynhonnell bwysig o baill a neithdar i bryfed a gloÿnnod byw, ond mae’r cyfuniad o weiriau a blodau amrywiol yn sicrhau ei bod yn cynnig bwyd, lloches a chynefin i lawer o rywogaethau eraill hefyd! Gall y dail, y coesynnau a’r gwreiddiau fod yr un mor bwysig.Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi cofnodi pob math o bryfed peillio, gan gynnwys pryfed hofran, gwenyn unigol, gwenyn mêl a chacwn, gwenyn meirch, gloÿnnod byw, gwyfynod a chwilod. Rydyn ni hefyd wedi gweld pryfed cop, ceiliogod rhedyn, lindys, gweision y neidr, pryfed lludw, gwlithod a malwod... i enwi dim ond rhai! Chwilen goesdew wrywaidd Maen nhw'n bryfed peillio da, ac yn ymweld â blodau wyneb agored amrywiol, gan gynnwys y llygad llo mawr Mae rhai cofnodion diweddar yn cynnwys y chwilen goesdew (Oedemera nobilis), lindys teigr y benfelen (Tyria jacobaeae) sy’n bwydo’n bennaf ar ddail llysiau’r gingroen (Jacobaea vulgaris) a’r gwibiwr bach cornddu (Thymelicus lineola). Mae gwyfynod sy’n hedfan yn ystod y dydd wedi ymweld hefyd, yn cynnwys y bwrned chwe smotyn (Zygaena filipendulae), ac ar fwy nag un achlysur y llynedd, gwelwyd y gwalch-wyfyn hofrol (Macroglossum stellatarum), sy’n ymweld â Chymru o dde Ewrop yn ystod yr haf. Lindys teigr y benfelen Gwibiwr bach cornddu Bwrned chwe smotyn Mae nifer o wahanol gynefinoedd wedi’u creu hefyd er mwyn cynnig mwy o gyfleoedd i fywyd gwyllt o amgylch y ddôl. Nid dim ond pryfed sy’n ymweld â’r ddôl. Mae heidiau drudwy (Sturnus vulgaris) i’w gweld yn aml yn crwydro drwy’r ddôl yn chwilio am bryfed, ac un min nos yn ddiweddar, gwelwyd draenog (Erinaceus europaeus) wrth ymyl y ddôl.Mae ein Curaduron Gwyddorau Naturiol wedi creu adnoddau i’ch helpu i adnabod planhigion, anifeiliaid, creigiau a ffosiliau ar garreg eich drws. Mae’r rhestr ar gael ar ein gwefan: Taflen Sylwi | Museum Wales
Casgliad Stiwdio Gwen John yn Amgueddfa Cymru Helena Anderson, 3 Mawrth 2026 Cyflwyniad: Taith Casgliad Stiwdio Gwen JohnYn 1976, gan mlynedd ar ôl geni Gwen John, fe brynodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru bron i 1,000 o weithiau'r artist gan ei nai, Edwin. Yn y casgliad roedd llond llaw o baentiadau olew a channoedd o weithiau ar bapur o stiwdio Gwen.Beth yw Casgliad Stiwdio?Casgliad stiwdio yw'r gweithiau sydd ar ôl yn stiwdio'r artist ar ôl iddyn nhw farw.Bu farw Gwen John yn sydyn ym mis Medi 1939, a gadael ei heiddo a'i gweithiau celf i gyd i'w nai. Roedd Ewrop newydd fynd i ryfel a brysiodd Edwin i Baris i ddod â cymaint â phosib o'r gwaith yn ôl i ddiogelwch y DU, cyn dychwelyd am y gweddill ar ôl y Rhyfel. Mae mwyafrif y gweithiau o'r stiwdio nawr yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, ond cafodd nifer o weithiau eu gwerthu yn oriel Matthiesen ar Bond Street yn Llundain yn 1946, ac mewn arddangosfeydd diweddarach yn y 50au a'r 60au.Sut Ddaeth y Casgliad i Amgueddfa Cymru?Ar ôl prynu gweddill y gweithiau, daeth Amgueddfa Cymru'n gartref i'r casgliad cyhoeddus mwyaf yn y byd o waith Gwen John – casgliad sy'n cynnwys dros 900 darlun, chwe phaentiad olew a nifer o lyfrau braslunio. Cyn hynny, dim ond tri darlun a phedwar o baentiadau Gwen John oedd yn yr Amgueddfa.Paentiadau Anorffenedig yn Datgelu ei ThechnegMae casgliad stiwdio Gwen John yn taflu goleuni ar y gwahanol destunau y gwnaeth hi eu paentio, a'r amrywiaeth o arddulliau y byddai hi'n arbrofi â nhw. Mae Gwen yn bennaf adnabyddus am ei phaentiadau olew cynnil o ferched a menywod yn eistedd, ac oherwydd bod yr esiamplau yn ei chasgliad stiwdio yn anorffenedig, mae'n nhw'n datgelu mwy am ei thechneg. Er enghraifft, mae Proffil Merch (NMW A 148) yn dangos sut fyddai Gwen yn crafu arwyneb y paent lle'r oedd y ferch yn wreiddiol yn gwisgo rhuban. Rhaid ei bod hi wedi'i siomi â'r ymdrech gyntaf, ac wedi ei grafu ymaith er mwyn dechrau eto. Mae Astudiaeth o Ferch Noeth yn Eistedd (NMW A 4928) yn anghyffredin am ei fod yn dangos bod Gwen wedi gweithio o'r ymylon tuag at ganol y gwaith, gan baentio’r wyneb olaf. Gwelwn yn y ddau baentiad hyn hefyd y grwnd anarferol o galchog (yr haen waelod y byddai'r artist yn ei ddefnyddio i orchuddio'r gynfas cyn ychwanegu paent olew). Byddai Gwen yn cymysgu'r grwnd hwn ei hun, a dydyn ni ddim yn gwybod yr union gynhwysion hyd heddiw.Cyfoeth o Frasluniau a Gweithiau ar BapurNodwedd amlycaf y casgliad, fodd bynnag, yw'r cyfoeth o ddarluniau a dyfrlluniau. Tra bod testunau a thechneg llawer mwy bwriadus yn ei phaentiadau, mae gweithiau Gwen ar bapur yn llawn amrywiaeth. Yn eu plith mae tirluniau a golygfeydd stryd, astudiaethau o flodau a choed, brasluniau o gathod a cheffylau, a chopïau o bortreadau ffotograffig. Mae nifer o'r gweithiau yn gyfresi sy'n ailadrodd yr un testun. Gall y rhain fod bron yn unfath (NMW A 15751, NMW A 15752, NMW A 15753), neu'n llawn amrywiaeth lliw a chyfrwng (NMW A 15303, NMW A 15304, NMW A 15305). Testunau Mwyaf Cyffredin: Eglwysi, Ffigurau a Bywyd Bob DyddFfigurau yn yr eglwys yw ei thestunau mwyaf cyffredin ar bapur (NMW A 3811). Byddai hi'n aml yn darlunio'r gynulleidfa yn eglwys y plwyf ym Meudon, gan eu copïo’n ddiweddarach yn y stiwdio gan ychwanegu dyfrlliw a phigment gwyn (NMW A 3611). Y ddelwedd fwyaf cyffredin o lawer yw'r portread o Santes Thérèse o Lisieux a'i Chwaer, Céline, yn blant (NMW A 3536, NMW A 15563, NMW A 15565). Ysbrydolwyd y portread gan ffotograff oedd yn eiddo i Gwen. Ym mhob fersiwn wahanol byddai Gwen yn addasu'r cyfansoddiad, gan ychwanegu a thynnu'r llenni, y papur wal a'r teganau yn y cefndir, arbrofi â graddfa, a newid lliw a phatrwm pob arwyneb yn ei dro. Byddai hi hefyd yn defnyddio lliwiau llawer mwy llachar ar bapur nag y gwnaeth hi erioed yn ei phaentiadau olew.Beth mae'r Casgliad yn Datgelu am Gwen JohnMae casgliad stiwdio Gwen John yn rhoi cipolwg i ni ar grefft un o hoff artistiaid Cymru, ac mae'r cyfuniad o baentiadau anorffenedig, brasluniau a gweithiau ar bapur yn datgelu proses artistig hynod drefnus ac arbrofol. Mae hefyd yn codi'r llen ar ei byd: ei chartref, ei ffrindiau a'i chymdogion, ei chathod hoff, ei diddordeb mewn natur a chrefydd, a'i haddysg gelfyddydol. Dyma adnodd amhrisiadwy sy'n dyst i grefft un o artistiaid enwocaf Cymru yr ugeinfed ganrif.
Fy mhrofiad: Gwirfoddoli Gofal Casgliadau ar draws yr Amgueddfa Anna Watson - Gwirfoddolwr Gofal Casgliadau , 30 Medi 2025 Fy enw i yw Anna Watson ac rydw i wedi bod yn gwirfoddoli gydag Amgueddfa Cymru ers mis Tachwedd 2024. Rwy'n gwirfoddoli bob wythnos fel cynorthwy-ydd gofal casgliadau yn yr adran gadwraeth. Rydw i wedi mwynhau'r profiad yn aruthrol gan fod pob wythnos yn wahanol, felly rydw i bob amser yn dysgu rhywbeth newydd ac yn datblygu fy sgiliau. Dechreuais y rôl wirfoddoli hon ar ôl gorffen fy ngradd meistr mewn Gofal Casgliadau gyda Phrifysgol Caerdydd ac mae'r cyfle hwn wedi bod yn wych er mwyn rhoi'r sgiliau a gefais o'r cwrs hwnnw ar waith. Hyd yn hyn, rydw i wedi helpu gyda chynnal a chadw arddangosfeydd yn yr orielau celf a'r adran hanes natur; cynnal a chadw microhinsawdd yn yr adran archaeoleg; archwiliadau o'r casgliadau entomoleg ac wedi helpu i lanhau ac adleoli'r storfa hylif (fel y gwelwch yn y llun)! Mae'r cyfle i weithio mewn sawl adran a chwrdd â chymaint o wahanol guraduron, cadwraethwyr a thechnegwyr sydd i gyd yn arbenigwyr yn eu meysydd wedi bod yn amhrisiadwy. Bob wythnos rwy'n gyffrous i weld beth fyddwn ni'n ei wneud nesaf.
Archwilio Cynhanes: Fy Mhrofiad yn Gwirfoddoli gydag Offer Carreg yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Rebecca Mahon - Gwirfoddolwr Offer Cerrig Cynhanesyddol, 10 Medi 2025 Rhwng mis Hydref 2024 a mis Mai 2025, ro’n i’n ddigon ffodus i gael gwirfoddoli yng nghasgliadau archaeolegol Amgueddfa Cymru. Bob dydd Iau, roeddwn i a fy nghyd-wirfoddolwyr yn cael trin, adnabod a chatalogio casgliad enfawr o offer carreg cynhanesyddol a gasglwyd gan Henry Stopes ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ystod ein sesiynau wythnosol, roedden ni’n cael ein hannog gan ein goruchwyliwr, y Prif Guradur Elizabeth Walker, i geisio deall a darganfod sut roedd cymunedau ledled y byd yn arfer defnyddio’r offer yma. Gan ddechrau drwy ddod i adnabod yr offer, buon ni’n dysgu sut i gategoreiddio yn ôl sut byddai’r offeryn yn cael ei ddefnyddio yn seiliedig ar y marciau oedd arnyn nhw. Yna bydden ni’n rhifo ac yn categoreiddio'r offer gan ddefnyddio system Stopes fel y gellid eu mewnbynnu i'r gronfa ddata ar-lein.Roedd ein gwaith fel gwirfoddolwyr yn golygu y gallai Amgueddfa Cymru gwblhau ei gwaith o gyfri’r eitemau sydd yn ei chasgliad gan Stopes, a ddaeth i law’r amgueddfa ym 1912, gan ganiatáu i'r casgliad cyfan fod ar gael i'r cyhoedd. Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, roedd gwirfoddoli yn Amgueddfa Cymru yn caniatáu i fi ennill profiad sy'n berthnasol i fy ngradd a gweithio gydag arteffactau yn amrywio o bennau saethau fflint i emwaith wedi'i wneud o asgwrn! Rwy'n teimlo'n ffodus fy mod wedi cael cyfle i brofi sut mae’r sefydliad anhygoel yma’n gweithio a chwrdd â'r gweithwyr proffesiynol a'r gwirfoddolwyr ymroddedig sy'n gweithio ynddo. Mae bod yn wirfoddolwr wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn!
Slipmats DJ Jaffa Kieron Barrett, 15 Gorffennaf 2025 Mae slipmat yn ddarn allweddol o offer DJ pan yn chwarae feinyl, yn enwedig i DJs sy hefyd yn crafu neu'n gwneud triciau eraill gyda'r trofwrdd. Mae llawer o DJs, gan gynnwys Jaffa, wedi darganfod yn gyflym iawn fod defnyddio system hi-fi mam a dad i ddysgu crafu yn mynd i ddifetha'u casgliad recordiau nhw. Yn hytrach na rhwbio'r feinyl yn erbyn rwber neu blastig y trofwrdd, mae slipmat yn gadael i ti symud y record yn ôl ac ymlaen yn gelfydd heb farcio'r feinyl. Am y rheswm yma'n unig, roedd angen i ni gynnwys pâr o slipmats yn yr arddangosfa, ond nid unrhyw bâr sydd gyda ni, ond y pâr cyntaf erioed i DJ Jaffa ei brynu.Os nad wyt ti’n gyfarwydd â’r sin Hip Hop yng Nghymru, falle bo ti ddim wedi clywed am DJ Jaffa o'r blaen, felly dyma ychydig o’r hanes. Mae stori Jaffa hefyd yn cynnwys rhai o'r eitemau eraill yn yr arddangosfa, ac fe esbonia i fwy am y slipmats yna hefyd.Fel llawer o bobl eraill yng Nghymru a'r DU, blas cyntaf Jason Farrell, neu DJ Jaffa, ar Hip Hop oedd fideo miwsig Malcolm McLaren, 'Buffalo Gals', oedd yn dangos graffiti, brecio, crafu a rapio gan artistiaid Efrog Newydd. Mae hefyd yn cofio cael cip ar y diwylliant ar raglen BBC2 Entertainment USA yn 1983.Ond nid y World Famous Supreme Team DJs o'r fideo yna oedd e'n trio'u hefelychu ar y dechrau, ond brecwyr y Rock Steady Crew. Dechreuodd ymarfer mor aml ag y gallai, gartref ac yn yr ysgol, gan ddefnyddio unrhyw luniau neu glipiau o'r teledu y gallai gael gafael arnyn nhw. Pan oedd 'brecddawnsio' ar ei fwyaf poblogaidd ar ôl ffilmiau fel Beat Street a Breakdance the Movie yn 1984, roedd eisoes yn freciwr da iawn, ac fe gymerodd ran yn ei frwydr go iawn gynta yn erbyn criw o Bort Talbot yng nghanol dinas Caerdydd.Does dim lle i roi holl hanes Jaffa yma, ond mae'r darn yma'n allweddol i gam nesaf ei ddatblygiad achos wedi brwydr yn erbyn criw o Fryste, daeth yn ffrindiau gyda nhw a dechrau treulio'u benwythnosau yn y ddinas dros y bont. Roedd yn mynd i bartïon Wild Bunch ac yn gweld y sîn ym Mryste yn tyfu o flaen ei lygaid, a sylwodd hefyd ar sut oedd darpar-aelodau Massive Attack yn mynd i ati i ddysgu'r grefft o DJio.Ond y foment dyngedfennol, pan sylweddolodd ei fod e am droi at y decs, oedd gwylio'i ffrind Dennis Murray yn perfformio triciau trofwrdd ar system sain Galaxy Affair. Gyda llaw, Dennis Murray – neu DJ Easygroove – oedd un o arloeswyr y sîn rêfs.Roedd DJ ei ganolfan ieuenctid leol yn yr Eglwys Newydd yn gadael i Jaffa chwarae recordiau o bryd i'w gilydd ac fe ddatblygodd ffordd o ddysgu crafu ar y system hi-fi gartref, gan ddefnyddio slipmats cardfwrdd syml y creodd ei hun. Dilyn ei glust oedd ffordd Jaffa o ddysgu, gan ddadansoddi clipiau sain byw o Bencampwriaeth y DMC lle'r oedd trofyrddwyr gorau'r byd yn cystadlu. Ond, pan gafodd ei set gyntaf o ddecs recordiau proffesiynol yn 1986, buan iawn y cyrhaeddodd ei sgiliau DJ y lefel nesaf.Wrth gwrs, roedd yn rhaid prynu set go iawn o slipmats hefyd. Roedd wedi bod yn prynu recordiau o siop Spin-Offs yn Fulham Palace Road yn Hammersmith, gorllewin Llundain, trwy'r post yn bennaf bryd hynny. Greg James, y DJ o Efrog Newydd, oedd perchennog y siop. Roedd wedi symud i Lundain i helpu agor clwb nos The Embassy yn 1978. Mae Greg yn cael ei gydnabod yn eang fel y DJ cyntaf i ddod â steil disgo – cyfuno recordiau'n gelfydd a di-dor – i'r DU.Roedd Spin-Offs hefyd yn adnabyddus am werthu'r offer DJ diweddaraf, felly dyma'r lle perffaith i ffeindio'r slipmats gorau. Mae Jaffa'n cofio mai DJ Richie Rich a'i wasanaethodd y diwrnod hwnnw. Roedd e’n DJ uchel ei barch ar y pryd, ac roedd ganddo ei sioe ei hun ar Kiss FM, yn y dyddiau pan oedd yn orsaf radio heb drwydded. Cafodd ambell i lwyddiant gyda recordiau Hip Hop a Hip House tanddaearol yn yr 80au a'r 90au, a dechreuodd label Gee Street.Mae'r ffaith bod yr enw 'Mixmaster' ar y slipmats yn ddiddorol. Llond llaw o DJs gyda'r enw yna oedd bryd hynny. Nid oedd Mix Master Mike eto wedi ymuno â'r Beastie Boys nac wedi dechrau ei yrfa. Roedd Mixmaster Spade yn dal i wneud tapiau tanddaearol yn Compton, Califfornia. Y tri alla i feddwl am tua 1986 yw: Mixmaster Morris a'i Mongolian Hip Hop Show ar orsaf radio heb drwydded Network 21 yn Llundain, Mixmaster Ice o'r grŵp U.T.F.O yn Efrog Newydd a Mixmaster Gee and the Turntable Orchestra o Long Beach a gafodd gwpl o lwyddiannau tanddaearol gyda MCA Records. Ond dwi'n colli'r trywydd braidd nawr.Fe wnaeth Jaffa gloi ei hun yn ei ystafell, ac ymarfer. Ymhen hir a hwyr, cafodd ei berswadio i osod ei ddecs tu allan i siop Rudi's Donut yng nghanolfan y Capitol ar ddiwedd Stryd y Frenhines, Caerdydd. Er bod rhai DJs clwb yn chwarae Hip Hop yn lleol ar y pryd, fel Paul Lyons yn Lloyds, mae llawer yn ystyried hwn fel y jam Hip Hop go iawn cyntaf yn y ddinas. Daeth Jaffa â meicroffon gyda fe, ac un rapiwr yn unig roddodd gynnig arni, sef Dike (ynganiad Dî-cei) o Gabalfa.Ar ôl hwnna, roedd jams Hip Hop yn digwydd yn rheolaidd ar bnawn Sadwrn yng nghanolfan ieuenctid Grassroots. Byddai Jaffa ar y decs, a rapwyr fel Dike, Mello Dee (4Dee yn ddiweddarach) ac MC Eric (Me-One yn ddiweddarach) ar y meic. O'u cwmpas, ffurfiodd criw o'r enw Hard Rock Concept oedd yn cynnwys rapwyr, artistiaid graffiti ac wrth gwrs, Jaffa. Yn y cyfnod yma, roedd criwiau'n fwy amlwg nag unigolion, ond tua diwedd yr 80au, fe adawodd Jaffa ac Eric y criw a symud i Lundain. Wedi hynny cawsant gontract mawr gyda label Jive Records, ac ymddangosodd eu traciau ar yr albyms detholiad Def Reggae a Word Four o dan yr enw Just The Duce. Mae'r albyms yn yr arddangosfa hefyd.Dychwelodd Jaffa i Gaerdydd yn y diwedd, a chafodd Eric lwyddiant byd-eang gyda Technotronic. Yn ystod y 90au cynnar, symudodd llawer o bobl oddi wrth Hip Hop draw i'r sîn rêfs a ddaeth yn anferth bron dros nos, ond fe helpodd Jaffa i gadw'r diwylliant i fynd gyda 4Dee, ei chwaer Berta Williams (RIP) a The Underdogs – sefydliad ieuenctid yn Llaneirwg oedd yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau fel dawns Hip Hop, rapio a DJio. Mae wedi bod yn un o hoelion wyth y sîn byth ers hynny, ac wedi bod yn rhan o brojectau di-ri dros y blynyddoedd – o Rounda Records i grwpiau fel Tystion, Manchild, Erban Poets a Kidz With Toyz ac yn ddiweddar, Xenith.Torrodd record y DU am y set DJ hira erioed pan fu wrth y decs am 70 awr, er iddo fethu curo Record y Byd o ddim ond pedair awr. Cefnogodd Snoop Dogg ar ei daith o'r DU ac mae'n dal i DJio bob penwythnos. Mae'n cyflwyno sioe This That & The Third ar yr orsaf Radio Raptz ym Mharis, gan chwarae recordiau artistiaid Cymreig mor aml â phosibl. Mae wedi bod yn rhan o recordiau ar draws y byd, fel DJ a chynhyrchydd, gan gynnwys The Yellow Album gan The Simpsons (gallwch ei glywed yn crafu ar y trac ‘The Ten Commandments of Bart’, a Dike wnaeth gyd-ysgrifennu'r geiriau).Mae Jaffa hefyd wedi bod yn rhan annatod o greu'r arddangosfa hon, a'i wyneb ef sy ar ein posteri, felly mae'n teimlo'n addas i ni ganolbwyntio ar ei slipmats yma. Gobeithio bo chi hefyd yn gweld ar ôl darllen yr erthygl yma pam rydyn ni mor gyffrous i'w dangos. Dewch yn ôl at y blog yma i glywed mwy am eitemau eraill sy'n rhan o arddangosfa Hip Hop: Stori Cymru.