Ail-adeiladu gwesty’r Vulcan Dafydd Wiliam, 15 Mehefin 2023 Cefnogwch project Gwesty'r Vulcan Cyfrannu Nawr Ffasâd y Vulcan a elwir yn 'At present' yn 1914. Ffasâd y Vulcan a elwir yn 'Proposed' yn 1914. Cofrestrwyd tafarn y Vulcan fel ‘ale house’ am y tro cyntaf ym 1853. Erbyn iddi gael ei datgymalu gan yr Amgueddfa yn 2012 gwelwyd sawl cyfnod o addasiadau. Roedd gwaith addasu 1901 ac 1914 mor sylweddol fel bod rhaid ceisio am ganiatâd cynllunio drwy Gyngor y Sir. Heddiw, mae’r cynlluniau yn Archifdy Morgannwg.Mae’r cais cynllunio o 1914 yn cynnwys dau ddarlun (does dim darlun o’r ffasâd ar y cais o 1901) – labelwyd un darlun yn At present, a labelwyd y llall yn Proposed. Does dim esboniad ysgrifenedig wedi goroesi i gyd-fynd â’r darluniau. Serch hynny, wrth edrych yn fanwl mae modd bwrw mwy o olau ar y newidiadau arfaethedig. Y gwahaniaeth mwyaf amlwg yw’r cynnydd ar y llawr cyntaf o ddwy ffenest i bedair, a chodi pileri newydd o frics coch naill ochr. Gwaredwyd y parapet oedd o flaen y to – sydd i’w weld fel cyfres o linellau llorweddol uwchben y ffenestri, ac fe addaswyd y simneiau a gosodwyd to newydd o lechi. Bu un newid arall, sydd ddim yn amlwg yn y darlun, a hwn oedd y newid mwyaf yn hanes y Vulcan – cynyddwyd uchder yr adeilad yn sylweddol. Mae’r darlun gwreiddiol yn dangos y dafarn yn rhannu to gyda’i gymdogion, lle mae’r darlun arfaethedig yn dangos adeilad cryn dipyn yn dalach na’r cymdogion.Doedd dim bwriad i newid strwythur y ffasâd llawr gwaelod – dau ddrws, a dwy ffenest wedi eu rhannu yn ddwy a ffenestri linter (fanlights) uwch eu pen. Ond, wrth edrych yn fanwl mae modd gweld bod nifer o wahaniaethau allweddol, a digon i awgrymu fod y ddau ffasâd yn rhai gwahanol. Yn y darlun gwreiddiol mae dau banel hirsgwar o dan bob ffenest, ond yn y darlun arfaethedig dim ond un sydd. Mae’r nifer o baneli drws yn wahanol hefyd. Yn y darlun gwreiddiol, naill ochr i’r ffenestri mae’r pileri yn rhai rhychiog ac yn gorffen cyn cyrraedd y ffris. Dyw’r pileri ddim yn rhychiog yn y darlun arfaethedig ac maent yn cario ymlaen mewn i’r ffris nes cyrraedd y cornis uwch ei ben. Mae’r darlun arfaethedig hefyd yn dangos tri ffenest linter uwch ben pob gwydr ffenest, lle mae saith yn y darlun gwreiddiol. Dyw’r terfyniad addurniadol ddim i’w weld yn y darlun arfaethedig chwaith. Dim ond yn y darlun arfaethedig mae’r gwahaniaeth mwyaf oll i’w weld, sef yr arysgrif newydd THE VULCAN HOTEL, WINES & SPIRITS ac ALES & STOUTS. Er nad yw’n glir yn y cynlluniau, rydym yn sicr fod y darlun gwreiddiol yn dangos ffasâd llawr gwaelod o bren – tebyg iawn i flaen siop Fictoraidd draddodiadol, a newidiwyd hwn yn 1914 am un tebyg o deils gwydrog a arhosodd yn eu lle nes tynnu’r adeilad yn 2012. Y teilsErbyn i'r Amgueddfa ddatgymalu'r Vulcan yn 2012, roedd teils lliwgar brown a gwyrdd y ffasâd wedi bod y neu lle am 97 mlynedd, ac o ganlyniad roedd nifer fawr mor wael eu cyflwyr fel na ellid eu ailddefnyddio. Ar ben hyn, gwnaeth nifer fawr wrthod wahanu oddi wrth y sment a ddefnyddiwyd i'w gludo yn eu lle. Gwnaeth y teils a gariodd enw Y Vulcan oroesi yn well oherwydd eu bod yn uwch i fyny'r adeilad, a byddent yn cael eu cadw i'w harddangos yn y dyfodol. Cynhyrchwyd y teils gan Craven Dunnill, o Ironbridge, Swydd Amwythig – yn ffodus, roedd eu henw ar gefn y teils. Gan fod y cwmni'n dal i fynd, fe benderfynon ni gomisiynu set newydd sbon o deils ar gyfer y Vulcan – a chafodd y rhain eu creu o'r un mowldiau pren a ddefnyddiwyd yn wreiddiol nol yn 1915.Y FfenestriCafodd ffenestri plwm Y Vulcan eu gosod yn eu lle ar yr un pryd â'r teils – fel rhan o'r gwaith adnewyddu mawr a gwblhawyd yn 1915. Wrth edrych yn agos, maen nhw i'w gweld mewn llun o’r Vulcan a dynnwyd yn 1919. Mae erthygl a gyhoeddwyd yn y Western Mail ar 16 Rhagfyr 1914 yn nodi:‘Broke Public House WindowPaul Begley (46), a cripple, was fined 10s and costs at Cardiff on Tuesday…for disorderly conduct in Adam Street and for wilfully breaking two panes of plate glass in the bar window of The Vulcan Inn. Although the damage amounted to £3, the landlord…made no claim.’Cyn adnewyddu’r Vulcan, roedd y ffasâd llawr gwaelod yn cynnwys dwy ffenestr fawr o ddau rhan. Os tybiwn fod yr erthygl hon yn ymwneud ag un o'r ddwy ffenest fawr, yna efallai na wnaeth y Landlord wneud hawliad gan ei fod yn gwybod bod y ffenestri yn mynd I gael eu adnwyddu o fewn yr wythnosau neu'r misoedd nesaf. Efallai bod y newid o wydr plât i wydr plwm (o ddarnau bach o wydr) wedi bod yn ymgais i leihau effaith difrod o'r fath yn y dyfodol. Mae yw weld bod fframiau'r ffenestri wedi goroesi mewn cyflwr gwell gan fod un wedi cael ei ail-ddefnyddio fel ffenestr y bar cefn – yr hen agoriad yn cael ei ehangu i ffitio. Pan brynodd Bragdy Brains y dafarn yn y 1950au, fe osodon eu logo Draig Goch mewn rowndel yng nghanol pob un o'r ffenestri. Erbyn 2012, dim ond un o'r rhain oedd ar ôl. Gan y bydd y Vulcan yn cael ei ddehongli fel yr edrychodd yn 1915, dydyn’t methu cynnwys logo Brains gan nad oeddent yn berchen ar y dafarn bryd hynny. Ar y pryd, roedd yn eiddo i William Walter Nell ac fe'i gyflenwyd gan ei fragdy Eagle Brewery, yn Sgwâr Sant Ioan, Yr Aes, yng nghanol dinas Caerdydd. Wrth i'w fonogram W.W.N. oroesi ar adeilad ym Merthyr Tudful, llwyddon yw efelychu i gymryd lle'r Ddraig Goch. Gwnaed y gwaith o adnewyddu’r ffenestri plwm gan arbenigwyr o Goleg Celf Abertawe, yn y Ganolfan Gwydr Pensaernïol. Gwnaethant ddod o hyd i'r gwydr cywir i gymryd lle unrhyw wydr toriedig, fe wnaethant lanhau pob darn unigol o wydr cyn eu rhoi yn ôl yn eu lleoliad gwreiddiol, ac ail-blymio y ffenestri yn barod ar gyfer y 97 mlynedd nesaf.Cefnogwch project Gwesty'r VulcanCyfrannu Nawr
Casglu Cof y Genedl Meinwen Ruddock-Jones, 14 Mai 2020 Land Rover a charafan yr Archif Sain, 1961. Roy Saer, gyda Land Rover a charafan yr Amgueddfa ar daith gwaith maes yn Llanbedrog, sir Gaernarfon, Gorffennaf 1964. Llyfr Ateb Amgueddfa Werin Cymru (1962) oddi wrth Evan Evans (Gwytherin, Abergele) yn cynnwys nodiadau amrywiol ar blwyf Llansannan. S. Minwel Tibbott gyda’i pheiriant recordio yn Field Terrace, Pentyrch, 1970. Pan agorodd Amgueddfa Werin Cymru ei drysau i’r cyhoedd am y tro cyntaf ar Orffennaf 1af 1948, dyma oedd amgueddfa awyr agored genedlaethol gyntaf y Deyrnas Unedig. Pennaeth yr Amgueddfa ar y pryd oedd Dr Iorwerth C. Peate. O’r cychwyn cyntaf, o dan ei arweinyddiaeth arloesol, bu Amgueddfa Werin Cymru ar flaen y gâd yn cofnodi, yn casglu, ac yn astudio bywydau dyddiol pobl Cymru: “[Bydd Sain Ffagan] yn ddarlun byw o’r gorffennol, yn ddrych o elfennau ein Cymreictod presennol, ac yn ysbrydoliaeth i ddyfodol ein gwlad.” (Iorwerth C. Peate, 1948). Dechrau Casglu Yn y 1940au, â’r wlad yn profi cyfnod o newidiadau cymdeithasol a datblygiadau nas gwelwyd eu math o’r blaen, dechreuodd yr Amgueddfa ar brosiect casglu gwybodaeth er mwyn creu darlun byw o fywydau trigolion Cymru. O’r cyfnod hwn hyd at yr 1980au, dosbarthwyd holiaduron i unigolion mewn cymunedau dros y wlad yn y gobaith o ddefnyddio’r wybodaeth leol oedd ganddynt i lywio gwaith casglu’r Amgueddfa yn y dyfodol. Mae Archif Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru bellach yn gartref i’r holiaduron hyn, a’r atgofion rhwng eu cloriau yn ffenestr amhrisiadwy i’r gorffennol. Sefydlu Archif Sain Ers y dechrau cyntaf, bu recordio siaradwyr ar bob agwedd o fywyd gwerin yn rhan bwysig o waith yr Amgueddfa. Dechreuwyd casglu yn y maes yn niwedd y 1950au, gan roi'r pwyslais ar yr ardaloedd hynny lle'r oedd yr iaith a'r bywyd traddodiadol fwyaf mewn perygl. Sefydlwyd yr Adran Traddodiadau Llafar a Thafodieithoedd dan arweiniad yr ysgolhaig a’r tafodieithegydd Vincent H. Phillips, ac yn 1958 cafwyd apêl radio gan G. J. Williams, Athro Cymraeg Coleg y Brifysgol, Caerdydd, yn gofyn am roddion i ariannu’r gwaith hollbwysig hwn. Yn dilyn yr apêl, llwyddwyd i brynu peiriant recordio newydd sbon (yr EMI TR51) ac ymhen tipyn Land Rover ar gyfer y gwaith maes, a hyd yn oed carafan fel lloches i’r ymchwilwyr dros nos. Aeth saer yr Amgueddfa ati i wneud blychau yng nghefn y Land Rover i ddal y peiriant recordio, a rhaid hefyd oedd i’r cerbyd gario dau fatri asid, teclyn a elwid yn “vibroverter”(trawsnewidydd AC/DC) a thua 300 i 400 llath o gebl rhag ofn na fyddai trydan ar gael yn rhwydd wedi cyrraedd cartrefi’r siaradwyr. Roedd casglu tystiolaeth lafar ar y pryd yn waith hanfodol i gofnodi ffordd o fyw a oedd yn prysur ddiflannu ac wrth i amser fynd yn ei flaen, penodwyd tîm o staff, pob un â’i frwdfrydedd a’i arbenigedd dihafal ei hun, i deithio ledled Cymru yn holi ac yn recordio pobl yn trafod pob agwedd ar eu bywydau. Pynciau Ymysg y pynciau a drafodwyd yn y dyddiau cynnar ceid sôn am amaethyddiaeth, crefftau a geirfâu crefft, gwaith tŷ, bwydydd traddodiadol, meddyginiaethau gwerin, chwaraeon, storïau gwerin, canu gwerin, arferion tymhorol, arferion marw a chladdu a charu a phriodi, diwydiannau, tafodieithoedd y Gymraeg a diddordebau hamdden. Siaradwyr Recordiwyd dros bum mil a hanner o siaradwyr dros y blynyddoedd o Gaergybi i Gasnewydd, ac o Dyddewi i Dreffynnon, gan ddiogelu gwybodaeth heb ei hail ar gyfer y dyfodol. I’r ystadegwyr yn eich plith ceir 798 siaradwr â’r cyfenw Jones yn yr archif, 415 Williams, 375 Davies, 297 Evans, 246 Thomas a 224 Roberts. Yr enw cyntaf mwyaf poblogaidd ymysg y dynion yw John (272 siaradwr) ac ymysg y merched ceir 144 Mary a 138 Margaret. Ffilm a Ffotograffau Yn ogytal â recordiadau sain, recordiwyd cyfres o ffilmiau 16mm gan aelodau o staff curadurol yr Amgueddfa. Ffilmiau mud lliw yw’r rhan fwyaf ohonynt yn dangos hen ddulliau o amaethu, o baratoi a choginio bwydydd, ac o weithio crefftau traddodiadol. Mae'r Archif Ffotograffiaeth yn cynnwys tua 250,000 o negyddion a phrintiau, a thua 15,000 o dafluniau. Ceir hefyd gyfoeth o luniau llawer hŷn a gaffaeliwyd yn rhoddion, neu a gopïwyd o luniau gwreiddiol a fenthyciwyd i'r Amgueddfa i'r perwyl hwn. Apêl o’r Newydd: Casglu COVID-19 Gyda newidiadau mawr eto yn effeithio ar ein bywydau pob dydd, mae Amgueddfa Cymru yn lawnsio apêl gyhoeddus o’r newydd er mwyn casglu gwybodaeth ac atgofion trigolion Cymru am eu profiadau yn ystod cyfnod pandemig COVID-19. Gyda holiaduron papur, efallai erbyn hyn, yn perthyn i’r gorffennol a’r Land Rover a’r carafan wedi teithio eu taith olaf, rydym wedi lawnsio holiadur digidol torfol sy’n rhoi’r cyfle i unigolion, i gymunedau ac i sefydliadau ar draws Cymru i gofnodi eu profiadau am fyw o dan y cyfyngiadau presennol. Ein nod yw creu cofnod hollbwysig o’r cyfnod trawsnewidiol hwn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Casglu Covid
Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys – stori Elizabeth Radcliffe Elen Phillips, 11 Mai 2020 Ffedog y Groes Goch – gwisgwyd gan Elizabeth Radcliffe fel nyrs gwirfoddol yn Ysbyty Sain Ffagan, tua 1916-19. Heddiw (12 Mai 2020) yw Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys – diwrnod sy’n cael ei nodi’n flynyddol, ond sydd ag arwyddocâd arbennig eleni wrth i ni ddiolch i ofalwyr a nyrsys ledled Cymru am eu gofal a’u gwasanaeth yn ystod y cyfnod dihafal hwn. Ychydig dros ganrif yn ôl, yn debyg i heddiw, roedd aberth ac ymdrechion nyrsys a gofalwyr ar flaen meddwl y boblogaeth, ond o dan amgylchiadau gwahanol iawn wrth gwrs. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, sefydlwyd bron i 18,000 o elusennau newydd ym Mhrydain ac fe welwyd ymgyrchu gwirfoddol ar raddfa heb ei debyg o'r blaen. Ynghyd ag Urdd Sant Ioan, roedd y Groes Goch Brydeinig yn ganolog i'r ymgyrch hon. Yn 1909, daeth y ddwy elusen ynghyd i sefydlu cynllun y Voluntary Aid Detachment (VAD), gyda'r bwriad o roi hyfforddiant meddygol i wirfoddolwyr a'u paratoi i wasanaethu gartref a thramor mewn cyfnodau o ryfel. Yn ôl ystadegau'r Groes Goch, erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf roedd 90,000 o bobl wedi cymryd rhan yn y cynllun - yn eu plith Elizabeth Radcliffe o bentref Sain Ffagan. Yn ferch i ofalwr capel y pentref, roedd Elizabeth a’i theulu yn denantiaid i’r Arglwydd Plymouth o Gastell Sain Ffagan. Ganwyd chwech o blant i William a Catherine Radcliffe – pedwar mab (William, Thomas, Robert a Taliesin) a dwy ferch (Elizabeth a Mary). Cyn y Rhyfel, bu Elizabeth yn gofalu am blant James Howell – un o berchnogion y siop enwog yng Nghaerdydd. Ond erbyn 1916, roedd hi nôl yn Sain Ffagan ac yn gwirfoddoli fel nyrs VAD yn yr ysbyty ategol a agorwyd ar dir y Castell ym Mawrth y flwyddyn honno. Ar y pryd, roedd hi’n 28 mlwydd oed. Roedd y rhan fwyaf o nyrsys Ysbyty Sain Ffagan yn wirfoddolwyr lleol – menywod o’r pentref, yn anad dim, a oedd wedi derbyn hyfforddiant sylfaenol gan y Groes Goch. Dim ond 70 o wlâu a dwy ward oedd yn yr ysbyty, felly milwyr ag anafiadau ysgafn oedd yn cael eu trin yno. Roedd gofyn i’r gwirfoddolwyr wisgo iwnifform swyddogol y mudiad, sef ffrog las a ffedog wen gyda chroes goch wedi ei phwytho ar y frest. Mae llyfrau cyfrifon Ystâd Plymouth yn cynnwys sawl cyfaniad ariannol at gostau prynu gwisgoedd i staff yr ysbyty. Mae’n debyg fod siop J. Howell & Co. ymhlith y cyflenwyr. Yn ffodus iawn, mae gwisg Elizabeth Radcliffe o’r cyfnod hwn wedi goroesi, ynghyd â llun ohoni yn ei lifrai. Rhoddwyd ei ffedog a'i llewys i gasgliad yr Amgueddfa yn 1978, ac yn ddiweddar cawsom ragor o wybodaeth amdani a’i brodyr gan aelodau’r teulu. O’r pedwar brawd aeth i’r ffrynt, dim ond un ohonynt – Taliesin – ddaeth adref i Sain Ffagan yn fyw. Mae enwau William, Thomas a Robert Radcliffe i’w canfod ar gofeb rhyfel y pentref, ynghyd ag Archer Windsor-Clive - mab ieuengaf yr Arglwydd Plymouth - a laddwyd ym Mrwydr Mons. Mae’n amhosibl i ni amgyffred â mawredd y golled i Elizabeth a’i rhieni – un teulu ymysg y miliynau a rwygwyd gan erchyllterau’r Rhyfel Mawr. Os hoffech ddarganfod mwy am waith y Groes Goch yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, mae adnoddau gwych ar wefan y mudiad. Mae llu o wrthrychau a delweddau perthnasol yn y casgliad yma yn Sain Ffagan hefyd. Ewch draw i'r catalog digidol i ddarganfod mwy.
Meddyginiaethau Traddodiadol Lowri Jenkins, 28 Ebrill 2020 Mae’n anodd dychmygu amser, yn enwedig ar hyn o bryd, pan nad oedd modd troi at y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol pan yn dioddef o anhwylder. Cyn sefydlu'r GIG ym 1948, roedd cael gafael ar ofal meddygol yn dasg llawer mwy cymhleth ac ansicr. Rhaid oedd talu am ofal doctor preifat, gyda’r mwyafrif yn ceisio osgoi ymweliad ag ysbytai’r cyfnod. Roedd insiwrans iechyd ar gael, ond nid oedd honno yn system gynhwysfawr o bell ffordd. O dan yr amodau anodd hyn, byddai trigolion Cymru yn troi at natur; at blanhigion a blodau a defnyddiau eraill i greu moddion, elïau, powltisiau a meddyginiaethau o bob math. Roedd rhain yn gynhwysion a fyddai ar gael yn hawdd ac fe’u defnyddid i drin amrywiaeth eang o anhwylderau ac anafiadau a fyddai’n poenydio pobl ac anifeiliaid. Yn ystod yr 1970au a’r 1980au, aeth Amgueddfa Werin Cymru ati i gasglu tystiolaeth lafar gan gannoedd o siaradwyr er mwyn creu casgliad o wybodaeth ac atgofion am feddyginiaethau traddodiadol trigolion Cymru. Yr arbenigwraig yn y maes hwn ar staff yr Amgueddfa ar y pryd oedd ymchwilwraig ifanc a dawnus o’r enw Anne Elizabeth Williams. I ddathlu Wythnos Genedlaethol Garddio dyma gip ar atgofion siaradwyr yr Archif Sain am rai o’r planhigion, y blodau, y coed a’r llysiau a fyddai’n cael eu defnyddio. Blodau a Phlanhigion Dant y Llew o gasgliad Amgueddfa Cymru Roedd Edward Davies, Croes-goch, yn cofio defnyddio Dant y Llew (neu “ddant y ci” neu “ddail clais”) i gael gwared o ddafaden trwy rhwbio’r hylif gwyn o’r coesyn arno. Roedd eraill yn gwneud diod o flodau dant y llew ar gyfer gwella gwynegon. Yn Nhrawsfynydd a Llanuwchllyn, byddai rhai yn yfed trwyth o ddail dant y llew i buro’r gwaed. Yng Nghwm Main byddai trwyth dail dant y llew yn foddion ar gyfer trywinod. Blodyn parhaol o deulu’r Aster yw’r Tansi (Tanacetum Vulgare) yn frodorol o Ewrop ac Asia. Ceir sôn amdano yng nghyfrol Complete Herbal Nicholas Culpeper. Byddai’r planhigyn hwn yn cael ei ddefnyddio yn sir Feirionnydd i drin llyngyr rhuban (tapeworm) tra yn Sir Benfro, byddai rhai yn ei ferwi mewn llaeth i drin rhyddni. Yn Llangybi, cofiai Mai Jones y defnyddiwyd y tansi weithiau i drin anhwylderau merched hefyd. Ffa Corsydd (Bogbean). Yn Nhrawsfynydd, Llangybi a Llandysul byddai ffa corsydd yn cael ei ddefnyddio i drin problemau gyda’r dŵr ac yng Nghwm Main, byddai’n cael ei ddefnyddio i drin gwynegon a chrydcymalau. Yn Nhrawsfynydd, roedd Laura Morris yn cofio’r arfer o wneud trwyth o lin y mynydd a ffa corsydd i drin dolur cefn ac yn Llanuwchllyn, cofiai Catherine Jones rai yn cymryd trwyth ffa corsydd i buro’r gwaed. Byddai Llysiau’r Dryw (Agrimony) hefyd yn cael eu defnyddio i drin problemau gyda’r dŵr yng Nghwm Main yn ogystal â Gelaets (Yellow Flag) a Chwerwlys yr Eithin (Wood Sage) mewn ardaloedd eraill. Roedd Ceinwen Richards yn cofio y byddai llysiau’r dryw hefyd yn cael eu defnyddio i wneud te i wella llosg cylla yng Nghroes-goch. Arferid defnyddio sudd Llysiau Pen Tai (house-leek) i drin dafaden a chyrn ar y traed. Roedd y ddeilen gron a dail eiddew hefyd yn dda at gyrn. Yn ardal Llansannan, credai rhai hefyd bod llysiau pen tai yn fodd i gael gwared ar y ddrywinen (ringworm) a chofiai David Jones, Bronnant, eu berwi a'u “stwmpio” i wneud eli i iro'r llygaid. Roedd llawer yn credu bod Ysgol Fair (Common Centaury) ac Ysgallen Fraith (Milk Thistle) yn dda at drin heintiau ar yr arennau neu’r bledren. Yn ardal Niwbwrch, roedd Margaret Roberts yn cofio defnyddio Ysgol Fair at stumog anhwylus ac yn Nhregroes, cofiai Elizabeth Lloyd ddefnyddio ysgol fair i wneud diod at ddolur cefn. Coed Cafwyd sôn gan Feddygon Myddfai am bwerau iachaol nifer o goed yn Llyfr Coch Hergest a ysgrifennwyd tua diwedd y 14g (Llyfr Coch Hergest, yn y Bodleian Libraries, MS 111). Mae casgliad eang o dystiolaeth lafar wedi ei gasglu am y defnydd o goed mewn meddyginiaethau traddodiadol yn Ngymru. Roedd gwraig o Landecwyn, sir Feirionnydd yn cofio creu diod o risgl y Griafolen (Mountain Ash) i drin problemau gyda’r nerfau. Credai gŵr o Faenclochog y byddai arllwys dŵr ar risgl Y Ddraenen Ddu (Hawthorn) ac yna yfed y dŵr hwnnw yn lliniaru poenau yn y stumog. Roedd llawer o’r farn bod gan yr Ysgawen (Elder) lawer rhinwedd llesol. Byddid yn sychu’r dail i greu trwyth ar gyfer amryw o anhwylderau a defnyddid yr aeron i wneud gwin – y trwyth a’r gwin yn feddyginiaeth boblogaidd at annwyd. Gellid gwneud eli hefyd trwy gymysgu’r dail neu’r canghennau gyda braster mochyn neu hen fenyn (“menyn gwyrdd”). Ffrwythau a Choed Ffrwythau Roedd diod wedi ei wneud o ddail mwyar duon yn boblogaidd iawn i drin rhyddni a stumog wael a defnyddiwyd y blodau mewn diod i drin clwy’r marchogion (haemorrhoids). Roedd Catherine Jones o Lanuwchlyn y cofio rhoi ychydig o jam mwyar duon mewn dŵr poeth i wella annwyd a Kate Davies, Maesymeillion yn cofio creu moddion o finegr gwin gwyn, mwyar duon a siwgr at annwyd hefyd. Defnyddiwyd riwbob i gael gwared o rwymedd gyda dail y riwbob yn cael eu defnyddio i drin gwynegon y cymalau. Roedd Henry Owen o Langynnog yn cofio y byddai rhai yn rhoi ychydig o riwbob a sunsur i’r gwartheg unwaith y dydd i’w hamddiffyn rhag yr oerfel. Llysiau Byddai garlleg yn cael ei ddefnyddo mewn amryw feddyginiaeth. Yn Llanfallteg ger Caerfyrddin, byddai llawer yn rhoi darn o arlleg mewn hosan a gwisgo’r hosan honno dros nos. Credid y byddai arogl y garlleg yn amddiffyn rhag annwyd a rhag peswch. Roedd dwy wraig o Landysul yn cofio cael eu gorfodi i wisgo garlleg o gwmpas eu gyddfau pan yn blant gan y byddai hyn, yn ôl pob sôn, yn eu gwarchod rhag llyngyr. Byddai rhai hefyd yn defnyddio garlleg i drin brathiad neidr. Roedd gan datws eu defnydd iachaol hefyd – byddai rhai yn rhoi sleisen o daten ar y cymalau i liniaru poen ac eraill yn gwneud powltis i’r gwddf i drin cwinsi. Roedd Margaret Williams, Tregaron, yn cofio rhai yn rhoi taten y tu fewn i’w hosan i leddfu crydcymalau. Roedd Olive Evans o’r Rhos, ger Hwlffordd yn cofio defnyddio Winwnsyn (neu nionyn) ar gyfer pigyn clust. Byddid yn rhoi’r winwnsyn yn y ffwrn i’w gynhesu yna tynnu’r galon (canol) allan a’i roi yn y glust. Roedd hi hefyd yn arfer rhoi winwnsyn poeth mewn cadach a gosod y cadach wedyn ar y glust. Byddai rhai yn rhwbio hanner winwnsyn ar losg eira er mwyn lliniaru’r boen ac eraill yn bwyta winwnsyn wedi ei falu’n fân mewn griwel i wella rhwymedd. Mae hyd yn oed sôn yn yr Archif o rwbio’r pen gyda winwnsyn i atal moelni. Rhywbeth Braidd yn Wahanol.. Ond beth yw’r feddyginiaeth fwyaf anghyffredin yn yr Archif? Mae llawer un braidd yn ddiddorol ac anarferol â dweud y lleiaf. Gan adael byd y planhigion am funud, mae un arfer o ardal Abertawe yn haeddu peth sylw yma. Mae’n debyg yr arferid defnyddio llysnafedd malwoden i drin llefrithen (stye) ar y llygad. Casgliad Materia Medica, Amgueddfa Cymru
Y Dychweliad / The Return 8 Ebrill 2020 Ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, sefydlwyd pwyllgorau cymunedol ledled Cymru i godi arian i groesawu dynion lleol yn ôl o faes y gad. Daeth neuaddau pentref a sefydliadu gweithwyr yn ganolbwynt i ddathliadau’r cadoediad a heddwch. Cynhaliwyd dawns fuddugoliaeth i ddathlu diwedd y rhyfel yn Stiwt Oakdale ym 1919. I nodi canmlwyddiant y ddawns, ac yn benllanw i raglen o ddigwyddiadau Amgueddfa Cymru i goffau canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, bu’r Amgueddfa weithio mewn partneriaeth gyda Re-Live, elusen uchel ei pharch sy’n creu rhaglen ddeinamig o theatr stori byw gyda chyn-filwyr, i ailddychmygu’r ddawns. Roedd Y Dychweliad – The Return yn berfformiad bythgofiadwy gan gyn-filwyr, eu teuluoedd, aelodau o’r gymuned ac actorion proffesiynol. Roedd y cynhyrchiad yn cydblethu golygfeydd dychmygol o’r Rhyfel Byd Cyntaf a’r ddawns fuddugoliaeth gyda phrofiadau personol ac emosiynol cyn-filwyr cyfoes o ddychwelyd i’w cymuned ar ôl bod mewn rhyfel. "Fe arbedodd y project hwn fi drwy roi rhywbeth i fi edrych ymlaen ato. Mae wedi rhoi pwrpas i fi eto. Mae'n helpu i reoli fy ngorbryder hefyd. Dyma'r un lle dwi'n gwybod alla i ddod iddo heb gael fy marnu." Cyn-filwr ac aelod o'r cast, 2019 "Profiad gorau'r project oedd yr holl gysylltiadau wnaethon ni – yr emosiwn a'r siwrnai therapiwtig, yn bersonol ac yn yr ystyr ehangach hefyd. Y ffaith i ni gyd rannu ein straeon fel cyn-filwyr, ond hefyd fel aelodau o'r gymuned a'r cyswllt rhwng y ddau. Does dim byd arall yn union fel hyn." Cyn-filwr ac aelod o'r cast, 2019 Ariannwyd y prosiect gan Gronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog.