Gwanwyn yn Sain Ffagan
, 18 Mawrth 2026
Mae’r gwanwyn yn gyfnod arbennig yn Sain Ffagan. Mae’r cennin pedr a’r crocysau yn blodeuo ac mae’r fferm yn gwch gwenyn o weithgarwch.
O fis Chwefror i Ebrill, mae Llwyn-yr-eos yn llawn sŵn brefu wrth i’r defaid gysgodi yn y siediau wyna. Eleni, rydym yn disgwyl dros 350 o ŵyn. Mae 200 o ŵyn wedi’u geni hyd yn hyn ac mae mwy i ddod.
Rydyn ni’n cadw tri brid prin o ddefaid yn Sain Ffagan:
- Llanwenog
- Defaid Mynydd Maesyfed
- Defaid Mynydd Duon Cymreig
Mae cadw bridiau prin yn bwysig oherwydd eu bod yn rhan o dreftadaeth ffermio Cymru. Gallwch dysgu mwy am y bridiau prin yn y blog hwn.
Unwaith mae ŵyn yn cael eu geni, maen nhw’n cael eu marcio gyda’r un rhif a’u mam fel bod modd i’r ffermwyr wybod pa ŵyn sydd yn perthyn i bwy!
Mae’r ŵyn a’r mamau yn cael eu symud allan o’r sied wyna i ardal dawel cyn iddyn nhw fynd allan i’r caeau. Ydych chi’n gallu dod o hyd i’r mamau a’r ŵyn wrth gerdded o amgylch yr amgueddfa?
I ddiogelu lles ein defaid, ni chaniateir cŵn ar y fferm yn ystod y tymor wyna.
Methu ymweld â Sain Ffagan? Does dim ffrwd byw eleni ond gallwch fwynhau uchafbwyntiau’r sied dros y blynyddoedd ar ein gwefan.
