Casgliad Stiwdio Gwen John yn Amgueddfa Cymru Helena Anderson, 3 Mawrth 2026 Cyflwyniad: Taith Casgliad Stiwdio Gwen JohnYn 1976, gan mlynedd ar ôl geni Gwen John, fe brynodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru bron i 1,000 o weithiau'r artist gan ei nai, Edwin. Yn y casgliad roedd llond llaw o baentiadau olew a channoedd o weithiau ar bapur o stiwdio Gwen.Beth yw Casgliad Stiwdio?Casgliad stiwdio yw'r gweithiau sydd ar ôl yn stiwdio'r artist ar ôl iddyn nhw farw.Bu farw Gwen John yn sydyn ym mis Medi 1939, a gadael ei heiddo a'i gweithiau celf i gyd i'w nai. Roedd Ewrop newydd fynd i ryfel a brysiodd Edwin i Baris i ddod â cymaint â phosib o'r gwaith yn ôl i ddiogelwch y DU, cyn dychwelyd am y gweddill ar ôl y Rhyfel. Mae mwyafrif y gweithiau o'r stiwdio nawr yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, ond cafodd nifer o weithiau eu gwerthu yn oriel Matthiesen ar Bond Street yn Llundain yn 1946, ac mewn arddangosfeydd diweddarach yn y 50au a'r 60au.Sut Ddaeth y Casgliad i Amgueddfa Cymru?Ar ôl prynu gweddill y gweithiau, daeth Amgueddfa Cymru'n gartref i'r casgliad cyhoeddus mwyaf yn y byd o waith Gwen John – casgliad sy'n cynnwys dros 900 darlun, chwe phaentiad olew a nifer o lyfrau braslunio. Cyn hynny, dim ond tri darlun a phedwar o baentiadau Gwen John oedd yn yr Amgueddfa.Paentiadau Anorffenedig yn Datgelu ei ThechnegMae casgliad stiwdio Gwen John yn taflu goleuni ar y gwahanol destunau y gwnaeth hi eu paentio, a'r amrywiaeth o arddulliau y byddai hi'n arbrofi â nhw. Mae Gwen yn bennaf adnabyddus am ei phaentiadau olew cynnil o ferched a menywod yn eistedd, ac oherwydd bod yr esiamplau yn ei chasgliad stiwdio yn anorffenedig, mae'n nhw'n datgelu mwy am ei thechneg. Er enghraifft, mae Proffil Merch (NMW A 148) yn dangos sut fyddai Gwen yn crafu arwyneb y paent lle'r oedd y ferch yn wreiddiol yn gwisgo rhuban. Rhaid ei bod hi wedi'i siomi â'r ymdrech gyntaf, ac wedi ei grafu ymaith er mwyn dechrau eto. Mae Astudiaeth o Ferch Noeth yn Eistedd (NMW A 4928) yn anghyffredin am ei fod yn dangos bod Gwen wedi gweithio o'r ymylon tuag at ganol y gwaith, gan baentio’r wyneb olaf. Gwelwn yn y ddau baentiad hyn hefyd y grwnd anarferol o galchog (yr haen waelod y byddai'r artist yn ei ddefnyddio i orchuddio'r gynfas cyn ychwanegu paent olew). Byddai Gwen yn cymysgu'r grwnd hwn ei hun, a dydyn ni ddim yn gwybod yr union gynhwysion hyd heddiw.Cyfoeth o Frasluniau a Gweithiau ar BapurNodwedd amlycaf y casgliad, fodd bynnag, yw'r cyfoeth o ddarluniau a dyfrlluniau. Tra bod testunau a thechneg llawer mwy bwriadus yn ei phaentiadau, mae gweithiau Gwen ar bapur yn llawn amrywiaeth. Yn eu plith mae tirluniau a golygfeydd stryd, astudiaethau o flodau a choed, brasluniau o gathod a cheffylau, a chopïau o bortreadau ffotograffig. Mae nifer o'r gweithiau yn gyfresi sy'n ailadrodd yr un testun. Gall y rhain fod bron yn unfath (NMW A 15751, NMW A 15752, NMW A 15753), neu'n llawn amrywiaeth lliw a chyfrwng (NMW A 15303, NMW A 15304, NMW A 15305). Testunau Mwyaf Cyffredin: Eglwysi, Ffigurau a Bywyd Bob DyddFfigurau yn yr eglwys yw ei thestunau mwyaf cyffredin ar bapur (NMW A 3811). Byddai hi'n aml yn darlunio'r gynulleidfa yn eglwys y plwyf ym Meudon, gan eu copïo’n ddiweddarach yn y stiwdio gan ychwanegu dyfrlliw a phigment gwyn (NMW A 3611). Y ddelwedd fwyaf cyffredin o lawer yw'r portread o Santes Thérèse o Lisieux a'i Chwaer, Céline, yn blant (NMW A 3536, NMW A 15563, NMW A 15565). Ysbrydolwyd y portread gan ffotograff oedd yn eiddo i Gwen. Ym mhob fersiwn wahanol byddai Gwen yn addasu'r cyfansoddiad, gan ychwanegu a thynnu'r llenni, y papur wal a'r teganau yn y cefndir, arbrofi â graddfa, a newid lliw a phatrwm pob arwyneb yn ei dro. Byddai hi hefyd yn defnyddio lliwiau llawer mwy llachar ar bapur nag y gwnaeth hi erioed yn ei phaentiadau olew.Beth mae'r Casgliad yn Datgelu am Gwen JohnMae casgliad stiwdio Gwen John yn rhoi cipolwg i ni ar grefft un o hoff artistiaid Cymru, ac mae'r cyfuniad o baentiadau anorffenedig, brasluniau a gweithiau ar bapur yn datgelu proses artistig hynod drefnus ac arbrofol. Mae hefyd yn codi'r llen ar ei byd: ei chartref, ei ffrindiau a'i chymdogion, ei chathod hoff, ei diddordeb mewn natur a chrefydd, a'i haddysg gelfyddydol. Dyma adnodd amhrisiadwy sy'n dyst i grefft un o artistiaid enwocaf Cymru yr ugeinfed ganrif.
Arwyr cyffredin mewn cyfnod anghyffredin Sioned Williams, 3 Ebrill 2020 Casgliadau Arlein: Ffedog Nyrs Casgliadau Arlein: Tystysgrif Casgliadau Arlein: Tystysgrif Yn sgil yr argyfwng iechyd presennol mae galw am wirfoddolwyr i gefnogi’r GIG ac mae cynlluniau ar droed i addasu canolfannau yn ysbytai maes. Dros ganrif yn ôl, gwelwyd yr un math o weithgaredd ar hyd a lled Prydain wrth baratoi at ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Ym 1909 unodd Cymdeithas Brydeinig y Groes Goch gydag Urdd Sant Ioan i greu cynllun y Voluntary Aid Detachment. Prif amcan y VAD oedd i wasanaethu a chefnogi’r ysbytai milwrol. Cawsant eu trefnu fesul siroedd ac roedd yr aelodau yn cynnwys dynion a menywod a fyddai’n cyflawni pob math o weithgarwch gwirfoddol. Sefydlwyd yr uned, neu’r VAD, cyntaf yng Nghymru yn Sain Ffagan, Caerdydd ym mis Tachwedd 1909. Llywydd Cymdeithas y Groes Goch yn sir Forgannwg ar y pryd oedd y Fonesig Plymouth o Gastell Sain Ffagan. Yn fuan wedyn sefydlwyd unedau eraill ar draws Cymru, gyda chyfanswm o 32 VAD erbyn mis Medi 1910. O hynny ymlaen dechreuodd y gwaith o ddifrif yn recriwtio ac hyfforddi aelodau ac yn addasu adeiladau yn ysbytai. Ar 24 Medi 1910, ymgasglodd dros 200 o ddynion a menywod o’r VADs newydd ar draws sir Forgannwg i ddigwyddiad yng ngerddi Castell Sain Ffagan. Prif bwrpas y diwrnod oedd i recriwtio mwy o wirfoddolwyr, menywod yn arbennig. Roedd hefyd yn gyfle i ddysgu am y gwaith; sut i drin cleifion yn y maes drwy ddefnyddio cymorth cyntaf gydag offer sylfaenol. Cynhaliwyd digwyddiadau o’r fath yn rheolaidd yng Nghastell Sain Ffagan dros y blynyddoedd yn arwain at y rhyfel. Byddai’r unedau VAD yn cyfarfod o leiaf unwaith y mis a byddai’r aelodau (a elwid yn VADs hefyd) yn ennyn profiad drwy wirfoddoli mewn ysbytai. Roedd y menywod yn derbyn hyfforddiant mewn cymorth cyntaf, nyrsio cartref, glanweithdra a choginio tra roedd y dynion yn dysgu am gymorth cyntaf yn y maes a sut i gludo cleifion ar gludwely. Roedd yn ofynnol iddynt basio arholiadau er mwyn derbyn tystysgrif cymorth cyntaf a nyrsio cartref. Anfonwyd rhai o’r VADs i ysbytai ar draws Prydain ond byddai’r mwyafrif yn aros i wirfoddoli yn eu cymunedau, megis Sain Ffagan. Yn sgil y prinder ysbytai, cynigiwyd pob math o adeiladau i ddeunydd y Groes Goch, o neuaddau pentref i blastai moethus. Addaswyd yr adeiladau hyn yn ysbytai atodol gyda tua 30 o welyau a fyddai’n cefnogi ysbyty filwrol gyfagos. Ym 1916 cynigiodd Iarll a’r Fonesig Plymouth y Neuadd Giniawa yng ngerddi Castell Sain Ffagan ar gyfer ei newid yn ysbyty atodol. Erbyn dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf ym mis Awst 1914 roedd gwaith y gwirfoddolwyr wedi sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer derbyn y cleifion cyntaf o’r rhyfel. Wedi hynny, cafodd llawer mwy eu recriwtio a’u hyfforddi. Bu gymaint â 90,000 o wirfoddolwyr yn gweithio adref a thramor yn ystod y rhyfel, gan chwarae rhan annatod yn gofalu am filwyr sâl a chlwyfedig. Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn rhoi mwy o hanes rhai o’r gwirfoddolwyr bu’n gweithio yn Ysbyty VAD y Groes Goch yn Sain Ffagan.
Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Foronen 3 Ebrill 2020 Caiff Diwrnod y Foronen ei ddathlu bob blwyddyn ar Ebrill y 4ydd – uchafbwynt y flwyddyn i dyfwyr moron ledled y byd! Wrth i bawb hunanynysu oherwydd y Coronafeirws, mae llawer ohonom yn troi at ein gerddi i gael awyr iach, ymarfer corff ac i dyfu bwyd. Mae gan Amgueddfa Cymru amrywiaeth o erddi. Yn Sain Ffagan mae gerddi pleser ffurfiol y castell a gerddi llysiau tai teras gweithwyr haearn Rhyd-y-car. Yn Amgueddfa Wlân Cymru mae gardd yn llawn planhigion sy’n cynhyrchu lliwurau, Yn Amgueddfa Genedlaethol Rhufeinig Caerleon mae ‘na ardd liwurau a ffisig tra bod gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ardd gymunedol a ddatblygwyd gan dîm cymunedol GRAFT. I ddathlu Diwrnod y Foronen, dyma bytiau difyr o’n casgliadau i’ch ysbrydoli i dorchi’ch llewys a dechrau troi’r tir... Garddio ar ddydd Gwener y Groglith Yn draddodiadol câi Gwener y Groglith ei ystyried yn ddiwrnod da i blannu tatws. Mae’r tymheredd yn dal yn weddol oer, ond mae’r pridd yn ddigon meddal i’w drin. Fodd bynnag, y prif reswm yw bod y Pasg wastad yn dibynnu ar y Lleuad – y dydd Sul ar ôl lleuad llawn Cyhydnos y Gwanwyn. Am ganrifoedd, mae garddwyr wedi plannu a chynaeafu yn ôl y Lleuad, yn seiliedig ar y gred fod y Lleuad yn effeithio ar leithder y pridd – yn union fel mae’n achosi’r llanw. Pan fydd y Lleuad ar gynnydd, caiff sudd planhigion ei dynnu am i fyny, felly mae’n amser da i blannu a thrawsblannu blodau unflwydd, eilflwydd – unrhyw blanhigion y byddwn yn cynaeafu’r dail, hadau, blodau neu ffrwythau. Pan fydd y Lleuad ar ei gwendid, mae’r sudd yn llifo i lawr, ac egni’r planhigion yn mynd i gyfeiriad y gwreiddiau, felly mae’n gyfnod gwell i dyfu gwreiddlysiau a phlanhigion lluosflwydd. Gan mai gwreiddlysiau yw tatws, dylid eu plannu pan fydd y Lleuad yn ei gwendid. Mae Gwener y Groglith yn dod ar ôl lleuad llawn cynta’r gwanwyn bob amser, felly mae’n siŵr o fod yn gyfnod da i blannu tatws. Mae moron, betys a gwreiddlysiau eraill yr un peth – felly mae Diwrnod y Foronen yn amser da i archebu hadau er mwyn eu plannu dros y Pasg. Ffair Hadau Ers talwm, byddai’r trefi’n cynnal ffeiriau hadau ddiwedd Mawrth. Byddai ffermwyr yn dod â’u hadau i’r farchnad i’w cyfnewid am nwyddau eraill neu am arian. Mae Conwy yn dal i gynnal ffair hadau bob mis Mawrth. Cafodd ei sefydlu drwy Siarter Brenhinol gan Edward I dros 700 mlynedd yn ôl, i gael ei chynnal ar 26 Mawrth bob blwyddyn, ac mae’n dal i gadw at y dyddiad hwnnw. Dyma offer gardd o’n casgliad: ‘Dyw siâp y rhaca ddim wedi newid llawer dros y blynyddoedd. Fel y bachyn chwynnu hardd hwn, sy’n edrych yn ddigon cyfarwydd. Ond allwch chi ddyfalu beth yw’r teclyn rhyfedd hwn? Tyrchwr gwreiddiau yw hwn. Mae garddwyr yn dal i’w defnyddio, ond maen nhw’n edrych yn go wahanol erbyn heddiw. Câi’r offeryn hwn ei lenwi â hadau a’i roi dan fraich person fyddai’n estyn llond llaw o hadau i hau’r tir. Yn olaf, er mwyn i ni ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Foronen mewn steil, dyma rysáit Olga James, cogydd caffi Amgueddfa Wlân Cymru, ar gyfer cawl moron, garlleg a theim. Mwynhewch! 3 winwnsyn 3 clof garlleg (wedi’u gwasgu) 3 pwys o foron 3 taten weddol o faint Persli, teim Olew Halen a phupur 6 peint o stoc llysiau (5 ciwb stoc) Meddalwch y winwns yn yr olew gyda garlleg, teim a phersli. Torrwch y tatws a’u hychwanegu yna eu ffrio am 5 munud arall cyn ychwanegu’r moron. Cymysgwch, ychwanegwch stoc a berwi nes bod y llysiau wedi meddalu. Cymysgwch y cawl, gan ychwanegu halen a phupur os oes angen.
Merched Caneri Ian Smith, 6 Awst 2019 Rhyfel Ar 4 Awst 1914, goresgynnwyd Gwlad Belg gan yr Almaen. Cyhoeddodd Prydain ei bod yn mynd i ryfel. Yn ystod y penwythnos cyntaf hwnnw, aeth cant o ddynion yr awr ati i gofrestru i ymuno â’r lluoedd arfog. Erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd dros bum miliwn o ddynion wedi ymuno â’r fyddin. Gyda’r holl bwyslais ar ddyletswydd ar faes y gad, roedd ffatrïoedd gwledydd Prydain yn brin o weithwyr medrus. Cafodd menywod a arferai wneud swyddi isel neu ddomestig eu recriwtio i weithio ym myd diwydiant. Er bod prinder dynion i weithio yn y ffatrïoedd, cafodd menywod eu cyhuddo o ddwyn swyddi oddi ar y rhai na allent fynd i ymladd. Roedd menywod hefyd yn weithlu rhatach gan eu bod nhw’n cael llai o gyflog am wneud yr un gwaith. Prinder Sieliau Newidiodd natur rhyfela yn aruthrol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cyn hynny, cefnogi milwyr fu swyddogaeth magnelaeth, ond bellach dyna oedd y prif rym dinistriol. Erbyn 1915, roedd prinder sieliau ac arfau. Cafodd senedd San Steffan ei gorfodi i fabwysiadu Polisi Arfau Gwladol, a phenodwyd David Lloyd George yn Weinidog Arfau Rhyfel. Roedd y polisi hwn yn rheoli cyflogau, oriau ac amodau gwaith mewn ffatrïoedd arfau rhyfel, a hefyd yn gorfodi ffatrïoedd i gyflogi mwy o fenywod er mwyn ateb y galw. Y ffatrïoedd arfau rhyfel oedd prif gyflogwr menywod ar y pryd, gyda thros 900,000 yn cael eu cyflogi gan y diwydiant. Er eu bod yn gwneud yr un gwaith â’r dynion, dim ond hanner y cyflog oeddent yn ei dderbyn. Erbyn mis Mehefin 1917, roedd y ffatrïoedd a gyflogai fenywod yn cynhyrchu dros 50 miliwn o sieliau’r flwyddyn, ac erbyn diwedd y rhyfel, roedd byddin Prydain wedi saethu tua 170 miliwn ohonynt. Gwaith Peryglus Wedi i’r rhyfel gael ei gyhoeddi, sylweddolodd sawl cwmni fod cyfle i gynyddu gwerthiant. Aeth cwmnïau peirianneg a chynhyrchu metelau lleol ati i sefydlu Pwyllgorau Arfau Lleol. Sefydlwyd Ffatrïoedd Sieliau Gwladol ar hyd a lled y wlad. Cafodd adeiladau cyfredol eu defnyddio gan Ffatrïoedd Sieliau Gwladol – gan gynnwys adeilad yn Grangetown, Caerdydd a ddefnyddid cyn hynny i nyddu cywarch ac edau; adeilad cwmni rheilffordd Ffestiniog ym Mhorthmadog; a ffatri Baldwins yng Nglandw ˆr, Abertawe. Roedd pob un yn cynhyrchu sieliau a phennau sieliau bach a mawr. Roedd yn waith peryglus dros ben, gyda ffrwydradau’n bosibl ar unrhyw adeg. Bu sawl achos o farwolaeth ac anafiadau difrifol. Pen-bre a’r Merched Caneri Roedd cwmni Nobels Explosives yn berchen ar hen ffatri ddynameit ym Mhen-bre ger Porth Tywyn. Cawsant ganiatâd gan y llywodraeth i agor un o’r ffatrïoedd TNT (trinitrotolwen) pwrpasol cyntaf ym 1914. Cafodd y safle ei feddiannu gan y Weinyddiaeth Arfau Rhyfel a’i ailenwi’n Ffatri Ffrwydron Gwladol Pen-bre erbyn 1917, cyn cau ar ddiwedd y rhyfel. Roedd y gwaith yn galed a pheryglus tu hwnt, a TNT yn sylwedd gwenwynig iawn. Roedd yn cynnwys asid picrig oedd yn troi crwyn y menywod oedd yn gweithio gydag ef yn felyn llachar gan roi’r llysenw ‘merched caneri’ iddyn nhw. Byddai’r menywod yn cael llaeth i’w yfed i geisio gwrthsefyll effeithiau’r cyfansoddion peryglus hyn. Gallent arwain at fethiant yr afu, anaemia a niwed i'r system imiwnedd. Bu farw tua 400 o fenywod yn sgil dod i gysylltiad â gormod o TNT yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Pêl-droed y Munitionettes Dechreuodd menywod gymryd rhan mewn campau fel pêl-droed a chriced yn ystod y rhyfel hefyd. Sefydlwyd timau pêl-droed mewn ffatrïoedd arfau ar hyd a lled Prydain. Roedd y llywodraeth yn annog menywod i gymryd rhan mewn chwaraeon er lles eu hiechyd ac i’w helpu i gadw’n heini er mwyn gweithio yn y ffatrïoedd. Roedd gogledd-ddwyrain Lloegr yn un o'r prif ganolfannau pêl-droed i ferched. Roedd tîm Blythe Spartans Ladies FC yn ddiguro, a sgoriodd eu hymosodwr, Bella Raey, 33 o goliau mewn un tymor. Cystadlodd 30 o dimau am y Munitionettes’ Cup ym 1918. Roedd y gamp mor boblogaidd nes bod timau wedi’u sefydlu yn y rhan fwyaf o drefi’r ffatrïoedd hyn erbyn diwedd y rhyfel. Heidiodd tua 53,000 o bobl i Barc Goodison ar ddydd San Steffan 1920, i wylio gêm rhwng St Helens Ladies a Dick, Kerr Ladies. Pan ddaeth y dynion nôl adref o’r ffrynt, caeodd y ffatrïoedd arfau rhyfel a chwalodd timau’r menywod. Ym 1921, cafodd menywod eu gwahardd rhag chwarae ar unrhyw un o gaeau'r FA, Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, er bod eu gemau nhw lawn mor boblogaidd â phêl-droed i ddynion. Gyda’r dynion yn dychwelyd i fyd y bêl gron, doedd dim croeso mwyach i fenywod chwarae. Roedd rhaid aros tan 1971 cyn i’r Gymdeithas ildio a chaniatáu i fenywod chwarae ar eu meysydd unwaith eto. Tîm pêl-droed Llanelli Ladies FC, 1921. Cydraddoldeb Ym 1915, lluniodd Pwyllgor Gweithwyr Rhyfel y Menywod restr o hawliau yr oeddent am eu cael, gan gynnwys yr hawl i hyfforddiant, aelodaeth o undeb llafur a chyflog cyfartal am waith cyfartal. Roedd menywod oedd mewn swyddi a arferai gael eu gwneud gan ddynion yn cael llawer llai o gyflog, ac yn flin iawn am hynny wrth reswm. Roedd dynion yn poeni hefyd y byddai’r menywod yn parhau i wneud y gwaith hwn ar ôl diwedd y rhyfel, ac y byddai pawb yn derbyn cyflogau is. Ym 1918, cynhaliwyd y streic gyntaf dros gyflog cyfartal yn y Deyrnas Unedig gan fenywod oedd yn gweithio ar fysiau a thramiau Llundain. Roedd y streic yn llwyddiannus, a bu’n rhaid i’r llywodraeth ystyried a ddylai’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau fod yn berthnasol i bob maes ym myd diwydiant. Aeth y Cabinet Rhyfel ati i sefydlu pwyllgor ym 1917 i ystyried cydraddoldeb yn y gweithle. Ni chyhoeddwyd yr adroddiad tan 1919. Daeth i gasgliad nad oedd unrhyw wahaniaeth rhwng lefelau cynhyrchiant nag ansawdd gwaith dynion a menywod. Ond parhau wnaeth y syniad fod menywod yn llai abl na dynion. Ffrwydrad ym Mhen-bre Pan ddaeth y rhyfel i ben, defnyddiwyd ffatri arfau Pen-bre, Sir Gaerfyrddin, i ddatgymalu sieliau yn hytrach na’u cynhyrchu. Ar 18 Tachwedd 1918, lladdwyd Mary Fitzmaurice (36 oed), Jane Jenkins (21 oed) ac Edith Ellen Copham (19 oed) mewn ffrwydrad. Anafwyd dwy arall hefyd Ar noson y ddamwain angheuol, roedd y menywod yn trin math gwahanol o siel na’r arfer. Cafodd Jane ei lladd gan y ffrwydrad yn syth. Bu farw Mary ac Edith yn yr ysbyty’r noson honno. Merched o Abertawe oedden nhw i gyd, a chafodd Edith a Mary eu claddu ym mynwent Dan-y-graig yn nwyrain y dref. Bu gorymdaith angladdol enfawr o’r Stryd Fawr gyda band pres yn ei harwain a 500 o ferched y ffatri yn dilyn, oll yn eu lifrai gwaith. Cafwyd teyrnged yn y South Wales Weekly Post, ‘[the women] had died as surely in the service of their country as any on the battlefield’ a nodwyd bod y dorf wedi saliwtio wrth i’r hers basio. Cafodd miliwn a mwy o sieliau eu datgymalu ym Mhen-bre heb unrhyw ddamweiniau pellach. Angladd gweithiwr arfau rhyfel yn Abertawe.
Tân yn y Felin Mark Lucas, 9 Gorffennaf 2019 Ym 1900 roedd 52 o felinau yn ardal Dre-fach Felindre. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd diwydiant gwlân Cymru yn gyfrifol am gynhyrchu blancedi a gwisgoedd ar gyfer y lluoedd arfog. Cafodd gwisgoedd o frethyn cartref o’r enw Brethyn Llwyd eu comisiynu gan y swyddfa ryfel i roi teimlad gwladgarol i recriwtiaid newydd Corfflu Cymreig y Fyddin a ffurfiwyd yn ystod y rhyfel. Wedi’r rhyfel, cafodd 12 miliwn llath o wlanen dros ben ei werthu ar y farchnad agored am brisiau gwirion o isel, gan orfodi cynhyrchwyr gwlân i ostwng eu prisiau hefyd. Er enghraifft, câi crysau gwlanen eu gwerthu am 52s 6d y dwsin ym 1916 – erbyn 1923 roedd y pris wedi gostwng i 38 swllt. Methodd cynhyrchwyr gwlân gorllewin Cymru ag ymdopi â’r amodau newydd ar ôl y rhyfel, gyda rhai yn dal i gynhyrchu gwlân Angola israddol fel oeddent yn ei wneud yn ystod y rhyfel. Roedd y rhan fwyaf o’r cynhyrchwyr yn dal i ganolbwyntio ar greu gwlanen ar gyfer crysau, festiau a dillad isaf, ond bu lleihad yn y galw am ddillad isaf gwlanen wrth i ddillad isaf wedi’i wau yn nwyrain a gogledd Lloegr a’r Alban ddod yn fwy poblogaidd.. Ar 11 Gorffennaf 1919 aeth Melin Cambrian ar dân, a dinistriwyd yr adeilad tri llawr deheuol. Roedd rheolwr y felin, John Davies, ar ei wyliau gyda’i deulu yn Llanwrtyd ar y pryd, ac roedd ei ferch, Nesta Morgan yn cofio’i thad yn derbyn telegram yn y gwesty ond ei fod yn methu’i ddarllen am ei fod yn Saesneg. Pan ddeallodd y neges fod rhan o’r felin wedi’i dinistrio gan dân, roedd ei thad yn poeni’n arw. Cysylltodd â David Lewis a gofyn os y dylai ddod adref yn syth, ond dywedodd David Lewis wrtho y dylai gadw at ei drefniadau ac aros tan y diwrnod canlynol. David Lewis ar y chwith gyda mwstash a het yng nghanol olion Melin Cambrian Defnyddiodd David Lewis yr arian yswiriant i ailgodi’r felin – dim ond dau lawr oedd i’r felin newydd ond roedd hi’n llawer hirach. Melin newydd Cambrian Melin newydd Cambrian Gwydr wedi cracio yn y felin ogleddol o wres y tân yn y felin ddeheuol. Mae’r ffenestri hyn yn dal i’w gweld yn Amgueddfa Wlân Cymru Y tân ym Melin Cambrian oedd y cyntaf o 7 tân amheus ym melinau Dre-fach a’r ardal, gan gynnwys melinau Frondeg a Meiros oedd yn berchen i ddau frawd David Lewis, Daniel a John. Chafodd pob melin ddim ei hailgodi ar ôl mynd ar dân, ond roedd cwmnïau yswiriant yn dechrau amau nad damweiniau oedd y tanau hyn, a dechreuont fynnu eu bod yn cael eu hailgodi. Adeiladwyd melin newydd ym Meiros o frics coch, gydag arian yr yswiriant yn cael ei dalu fesul dipyn wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Melin newydd Meiros Caeodd 21 o ffatrïoedd yn Dre-fach Felindre a’r cylch yn y cyfnod ar ôl y rhyfel. ‘[Wnaeth perchnogion melinau, oedd wedi gwneud elw mawr o gontractau’r rhyfel] ddim ymdrech i osod sylfaen ariannol gadarn i’w melinau, gan fodloni ar fancio’r arian neu brynu bythynnod glan môr’ Geraint Jenkins 1967, The Welsh Woollen Industry t. 278 Melin Dyffryn 29/6/1923 Melin Frondeg 7/2/1924 Melin Aberbanc 1926 Melin Ogof 1927 Melinau eraill wedi’u dinistrio gan dân: Meiros yn y 1920au Melin Llwynhelyg 1927 Melin Llainffald 1920au Melinau a gaewyd yn Dre-fach Felindre a’r cylch: Babel 1925 Cilwendeg 1928 Cwm-ty-mawr 1920 Melin Glyn 1930 Llwynbedw 1920 Pant-glas 1922 Spring Gardens 1925 Bach-y-gwyddil 1923 Cwm-gilfach 1923 Drefach 1923 Green Meadow 1928 Nant-y-bargoed 1925 Penwalk 1928 Ty Main 1923 Cawdor 1924 Cwm-pen-graig 1922 Felin-fach 1924 Henfryn 1920 Pandy 1920 Siop Pensarn 1921 Tower Hill 1925