: Casgliadau

Casgliad Stiwdio Gwen John yn Amgueddfa Cymru

Helena Anderson, 3 Mawrth 2026

Cyflwyniad: Taith Casgliad Stiwdio Gwen John

Yn 1976, gan mlynedd ar ôl geni Gwen John, fe brynodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru bron i 1,000 o weithiau'r artist gan ei nai, Edwin. Yn y casgliad roedd llond llaw o baentiadau olew a channoedd o weithiau ar bapur o stiwdio Gwen.

Beth yw Casgliad Stiwdio?

Casgliad stiwdio yw'r gweithiau sydd ar ôl yn stiwdio'r artist ar ôl iddyn nhw farw.

Bu farw Gwen John yn sydyn ym mis Medi 1939, a gadael ei heiddo a'i gweithiau celf i gyd i'w nai. Roedd Ewrop newydd fynd i ryfel a brysiodd Edwin i Baris i ddod â cymaint â phosib o'r gwaith yn ôl i ddiogelwch y DU, cyn dychwelyd am y gweddill ar ôl y Rhyfel. Mae mwyafrif y gweithiau o'r stiwdio nawr yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, ond cafodd nifer o weithiau eu gwerthu yn oriel Matthiesen ar Bond Street yn Llundain yn 1946, ac mewn arddangosfeydd diweddarach yn y 50au a'r 60au.

Sut Ddaeth y Casgliad i Amgueddfa Cymru?

Ar ôl prynu gweddill y gweithiau, daeth Amgueddfa Cymru'n gartref i'r casgliad cyhoeddus mwyaf yn y byd o waith Gwen John – casgliad sy'n cynnwys dros 900 darlun, chwe phaentiad olew a nifer o lyfrau braslunio. ⁠Cyn hynny, dim ond tri darlun a phedwar o baentiadau Gwen John oedd yn yr Amgueddfa.

Paentiadau Anorffenedig yn Datgelu ei Thechneg

Mae casgliad stiwdio Gwen John yn taflu goleuni ar y gwahanol destunau y gwnaeth hi eu paentio, a'r amrywiaeth o arddulliau y byddai hi'n arbrofi â nhw. Mae Gwen yn bennaf adnabyddus am ei phaentiadau olew cynnil o ferched a menywod yn eistedd, ac oherwydd bod yr esiamplau yn ei chasgliad stiwdio yn anorffenedig, mae'n nhw'n datgelu mwy am ei thechneg. ⁠Er enghraifft, mae Proffil Merch (NMW A 148) yn dangos sut fyddai Gwen yn crafu arwyneb y paent lle'r oedd y ferch yn wreiddiol yn gwisgo rhuban. Rhaid ei bod hi wedi'i siomi â'r ymdrech gyntaf, ac wedi ei grafu ymaith er mwyn dechrau eto. Mae Astudiaeth o Ferch Noeth yn Eistedd (NMW A 4928) yn anghyffredin am ei fod yn dangos bod Gwen wedi gweithio o'r ymylon tuag at ganol y gwaith, gan baentio’r wyneb olaf. Gwelwn yn y ddau baentiad hyn hefyd y grwnd anarferol o galchog (yr haen waelod y byddai'r artist yn ei ddefnyddio i orchuddio'r gynfas cyn ychwanegu paent olew). Byddai Gwen yn cymysgu'r grwnd hwn ei hun, a dydyn ni ddim yn gwybod yr union gynhwysion hyd heddiw.

Cyfoeth o Frasluniau a Gweithiau ar Bapur

Nodwedd amlycaf y casgliad, fodd bynnag, yw'r cyfoeth o ddarluniau a dyfrlluniau. Tra bod testunau a thechneg llawer mwy bwriadus yn ei phaentiadau, mae gweithiau Gwen ar bapur yn llawn amrywiaeth. Yn eu plith mae tirluniau a golygfeydd stryd, astudiaethau o flodau a choed, brasluniau o gathod a cheffylau, a chopïau o bortreadau ffotograffig. Mae nifer o'r gweithiau yn gyfresi sy'n ailadrodd yr un testun. Gall y rhain fod bron yn unfath (NMW A 15751, NMW A 15752, NMW A 15753), neu'n llawn amrywiaeth lliw a chyfrwng (NMW A 15303, NMW A 15304, NMW A 15305). ⁠

Testunau Mwyaf Cyffredin: Eglwysi, Ffigurau a Bywyd Bob Dydd

Ffigurau yn yr eglwys yw ei thestunau mwyaf cyffredin ar bapur (NMW A 3811). Byddai hi'n aml yn darlunio'r gynulleidfa yn eglwys y plwyf ym Meudon, gan eu copïo’n ddiweddarach yn y stiwdio gan ychwanegu dyfrlliw a phigment gwyn (NMW A 3611). Y ddelwedd fwyaf cyffredin o lawer yw'r portread o Santes Thérèse o Lisieux a'i Chwaer, Céline, yn blant (NMW A 3536, NMW A 15563, NMW A 15565).⁠ Ysbrydolwyd y portread gan ffotograff oedd yn eiddo i Gwen. Ym mhob fersiwn wahanol byddai Gwen yn addasu'r cyfansoddiad, gan ychwanegu a thynnu'r llenni, y papur wal a'r teganau yn y cefndir, arbrofi â graddfa, a newid lliw a phatrwm pob arwyneb yn ei dro. Byddai hi hefyd yn defnyddio lliwiau llawer mwy llachar ar bapur nag y gwnaeth hi erioed yn ei phaentiadau olew.

Beth mae'r Casgliad yn Datgelu am Gwen John

Mae casgliad stiwdio Gwen John yn rhoi cipolwg i ni ar grefft un o hoff artistiaid Cymru, ac mae'r cyfuniad o baentiadau anorffenedig, brasluniau a gweithiau ar bapur yn datgelu proses artistig hynod drefnus ac arbrofol. ⁠Mae hefyd yn codi'r llen ar ei byd: ei chartref, ei ffrindiau a'i chymdogion, ei chathod hoff, ei diddordeb mewn natur a chrefydd, a'i haddysg gelfyddydol. Dyma adnodd amhrisiadwy sy'n dyst i grefft un o artistiaid enwocaf Cymru yr ugeinfed ganrif.

Gwarchod Baneri Gwrth-Apartheid

Madalyne Epperson a Sarah Bayliss, 31 Ionawr 2024

Ym mis Gorffennaf 2022, daeth tair baner gwrth-apartheid o’r 1980au i feddiant yr amgueddfa, dwy gan Anthony Evans ac un gan Gerda Roper.

Cafodd y baneri eu gwneud a’u defnyddio gan Fudiad Gwrth-Apartheid Cymru (WAAM), grŵp oedd yn ymgyrchu’n galed dros roi diwedd ar hiliaeth a’r system apartheid yn Ne Affrica. Dechreuodd y grŵp fel cangen ranbarthol o Fudiad Gwrth-Apartheid Prydain (AAM) cyn gwahanu ym 1981 pan ddaeth hi’n amlwg y byddai mwy o gefnogaeth gyda hunaniaeth Gymreig unigryw. Dan arweiniad Hanef Bhamjee, ymgyrchodd WAAM tan etholiad democrataidd cyntaf De Affrica ym 1994 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2021).

Cafodd y ddwy faner gan Anthony Evans, oedd yn aelod gweithgar o WAAM, eu trin yn stiwdio cadwraeth paentiadau Amgueddfa Cymru. Roedd y baneri’n cyflwyno heriau gwahanol iawn gan fod y ddwy wedi’u creu gyda deunyddiau wrth law i’w cario ar y strydoedd, yn hytrach na’u hongian mewn amgueddfa.

Baner Sanctions Now! mewn protest yn y 1980au

Baner Sanctions Now! mewn protest yn y 1980au

 

Nelson Mandela

Cynhyrchwyd y faner hon yng nghanol y 1980au gyda phaent cartref ar gynfas heb ei breimio. Mae’r faner wedi’i gorchuddio â llofnodion protestwyr a chefnogwyr WAAM. Yn ôl Anthony Evans, y bwriad oedd creu baner fyddai’n ‘llyfr llofnodion’. Mae’r llofnodion yn dyddio o’r protestiadau yn y 1980au a gwasanaeth coffa Hanef Bhamjee, a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2022. Mae cryn dipyn o’r llofnodion diweddarach ar y cynfas plaen a ymddangosodd wrth i’r paent dreulio.

F2022.80_AT_01_Y blaen ar ôl cael ei drin

F2022.80_AT_01_Y blaen ar ôl cael ei drin

© Anthony Evans. Llun ©Amgueddfa Cymru

Roedd y faner mewn cyflwr bregus iawn yn cyrraedd y stiwdio. Roedd blynyddoedd o brotestio a rholio a’i dadrolio drachefn wedi gadel eu marc. Mae’r paent wedi diflannu mewn llinellau lle’r oedd y faner wedi’i phlygu, a’r haen gyfan o baent wedi cracio a disgyn i ffwrdd. Roedd y cynfas wedi’i styffylu i estyll pren ar hyd yr ymyl uchaf, ond doedd dim i’w ddal yn ei le a chynnal yr haenau paent. Gallai symud y cynfas beri i fwy o baent gael ei golli yn y dyfodol.

Fel cadwraethwr paentiadau, dwi wedi arfer gweithio ar weithiau celf wedi’u cynhyrchu i’w hongian ar wal i’w hedmygu a’u dehongli. Roeddwn i’n ymwybodol iawn fod angen trin y faner hon yn wahanol, hyd yn oed os oedd y deunyddiau a thechneg yr artist yn debyg i baentiad modern. Roedd cyflwr y faner yn ganlyniad uniongyrchol i sut a pham y cafodd ei gwneud, a sut y cafodd ei defnyddio gan brotestwyr. Er bod angen i ni ddod o hyd i ffordd o sefydlogi’r faner er mwyn ei harddangos a’i storio’n ddiogel, byddai llawer o’r dulliau cadwraeth ar gyfer sefydlogi paentiad sydd wedi’i ddifrodi fel hyn yn newid ymddangosiad ac adeiladwaith y faner, ac roedden ni am osgoi hynny.

Dadrolio’r faner ar ddechrau’r driniaeth

Dadrolio’r faner ar ddechrau’r driniaeth

© Anthony Evans. Llun ©Amgueddfa Cymru

Manylion yn dangos faint o baent sy’n disgyn neu wedi diflannu

Manylion yn dangos faint o baent sy’n disgyn neu wedi diflannu

© Anthony Evans. Llun ©Amgueddfa Cymru

Risg pellach neu Ymyrryd

Gyda chadwraeth, mae’n aml yn rhaid cydbwyso’r risg i’r gwrthrych gyda gweld a gwerthfawrogi’r gwaith celf fel y’i bwriadwyd. Ac mae sawl gwahanol fath o risg – gall triniaeth newid rhywbeth sylfaenol am y gwrthrych, gall peidio gwneud dim adael i’r dirywiad barhau, a gall amodau amgylcheddol yr arddangos achosi dirywiad (golau llachar yn achosi i lywiau bylu er enghraifft). Ein gwaith ni fel cadwraethwyr yw pwyso a mesur y risgiau. Gyda’r faner hon, byddai gwneud dim yn golygu ei bod hi’n parhau i ddirywio. Ond i wneud yn siŵr na fydd unrhyw baent yn disgyn yn y dyfodol, rhaid gwneud rhywbeth drastig, fel llyfnhau a leinio’r cynfas a’i ymestyn ar ffrâm fel bod y paent yn cael ei gynnal yn iawn. Byddai hyn yn diogelu’r paent, ond byddai hefyd yn newid ymddangosiad y faner ac yn dileu rhai o’r nodweddion sy’n dangos hanes a chymeriad y faner.

Fel cyfaddawd, dyma fi’n dilyn camau fydd yn sefydlogi’r faner ddigon i’w harddangos ond yn ei gadael mewn cyflwr sydd angen ei fonitro ac yn cyfyngu ar ei gallu i deithio.

Triniaeth

Caledwyd y paent a oedd yn disgyn gyda pysglud. Cafodd pob rhan o’r faner ei chaledu sawl gwaith i’w gwneud yn ddigon diogel i’w symud o’r bwrdd lle cafodd hi ei dadrolio. Yna gosodwyd y faner ar ffrâm bren er mwyn brwsio glud gwahanol ar gefn y cynfas. Defnyddiwyd bwrdd polycarbonad rhychiog a wadin polyestr ar y cefn i gynnal y cynfas, a daliwyd blaen y faner ar y cynhalydd pren gyda chlipiau persbecs. Roedd y faner nawr yn gallu cael ei harddangos ar ei sefyll, ond heb newid ei hymddangosiad.

Ailosod paent oedd wedi disgyn wrth ddadrolio’r faner

Ailosod paent oedd wedi disgyn wrth ddadrolio’r faner

© Anthony Evans. Llun ©Amgueddfa Cymru

Rhoi glud ar gefn y faner

Rhoi glud ar gefn y faner

Gadawyd y mannau lle’r oedd y paent wedi diflannu heb eu llenwi er mwyn peidio cuddio’r llofnodion newydd, er mwyn dyrchafu hanes byw y faner yn hytrach na’r ddelwedd ei hun.

Sanctions Now

Mae Sanctions Now gan Anthony Evans wedi’i wneud o baent alcyd ar sgrin blastig hen daflunydd ffilm. Mae trawst pren yn cynnal ymyl uchaf y faner hefyd. Copi yw’r ddelwedd ar flaen y faner o ffotograff enwog a dynnwyd gan Sam Nzima ar 16 Mehefin 1976 yn ystod Gwrthryfel Soweto yn Ne Affrica. Arweiniodd plant ysgol Du gyfres o wrthdystiadau yn erbyn rheolaeth lleiafrifoedd gwyn ar ôl cyflwyno Affricaneg fel iaith y dosbarth mewn ysgolion duon. Ymgasglodd rhyw 20,000 o fyfyrwyr ar strydoedd Soweto i brotestio, gan wynebu creulondeb chwim dan law’r heddlu. Tynnodd Sam Nzima y llun hwn o Hector Pieterson, 12 oed, gafodd ei saethu’n farw gan heddlu De Affrica. Fe welwn ni Mbuyisa Makhubo yn ei gario i glinig brys a’i chwaer, Antoinette Sithole, yn eu dilyn. Daeth llun Nzima yn eicon o Wrthryfel Soweto a rhoi nerth o’r newydd i’r mudiad gwrth-apartheid (Baker, 2016). Ar gefn y faner mae logo diwygiedig y Mudiad Gwrth-Apartheid. Ychwanegodd Anthony Evans y Ddraig Goch at symbol taijitu (yin yang) y grŵp oherwydd pwysigrwydd hunaniaeth Gymreig yn y WAAM.

F2022.80.2 (Sanctions Now) Y blaen ar ôl triniaeth cadwraeth

F2022.80.2 (Sanctions Now) Y blaen ar ôl triniaeth cadwraeth

© Anthony Evans. Llun ©Amgueddfa Cymru

F2022.80.2 (Sanctions Now) Y cefn ar ôl triniaeth cadwraeth

F2022.80.2 (Sanctions Now) Y cefn ar ôl triniaeth cadwraeth

© Anthony Evans. Llun ©Amgueddfa Cymru

Caledwyd y paent a oedd yn disgyn ar ddwy ochr y faner er mwyn atal dirywiad pellach. Gosodwyd Lascaux Medium für Konsolidierung ar yr haen blastig â brwsh meddal, cyn defnyddio teclyn wedi’i drochi mewn silicon a Melinex â silicon i wasgu’r darnau paent i lawr.

Sanctions Now cyn caledu’r paent

Sanctions Now cyn caledu’r paent

© Anthony Evans. Llun ©Amgueddfa Cymru

Sanctions Now ar ôl caledu’r paent

Sanctions Now ar ôl caledu’r paent

© Anthony Evans. Llun ©Amgueddfa Cymru

Ar ôl i’r paent gael ei ddiogelu, roedd angen glanhau’r faner. Rholiwyd sbwng mwg ar draws wyneb y faner i gael gwared ar halogion rhydd, fel baw a llwch, heb achosi straen i’r plastig. Tynnwyd staeniau llwydni ac olew â swab cotwm wedi’i wlychu â dŵr wedi’i addasu (pH 6.5).

Profion glanhau wyneb Sanctions Now: sbwng mwg (chwith) a sbwng cosmetig (dde)

Profion glanhau wyneb Sanctions Now: sbwng mwg (chwith) a sbwng cosmetig (dde)

© Anthony Evans. Llun ©Amgueddfa Cymru

Ar ôl cwblhau’r gwaith cadwraeth, lapiwyd Sanctions Now o amgylch tiwb cardfwrdd mawr (40 cm x 2 m) wedi’i gorchuddio ag ALUVP. Cyn ei rholio gosodwyd y faner rhwng haenau o bapur wedi’i orchuddio â silicon er mwyn atal yr arwyneb rhag cyffwrdd â’i gilydd ac atal y paent rhag trosglwyddo. Lapiwyd y cyfan wedyn mewn lliain hwyliau polyestr i’w amddiffyn rhag llwch, a’i glymu gyda thâp cotwm.

Cyfeiriadau:

Baker, A. 2016. This Photo Galvanized the World Against Apartheid. Here’s the Story Behind It.       
Ar gael yn: https://time.com/4365138/soweto-anniversary-photograph/ (Cyrchwyd 9 Mehefin 2023)

Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 2021. 40th Anniversary of Wales Anti-Apartheid Movement.       
Ar gael yn: https://blog.library.wales/40th-anniversary-of-wales-anti-apartheid-movement/ (Cyrchwyd 7 Mehefin 2023)

Y Grŵp Cymreig. 2023. Anthony Evans.       
Ar gael yn: https://www.thewelshgroup-art.com/anthony-evans (Cyrchwyd 7 Mehefin 2023)

Gwen John: ‘Y naws sy’n bwysig’ Rhan 2

Neil Lebeter, 9 Mehefin 2020

Dyma ail flog sy’n cymryd cip ar waith Gwen John yng nghasgliad Amgueddfa Cymru. Yn y rhan gyntaf dyma ni’n trafod sut y daeth y casgliad mwyaf o waith Gwen i Gaerdydd ac yn cymryd cip ar ei thechneg gynnar.

Newidiodd y dechneg hon yn ddramatig wedi canol y 1910au. Canolbwyntiodd Gwen bron yn gyfangwbl ar bortreadau o fenywod, gan ddefnyddio paent yn ddarbodus iawn, heb haenau uwch na farnais. Does dim ymdrech i guddio’r brwswaith ac mae’r cyfosod yn fwy gwastad ond yn llai esmwyth. Gwelwn eto ymateb cyflym Gwen i’r gwynt celfyddydol wrth i artistiaid eraill Ewrop ddechrau defnyddio technegau tebyg.

Mae’n debyg bod Gwen John yn fwyaf adnabyddus am ei phortreadau. Ynddynt mae’n cyfleu rhyw naws annirnad sy’n llawn emosiwn. Yr hyn sy’n rhyfeddol am y gweithiau hyn yw cymhlethdod y cyfosod, a’r dechneg sy’n sylfaen i holl naws y gweithiau.

Ffordd dda o esbonio hyn yw i edrych ar waith anorffenedig…

Asstudiaeth o Ferch Noeth ar ei Heistedd (c.1920au)
Olew ar gynfas
32.4 x 24.1 cm

Mae arddull wastad a harmoni tonyddol portreadau Gwen John yn destun cyffredin, gyda’r gwrthrych a’r cefndir yn aml yn asio’n un arwyneb. Yr hyn sy’n rhyfeddol am dechneg Gwen yw ei bod hi’n paentio o ymylon y cynfas, yn aml heb fraslunio ymlaen llaw. Byddai’n dechrau yng nghornel y gynfas ac yn paentio am i mewn, fel y gwelwn yma. Wrth gael ei baentio’n olaf (neu ddim o gwbwl yn yr achos hwn) daw’r wyneb yn ail bron i’r cyfosodiad. Bydd unrhyw artist yn gwerthfawrogi crefft mor rhyfeddol o anodd yw hyn, a’r ymwybyddiaeth ofodol i greu cyfanwaith wrth ddechrau ar yr ymylon. Mae hyn hefyd yn dwysáu’r teimlad fod y cefndir a’r gwrthrych yn un – nid yw’r ffigwr, yn enwedig yr wyneb, yn ddim pwysicach na gweddill y paentiad.

Ar gefn y gwaith hwn mae fersiwn arall o’r un portread, y tro hwn gyda’i dillad ac yn fwy cyflawn. Yma eto gwelwn taw’r wyneb yw’r rhan olaf bron i gael unrhyw sylw.

Merch mewn Gwisg Las (c. 1914-15)

Merch mewn Gwisg Las (c. 1914-15)
Olew ar gynfas
41.8 x W 34.5 cm

Fe ddychwelwn ni yn awr at Merch mewn Gwisg Las. Wedi 1915 dechreuodd gwaith Gwen John newid yn ddarmatig a dyma un o’r esiamplau cynharaf o’i thechneg sych. Mae hwn yn waith rhyfeddol sydd gyda’r mwyaf poblogaidd yn Amgueddfa Cymru.

Yma mae Gwen yn defnyddio grwnd o galch a glud anifeiliaid, sy’n cynhyrchu swigod bychan wrth i’r calch gymysgu â’r glud cynnes, i roi arwyneb garw i’r cynfas. Mae’r grwnd hwn a’r haenau olew dilynol i gyd wedi eu taenu’n sych a thenau iawn, heb ymdrech i guddio’r brwswaith.

Yn y manylyn yma gellir gweld nad yw’r paent brown wedi glynu at y grwnd gwyn ym mhob man. Mae’n ein hatgoffa o ffresco sy’n pylu, ac yn ychwanegu at gymeriad bregus y portread. Mae’r paent wedi’i daenu mor sych a chyson nes bod y cefndir a’r gwrthrych yn ymddangos fel un, ac yn toddi i’r arwyneb.

Mae edrych ar y paentiad dan olau gwahanol hefyd yn datgelu gwybodaeth ddiddorol hefyd.

Drwy daflu golau o’r ochr gallwn ni weld pa mor anwastad yw’r cynfas – gwahanol iawn i gynfas llyfn proffesiynol. Mae hyn bron yn sicr yn fwriadol, i ategu’r gwead cyfoethog.

Mae golau is-goch yn dangos ychydig o waith braslunio, yn amlinellu prif elfennau’r cyfosodiad cyn paentio.

O astudio’r gwaith dan olau uwch-fioled gwelwn fod Gwen wedi dychwelyd at y gwaith, gan wneud newidiadau gyda phaent gwyn yn cynnwys mwy o sinc sy’n ymddangos yn gliriach dan olau UV. Mae’r gwaith tacluso yma hefyd yn ysgafn iawn.

Ond dyma’r darganfyddiad mwyaf syfrdanol…

Drwy daflu golau o gefn y cynfas gallwn weld cyn lleied o baent sydd wedi ei ddefnyddio. Mae’n grefft ryfeddol bod Gwen wedi llwyddo i greu darlun mor deimladwy heb ddefnyddio fawr ddim paent o gwbl. Dyw’r paent braidd yno.

Yr Ystafell Fechan (1926)

Yr Ystafell Fechan (1926)
Olew ar gynfas
Cymynrodd Gaynor Cemlyn-Jones, 2003
22.2 x 27.3 cm

Mae’r gwaith hwn o 1926 yn dangos ystafell yng nghartref Gwen yn un o faestrefi Paris, ac yn un o’r paentiadau a ddangoswyd yn unig arddangosfa unigol Gwen yn ystod ei bywyd. Gwelwn baled cyfyngedig, gyda gwanhaniaethau arlliw cynnil yn y cefndir a’r tebot yn ganolbwynt bychan yng nghanol y cynfas.

Wedi erchyllter y Rhyfel Byd Cyntaf gwrthododd nifer o artistiaid syniadau avant-garde, gan ddychwelyd at arddulliau mwy traddodiadol. Cefnwyd er enghraifft ar Ddyfodoliaeth a Fortisiaeth gan fod y dechnoleg a’r awtomatiaeth a ddathlent cyn y rhyfel yn allweddol i’r gyflafan. Wrth ‘Ddychwelyd at y Drefn’ gwelwyd artistiaid fel Picasso a Braque yn troi o Giwbiaeth at ddulliau traddodiadol bron yn gyfangwbl. Cynyddodd poblogrwydd yr arddull Glasurol, ac o drefn a realaeth mewn paentio. Yn ei bywgraffiad o Gwen John, dywed Alicia Foster bod y gwaith yn gymhleth o’i ystyried dan faner ‘Dychwelyd at y Drefn’, ond mae Gwen yn cydgerdded â’r mudiad yn ei defnydd union a threfnus o liw, fel y gwelir yn Yr Ystafell Fechan.

Disgrifiodd Gwen sut y byddai’n defnyddio disg liw hynod gymhleth oedd yn nodi pob lliw a’i berthynas ag unrhyw liw neu arlliw arall. Datblygodd system nodiadau hefyd hefyd i fraslunio a chofnodi cyfosodiadau. Mae’r ‘cod’ hwn wedi bod yn hynod anodd ei ddatrys, ac mae gan ei nodiadau naws delynegol sydd, er ei brydferthwch, yn gwneud y gwaith ditectif yn anos fyth. Er enghraifft, pa liw fyddech chi’n ei ddyfalu yw ‘Gwawr caru’n ofer Ebrill ar y traeth liw nos’

Roedd gan Gwen system rifo yn ogystal â nodiadau lliw. Byddai’n creu brasluniau cyflym o bopeth – gwrthrychau yn ei hystafell ac ar ymweliadau, teithwyr ar y trên a cynulleidfa esglwys. Roedd y system rifo a’r nodiadau lliw yn ei galluogi i gofio lliwiau ac arlliwiau’r gwrthrychau y byddai’n eu cofnodi mewn pensil a siarcol.

Yn ddiweddarach byddai’n ailgreu ei darluniau mewn dyfrlliw, gouache neu olew, gan fireinio’r cyfosodiad a’r lliw.

Ffigwr yn yr Eglwys

Ffigwr yn yr Eglwys
Gouache ar bapur
16.7 x 12.3cm

Oddeutu 1913 trodd Gwen at Babyddiaeth. Byddai ei ffydd yn dod yn bwysig iawn iddi ac fe ddisgrifiodd ei hun fel ‘Artist bach Duw’. Addolwyr yn yr eglwys yw testun nifer o’i darluniau wedi hyn, yn aml i’w gweld o’r cefn neu’r ochr.

Yn Ffigwr yn yr Eglwys mae’r ffrog wedi’i lliwio â golchiad tenau o’r un lliw â’r het, ar gwallt yn gymysgedd o liw’r cefndir a’r het. Mae hyn yn allweddol i’r modd y byddai Gwen yn asio ei lliwiau. Nid yw symlrwydd o reidrwydd yn syml.

Gyda diolch i gydweithwyr Amgueddfa Cymru ddoe a heddiw am eu gwaith ymchwil trylwyr, yn enwedig David Fraser Jenkins, Beth McIntyre, Kate Lowry ac Oliver Fairclough. Mae bywgraffiad byr Alicia Foster, a gyhoeddwyd gan Tate, yn rhoi crynodeb drylwyr ac yn ailystyried elfennau pwysig o yrfa Gwen John.

Gwen John: ‘Y naws sy’n bwysig’ Rhan 1

Neil Lebeter, 27 Mai 2020

Gwen John yw un o artistiaid pwysicaf yr 20fed ganrif. Mae ei gwaith i’w weld mewn casgliadau ledled y byd gan gynnwys y Tate, Musée Rodin ac Amgueddfa Gelf Fetropolitan Efrog Newydd. Yn ffodus i ni yng Nghymru, yma yn Amgueddfa Cymru mae’r casgliad mwyaf a pwysicaf o’i gwaith. Rydyn ni’n mynd i gymryd cip ar y casgliad hwnnw a chanolbwyntio ar ddetholiad sy’n datgelu mwy am Gwen a’i thechneg, a pam mae ei gwaith yn dal mor berthnasol heddiw.

Ganwyd Gwen John yn Hwlffordd ym 1876, yn ail o chwech o blant ac yn chwaer fawr i Augustus John o ryw 18 mis. Symudodd y ddau i Lundain i astudio yn Ysgol Gelf Slade, gyda Gwen yno rhwng 1895 a 1898. Slade oedd un o’r ysgolion celf cyntaf i agor ei drysau i ferched, ac felly roedd Gwen ymhlith y genhedlaeth gyntaf o fenywod i dderbyn hyfforddiant celf ffurfiol.

Wedi gorffen yn Slade symudodd Gwen i Baris gan astudio yno dan law James McNeill Whistler. Yn Ffrainc y treuliodd y rhan fwyaf o’i bywyd, yn bennaf ym Mharis a’r cyffiniau – canolbwynt y byd celf – a cafodd ei haddysg a’i phrofiadau yno effaith ddofn ar ei gwaith. Talodd ei ffordd drwy weithio fel model artist, a thrwy hynny gyfarfod â Rodin a arweiniodd at berthynas angerddol.

Pan yn ymweld â’i chwaer ym Mharis, soniodd Augustus wrth y meistr Whistler fod gwaith Gwen yn dangos llawer o gymeriad. Yn ôl y sôn, ymateb Whistler oedd:

“Cymeriad? Beth yw hynny!? Y naws sy’n bwysig. Mae gan dy chwaer ymdeimlad da o naws.”

Y dyfyniad hwn yw ein man cychwyn, a byddwn ni’n edrych ar weithiau Gwen yng ngasgliad Amgueddfa Cymru o safbwynt naws, sut y datblygodd ei harddull, a’r ffaith nad yw symlrwydd o reidrwydd yn syml.

Casgliad Amgueddfa Cymru

Prin oedd y gwaith wnaeth Gwen John ei arddangos yn ystod ei bywyd, a dim ond un sioe unigol o’i gwaith a welwyd, yn Orielau Newydd Chenil yn Llundain ym 1926. Prin oedd y gweithiau a werthodd hefyd – byddai’n aml yn eu rhoi’n anrhegion – ac wedi ei marw y casglwyd y rhan fwyaf o’i lluniau. Un cefnogwr brwd oedd y noddwr o’r UDA, John Quinn, a brynodd 39 o’i gweithiau, a dyma’n rhannol pam fod cyfran helaeth o’i gwaith yn yr UDA. Roedd ei gefnogaeth yn rhoi peth rhyddid ariannol iddi arfer ei chrefft.

Prynodd Amgueddfa Cymru y gwaith cyntaf gan Gwen John ym 1935, Merch mewn Gwisg Las, a hynny am £20 ar ôl iddo gael ei ddangos mewn arddangosfa o Artistiaid Cyfoes Cymru yn Oriel Gelf Deffett Francis Art yn Abertawe. Wedi iddo gael ei brynu, ysgrifennodd Gwen y nodyn byr isod i’r Amgueddfa:

Llythr gan Gwen John at David Kighley Baxandall, Ceidwad Celf Cynorthwyol, 21/11/1935

Llythr gan Gwen John at David Kighley Baxandall, Ceidwad Celf Cynorthwyol, 21/11/1935

Llythr gan Gwen John at David Kighley Baxandall, Ceidwad Celf Cynorthwyol, 21/11/1935

“Rwyf yn llawn llwenydd a balchder eich bod chi wedi prynu un o fy mheintiadau bach i dros yr Amgueddfa, a diolchaf i chi am eich canmoliaeth a’ch beirniadaeth ohono. Mewn erthygl ar yr arddangosfa mae eich gwerthfawrogiad medrus a greddfol o waith fy mrawd wedi rhoi boddhad i mi. Yr eiddoch yn gywir iawn Gwen John”

Er bod Merch mewn Gwisg Las yn parhau’n un o’r paentiadau pwysicaf yng nghasgliad Amgueddfa Cymru prin oedd y sylw a roddwyd i waith Gwen yn ystod ei bywyd na’r degawdau wedi ei marw. Hyd yn oed ym 1959, mae’n ymddangos yn y Penguin Dictionary of Art & Artists fel atodiad i’w brawd – does ganddi ddim cofnod personol.

Ond gwelwyd newid dramatig i’r casgliad yn Amgueddfa Cymru ym 1976 ar ganmlwyddiant ei geni. Y flwyddyn honno caffaelodd yr Amgueddfa dros 900 o ddarluniau, llyfrau braslunio a phaentiadau gan ŵyr Gwen, Edwin John. Yn y cagliad oedd cynnwys ei stiwdio pan fu farw 40 mlynedd ynghynt a chyfran helaeth o gynnyrch diwedd ei gyrfa. Yn sydyn, roedd yng Nghymru y casgliad mwyaf o’i gwaith yn y byd.

Techneg

Beth am gael cip ar y casgliad yma felly – yn enwedig ei gwaith diweddarach – a dod i ddeall yn well ei thechneg a’i datblygiad, a sut y defnyddiai Gwen ddull hynod gymhleth i gynhyrchu’r gweithiau hudolus sydd mor gyfarwydd i ni heddiw.

Cornel o Ystafell yr Artist ym Mharis (1907–9)

Cornel o Ystafell yr Artist ym Mharis (1907–9
Olew ar gynfas 
31.2 × 24.8 cm 
Prynwyd gyda chymorth Ymddiriedolaeth Derek Williams ac Ystâd Mrs J. Green 
 

Gall techneg paentio olew Gwen gael ei rannu’n daclus yn dechneg draddodiadol gynnar a thechneg sych ddiweddarach. Y gwaith diweddarach yw mwyafrif casgliad yr Amgueddfa ond mae hon yn esiampl dda o’r dechneg draddodiadol. Paentiwyd y llun hwn o ystafell Gwen mewn atig ym Mharis yn 1907-09. Saif cadair wiail unig wrth ffenestr agored ac ar y bwrdd bychan o dan y ffenestr mae llyfr agored. Cafodd y gwaith ei gaffael gan yr amgueddfa yn gymharol ddiweddar, ym 1995.

Mae nifer yn gweld ystafelloedd moel Gwen fel ymgorfforiad o’i bywyd meudwyol, ac mae’r llun hwn yn bendant yn atgyfnerthu’r darlleniad hwnnw. Daeth rhai i’r cagliad fod y gwaith, a baentiwyd pan oedd ei pherthynas â Rodin yn chwalu, yn bortread o absenoldeb. Ond mae Alicia Foster ac eraill yn dadlau y dylid ei weld yng nghyd-destun gwaith ei chyfoedion ym Mharis. Yn hytrach na phortread o feudwy, mae’n brawf fod Gwen wrth galon datblygiadau celfyddydol y ddinas ar y pryd.

Ar droad yr 20fed ganrif trodd nifer o artistiaid at Yr Ystafell fel testun, a Gwen John yn eu plith. Gwelir y gadair wiail hon mewn nifer o’i gweithiau o’r cyfnod. Roedd cadeiriau gwiail yn ysgafn a rhad ac i’w gweld mewn ystafelloedd a stiwdios cymaint o artistiaid nes dod yn symbol ffasiynol o hunaniaeth yr artist ym Mharis dechrau’r 20fed ganrif.

Beth am gymryd golwg agosach ar dechneg a deunyddiau’r paentiad hwn. Mae staff Cadwraeth Amgueddfa Cymru wedi ymchwilio’n helaeth i adeiladwaith paentiadau Gwen John, gan ddatgelu gwybodaeht ddiddorol am ei dull o weithio, a sut y newidiodd dros y blynyddoedd.

Mae Cornel o Ystafell yr Artist ym Mharis yn un o ddwy fersiwn o’r olygfa hon, ac mae’r llall yng nghasgliad Amgueddfeydd Sheffield. Roedd Gwen ar y pryd yn paentio gyda phaent olew gwlyb wedi’i adeiladu’n haenau dros gefndir gwyn. Caiff y brwswaith ei guddio ac mae’r gwaith yn ymddangos yn llyfn a llathraidd diolch i’r haen o farnais. Mae’r arddull yn nodweddiadol o dechneg yr Hen Feistri ac yn dangos hyfforddiant ffurfiol Gwen. Ar y chwith mae trawstoriad o’r haenau paent wedi’i gymryd o ochr chwith y paentiad, ger pen y gadair.

Ar y dde, mae’r haen binc sy’n rhoi gwawr gynnes i’r olygfa, ac mae’r paent dros ei ben yn denau iawn mewn mannau i ddatgelu’r pinc. Mae’r cyfan yn cyfleu naws hamddenol hwyr brynhawn neu noswyl, gyda’r llenni les yn chwythu’n hamddenol ar yr awel.

Yn ail ran y erthygl hwn byddwn ni’n edrych ar y newid mawr yn nhechneg ddiweddarach Gwen ac yn taflu goleuni newydd ar un o baentiadau pwysicaf yr Amgueddfa...

Gyda diolch i gydweithwyr Amgueddfa Cymru ddoe a heddiw am eu gwaith ymchwil trylwyr, yn enwedig David Fraser Jenkins, Beth McIntyre, Kate Lowr ac Oliver Fairclough. Mae bywgraffiad byr Alicia Foster, a gyhoeddwyd gan Tate, yn rhoi crynodeb drylwyr ac yn ailystyried elfennau pwysig o yrfa gwen John.

Casglu Cof y Genedl

Meinwen Ruddock-Jones, 14 Mai 2020

Land Rover a charafan yr Archif Sain, 1961.

Land Rover a charafan yr Archif Sain, 1961.

Roy Saer, gyda Land Rover a charafan yr Amgueddfa ar daith gwaith maes yn Llanbedrog, sir Gaernarfon, Gorffennaf 1964.

Roy Saer, gyda Land Rover a charafan yr Amgueddfa ar daith gwaith maes yn Llanbedrog, sir Gaernarfon, Gorffennaf 1964.

Llyfr Ateb Amgueddfa Werin Cymru (1962) oddi wrth Evan Evans (Gwytherin, Abergele) yn cynnwys nodiadau amrywiol ar blwyf Llansannan.

Llyfr Ateb Amgueddfa Werin Cymru (1962) oddi wrth Evan Evans (Gwytherin, Abergele) yn cynnwys nodiadau amrywiol ar blwyf Llansannan.

S. Minwel Tibbott gyda’i pheiriant recordio yn Field Terrace, Pentyrch, 1970.

S. Minwel Tibbott gyda’i pheiriant recordio yn Field Terrace, Pentyrch, 1970.

Pan agorodd Amgueddfa Werin Cymru ei drysau i’r cyhoedd am y tro cyntaf ar Orffennaf 1af 1948, dyma oedd amgueddfa awyr agored genedlaethol gyntaf y Deyrnas Unedig. Pennaeth yr Amgueddfa ar y pryd oedd Dr Iorwerth C. Peate. O’r cychwyn cyntaf, o dan ei arweinyddiaeth arloesol, bu Amgueddfa Werin Cymru ar flaen y gâd yn cofnodi, yn casglu, ac yn astudio bywydau dyddiol pobl Cymru:

“[Bydd Sain Ffagan] yn ddarlun byw o’r gorffennol, yn ddrych o elfennau ein Cymreictod presennol, ac yn ysbrydoliaeth i ddyfodol ein gwlad.”

(Iorwerth C. Peate, 1948).

 

Dechrau Casglu

Yn y 1940au, â’r wlad yn profi cyfnod o newidiadau cymdeithasol a datblygiadau nas gwelwyd eu math o’r blaen, dechreuodd yr Amgueddfa ar brosiect casglu gwybodaeth er mwyn creu darlun byw o fywydau trigolion Cymru. O’r cyfnod hwn hyd at yr 1980au, dosbarthwyd holiaduron i unigolion mewn cymunedau dros y wlad yn y gobaith o ddefnyddio’r wybodaeth leol oedd ganddynt i lywio gwaith casglu’r Amgueddfa yn y dyfodol. Mae Archif Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru bellach yn gartref i’r holiaduron hyn, a’r atgofion rhwng eu cloriau yn ffenestr amhrisiadwy i’r gorffennol.

Sefydlu Archif Sain

Ers y dechrau cyntaf, bu recordio siaradwyr ar bob agwedd o fywyd gwerin yn rhan bwysig o waith yr Amgueddfa. Dechreuwyd casglu yn y maes yn niwedd y 1950au, gan roi'r pwyslais ar yr ardaloedd hynny lle'r oedd yr iaith a'r bywyd traddodiadol fwyaf mewn perygl. Sefydlwyd yr Adran Traddodiadau Llafar a Thafodieithoedd dan arweiniad yr ysgolhaig a’r tafodieithegydd Vincent H. Phillips, ac yn 1958 cafwyd apêl radio gan G. J. Williams, Athro Cymraeg Coleg y Brifysgol, Caerdydd, yn gofyn am roddion i ariannu’r gwaith hollbwysig hwn. Yn dilyn yr apêl, llwyddwyd i brynu peiriant recordio newydd sbon (yr EMI TR51) ac ymhen tipyn Land Rover ar gyfer y gwaith maes, a hyd yn oed carafan fel lloches i’r ymchwilwyr dros nos. Aeth saer yr Amgueddfa ati i wneud blychau yng nghefn y Land Rover i ddal y peiriant recordio, a rhaid hefyd oedd i’r cerbyd gario dau fatri asid, teclyn a elwid yn “vibroverter”(trawsnewidydd AC/DC) a thua 300 i 400 llath o gebl rhag ofn na fyddai trydan ar gael yn rhwydd wedi cyrraedd cartrefi’r siaradwyr. Roedd casglu tystiolaeth lafar ar y pryd yn waith hanfodol i gofnodi ffordd o fyw a oedd yn prysur ddiflannu ac wrth i amser fynd yn ei flaen, penodwyd tîm o staff, pob un â’i frwdfrydedd a’i arbenigedd dihafal ei hun, i deithio ledled Cymru yn holi ac yn recordio pobl yn trafod pob agwedd ar eu bywydau.

Pynciau

Ymysg y pynciau a drafodwyd yn y dyddiau cynnar ceid sôn am amaethyddiaeth, crefftau a geirfâu crefft, gwaith tŷ, bwydydd traddodiadol, meddyginiaethau gwerin, chwaraeon, storïau gwerin, canu gwerin, arferion tymhorol, arferion marw a chladdu a charu a phriodi, diwydiannau, tafodieithoedd y Gymraeg a diddordebau hamdden.

Siaradwyr

Recordiwyd dros bum mil a hanner o siaradwyr dros y blynyddoedd o Gaergybi i Gasnewydd, ac o Dyddewi i Dreffynnon, gan ddiogelu gwybodaeth heb ei hail ar gyfer y dyfodol. I’r ystadegwyr yn eich plith ceir 798 siaradwr â’r cyfenw Jones yn yr archif, 415 Williams, 375 Davies, 297 Evans, 246 Thomas a 224 Roberts. Yr enw cyntaf mwyaf poblogaidd ymysg y dynion yw John (272 siaradwr) ac ymysg y merched ceir 144 Mary a 138 Margaret.

Ffilm a Ffotograffau

Yn ogytal â recordiadau sain, recordiwyd cyfres o ffilmiau 16mm gan aelodau o staff curadurol yr Amgueddfa. Ffilmiau mud lliw yw’r rhan fwyaf ohonynt yn dangos hen ddulliau o amaethu, o baratoi a choginio bwydydd, ac o weithio crefftau traddodiadol.

Mae'r Archif Ffotograffiaeth yn cynnwys tua 250,000 o negyddion a phrintiau, a thua 15,000 o dafluniau. Ceir hefyd gyfoeth o luniau llawer hŷn a gaffaeliwyd yn rhoddion, neu a gopïwyd o luniau gwreiddiol a fenthyciwyd i'r Amgueddfa i'r perwyl hwn.

Apêl o’r Newydd: Casglu COVID-19

Gyda newidiadau mawr eto yn effeithio ar ein bywydau pob dydd, mae Amgueddfa Cymru yn lawnsio apêl gyhoeddus o’r newydd er mwyn casglu gwybodaeth ac atgofion trigolion Cymru am eu profiadau yn ystod cyfnod pandemig COVID-19. Gyda holiaduron papur, efallai erbyn hyn, yn perthyn i’r gorffennol a’r Land Rover a’r carafan wedi teithio eu taith olaf, rydym wedi lawnsio holiadur digidol torfol sy’n rhoi’r cyfle i unigolion, i gymunedau ac i sefydliadau ar draws Cymru i gofnodi eu profiadau am fyw o dan y cyfyngiadau presennol. Ein nod yw creu cofnod hollbwysig o’r cyfnod trawsnewidiol hwn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Casglu Covid